Cofnodion:
3.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
PL/00152 |
Adeiladu gwaith trin elifiant newydd yn lle'r ased presennol sydd wedi dyddio oherwydd gwelliannau mewn technoleg a phrosesau trin yn Dairy Partners, The Creamery, Aberarad, Castellnewydd Emlyn, SA38 9DQ
Yn dilyn cyflwyniad gan yr Uwch-swyddog Gorfodi a Monitro, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell cymeradwyo'r cais, yn amodol ar yr amodau, am y rhesymau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylwadau a wrthwynebai'r cais ac a ail-bwysleisiai'r pwyntiau yn adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd, gan gynnwys y pwyntiau isod:
· Dwysáu · ôl-weithredol · Amwynder · S?n wrth bwmpio i mewn i danceri · S?n o'r brif ffatri (gofynnwyd am ffens acwstig) · Arogleuon o danciau a thanceri slyri · Dirgryndod o’r peiriannau · Edrych dros eiddo (pan fydd tanciau'n cael eu cynnal) · Dylid asesu'r safle yn ei gyfanrwydd · Colli cyflenwad d?r · Cymeriad / Lleoliad mewn Man Preswyl · Cymeriad yr Ardal · Effaith ar leoliad Adeilad Rhestredig Gradd II · Llifogydd · Mae'r safle a'r briffordd gyhoeddus yn agored i lifogydd · Elifiant neu gemegau yn gollwng · Llygredd D?r · Diogelwch Cerddwyr (angen palmant) · Priffyrdd – Dwysáu Symudiadau Lorïau · ‘Ardal Droi’ · Iechyd a Diogelwch ar ôl ffrwydrad ger tanc LNG · Cwynion yn erbyn ymgysylltiad gan y cwmni a'r Awdurdod Cynllunio.
Ymatebodd yr Asiant a'r Uwch-swyddog Gorfodi a Monitro i'r pwyntiau a godwyd.
Daeth sylw i law gan yr aelod lleol yn cefnogi'r cais yn datgan bod y cwmni’n gyfrannwr mawr i’r economi ac y byddai’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad yn gwarchod y pryderon.
Cynigiwyd ymweliad safle i alluogi Aelodau'r Pwyllgor i gael profiad personol o lefel yr arogl sy'n dod o'r safle. Er bod hyn wedi'i eilio, methodd y cynnig.
|
pl/03344 |
Gosod Tanciau Glanhau Newydd (CIP) a byndiau newydd cysylltiedig yn The Creamery, Aberarad, Castellnewydd Emlyn, SA38 9DQ
Yn dilyn cyflwyniad gan yr Uwch-swyddog Gorfodi a Monitro, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell cymeradwyo'r cais, yn amodol ar yr amodau, am y rhesymau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylwadau a wrthwynebai'r cais ac a ail-bwysleisiai'r pwyntiau yn adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd, gan gynnwys y pwyntiau isod:
· Mae problemau hirdymor gyda gweithrediad y safle a'r Gwaith Trin Elifion anawdurdodedig. · Amwynder · Dwysáu ers 2017 yn dyblu cynhyrchiant. · Gweithredu 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos · S?n ac Aflonyddwch
Ymatebodd yr Asiant a'r Uwch-swyddog Gorfodi a Monitro i'r pwyntiau a godwyd.
Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol yn cefnogi'r cais.
|
PL/07177 |
Codi Adeilad Da Byw Arfaethedig at Ddefnydd Amaethyddol a Cheffylau gyda Llawr Caled Ategol a Thirlunio [Ailgyflwyno PL/05674 a Wrthodwyd ar 18/07/2023] ar Dir yn Mellions, Heol Ddu, Rhydaman, SA18 2UG
Yn dilyn cyflwyniad gan yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu [Aman Gwendraeth], rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell cymeradwyo'r cais yn unol ag amodau ac am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylw ar ran gwrthwynebydd sy’n byw yn union islaw’r datblygiad arfaethedig, yn gwrthwynebu’r cais a oedd yn ailadrodd y pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd ac a oedd yn cynnwys y pwyntiau a nodir isod:
· Pryderon yngl?n â diffyg arolwg coed a diffyg cyfeiriad yn y cais at Glymog Japan; · Diffyg ceisiadau i dynnu neu ddatblygu gwrychoedd i wella gwelededd; · Nid oes Asesiad Isadeiledd Gwyrdd wedi ei gyflwyno o fewn y cais; · mae'r fynedfa i Mellions yn gyfyng ac mae'n anodd gweld yn glir yma ac ar ael y bryn sy'n mynd yn fwy serth.
Ymatebodd yr Asiant a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu [Aman Gwendraeth] i'r pwyntiau a godwyd.
|
PL/06809 |
Gosod carafán breswyl sefydlog yn lle adeilad allanol dros dro at ddefnydd swyddfeydd ar dir sy'n rhan o Poplar Court, Heol Llandeilo, Cross Hands, SA14 6NB
Yn dilyn cyflwyniad gan yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu [Aman Gwendraeth], rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell cymeradwyo'r cais yn unol ag amodau ac am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Daeth sylw i law yn gwrthwynebu’r cais a oedd yn ailadrodd y pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd ac a oedd yn cynnwys y pwyntiau a nodir isod:
· Nid yw'n cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol a nodir gan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013; · Materion diogelwch mewn perthynas â'r pellteroedd gofynnol fel y nodir yn Neddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.
Derbyniwyd sylw gan yr aelod lleol yn gwrthwynebu'r cais. Ategodd y pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd ac ychwanegodd y byddai oedran cyffredinol y trigolion dros 50 oed, yn golygu ei fod yn rhy bell iddynt gerdded i fwynderau lleol o'r safle.
Ymatebodd yr Asiant, yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu [Aman Gwendraeth] a'r Uwch-reolwr Datblygu a Gorfodi i'r pwyntiau a godwyd.
|
PL/06943 |
Preswylfa newydd i gynnwys lle parcio a throi newydd ar gyfer y breswylfa bresennol (Waun Cefn) ar Dir yn Wauncefn, Heol Ddu, Rhydaman, SA18 2UN
|
PL/007084 |
Adeilad allanol newydd i'w ddefnyddio fel cegin baratoi masnachol a storfa ddomestig yn 1 Parc Y Saint, Llan-saint, Cydweli, SA17 5JJ
Noder: Roedd Mr Gary Glenister, yr Uwch-swyddog Gorfodi a Monitro wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon yn gynharach, ac roedd wedi gadael y cyfarfod yn gynharach.
|
Dogfennau ategol: