Lleoliad: Siambr, 3 Heol Spilman
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J.A. Davies, A. James. W.J. Lemon a W.G. Thomas. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwipiaid y pleidiau. |
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd |
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 286 KB Cofnodion: Gofynnwyd am eglurhad pryd y byddai’r sesiwn ddatblygu ar ddynladdiad corfforaethol y gofynnodd y Pwyllgor amdani’n cael ei chynnal. Rhoddodd yr Ymgynghorydd Cynorthwyol wybod i’r Pwyllgor bod ei gais wedi cael ei atgyfeirio at yr Uned Dysgu a Datblygu ond nad oedd dyddiad wedi cael ei drefnu eto. Cadarnhaodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Wasanaethau Technegol fod y sesiwn ddatblygu hon wedi cael ei darparu ar gyfer aelodau’r Bwrdd Gweithredol ac y byddai’n cael ei chynnig i’r holl aelodau yn awr.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i’w hystyried yn ei gyfarfod nesaf wedi’i amserlennu a fyddai’n cael ei gynnal ar ddydd Gwener 13 Mai. |
|
STRATEGAETH DIOGELWCH FFYRDD SIR GAERFYRDDIN PDF 355 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ail Strategaeth Diogelwch Ffyrdd Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2016-20. Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad byr a oedd yn manylu ar nodau’r Strategaeth i fynd i’r afael â nifer o heriau allweddol, sef:
· Lleihau nifer y marwolaethau ac anafiadau difrifol ar y ffyrdd · Diogelwch ar ffyrdd gwledig · Gweithio i amddiffyn pobl ifanc a beicwyr modur · Lleihau ymddygiad amhriodol ac anghyfreithlon gan ddefnyddwyr y ffyrdd gan gynnwys gyrru’n rhy gyflym, yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau, a gyrru’n ddiofal ac yn beryglus · Amddiffyn cerddwyr a beicwyr · Gwella gwybodaeth a dealltwriaeth yr Awdurdod am ddata anafiadau i ddatrys problemau o ran diogelwch ffyrdd
Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor y byddai’r Awdurdod yn parhau i fuddsoddi yn niogelwch ffyrdd trwy ariannu addysg, gwerthusiadau a pheirianneg mewn perthynas â diogelwch ffyrdd a chefnogaeth barhaus i gamau gorfodi gan yr Heddlu. Byddai swyddogion hefyd yn parhau i gydweithio a gweithio mewn partneriaeth i gyflawni mentrau addysg diogelwch ffyrdd ac adnabod safleoedd ar gyfer ymyriadau gorfodi a pheirianneg.
Codwyd y materion canlynol mewn perthynas â’r adroddiad:
Cyfeiriwyd at nifer cynyddol y digwyddiadau diogelwch ffyrdd sy’n ymwneud â gyrwyr h?n ac mewn ymateb i gwestiwn am y berthynas rhwng meddygon teulu a’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg fod meddygon teulu a’r DVLA yn dibynnu ar unigolion i ddatgan unrhyw faterion neu gyflyrau meddygol a allai eu hanghymhwyso rhag cadw eu trwydded yrru. Rhoddodd wybod i’r Pwyllgor, yng ngoleuni’r ddamwain ddiweddar gyda lori wastraff yn Glasgow, bod y DVLA wedi cyhoeddi canllawiau newydd i feddygon teulu ynghylch y gofynion i hysbysu’r DVLA, er bod mater cyfrinachedd cleifion yn un anodd i feddygon teulu.
Gofynnwyd a oedd y data a gesglir gan yr Awdurdod ynghylch gwrthdrawiadau traffig y ffyrdd yn galluogi swyddogion i ddadansoddi ymhellach ac ystyried tueddiadau mewn perthynas â’r adeg o’r dydd neu’r tywydd pan fo damwain yn digwydd. Rhoddodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg wybod i’r Pwyllgor bod hyn yn bosibl a’i fod yn ddarn allweddol o waith yr oedd yr Awdurdod yn dymuno’i ddatblygu er mwyn helpu swyddogion i gael dealltwriaeth well am y data ac achosion posibl damweiniau. Roedd Is-gr?p Data yn mynd i gael ei sefydlu gan y Gr?p Gweithredu ar Ddiogelwch Ffyrdd lleol i wneud y gwaith hwn.
