Agenda item

STRATEGAETH HAMDDEN, DIWYLLIANT, A HAMDDEN AWYR AGORED

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorwyr K. Broom a R. Sparks wedi ailddatgan buddiant yn yr eitem hon ar ôl datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Yn dilyn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2022, rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r Strategaeth Hamdden, Diwylliant a Hamdden Awyr Agored olaf ar ôl y cyfnod ymgynghori a chyn iddi gael ei hystyried gan y Cabinet.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at effeithlonrwydd ynni canolfannau hamdden y Cyngor ac a oedd ystyriaeth wedi’i rhoi i gaffael batris i storio unrhyw ynni oedd dros ben a gynhyrchwyd gan y paneli solar a osodwyd ar yr adeiladau, a hynny er mwyn defnyddio’r ynni yn y canolfannau hamdden yn hytrach na’i ddychwelyd i rwydwaith y grid trydan.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Hamdden, er bod gwaith yn cael ei wneud i sicrhau bod y canolfannau’n effeithlon o ran ynni, roedd angen gwneud rhagor, a chynhaliwyd trafodaethau ynghylch hynny gydag Is-adran Eiddo Corfforaethol y Cyngor ac asiantaethau allanol megis yr Ymddiriedolaeth Garbon. Ond byddai’n codi’r mater ynghylch pecynnau batri gyda'r Is-adran Eiddo Corfforaethol a byddai’n ymateb yn uniongyrchol i’r aelod a gododd y cwestiwn.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y Canlyniadau Economaidd yn yr adroddiad (tudalennau 74-76) a’r £20m o fuddsoddiad ychwanegol yn y gwasanaeth dros gyfnod y Strategaeth, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Hamdden fod hyn yn ymwneud â lefel y buddsoddiad y byddai’r gwasanaeth yn bwriadu ei dynnu i lawr i fuddsoddi yn y meysydd a nodir yn yr adroddiad hwn. Gallai’r buddsoddiad hwnnw ddod o amrywiaeth o ffynonellau megis Rhaglen Gyfalaf y Cyngor, mentrau Buddsoddi i Arbed, grantiau a chyllid allanol arall.

·       O ran cynhyrchu incwm yn yr Is-adran Hamdden, cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod hyn bellach wedi dychwelyd i’r lefelau cyn Covid yn y rhan fwyaf o feysydd. Ond roedd y dyfodol yn parhau i fod yn heriol i’r gwasanaeth o ran costau ynni cynyddol a chostau byw yn effeithio’n andwyol ar lefelau incwm a chostau. Roedd yr Is-adran yn ymdrechu i gynyddu nifer y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth ac roedd yn archwilio cyfleoedd newydd i gynyddu nifer y defnyddwyr/incwm wrth iddynt gael eu cyflwyno, er enghraifft gweithio ar y cyd â’r Bwrdd Iechyd i annog pobl i fod yn fwy egnïol.

·       Cyfeiriwyd at un o amcanion y Strategaeth o ran hybu Gweithgarwch Diwylliannol Sir Gaerfyrddin a gofynnwyd am eglurhad ynghylch pa fesurau roedd y Cyngor yn eu cymryd i annog staff i siarad Cymraeg yn y gweithle.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Hamdden fod yr Is-adran yn gweithio gydagg Adran Bolisi’r Cyngor ynghyd â sefydliadau eraill megis yr Urdd, y Cyngor Chwaraeon ac ati i hybu ac i annog y staff i ddefnyddio’r Gymraeg. Ond gellid gwneud rhagor ac roedd hynny’n cydblethu â datblygiad staff a strategaeth gweithlu corfforaethol newydd.

·       Mewn ymateb i gwestiwn am bysgota o fewn y Sir, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Hamdden ei fod wedi’i gynnwys yn y Strategaeth gyda’r nod o wella lefel y ddarpariaeth o fewn yr amserlen 10 mlynedd. Er mai’r gobaith oedd gwella’r ddarpariaeth o fewn amserlen fyrrach, pwysleisiodd fod y Cyngor yn cael ei lywodraethu gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac asiantaethau allanol eraill o ran hynny o beth. Ond byddai’n gweithio gyda’r cyrff hynny i gynyddu cyfleoedd i bysgota yn y Sir cyn gynted â phosibl.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Cabinet y dylid mabwysiadu'r Strategaeth Hamdden, Diwylliant a Hamdden Awyr Agored.

 

Dogfennau ategol: