Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 26ain Medi, 2023 1.30 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J.M. Charles, P. Cooper, J.P. Jenkins a D. Owen.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd W.E. Skinner

2.               3:  PL/05250 – Newid defnydd arfaethedig o B1 (swyddfeydd) i ddefnydd D1 (canolfan lesiant) yn Dragon 24, Traeth Ffordd, Llanelli, SA15 2LF

4.              

Buddiant Personol a Rhagfarnol - Yn byw yn agos at y datblygiad arfaethedig a bydd yn cyflwyno sylwadau ar y cais ond ni fydd yn pleidleisio yn unol â rhan 14(2) o gôd ymddygiad y Cyngor.

 

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 305 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/04430

Datblygiad Preswyl ar Dir oddi ar Heol y Parc, Yr Hendy, Abertawe, SA4 0XZ

 

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.2 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 2 Chwefror 2023), a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle mewn perthynas â phryderon y gwrthwynebwyr. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Cafwyd sylw a wrthwynebai'r cais ac a ail-bwysleisiai’r pwyntiau yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a oedd yn cynnwys:

 

·      Gwrthwynebiadau gan 75 o breswylwyr lleol  a'r Cyngor Cymuned

·       Diogelwch ffyrdd a thagfeydd traffig

·       Diffyg parcio oddi ar y stryd a pharcio i ymwelwyr

·       Roedd y CDLl wedi nodi'r safle ar gyfer 5 t?. Roedd y cais presennol ar gyfer 7 ac nid oedd y safle wedi'i nodi i'w ddatblygu o fewn y CDLl oedd yn cael ei ddatblygu

·       Colli cynefinoedd bywyd gwyllt a choridor bywyd gwyllt

·       Materion perchnogaeth tir / ffiniau

·       Eiddo cyfagos yn colli preifatrwydd

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

 

3.2

PENDERFYNWYD gwrthod y cais canlynol yn groes i argymhelliad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd:-

 

 

PL/05250

 

 

Newid defnydd arfaethedig o B1 (swyddfeydd) i ddefnydd D1 (canolfan lesiant) yn Dragon 24, Traeth Ffordd, Llanelli, SA15 2LF

 

(Nodwch: Gan iddo ddatgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gwnaeth y Cynghorydd E. Skinner sylwadau yn unol ag Adran 14(2) o Gôd Ymddygiad y Cyngor a gadawodd y Siambr am y bleidlais ac ni phleidleisiodd ar y cais)

 

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.3 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 14Medi 2023), a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle mewn perthynas â phryderon a godwyd gan Aelodau Lleol.

 

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â chrynodeb o'r ymatebion gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Cafwyd sylwadau gan yr aelodau lleol a wrthwynebai'r cais ac a ail-bwysleisiai rai o'r pwyntiau yn adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd. Y prif bethau a oedd yn peri pryder oedd bod y cynnig yn mynd yn groes i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.