Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd A.G. Morgan.
Dywedodd y Cadeirydd fod Syr David Lewis yn bresennol am y tro olaf fel yr Aelod Allanol â Phleidlais, a diolchodd iddo am ei gyfraniad at waith y Pwyllgor gan ddymuno'n dda iddo i'r dyfodol. Diolchodd Syr David i'r Cadeirydd am ei sylwadau. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y trefniadau i benodi Aelod Allanol â Phleidlais newydd ar waith eisoes. Awgrymwyd y gallai fod yn briodol, petai angen, sefydlu panel rhestr fer a fyddai'n cynnwys tri aelod ac a fyddai'n gytbwys yn wleidyddol. Byddai hynny'n dibynnu ar nifer y ceisiadau a ddeuai i law.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r awgrym uchod, a bod y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd ac un o aelodau Plaid Cymru ar y Pwyllgor yn gwasanaethu ar y panel rhestr fer.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
Y DIWEDDARAF YNGHYLCH Y CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2015/16 PDF 471 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd oedd yn cael ei wneud o ran gweithredu Cynllun Archwilio Mewnol 2015/16. Yr oedd Rhan A ar ffurf adroddiad cynnydd ynghylch Cynllun Archwilio 2015/16 ynghyd â matrics sgorio o ran yr argymhellion, yr oedd Rhan B yn grynodeb o'r adroddiadau terfynol gorffenedig am 2015/16 ynghylch y prif systemau ariannol (Ebrill 2015 tan y presennol), ac yr oedd Rhan C yn manylu ar Argymhellion Blaenoriaeth 1 ynghylch adolygu systemau eraill ac archwiliadau o'r sefydliad. Rhoddwyd sylw i'r mater canlynol wrth drafod yr adroddiad:- · Cyfeiriwyd at yr adolygiad o'r system derbyn arian parod a oedd dan sylw yn y cyfarfod diwethaf, a rhoddwyd Gwybod i'r Pwyllgor fod y Rheolau Gweithdrefn Ariannol yn cael eu hailysgrifennu ar hyn o bryd ac y byddent yn cynnwys cynnal archwiliadau di-rybudd ar hap o'r staff sy'n gyfrifol am dderbyn arian parod; · O ran yr adolygiad o'r cyfleusterau hamdden ym Mharc Gwledig Pen-bre ac ym Mharc Arfordirol y Mileniwm a oedd wedi'i gynnal ar gais Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol, rhoddodd y Pennaeth Hamdden sicrwydd i'r Pwyllgor fod y gwendidau a ddaethai i'r golwg yn cael eu hunioni ac y byddai'r swyddogion yn cydweithio'n agos â'r Adain Archwilio. Byddai hyn yn cynnwys sicrhau bod pawb yn cydymffurfio bob amser â'r Rheolau Gweithdrefn Ariannol Corfforaethol, a bod y materion iechyd a diogelwch yn cael sylw. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod Cynllun Gweithredu yn cael ei baratoi ynghylch y materion oedd dan sylw, ac awgrymwyd y gellid rhoi hwn gerbron cyfarfod nesaf y Pwyllgor;
PENDERFYNWYD
3.1 derbyn, at ddibenion monitro, y wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Archwilio Mewnol 2015/16; 3.2 rhoi gerbron y cyfarfod nesaf Gynllun Gweithredu a fyddai'n manylu ar sut y byddid yn rhoi sylw i'r materion oedd wedi'u codi yn sgil yr adolygiad o'r cyfleusterau hamdden ym Mharc Gwledig Pen-bre ac ym Mharc Arfordirol y Mileniwm.
|
|
CYNLLUN ARCHWILIAD MEWNOL 2016/17 A'R CYNLLUN A FWRIEDIR AR GYFER 2017/19 PDF 259 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a fanylai ar Gynllun Archwilio Mewnol 2016/17 ac a amlinellai gwmpas arfaethedig 2017/19. Nodai fod egwyddorion asesu risg wedi'u defnyddio wrth lunio'r cynlluniau, gan ystyried newidiadau yn y gwasanaethau. Y farn oedd y byddai mabwysiadu rhaglen dreigl dair blynedd yn rhoi sicrwydd bod y trefniadau archwilio yn ddigonol gan ganiatáu, ar yr un pryd, hyblygrwydd o ran ymdrin â newidiadau yn systemau'r Awdurdod. Yr oedd y Cynllun yn cymryd y byddai pob un o swyddi'r Adain yn llawn, sef 9.4 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn. PENDERFYNWYD 4.1 cymeradwyo'r Cynllun Archwilio Mewnol blynyddol ar gyfer 2016/17; 4.2 cadarnhau cwmpas arfaethedig 2017/19.
|
|
ADRODDIAD CYNNYDD - CEFNOGI POBL PDF 225 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gyfeirio at gyfarfod y Pwyllgor Archwilio oedd wedi'i gynnal ar 18fed Rhagfyr, 2015 (gweler cofnod 4), rhoddwyd gerbron y Pwyllgor adroddiad cynnydd ynghylch y Cynllun Gweithredu ar gyfer Cefnogi Pobl. Yr oedd yr adroddiad yn crynhoi'r gwaith oedd wedi'i wneud hyd yn hyn gan y Tîm Cefnogi Pobl er mwyn gwella ei brosesau o ran rheoli grantiau a chontractau, fel yr oedd y Rheolwr Archwilio a Risg wedi ei amlinellu yn y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 10fed Gorffennaf, 2016. Y farn oedd bod y cynnydd yn dda. Byddai'r Gr?p Cynllunio Cefnogi Pobl dan gadeiryddiaeth Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol yn monitro hyn.