Mewn ymateb i sylw ynghylch canfyddiadau pobl ifanc am risg, dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg ei fod yn cydnabod bod hwn yn faes sy’n her i swyddogion gan ei bod yn aml yn wir nad yw dealltwriaeth unigolion am risg yn datblygu’n llawn tan ganol eu 20iau a oedd yn gwneud gwaith yr Awdurdod gyda phobl ifanc yn fwy allweddol byth.
Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y meini prawf ar gyfer sefydlu parthau 20mya y tu allan i ysgolion a pha un a oedd hyn bellach yn orfodol. Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg nad oedd yn orfodol cyflwyno’r parthau hyn y tu allan i ysgolion ond ei fod yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
DEDDF YR AMGYLCHEDD 1995 - YMGYNGHORIAD CYHOEDDUS YNGHYLCH ANSAWDD AER CAERFYRDDIN PDF 439 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ddiweddariad ar y broses ymgynghori a gynhaliwyd mewn perthynas â chynnig i ddatgan Ardal Rheoli Ansawdd Aer yng Nghaerfyrddin. Nododd y Pwyllgor ei fod wedi cael y cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad ynghylch y cynnig yn ei gyfarfod ym mis Ebrill 2015. Roedd yr adroddiad yn nodi’r ymatebion a oedd wedi dod i law yn ystod y cyfnod ymgynghori a ddechreuodd ar 5 Hydref 2015 ac a ddaeth i ben ar 30 Tachwedd 2015. Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau penodol wedi dod i law mewn perthynas â phennu’r terfyn er bod Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd yn cydnabod bod pryderon wedi cael eu codi ynghylch y ffaith nad oedd y terfyn arfaethedig yn cynnwys Heol Ffynnon Job, Heol y Coleg na Heol Llansteffan.
Codwyd y materion canlynol mewn perthynas â’r adroddiad:
Mynegwyd siom fod Heol Ffynnon Job, Heol y Coleg a Heol Llansteffan yn dal i fod y tu allan i derfyn yr Ardal Rheoli Ansawdd Aer. Rhoddodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd wybod i’r Pwyllgor, oherwydd y dystiolaeth ategol sy’n ofynnol i ddynodi Ardal Rheoli Ansawdd Aer, bod gwaith monitro ansawdd aer a wnaed yn flaenorol ar y ffyrdd hyn wedi nodi ei bod yn annhebygol y byddai’r Amcan Ansawdd Aer yn cael ei dorri. Fodd bynnag, roedd ystyriaeth ddyledus wedi cael ei rhoi i’r pryderon ynghylch y ffyrdd hyn ac roedd cydnabyddiaeth bod rhai darnau o’r ffyrdd yn dioddef tagfeydd sylweddol yn ystod oriau brig. Roedd yn rhaid cymryd y datblygiad newydd yng Ngorllewin Caerfyrddin a’r Ffordd Gyswllt newydd i ystyriaeth hefyd a, hyd yma, roedd effaith y datblygiadau hyn yn anhysbys. Tybid y byddai’r ffordd gyswllt yn lleddfu’r pwysau ar y ffyrdd hyn a chyda’r ffactorau hyn mewn cof, tybid nad oedd yn briodol eu cynnwys o fewn terfyn yr Ardal Rheoli Ansawdd Aer ar hyn o bryd. Fodd bynnag, byddai’r ardaloedd hyn yn parhau i gael eu monitro a gallent gael eu cynnwys yn ddiweddarach, pe bai angen hynny.
Cyfeiriwyd at ganlyniadau’r Tiwb Tryledol NO2 ar gyfer 50 Heol y Prior a gofynnwyd beth allai fod wedi achosi cynnydd mor sylweddol ar ôl 2011/12. Datganodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd nad oedd y rheswm yn hysbys ond y gallai fod wedi deillio o waith ffordd, cyflwyno goleuadau traffig neu’r tywydd. Ychwanegodd, pe bai’r cynnig i ddatgan Ardal Rheoli Ansawdd Aer yn cael ei gymeradwyo, y byddai grwpiau gweithredu a’r rheiny’n cynnwys amrywiaeth o swyddogion yn dadansoddi’r data hwn mewn mwy o fanylder er mwyn canfod y rhesymau dros yr amrywiant hwn. Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg ei fod yn debygol o fod wedi deillio o gyfuniad o ffactorau megis gwelliannau technolegol i gerbydau, llif traffig a chyflwyno parth 20mya y tu allan i Ysgol Parc Waun-dew.
