Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL (IRPW), (CHWEFROR, 2017)

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a fanylai ar y penderfyniadau a'r argymhellion yn Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol [Chwefror 2017] i'w gynnwys yng Nghynllun Cyflogau a Lwfansau presennol y Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig ar gyfer 2017/18. Roedd Adroddiad y Panel yn cynnwys 51 o benderfyniadau gyda'r mwyafrif ohonynt yn aros yr un fath a'r hyn a welwyd yn Adroddiad 2016.

 

Wrth osod lefel y cyflogau a'r lwfansau ar gyfer 2017/18 penderfynodd y Panel  y byddai cynnydd cymharol fach o thua 0.75% yng nghyflog blynyddol sylfaenol yr aelodau etholedig. Ni chafodd cynnydd ei gynnig ar gyfer uwch-gyflogau ond byddai deiliaid y swyddi hynny yn cael y cynnydd o ran elfen y cyflog sylfaenol. Roedd trefniadau hefyd wedi cael eu cyflwyno i gydnabod y  goblygiadau o salwch tymor hir deiliaid yr uwch-gyflogau. Yn ogystal roedd y Panel, gan gofio mai ychydig iawn o bobl ledled y sefydliadau oedd wedi manteisio ar y Lwfansau Gofal, wedi penderfynu caniatáu gwahanol ddulliau o ran cyhoeddi costau gofal. Roedd y Panel hefyd wedi penderfynu defnyddio'r term 'ad-dalu costau gofal' yn lle lwfansau gofal.

 

Gofynnwyd am farn y Pwyllgor am y taliadau i Aelodau Gweithredol, Cadeiryddion Pwyllgorau, Penaethiaid Dinesig a Dirprwy Benaethiaid Dinesig, ynghyd â'r Lwfansau Cynhaliaeth a'r Lwfansau Llety, Cydnabyddiaeth Ariannol Cadeiryddion Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu, a thalu Ffioedd Aelodau Cyfetholedig ar gyfer blwyddyn y cyngor 2017/18, a chyhoeddi costau ad-dalu gofal.

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CYNGOR

 

5.1       nodi bod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi penderfynu bod y cyflog sylfaenol ar gyfer aelodau etholedig prif awdurdodau lleol yn cynyddu i £13,400 ar gyfer 2017/18;

 

5.2       cadw'r drefn bresennol o ran lefel yr uwch-gyflog a delir i Aelodau'r Bwrdd Gweithredol yn 2017/18 [Lefel 1];

 

5.3       cadw'r drefn bresennol o ran lefel yr uwch-gyflog a delir i Gadeiryddion Pwyllgorau yn 2017/18 [Lefel 1];

 

5.4       cadw'r drefn bresennol o ran lefel y cyflog a delir i Gadeirydd ac i Is-gadeirydd y Cyngor yn 2017/18 [Lefel 2];

 

5.5       cytuno ar y cyfraddau ad-dalu costau cynhaliaeth ar gyfer 2017/18 fel y nodir isod:-

 

£200.00 y noson i Lundain;

£95 y noson mewn mannau eraill;

£25 y noson am aros gyda ffrindiau neu deulu;

 

Cadw'r drefn bresennol o ran y lwfans dydd a'r arfer presennol bod yr Uned Gwasanaethau Democrataidd yn gyfrifol am drefniadau llety dros nos yr aelodau.

 

5.6       parhau â'r arfer presennol o nodi'r trefniadau ar gyfer Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu ag Awdurdodau eraill a chynnwys y Pwyllgorau hyn yng nghynllun y Cyngor pe bai'r Cyngor yn penderfynu sefydlu Cyd-bwyllgorau yn ystod Blwyddyn y Cyngor 2017/18 a thalu cyflog;

 

5.7       bod y ffioedd a delir i'r Aelodau Cyfetholedig yn aros ar y lefel bresennol ar gyfer 2017/18 sef 10 diwrnod llawn [neu 20 hanner diwrnod] o gyfarfodydd y flwyddyn;

 

5.8         cyhoeddi manylion y symiau i'w had-dalu i aelodau a enwir ar gyfer ad-dalu costau gofal [opsiwn 1];

 

5.9       derbyn gweddill argymhellion a phenderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2017 a'u cynnwys yn rhan o Gynllun presennol Lwfansau'r Cynghorwyr a'r Aelodau Cyfetholedig 2017/18.

 

Dogfennau ategol: