Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant - Dydd Llun, 27ain Tachwedd, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd E. Hill (Aelod Rhiant lywodraethwr).

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

 

Cynghorydd G. Jones

 

 

Eitemau 5–9

 

Mae ei wraig yn gweithio yn yr Adran Addysg.

 

 

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwipiaid y pleidiau.

 

4.

CWESTIYNAU CYHOEDDUS

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

CYLLIDEBAU YSGOLION. pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorydd G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi golwg gyffredinol ar y rheoliadau sy'n cwmpasu dyrannu cyllidebau ysgol, proses y gyllideb a'r broses o gyfrifo'r gyllideb ddirprwyedig a dderbyniwyd gan yr Awdurdod Lleol.  Roedd gweddillion ariannol terfynol cyllidebau ysgolion unigol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2015/16 a 2016/17 wedi'u hatodi i'r adroddiad er gwybodaeth.

 

Nododd y Pwyllgor fod gan gorff llywodraethu ysgol gyfrifoldeb ar y cyd a chyfreithiol o ran cyfeiriad cyffredinol yr ysgol a'i reolaeth strategol.  Roedd hyn yn cynnwys rheolaeth ariannol effeithiol o gyllideb ddirprwyedig yr ysgol a'r cyfrifoldeb dros sicrhau bod adnoddau ariannol yr ysgol yn cael eu defnyddio i wella deilliannau dysgwyr yn y modd mwyaf effeithiol ac effeithlon.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Os oes gan ysgol ddiffyg yn y gronfa wrth gefn sut y mae mynd ati i gysylltu â swyddogion i gael cyngor/cymorth?  Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg y gall ysgolion gysylltu ag unrhyw un o Swyddogion Cymorth yr Adran Addysg.  Mae swyddogion yn ceisio ymyrryd yn gynnar a gweithio gyda chyrff llywodraethu er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd;

·       Mynegwyd pryder ynghylch faint o ysgolion sydd â chronfa fawr wrth gefn pan mae cynifer o ysgolion eraill yn cael trafferth.  Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg at y ddeddfwriaeth newydd a gyflwynwyd yn ddiweddar yngl?n â'r arian sydd dros ben gan ysgolion a'r adfachu a dywedodd wrth y Pwyllgor nad yw'r awdurdod wedi defnyddio'r pwerau hynny eto.  Fodd bynnag, os bydd gwarged yn parhau flwyddyn ar ôl blwyddyn yna byddai'n rhaid cynnal trafodaethau yn hynny o beth.

 

PENDERFYNWYD

 

5.1       nodi'r wybodaeth;

 

5.2       bod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad diweddaru ynghylch Cyllidebau Ysgolion

yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.

 

6.

DIWEDDARIAD RHAGLEN TIC. pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a derbyn cyflwyniad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Trawsnewid i Wneud Cynnydd (TIC) – Cymorth ar gyfer Ysgolion.

 

Yn hanesyddol mae cyllidebau dirprwyedig ysgolion wedi cael eu diogelu rhag gostyngiadau fel rhan o raglen effeithlonrwydd corfforaethol.  Gan mai gostyngiadau pellach yw'r rhagolygon ar gyfer cyllideb y Cyngor yn y dyfodol, mae ysgolion wedi cael eu herio i ddod o hyd i arbedion effeithlonrwydd yn y gyllideb gan sicrhau ar yr un pryd bod safonau yn cael eu cynnal neu'n gwella.  Er mwyn helpu gyda'r gwaith, mae Allan Carter, Dirprwy Bennaeth Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth wedi ymuno â'r tîm ar secondiad er mwyn canolbwyntio ar helpu ysgolion i ddod o hyd i arbedion effeithlonrwydd yn y gyllideb.

 

Sefydlwyd rhaglen TIC dros bedair blynedd yn ôl mewn ymateb i her ariannol hynod galed.  Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf mae prosiectau TIC wedi helpu i sicrhau arbedion ariannol o dros £2m ac mae'r rhaglen, ers ei sefydlu, wedi helpu i nodi arbedion sy'n dod i gyfanswm o bron i £11.5m.  Dechreuodd Allan ar ei rôl yn amser llawn ym mis Medi 2017 ac mae'n gweithio gyda chydweithwyr TIC i ddeall eu methodoleg ac i weld sut y gallwn ailadrodd y llwyddiant hwnnw ar draws ysgolion yn Sir Gaerfyrddin.

 

Nod y Rhaglen TIC i Ysgolion yw defnyddio egwyddorion TIC o weithio ar y cyd, lleihau gwastraff a rhannu arfer da i gynorthwyo ysgolion i leihau costau, ond ar yr un pryd, diogelu ansawdd gwasanaethau rheng flaen a gwella deilliannau.  Mae hefyd yn ceisio cryfhau'r cysylltiadau rhwng ysgolion a'r Awdurdod Lleol drwy weithio mewn partneriaeth.  Ni fwriedir iddo fod yn ymagwedd o'r brig i'r bôn.

 

Yn ystod dau fis cyntaf ei secondiad mae Allan wedi nodi nifer o feysydd ffocws lle y gellid gwneud arbedion ac mae'n gweithio gyda chydweithwyr i ddatblygu'r rhain.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad a'r cyflwyniad:-

 

·       Cyfeiriwyd at dendro a chaffael ar y cyd a gofynnwyd i'r swyddogion a fyddai'r awdurdod yn cefnogi ysgolion yn gweithio ar y cyd ar bethau fel torri gwair.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg wrth y Pwyllgor fod gan ysgolion Gytundebau Lefel Gwasanaeth unigol ond rhoddir ystyriaeth bob amser i gyfleoedd i wella effeithlonrwydd ac mae hyn rhan o waith TIC ar hyn o bryd;

·       Gofynnwyd i swyddogion a roddwyd ystyriaeth i weithio ar y cyd a rhannu arbenigedd/staff i gyflawni rhai o bynciau'r cwricwlwm.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg wrth y Pwyllgor fod hwn eisoes ar waith o ran uno grwpiau o ddisgyblion i gyflawni rhai pynciau;

·       Mynegwyd pryder mai un o'r problemau a wynebir gan ysgolion yw'r ffaith nad yw eu systemau TG wedi'u safoni. Dywedodd Mr Carter wrth y Pwyllgor y dylid safoni'r holl systemau.  Eglurodd y Rheolwr Datblygu Strategol ymhellach fod yr holl ysgolion cynradd yn defnyddio'r system Canolfan Athrawon a bod yr holl ysgolion uwchradd yn defnyddio'r system SIMS (System Gwybodaeth Reoli  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

FFRAMWAITH A RHAGLEN YMWELIADAU YSGOL Y PWYLLGOR CRAFFU. pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn cynnwys manylion ynghylch ymweliadau ag ysgolion o fis Ionawr 2018 ymlaen.

 

Mae Aelodau'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant wedi ymgymryd â nifer o ymweliadau ag ysgolion dros gyfnod o flynyddoedd lawer.  Mae natur hanesyddol yr ymweliadau hyn wedi tueddu i ganolbwyntio ar faterion eiddo, sy'n briodol i'r Rhaglen Moderneiddio Addysg ar yr adeg honno, ac mae hyn yn ddealladwy.  Fodd bynnag, dylai ein gwaith gydag ysgolion gefnogi a herio ar draws ystod eang o weithgareddau ysgolion ac felly cynigiwyd adlinio ffocws y rhaglen ymweliadau ag ysgolion a hwyluso trafodaeth ehangach a dyfnach ynghylch  agweddau sy'n fwy o flaenoriaethau e.e. arweiniad, addysgu, dysgu a deilliannau. Fodd bynnag, nid y bwriad yw atal neu anwybyddu unrhyw elfennau sy'n ymwneud â'r safle a allai godi ac sydd angen sylw.

 

Roedd y fformat awgrymedig ar gyfer ymweliadau ag ysgolion fel a ganlyn:-

 

(1) Trosolwg o gyd-destun presennol yr ysgol (i gynnwys "taith gerdded addysgol dan arweiniad i'r aelodau”;

(2) Trosolwg o berfformiad presennol (deilliannau a chategoreiddio);

(3) Trafodaeth a dadansoddiad o'r cryfderau a'r arferion gorau, meysydd i'w gwella a'r blaenoriaethau cyfredol gydag uwch arweinwyr ysgolion, swyddogion ERW/Awdurdod lleol (i gynnwys crynodeb o'r Cynllun Datblygu Ysgol, adroddiad Hunanwerthuso a'r adroddiadau mwyaf diweddar ynghylch ymweliad cymorth ERW);

(4) Sesiwn Adolygu a dod i Gasgliad rhwng Aelodau.

 

Rhagwelwyd y byddai'r uchod yn cymryd rhwng 2½-3 awr ac felly awgrymwyd y dylid trefnu un diwrnod dynodedig i ymweld ag ysgolion bob tymor i gynnwys  2 ysgol, ymweld ag un ysgol yn ystod sesiwn y bore ac un yn ystod sesiwn y prynhawn.

 

Cynigiwyd y dylai grwpiau o aelodau ymgymryd â'r ymweliadau yn hytrach na'r Pwyllgor cyfan oherwydd y byddai hyn yn galluogi gweithio gyda mwy o ffocws yn ystod yr ymweliadau, a darparu mwy o gyfleoedd i'r aelodau gael profiad mwy manwl a diddorol.   Awgrymwyd felly bod y Pwyllgor yn cael ei rannu'n dri gr?p ar gyfer yr ymweliadau fel a ganlyn:-

 

Gr?p 1

Cadeirydd neu Is-gadeirydd

Cynghorwyr Liam Bowen, Ieuan Wyn Davies, Jean Lewis a Bill Thomas   Mrs Vera Kenny

1 Rhiant-lywodraethwr

 

Gr?p 2

Cadeirydd neu Is-gadeirydd

Cynghorwyr Kim Broom, Gary Jones, Shahana Najmi a Dorian Williams

Mrs Jean Voyle Williams

1 Rhiant-lywodraethwr

 

Gr?p 3

Cadeirydd neu Is-gadeirydd

Cynghorwyr John Jenkins, Betsan Jones, Dot Jones ac Emlyn Schiavone

1 Rhiant-lywodraethwr

 

Roedd llawer o ffactorau i'w hystyried o ran dewis pa ysgolion i ymweld â hwy megis:-

 

-           sicrhau bod amrywiaeth o gyfnodau gwahanol er mwyn rhoi profiadau i'r aelodau o ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig;

-           canolbwyntio ar ysgolion sy'n gweithio i agendâu penodol neu flaenoriaethau megis

            (a) ysgolion sydd angen gwella eu categori o ran Categoreiddio Cenedlaethol;

            (b) ysgolion sy'n rhannu/arwain arferion gorau;

            (c) ysgolion yn gweithio o fewn rhwydweithiau penodol (i gynnwys  ffurfiol ac anffurfiol

                  Ffederasiynau, prosiectau Ymchwil Weithredu ac ati)

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod y cynigion ar gyfer yr ymweliadau ag ysgolion gan y Pwyllgor o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

FFRAMWAITH AROLYGU ESTYN DIWYGIEDIG. pdf eicon PDF 214 KB

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar Fframwaith Arolygu diwygiedig Estyn.  Defnyddir y fframwaith arolygu hwn ar gyfer yr holl arolygiadau o ddarparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru a cheir un fframwaith ar gyfer yr holl ysgolion a'r unedau cyfeirio disgyblion.  Mae'r fframwaith diwygiedig yn rhoi cyfle i ysgolion gyflwyno eu harfer wrth gymharu â'r meysydd arolygu canlynol:-

 

- Safonau

- Llesiant ac agweddau at ddysgu

- Profiadau addysgu a dysgu

- Gofal, cymorth ac arweiniad

- Arweinyddiaeth a rheoli

 

Croesawodd y Cadeirydd, Mr Aled Davies, Prifathro Ysgol Gynradd Llangynnwr i'r cyfarfod a gafodd wahoddiad i roi cyflwyniad i'r Pwyllgor.  

 

Dywedodd Mr Davies wrth y Pwyllgor fod ei ysgol wedi cael arolygiad yn ddiweddar a'r ysgol gyntaf yn y Sir i wneud hynny o dan y fframwaith newydd.  Roedd ysgolion yn ymwybodol bod y fframwaith arolygu newydd yn cael ei gyflwyno, ac roedd swyddogion o'r Adran Addysg wedi helpu ysgolion i baratoi drwy ddarparu sesiynau hyfforddi a chymorth o ran paratoi dogfennau a'r Cynlluniau Datblygu Ysgol. 

 

Yn y gorffennol roedd ysgolion yn cael rhybudd o 4 wythnos cyn dechrau'r arolygiad ond dim ond 15 diwrnod gwaith o rybudd a roddir o dan y fframwaith newydd.  Byddwch yn cael galwad fore Llun yn rhoi gwybod ichi am yr ymweliad ac mae'n rhaid i chi lwytho'r holl ddogfennau gofynnol ar wefan Estyn erbyn dydd Gwener yr un wythnos.  Dylai'r dogfennau angenrheidiol fod yn barod gan ysgolion beth bynnag oherwydd eu bod yn ddogfennau statudol. Mae angen i Estyn wybod bod yr ysgol yn gwybod yr hyn sydd angen ei wella a chyfeiriad yr ysgol ac ati a bod hyn i gyd yn cael ei gynnwys yn y Cynllun Datblygu Ysgol.  Rhaid cwblhau'r dogfennau hunanwerthuso a chynnwys tystiolaeth gadarn i brofi'r hyn rydych yn ei ddweud.  Mae'n bwysig iawn cael y dogfennau hyn yn barod ac ar waith.

 

O ran yr arolygiad ei hun, rhoddir cryn dipyn o bwyslais ar y disgyblion ac mae'r arolygwyr yn treulio llawer o amser yn siarad â'r plant.  Maent yn casglu tystiolaeth o'r sgyrsiau hyn â'r disgyblion.  Mae'n bosibl na fyddant yn siarad â'r pennaeth o gwbl gan eu bod wedi gweld y ffurflenni hunanwerthuso ac yn gwybod beth yw barn a safbwyntiau'r pennaeth.  Maent yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar siarad â disgyblion a staff a hefyd â rhieni a llywodraethwyr.   Bellach mae'r pwyslais ar yr unigolyn a'r cynnydd y mae'n ei wneud yn yr ysgol, fodd bynnag, mae'r arolygwyr yn parhau i edrych ar grwpiau penodol e.e. plant sy'n gymwys am Brydau Ysgol am Ddim.   

 

Mae astudiaethau wedi dangos bod 65-70% o'r swyddi y bydd y plant hyn yn eu gwneud heb eu creu eto, felly, mae'n bwysig pwysleisio'r sgiliau sydd eu hangen ar blant ac nid swydd benodol. 

 

Mae llesiant y disgybl hefyd yn bwysig iawn ac agwedd y disgybl tuag at ddysgu.   Mae presenoldeb yn ffactor bwysig arall sy'n cael sylw, er bod presenoldeb o 90% yn ymddangos  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - RHAGLEN AMLINELLOL STRATEGOL - DIWEDDARIAD BAND B. pdf eicon PDF 605 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorydd G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Atgoffwyd y Pwyllgor bod paratoadau ar gyfer Rhaglen Genedlaethol Ysgolion yr 21ain Ganrif  wedi dechrau yn 2010 yn dilyn gwahoddiad gan Lywodraeth Cymru i Awdurdodau Lleol gyflwyno Rhaglen Amlinellol Strategol ar gyfer moderneiddio eu holl ystâd o ran ysgolion, a'u gosod o fewn 4 band o ran buddsoddi o A - D , yn nhrefn blaenoriaeth yn ôl yr angen mwyaf dybryd.

 

Yn ystod 2010, cwblhawyd adolygiad cynhwysfawr o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg ac fel rhan o'r adolygiad hwnnw, penderfynodd y Cyngor fod y Rhaglen Moderneiddio Addysg yn cael ei hadolygu a'i diwygio yn y dyfodol bob dwy flynedd neu yn ôl yr hyn sy'n ofynnol i sicrhau cysondeb o ran amserlen genedlaethol Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif  Ers hynny mae'r Bwrdd Gweithredol wedi cymeradwyo Rhaglen Moderneiddio Addysg ddiwygiedig yn 2011, 2013 a 2016

 

Aeth y Pwyllgor ymlaen i ystyried adroddiad yn rhoi manylion am Gynllun Amlinellol Strategol y Rhaglen Moderneiddio Addysg a'r rhaglen fuddsoddi wedi'i blaenoriaethu a'i diweddaru fel rhan o Fand B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Gofynnwyd sut y caiff prosiectau eu blaenoriaethu ac a oes protocol, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Moderneiddio wrth y Pwyllgor fod ymarfer yn cael ei gwblhau lle cynhelir adolygiad hyfywedd o'r holl ysgolion ac yn dilyn hyn cynhyrchir prosiectau strategol.  Yna cwblheir arfarniad o'r dewisiadau a defnyddir meini prawf i sgorio prosiectau strategol.  Cymeradwywyd y rhaglen bresennol o brosiectau gan y Bwrdd Gweithredol yn 2016;

·       Cyfeiriwyd at yr anhawster a gafwyd wrth godi arian ar gyfer prosiectau o'r fath a mynegwyd pryder ynghylch y defnydd o'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) mewn achosion o'r fath.  Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Moderneiddio fod trafodaethau'n parhau â Llywodraeth Cymru sy'n cynghori bod MIM yn fodel gwell ar gyfer PIF (Menter Cyllid Preifat).  Bydd swyddogion yn ymchwilio i'r awgrym o ddefnyddio MIM ac yn cyflwyno adroddiad pellach i'r Pwyllgor gan gynnwys y prosiectau sy'n cael eu cynnig i'w datblygu;

·       Gofynnwyd i'r swyddogion sut yr ymgynghorir â chymunedau, llywodraethwyr, ysgolion ac ati.  Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Moderneiddio fod yr holl brosiectau'n cynnwys trafodaethau â'r ysgolion eu hunain. Ymgynghorir hefyd ynghylch dyfodol yr ysgolion hynny ac ynghylch adeiladau newydd.  Cynhelir cyfarfodydd â chymunedau ac ysgolion yn gynnar iawn yn y broses.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL

9.1   bod Rhaglen Amlinellol Strategol ddiweddaraf y Rhaglen Moderneiddio Addysg sy'n cynnwys rhaglen fuddsoddi wedi'i blaenoriaethu a'i diweddaru fel rhan o Fand B rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn cael ei chymeradwyo

9.2   bod y prosiectau Band B a ddewiswyd i ymchwilio ymhellach iddynt o dan y Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn cael eu cymeradwyo, fodd bynnag, dylid nodi pryderon y Pwyllgor ynghylch y Model Buddsoddi Cydfuddiannol;

9.3  bod y trefniadau ariannu ar gyfer cyflwyno Band B yn cael eu cymeradwyo er mwyn cadarnhau a yw'r elfennau cyfalaf a refeniw yn fforddiadwy;

9.4  bod y pwysigrwydd o ymgynghori â'r gymuned, ysgolion a phartïon yn cael ei  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU. pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor esboniad pan na chafodd yr adroddiadau craffu canlynol eu cyflwyno heddiw:-

 

-  Adroddiad Canmoliaeth a Chwynion Chwe-misol 2017/18

-  Cynllun Busnes ERW 2017/18 ac adolygiad o 2016/17

(gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am Newidiadau'r Cwricwlwm)

-  Adroddiad Blynyddol Maethu

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiadau.        

 

 

11.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. pdf eicon PDF 83 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD

 

13.1  nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf sef dydd Iau, 21 Rhagfyr, 2017;

 

13.2  nodi Blaenraglen Waith diwygiedig y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant;

 

13.3 nodi Blaenraglen Waith y Bwrdd Gweithredol.

 

 

12.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 28AIN MEDI, 2017. pdf eicon PDF 322 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 28 Medi 2017, gan eu bod yn gywir.