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL ei fod yn derbyn yr adroddiad ac y dylid argymell wrth y Bwrdd Gweithredol ei fod yn cymeradwyo:
7.1 Y cynnig i gyhoeddi Gorchymyn yn dynodi terfyn Ardal Rheoli Ansawdd Aer ar ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7. |
|
DEDDF YR AMGYLCHEDD 1995 - YMGYNGHORIAD CYHOEDDUS YNGHYLCH ANSAWDD AER LLANELLI PDF 412 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ddiweddariad ar y broses ymgynghori a gynhaliwyd mewn perthynas â chynnig i ddatgan Ardal Rheoli Ansawdd Aer yn Llanelli. Nododd y Pwyllgor ei fod wedi cael y cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad ynghylch y cynnig yn ei gyfarfod ym mis Ebrill 2015. Roedd yr adroddiad yn nodi’r ymatebion a oedd wedi dod i law yn ystod y cyfnod ymgynghori a ddechreuodd ar 5 Hydref 2015 ac a ddaeth i ben ar 30 Tachwedd 2015. Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau penodol wedi dod i law mewn perthynas â phennu’r terfyn a’r angen i ddynodi Ardal Rheoli Ansawdd Aer. Fodd bynnag, rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor bod ymateb sylweddol wedi dod i law yn gofyn am gynnwys Heol Sandy o fewn terfyn yr Ardal Rheoli Ansawdd Aer, ac o ganlyniad bod y map o’r terfyn arfaethedig wedi cael ei ddiwygio bellach i gynnwys Heol y Sandy a Bassett Terrace.
Cyfeiriwyd at yr ansawdd aer gwael yn Llandeilo a gofynnwyd a oedd unrhyw ddiweddariad ar gynnydd mewn perthynas â’r ffordd osgoi arfaethedig. Rhoddodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Wasanaethau Technegol wybod i’r Pwyllgor ei bod hi a’r Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg, ers un o gyfarfodydd Fforwm y Ffordd Osgoi yn gynnar yn y flwyddyn newydd, wedi bod yn pwyso ar y Gweinidog yn Llywodraeth Cymru am eglurhad o statws y cynllun. Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg fod y cyfathrebiad diwethaf oddi wrth Lywodraeth Cymru yn datgan bod astudiaethau amrywiol i fod i ddechrau ym mis Chwefror / Mawrth ac y byddent yn cynnwys astudiaethau ecoleg a hydroleg ar hyd y llwybrau a ffafrir. Roedd swyddogion yn awyddus i hysbysu’r rhanddeiliaid lleol perthnasol ond, hyd yma, nid oedd unrhyw ymateb wedi dod i law.
Awgrymwyd y dylai diweddariad ar yr Ardal Rheoli Ansawdd Aer yn Llandeilo gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor rywbryd yn y dyfodol. Cytunodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd i gynnwys hwn yn rhaglen waith y Pwyllgor ar gyfer 2016/17.
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL ei fod yn derbyn yr adroddiad ac y dylid argymell wrth y Bwrdd Gweithredol ei fod yn cymeradwyo:
8.1 Y cynnig i gyhoeddi Gorchymyn yn dynodi terfyn Ardal Rheoli Ansawdd Aer ar gyfer Llanelli fel a ddangosid yn yr adroddiad a oedd wedi’i atodi;
8.2 Y cynnig i sefydlu Gr?p Llywio a hwnnw’n cynnwys yr holl randdeiliaid perthnasol i roi cymorth i ddatblygu Cynllun Gweithredu; a hefyd
8.3 Y cynnig i ddatblygu Cynllun Gweithredu yn unol â gofynion deddfwriaethol a fydd yn mynd ar drywydd gwella ansawdd aer a lleihau lefelau nitrogen deuocsid yn yr Ardal Rheoli Ansawdd Aer.
|
|
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 207 KB Cofnodion: PENDERFYNWYDy dylai’r rheswm dros beidio â chyflwyno Adroddiad Terfynol Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor ar Daliadau Parcio Ceir gael ei nodi. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylai cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar ddydd Gwener 26 Chwefror 2016 gael eu llofnodi fel cofnod cywir. |