PENDERFYNWYD nodi'r cynnydd o ran y Cynllun Gweithredu ar gyfer Cefnogi Pobl.
|
|
YSTYRIED Y DOGFENNAU CANLYNOL PARATOWYD GAN SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU:- Cofnodion: Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Mr. Richard Harries a Mr. Jason Garcia o Swyddfa Archwilio Cymru.
|
|
DIWEDDARIAD PWYLLGOR ARCHWILIO - MAWRTH 2016 PDF 222 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith archwilio oedd wedi'i wneud ynghylch yr Awdurdod gan Swyddfa Archwilio Cymru ers y cyfarfod diwethaf. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
|
|
CYNGOR SIR CAERFYRDDIN - CYNLLUN ARCHWILIO 2016 PDF 414 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y fersiwn drafft o Gynllun Archwilio 2016 ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin. Nodwyd bod yn rhaid i Swyddfa Archwilio Cymru, yn unol â'i dyletswyddau statudol:- · edrych yn fanwl ar ddatganiadau ariannol y Cyngor ac ardystio a oeddynt "yn wir ac yn deg"; · asesu a yw'r Cyngor wedi gwneud trefniadau priodol i sicrhau darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran defnyddio adnoddau; · archwilio ac asesu a oedd y Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau a bodloni gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009; a · cynnal astudiaethau er mwyn gwneud argymhellion i wella darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd neu i wella'r trefniadau ariannol neu drefniadau eraill yn ymwneud â rheoli. Yr oedd y Cynllun yn manylu ar y gwaith oedd i'w wneud gan Swyddfa Archwilio Cymru wrth archwilio cyfrifon y Cyngor, pryd y câi'r gwaith ei wneud, faint y byddai'n ei gostio a phwy fyddai'n ei wneud. Gan ymateb i gwestiwn, cytunodd cynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth yn y cyfarfod nesaf ynghylch ffioedd. PENDERFYNWYD derbyn y fersiwn drafft o Gynllun Archwilio 2015 ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin.
|
|
CRONFA BENSIWN DYFED - CYNLLUN ARCHWILIO 2016 PDF 295 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cynllun Archwilio 2016 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed. Yr oedd yn rhaid i Swyddfa Archwilio Cymru, yn unol â'i rhwymedigaethau o dan y Côd Ymarfer Archwilio, edrych yn fanwl ar ddatganiadau cyfrifon Cronfa Dyfed Bensiwn ac ardystio a oeddynt "yn wir ac yn deg". Yr oedd y Cynllun yn manylu ar y gwaith oedd i'w wneud gan Swyddfa Archwilio Cymru wrth archwilio cyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed am y flwyddyn yn diweddu 31ain Mawrth, 2016, pryd y câi'r gwaith ei wneud, faint y byddai'n ei gostio a phwy fyddai'n ei wneud. PENDERFYNWYD derbyn Cynllun Archwilio 2016 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed.
|
|
CÔD RHEOLAETH CORFFORAETHOL PDF 308 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Côd Llywodraethu Corfforaethol, fel yr oedd wedi'i ddiweddaru, a'r Cylch Gwaith ar gyfer y Gr?p Llywodraethu Corfforaethol. Gofynnwyd cwestiwn am y cyfeiriad yn y Côd at yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr yn trafod telerau eu rolau. Gan ymateb i'r cwestiwn dywedwyd bod y geiriad yn gyson â'r hyn oedd yn nogfennau CIPFA/SOLACE sef ‘Delivering Good Governance in Local Government'. Fodd bynnag, barn gyffredinol y Pwyllgor oedd y dylid gwaredu o'r Côd unrhyw gyfeiriad at 'drafod telerau' o ran hyn o beth.
PENDERFYNWYD
7.1 cymeradwyo'r Côd Llywodraethu Corfforaethol fel yr oedd wedi'i ddiweddaru;
7.2 cymeradwyo Cylch Gwaith y Gr?p Llywodraethu Corfforaethol, yn amodol ar y newid canlynol yn unol ag Egwyddor 2 yn yr Atodlen: ‘bod protocolau ar waith sy'n sicrhau bod yr
Arweinydd a'r Prif Weithredwr
|
|
COFNODION Y GRWP LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 515 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywodraethu Corfforaethol oedd wedi'i gynnal ar 3ydd Rhagfyr, 2015.
|
|
COFNODION Y GRWP LLYWIO RHEOLI RISG PDF 307 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywio Rheoli Risg oedd wedi'i gynnal ar 22ain Rhagfyr, 2015.
|
|
COFNODION Y PANEL GRANTIAU PDF 289 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion cyfarfod y Panel Grantiau oedd wedi'i gynnal ar 6ed Ionawr, 2016.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio oedd wedi'i gynnal ar 18fed Rhagfyr, 2015 gan eu bod yn gywir.
|