Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant - Dydd Iau, 5ed Gorffennaf, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans Thomas  01267 224470

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU A MATERION ERAILL

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Bowen a S. Najmi a Mr J. Davies (Rhiant-lywodraethwr).

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes i Mrs Mputsoe, sef Swyddog Addysg o Taba Seca yn Lesotho, a oedd ar leoliad yn Sir Gaerfyrddin yn rhan o raglen oedd yn cael ei rhedeg gan Dolen Cymru lle y byddai'n dysgu am ein system addysg ac yn casglu syniadau am sut i ddatblygu'r system addysg yn Lesotho.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

D. Jones

6 – Diweddariad ar y Gwasanaeth Cerdd – Gorffennaf 2018

Mae ei meibion yn aelodau o Wasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin

G. Jones

5 – Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin 2017/18

Mae ei wraig yn gweithio yn yr Adran Addysg

G. Jones

6 – Diweddariad ar y Gwasanaeth Cerdd – Gorffennaf 2018

Mae ei wraig yn gweithio yn yr Adran Addysg

G. Jones

7 – Ymagweddau at Sicrhau “Ymddygiad Cadarnhaol” yn Ysgolion Sir Gaerfyrddin

Mae ei wraig yn gweithio yn yr Adran Addysg

G. Jones

8 – Cefnogi Cynnydd i Ddysgu, Rolau Arweinyddiaeth a Phrifathrawiaeth

Mae ei wraig yn gweithio yn yr Adran Addysg

G. Jones

9 – Addysg Ddewisol yn y Cartref – Ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i Ohebiaeth

Mae ei wraig yn gweithio yn yr Adran Addysg

G. Jones

10 – Gweithredu Ymweliadau Cefnogi Craidd ERW ac Ysgolion sy'n Peri Gofid

Mae ei wraig yn gweithio yn yr Adran Addysg

B.W. Jones

7 – Ymagweddau at Sicrhau “Ymddygiad Cadarnhaol” yn Ysgolion Sir Gaerfyrddin

Mae ei mab yn gweithio yn Ysgol Parc y Tywyn.

B.W. Jones

8 – Cefnogi Cynnydd i Ddysgu, Rolau Arweinyddiaeth a Phrifathrawiaeth

Mae ei mab yn gweithio yn Ysgol Parc y Tywyn

B.W. Jones

9 – Addysg Ddewisol yn y Cartref – Ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i Ohebiaeth

Mae ei mab yn gweithio yn Ysgol Parc y Tywyn

B.W. Jones

10 – Gweithredu Ymweliadau Cefnogi Craidd ERW ac Ysgolion sy'n Peri Gofid

Mae ei mab yn gweithio yn Ysgol Parc y Tywyn

E. Schiavone

7 – Ymagweddau at Sicrhau “Ymddygiad Cadarnhaol” yn Ysgolion Sir Gaerfyrddin

Mae ei wraig yn gweithio yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth

E. Schiavone

8 – Cefnogi Cynnydd i Ddysgu, Rolau Arweinyddiaeth a Phrifathrawiaeth

Mae ei wraig yn gweithio yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth

E. Schiavone

9 – Addysg Ddewisol yn y Cartref – Ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i Ohebiaeth

Mae ei wraig yn gweithio yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth

E. Schiavone

10 – Gweithredu Ymweliadau Cefnogi Craidd ERW ac Ysgolion sy'n Peri Gofid

Mae ei wraig yn gweithio yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth

Mrs M. Jones

5 – Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin 2017/18

Mae hi'n cael ei chyflogi gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Mrs V. Kenny

5 – Mater wedi'i gyfeirio gan y Pwyllgor Craffu – Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Mae ei merch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol

 

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2017/18. pdf eicon PDF 198 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorydd G. Jones a Mrs M. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor, yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, ei bod yn ofynnol i'r Awdurdod gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar berfformiad yn y gorffennol erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn, a'i bod yn ofynnol i'r Awdurdod gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ynghylch ei Amcanion Llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Roedd fersiwn ddrafft o Adroddiad Blynyddol y Cyngor yn cynnwys yr Amcanion Llesiant a oedd yn berthnasol i'r Pwyllgor Craffu – Addysg a Phlant.  Roedd yr adroddiad yn bwrw golwg gyffredinol ar berfformiad 2017/18, adroddiadau cynnydd ar gyfer pob un o'r 15 Amcan Llesiant a dolen i olrhain cynnydd pob cam gweithredu penodol a tharged a roddwyd i bob Amcan Llesiant.  Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi gwybodaeth ychwanegol am berfformiad a data alldro (mis Medi) a chanlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru (mis Mehefin), a fyddai'n cael eu diweddaru pan fyddai'r canlyniadau ar gael.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y ffaith bod 29.4% o blant dros bwysau neu'n ordew. Gofynnwyd i swyddogion pwy sy'n gosod y targedau a pha adborth sy'n cael ei roi i rieni. Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i'r Pwyllgor mai'r swyddogion sy'n trafod ac yn gosod y targedau. Eglurodd fod nifer o gynlluniau ar gael sy'n ymwneud â gordewdra yn ystod plentyndod ac sy'n cael eu hyrwyddo ar raddfa eang, er enghraifft clybiau bwyta'n iach. Mae swyddogion yn gweithio ar amryw o gynlluniau gyda chydweithwyr o'r Adran Hamdden;

·       Gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynghylch mwy o gysoni rhwng y Tîm o Amgylch y Teulu (TAF) a Dechrau'n Deg, ac eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod Dechrau'n Deg yn rhaglen sy'n cael ei hariannu gan y llywodraeth ac sy'n rhoi cymorth i blant sy'n byw yn ardaloedd difreintiedig y sir. Mae'r Tîm o Amgylch y Teulu yn ymyrryd pan gydnabyddir bod angen cymorth ychwanegol ar blant a bod angen dull o weithio mewn tîm, ac mae'n caniatáu i asiantaethau megis iechyd, gofal cymdeithasol ac ati ddod ynghyd a gweithio'n agos gyda'i gilydd i fynd i'r afael ag anghenion y plentyn;

·       Cyfeiriwyd at y ffaith bod asesiadau sy'n cael eu gwneud drwy gyfrwng y Gymraeg wedi cwympo i 39.9% a gofynnwyd i'r swyddogion am eglurhad. Eglurodd y Cyfarwyddwr y gallai hyn fod oherwydd amrywiaeth o resymau, er enghraifft bod mwy o blant wedi mynd i ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg eleni. Ychwanegodd y byddai swyddogion yn dadansoddi'r ffigurau'n fanwl ac yn dosbarthu'r wybodaeth i aelodau;

·       Mynegwyd pryder bod ysgol yn cofnodi'r adeg pan fo plentyn yn ymweld ag orthodontydd yn absenoldeb wedi'i awdurdodi yn hytrach nag yn un meddygol, a gofynnwyd i'r swyddogion a fyddai modd gwneud rhywbeth i fynd i'r afael â'r anghysondeb hwn. Eglurodd y Cyfarwyddwr fod swyddogion yn trafod â Llywodraeth Cymru ynghylch y mater ar hyn o bryd.

·       Gofynnwyd beth allai gael ei wneud ynghylch plant sy'n absennol o'r ysgol yn rheolaidd, ac egluroddd y Cyfarwyddwr mai nifer fach  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

DIWEDDARIAD AR Y GWASANAETH CERDD: GORFFENNAF 2018. pdf eicon PDF 196 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd D. Jones a G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Yn ystod ei gyfarfod ar 14 Mawrth, 2018, wrth ystyried Adroddiad Monitro ynghylch Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2009/2010, penderfynodd y Pwyllgor dderbyn adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol ynghylch y problemau sy'n wynebu Gwasanaeth Cerdd y sir.

 

O ddydd i ddydd, mae Gwasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin yn darparu'r canlynol:-                                           

o   gwasanaeth cerdd peripatetig i 79 o ysgolion yn y sir;

o   hyfforddiant i dros 5,000 o ddisgyblion ar draws amrywiaeth o wersi offerynnol a lleisiol, sy'n cael eu darparu gan 32 o staff (24 Cyfwerth ag Amser Llawn);

o   cymorth statudol ar gyfer y cwricwlwm yng Nghyfnod Allweddol 2 mewn 7 o ysgolion;

o   cyfleoedd perfformio ar draws yr holl gyfnodau allweddol ac mae:

o   11 ensemble iau yn ymarfer bob tymor, ac uchafbwynt hynny yw'r Proms Iau blynyddol ar ddiwedd tymor yr haf;

o   3 ensemble lefel ganolradd yn ymarfer yn wythnosol, gan arwain at yr ?yl Ganolradd flynyddol;

o   5 ensemble h?n yn ymarfer bob tymor, gan arwain at yr ?yl Gerddoriaeth H?n flynyddol.

Mae Gwasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin yn uchel ei barch ac yn cael ei werthfawrogi'n fawr yn y sir ac yn genedlaethol ac oherwydd nifer o berfformiadau llwyddiannus a chyflawniadau, mae ei broffil wedi codi yn y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop.

 

Mae'r gwasanaeth wedi bod o dan bwysau ariannol dwys dros y blynyddoedd diwethaf a chafwyd diffyg cyllid o £169,127 ar gyfer 2017/18. Gallai hyn yn bennaf fod oherwydd gostyngiad mewn ysgolion yn adbrynu hyfforddiant oherwydd gwasgfeydd ariannol ac ati. Yn ogystal mae nifer o heriau cenedlaethol sylweddol, sy'n cynnwys gostyngiadau o ran prynu Cytundebau Lefel Gwasanaeth o ganlyniad uniongyrchol i gynnydd o ran cyfraddau a newidiadau i gontractau. Bu sôn am gyllid cenedlaethol ond, yn y cyfamser, roedd hi'n hanfodol meddwl am ffyrdd o sicrhau bod y gwasanaeth yn cadw deupen llinyn ynghyd.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Gofynnwyd i swyddogion pryd y gallem ddisgwyl datganiad cadarn mewn perthynas â chyllid a datblygiadau cenedlaethol. Eglurodd Cydlynydd y Gwasanaeth Cerdd fod penderfyniadau'n cael eu gwneud ar hyn o bryd ynghylch cyllid ar gyfer y dyfodol ac mae £2 filiwn wedi cael ei neilltuo ar gyfer y ddwy flynedd nesaf i edrych ar y modd y gellir datblygu gwasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru;

·       Gofynnwyd a oedd darparu gwasanaeth cerddoriaeth mewn ysgolion yn rhatach na darparu staff cyflenwi, ac eglurodd Cydlynydd y Gwasanaeth Cerdd ei fod yn gallu bod yn rhatach, ond mae'n fwy i wneud â'r ffaith nad yw staff cyflenwi o bosibl yn darparu'r hyn y mae'r ysgol ei angen, ond bod Gwasanaeth Cerdd yn diwallu anghenion yr ysgol.

·       Gofynnwyd pa mor bendant ydynt nad yw'r newidiadau arfaethedig yn mynd i gael effaith ar blant ac ar safonau, a rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y gwasanaeth wedi newid y llynedd o ddarparu'n wythnosol i ddarparu bob hanner tymor, a oedd wedi cael effaith sylweddol ar safonau, felly mae'r strwythur gwreiddiol wedi  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

YMAGWEDDAU TUAG AT SICRHAU 'YMDDYGIAD CADARNHAOL' YN YSGOLION SIR GAR. pdf eicon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorwyr B.W. Jones, G. Jones ac E. Schiavone wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg ar yr arferion a'r cyfarwyddyd presennol o ran cefnogi ymddygiad cadarnhaol a gwrth-fwlio yn ysgolion Sir Gaerfyrddin.

 

Mae gan Sir Gaerfyrddin hanes helaeth a chadarn o weithio'n effeithiol yn y maes hwn, gan gyfeirio at elfennau niferus o waith ymchwil ac arferion da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

 

Rhoddodd yr adroddiad fanylion ynghylch yr ystod o strategaethau sydd ar gael i'n hysgolion i gyrraedd safonau uchel o ran ymddygiad cadarnhaol ynghyd â'n disgwyliad amlwg o ran cadw pawb yn ddiogel rhag unrhyw lefel o fwlio.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Gofynnwyd sut y mae cynnydd yn cael ei fonitro a sut y mae mesur a yw bwlio'n cael ei leihau, ac eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod y broses fonitro'n cynnwys ystod o weithgareddau megis Ymgynghorwyr Her yn ymweld ag ysgolion a holiaduron yn cael eu dosbarthu i ysgolion yn flynyddol i adolygu cynnydd ac effaith strategaethau o'r fath;

·       Gofynnwyd a oedd yr holiaduron yn cael eu targedu at ddisgyblion neu athrawon, a rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod un holiadur ar gyfer arweinwyr ysgolion i'w gwblhau, a fersiwn electronig yw'r llall y mae ysgolion yn ei ddosbarthu i'w dysgwyr. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr y bydd gan ysgolion eu ffyrdd eu hunain o gofnodi boddhad disgyblion a mesurau llesiant. Mae'r adran yn casglu'r data hwnnw a gallai canlyniadau unrhyw arolygon gael eu dosbarthu i'r pwyllgor er gwybodaeth;

·       Gofynnwyd a allai'r holiaduron gynnwys sylwadau ynghylch yr effaith y gallai ymddygiad gwael ei chael ar athrawon, ac eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg y byddai ymweliadau craidd Ymgynghorwyr Her yn mynd i'r afael â hyn, ac os byddai unrhyw bryder yn codi byddent yn darparu'r cymorth sydd ei angen;

·       Cyfeiriwyd at y ffaith yr ymddengys bod nifer o gynlluniau gwahanol mewn ysgolion a phwysleisiwyd bod angen cysondeb ar draws y sir gan fod bwlio yn gallu diffinio gweddill bywyd rhywun. Gofynnwyd i swyddogion a fyddai'n bosibl gweithredu polisi gwrth-fwlio ledled y sir a fyddai'n cynnwys y ddeddfwriaeth wrth-fwlio ddiweddaraf. Eglurodd y Cyfarwyddwr fod yr Awdurdod yn gallu darparu fframwaith a dogfen dempled. Ychwanegodd mai'r modelau effeithiol iawn mewn ysgolion yw'r rheiny sydd wedi cael eu paratoi gan yr ysgolion eu hunain. Eglurodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod pethau'n newid o gofio am e-ddiogelwch a pheryglon y cyfryngau cymdeithasol. Mae llesiant yn prysur dyfu fel thema yn ein hysgolion ac mae Rheolwr Ymddygiad a Llesiant wedi cael ei secondio i weithio ar strategaethau i hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol;

·       Yn y cyd-destun hwn cyfeiriwyd at lwyddiant y cynllun Siaradwr a chytunodd swyddogion i roi data i'r Pwyllgor ynghylch y nifer sy'n defnyddio'r cynllun;

·       Mynegwyd pryder nad yw plant sy'n cael eu bwlio yn gallu cael cludiant i fynychu ysgol arall. Pwysleisiodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant pa mor bwysig yw sicrhau bod y diwylliant/amgylchedd yn yr ysgol yn iawn er mwyn i ddisgyblion  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

CEFNOGI CYNNYDD I DDYSGU, ROLAU ARWEINYDDIAETH A PHRIFATHRAWIAETH. pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorwyr B.W. Jones, G. Jones ac E. Schiavone wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn amlinellu'r meysydd gweithgarwch presennol yn Sir Gaerfyrddin ac yn genedlaethol, a hynny er mwyn cefnogi'r canlynol:-

 

            - mynediad i yrfa addysgu ac anogaeth ohoni; a

            - chymorth ar gyfer cefnogi cynnydd o ran arweinyddiaeth i rolau uwch a phrifathrawiaeth.

 

Rhoddodd yr adroddiad fanylion am yr ystod o gyfleoedd sydd ar gael i'n gweithlu er mwyn cefnogi gwell arferion arwain, hunan-ddatblygiad a chyflawniad.

 

Mae ERW wedi mynd ati i weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod ar y strategaeth #DarganfodAddysgu sy'n anelu at annog rhagor o bobl i ddal ar y cyfle i gael gyrfa mewn addysgu sy'n rhoi llawer o bleser.

 

Mae ERW a'r Awdurdod hefyd wedi gweithio'n galed i sicrhau bod ystod eang o gyfleoedd ar gyfer datblygu arweinyddiaeth ar gael yn rheolaidd i gefnogi gweithlu ein hysgolion. Mae'r cyfleoedd hyn yn bwrpasol yn cael eu darparu ar amrywiaeth o lefelau arweinyddiaeth, gan geisio nid yn unig i gryfhau a gwella sgiliau ein gweithlu, ond hefyd i ategu'r neges allweddol o ran yr effaith y gall arweinyddiaeth ddosbarthol gael yn ein hysgolion.

 

Dros gyfnod, mae Sir Gaerfyrddin wedi chwarae rhan annatod wrth ddatblygu cynnwys y rhaglen Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawon, gan sicrhau ein bod yn darparu cymorth a chyfleoedd i ymgeiswyr er mwyn iddynt gael y cymhwyster gorfodol ar gyfer prifathrawiaeth yng Nghymru. Ymhlith carfan 2017/2018, gwelwyd nifer fawr o ymgeiswyr o Sir Gaerfyrddin yn astudio'r cymhwyster, sef 16. Cyrhaeddodd pob un o'r 16 y safon ac mae'r nifer fawr hon o ymgeiswyr, na welwyd mo'i thebyg o'r blaen (o gymharu ag Awdurdodau Lleol eraill yn rhanbarth ERW), yn dystiolaeth o'r effaith gadarnhaol y mae'r nifer o gyfleoedd datblygu proffesiynol wedi'i chael ar ein Darpar Arweinwyr. Bellach bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus hyn ar gael i gefnogi ein hagenda arweinyddiaeth yn unol ag anghenion ein hysgolion.

 

Mae ysgolion Sir Gaerfyrddin wedi cael gwahoddiad i rannu arferion gorau drwy'r rhaglen ymarferydd arweiniol sy'n darparu cyfleoedd datblygu proffesiynol gwerthfawr. Mae ysgolion yn cael eu hariannu i gefnogi eraill yn unol â'r ddewislen gymorth y cytunwyd arni yn y broses gategoreiddio. Mae ymarferwyr yn arwain ar brosesau hunanwerthuso effeithiol neu ddatblygu strategol mewn ffederasiwn. Mae'r cyfleoedd hyn yn galluogi ysgolion i rannu arferion gorau ac yn darparu cyfleoedd arwain pwrpasol ar gyfer darpar arweinwyr.

 

Mae Ymgynghorwyr Her wedi canolbwyntio'n fanwl ar y broblem o ran llwyth gwaith athrawon yn ystod eu hymweliadau craidd, ac felly'n cefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru sydd â'r nod o fynd i'r afael â phroblemau llwyth gwaith mewn perthynas â phrosesau marcio ac adborth. Mae cyngor a chanllawiau wedi cael effaith gadarnhaol ar leihau llwyth gwaith athrawon ac mae'n llywio newid diwylliannol yn y proffesiwn mewn modd adeiladol, a hynny mewn perthynas â disgwyliadau o ran marcio ac adborth.

 

Er mwyn cefnogi arweinyddiaeth effeithiol yn ein hysgolion mae ystod o adnoddau enghreifftiol gan gynnwys polisïau, enghreifftiau o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADDYSG DDEWISOL YN Y CARTREF: YMATEB YR YSGRIFENNYDD CABINET I OHEBIAETH. pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorwyr B.W. Jones, G. Jones ac E. Schiavone wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2018, wrth ystyried adroddiad ar Addysg Ddewisol yn y Cartref, penderfynodd y Pwyllgor y byddai swyddogion yn ysgrifennu llythyr i Lywodraeth Cymru yn mynegi pryderon y Pwyllgor ynghylch y problemau â phlant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref a'r rhai sy'n cael addysg hyblyg.

 

Cafodd y llythyr ei anfon yn briodol at Kirsty Williams, sef Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a chafwyd ymateb ar 27 Mehefin, a gafodd ei ddosbarthu i aelodau er gwybodaeth.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Mynegwyd pryder unwaith eto ynghylch amwysedd y term "addysg addas" a'r ansicrwydd ynghylch y diffiniad cywir;

·       Gofynnwyd a oedd yr Awdurdod wedi defnyddio Gorchmynion Presenoldeb yn yr Ysgol, a rhoddodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant wybod bod y dull hwn wedi cael ei archwilio'n gymedrol.

·       Mynegodd y Pwyllgor ei sicrwydd fod yr Awdurdod yn mynd i'r afael â'r problemau hyn nawr, ac nid yn llaesu dwylo ac yn aros i'r strategaeth gael ei chyhoeddi.

 

PENDERFYNWYD

 

9.1       bod yr ymateb oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet yn cael ei nodi;

 

9.2       bod y gwahoddiad i Su Crowther gyflwyno eitem ar lythyr y Pwyllgor, ac ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yn cael eu derbyn yng nghyfarfod nesaf Rhanddeiliaid Addysg Ddewisol yn y Cartref yr Awdurdod Lleol.

 

 

 

 

 

 

10.

GWEITHREDU YMWELIADAU CEFNOGI CRAIDD ERW AC YSGOLION SY'N PERI GOFID. pdf eicon PDF 132 KB

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorwyr B.W. Jones, G. Jones ac E. Schiavone wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad a oedd yn rhoi trosolwg ar waith yr Ymgynghorwyr Her a'r Tîm Gwella Ysgolion o ran cynnal ymweliadau cefnogi craidd ERW yn ystod blwyddyn academaidd 2017/18 a'r cynnydd a wnaed mewn ysgolion oedd yn peri gofid.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at Baneli Gwella Ysgolion a gofynnwyd i swyddogion beth y mae'r aelodaeth yn ei chynnwys. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod yr aelodaeth yn amrywio o ysgol i ysgol, ond mae'r Pennaeth bob amser yn cael ei gynnwys, a gallai rhai eraill gynnwys Arweinwyr Cyfnod Allweddol, Ymgynghorwyr Her a swyddog Awdurdod Lleol;

·       O ran safon yr Ymgynghorwyr Her, gofynnwyd i'r swyddogion a oedd yr Awdurdod yn gwirio a ydy penaethiaid yn hapus â'r gwasanaeth maent yn ei gael gan ERW. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod trafodaethau'n cael eu cynnal yn rheolaidd ag arweinwyr ysgol ynghylch y mater hwn.

 

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

11.

ATGYFEIRIAD I'R PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT. pdf eicon PDF 131 KB

Cofnodion:

[NODER:  Roedd Mrs V. Kenny wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai'r Pwyllgor Craffu – Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn ystyried adroddiad ar Ofalwyr Ifanc yn ei gyfarfod ar 4 Gorffennaf, 2018, yn rhan o'i Flaenraglen Waith. Fodd bynnag, roedd swyddogion wedi nodi, oherwydd bod Gofalwyr Ifanc o dan orchwyl y Pwyllgor Craffu – Addysg a Phlant, y dylai adroddiad o'r fath gael ei gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor hwnnw yn y dyfodol. Roedd swyddogion hefyd yn teimlo, gan fod gan aelodau o'r Pwyllgor Craffu – Gofal ymdeithasol ac Iechyd ddiddordeb arbennig mewn gofalwyr, y dylent gael eu gwahodd i'r cyfarfod pan fydd yr adroddiad yn cael ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD bod Gofalwyr Ifanc yn cael eu rhoi ar agenda cyfarfod y Pwyllgor Craffu – Addysg a Phlant a fydd yn cael ei gynnal ar 27 Medi, 2018 a bydd y Pwyllgor Craffu – Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn cael ei wahodd i fod yn bresennol i ystyried yr eitem honno.

 

 

 

12.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 27 Medi, 2018.

 

 

13.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 7FED MEHEFIN, 2018. pdf eicon PDF 164 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2018 gan eu bod yn gywir.