Agenda item

ADRODDIAD DATGANIAD BLYNYDDOL 2023 Y CYNLLUN RHEOLI ASEDAU PRIFFYRDD

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Datganiad Blynyddol 2023 y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith.  Tynnodd yr Aelod Cabinet sylw at yr heriau sylweddol yr oedd yr Awdurdod yn eu hwynebu.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Wrth nodi bod gan Sir Gaerfyrddin y rhwydwaith priffyrdd ail fwyaf yng Nghymru a'i bod yn y trydydd safle yng Nghymru o ran maint traffig ar ei ffyrdd, mynegwyd pryderon cryf wrth nodi bod yr adroddiad hwn, yn debyg i'r blynyddoedd blaenorol, yn dangos dirywiad parhaus yng nghyflwr y ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin. Cydnabuwyd mai'r unig ffordd o wella cyflwr presennol y ffyrdd fyddai derbyn lefel ddigonol o gyllid gan y Llywodraeth. 

 

Mynegwyd pryderon pellach bod y pwysau parhaus ar y gyllideb yn cael effaith ar gyflwr y ffyrdd o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd fel achos amlwg a'r cynnydd mewn costau deunyddiau, adeiladu a gosod wyneb, yn ogystal â chost uwch gweithrediadau'r gwasanaeth dros y gaeaf. Cydnabuwyd y byddai'r ased hollbwysig yn parhau i ddirywio heb y cyllid angenrheidiol. 

 

Cyfeiriwyd at dudalen 16 yr adroddiad a oedd yn nodi 'yn yr un modd ag Awdurdodau priffyrdd eraill, mae gan Sir Gaerfyrddin ôl-groniad sylweddol, sef dros £63m yn ôl yr amcangyfrif, o ran gwaith cynnal a chadw wyneb priffyrdd, sy'n cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.’  Roedd hyn yn achosi tipyn o bryder i aelodau'r Pwyllgor a gyfeiriodd at y buddsoddiad 'digyfnewid' oedd ei angen o £8m o'i gymharu â'r cyllid cyfalaf disgwyliedig yn 2024/25 o £0.6m y flwyddyn, na fyddai'n gynaliadwy.

 

Hefyd, fel y nodwyd ar dudalen 16 yr adroddiad, gwnaed sylwadau bod cynnydd mewn anfodlonrwydd ymhlith y cyhoedd ar gyflwr y priffyrdd a bod y ceisiadau gwasanaethau cwsmeriaid yn cynyddu a oedd yn rhoi mwy o alw ar adnoddau mewn ymateb i'r materion.  Dywedwyd nad oedd y dull adweithiol hwn yn gost effeithiol nac yn gynaliadwy.

 

Cydnabu Aelodau'r Pwyllgor fod y ffyrdd wedi dirywio o ganlyniad i argyfwng cyllido. Nodwyd hefyd y byddai'n cymryd tua 12 mlynedd i sicrhau bod cyflwr y pontydd yn cyrraedd lefel foddhaol.

 

Cyfeiriwyd at dudalen 18 yr adroddiad - Troedffyrdd a Llwybrau Beicio a'r datganiad 'Nid oes cyllid cyfalaf ar gael ar gyfer 2023/24’.  Dywedwyd bod troedffyrdd hefyd mewn cyflwr gwael a heb unrhyw gyllid cyfalaf ar gyfer y flwyddyn nesaf mynegwyd pryder cryf y gallai hyn achosi anaf i ddefnyddwyr.

 

Cydnabu'r Rheolwr Gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth yr holl bryderon a'r materion a godwyd gan yr aelodau ac roedd yn cydymdeimlo â nhw, ac ailadroddodd y pwysau a'r heriau cyllidebol yr oedd yr adran yn eu hwynebu.  Wrth gydnabod dirywiad yr ased a'r ôl-groniad cynnal a chadw yn sgil hynny, dywedwyd wrth yr aelodau bod yr adran yn wynebu cynnydd mewn gwaith cynnal a chadw ymatebol a oedd yn cael effaith sylweddol ar dimau priffyrdd gan eu troi oddi wrth waith cynnal a chadw hanfodol arall a gynlluniwyd.  Yn ei hanfod, roedd yr adran dan gyfyngiadau cyllidebol sylweddol.

 

Awgrymwyd y byddai'n fuddiol cynnal ymarfer cysylltiadau cyhoeddus er mwyn egluro'r sefyllfa i'r cyhoedd.

 

Roedd Aelodau'r Pwyllgor yn gwerthfawrogi'r adroddiad gonest.  Wrth fynegi rhwystredigaethau yngl?n â'r sefyllfa bresennol o ran y gyllideb, cynigiwyd bod y Pwyllgor yn anfon llythyr at Weinidog Llywodraeth Cymru yn amlinellu'r sefyllfa bresennol a chyfleu pryderon y Pwyllgor ynghylch y gyllideb.  Eiliwyd y cynnig hwn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

4.1 derbyn Adroddiad Datganiad Blynyddol 2023 y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd;

 

4.2 bod llythyr yn cael ei anfon at Weinidog Llywodraeth Cymru yn amlinellu'r pryderon presennol mewn perthynas â sefyllfa'r rhwydwaith priffyrdd, gan gyfleu'r pryderon ynghylch y gyllideb fel y'u mynegwyd gan y Pwyllgor.

 

 

Dogfennau ategol: