Agenda item

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO

Cofnodion:

3.1   PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/05354

Cadw preswylfa ar wahân ym Mhantbach, HeolTreventy, Cross Hands, Llanelli, SA14 6TE

 

Cafwyd sylwadau a wrthwynebai'r cais ac a ail-bwysleisiai’r pwyntiau yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a oedd yn cynnwys:

 

·       Ni ymgynghorwyd â phreswylwyr ar y cynnig cychwynnol cyn i'r t? gael ei adeiladu,

·       Gan fod yr eiddo yn d? mawr ar wahân ac nid yn fyngalo roedd yn ormesol;

·       Nidoedd y ffenestr ar ochr ddwyreiniol yr eiddo a oedd yn edrych dros ardd y cymydog yn cynnwys gwydr aneglur,

·       Nid oedd y tanc septig sy’n gwasanaethu'r eiddo 7m i ffwrdd o'r eiddo, ac mae hyn yn erbyn y rheoliadau cyfredol. Mynegwyd pryder ynghylch gallu'r tanc i ddarparu ar gyfer yr eiddo a oedd yn cael ei ddatblygu a'r annedd gyfagos a'r potensial y byddai'n gorlifo i gae cyfagos,

·       Mynegwyd pryder am bwysedd y cyflenwad d?r i'r eiddo ac a fyddai'n ddigonol i weithredu'r system chwistrellu tân a'r gawod ar y sail ei fod hefyd yn gwasanaethu'r byngalo cyfagos,

·       Mynegwyd pryderon am y cyflenwad trydan i'r safle, a oedd hefyd yn dod o'r byngalo cyfagos.

·       Effaith ar breifatrwydd yr eiddo cyfagos gan nad oedd y t? wedi'i godi yn unol â'r cynllun safle cymeradwy.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

PL/05493

Tair annedd ar wahân ar dir ger Fferm Plas y Fforest, Plas y Fforest, Fforest, Abertawe, SA4 0TT

 

Daeth sylw i law a wrthwynebai'r cais, ac a ail-bwysleisiai’r pwyntiau canlynol y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd:

 

·       Ni ymgynghorwyd â'r trigolion ynghylch y cynnig, a ddaeth i'r amlwg dim ond pan gyrhaeddodd offer trwm ar y safle i symud pridd.

·       Roedd graddiant y safle yn serth iawn.

·       Byddai uchder a graddfa'r tair annedd sydd i'w codi ar y safle yn edrych dros yr eiddo islaw gan arwain at golli golau.

·       Ni fyddai'r datblygiad arfaethedig yn gydnaws â'r adeiladau cyfagos,

·       Roedd caniatâd cynllunio wedi cael ei roi ar gyfer y safle 25 mlynedd ynghynt ac nid oedd angen mwy o eiddo.

·       Byddai datblygu'r safle yn cael effaith andwyol ar y fflora a'r ffawna sefydledig ar y safle ynghyd â bywyd gwyllt.

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

3.2      PENDERFYNWYD gwrthod y cais cynllunio canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd::

 

E/39917

Mae Bryn Bach Coal yn cyflwyno cais am ganiatâd i gloddio drwy ddulliau glo brig, 110,000 tunnell o'r glo caled gorau o estyniad arfaethedig Glan Lash.  Mae'r estyniad yn cwmpasu 10.03 hectar o dir, i'r gogledd o safle presennol Pwll Glo Glan Lash, cyfeirnod e261560, n213900 ym Mhwll Glo Glan Lash, Heol Shands, Llandybie, Rhydaman, SA18 3ND

 

(Noder: Gadawodd Mr I Llewellyn y Siambr tra oedd yr eitem hon yn cael ei hystyried gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater yn gynharach)

 

Daeth sylw i law a wrthwynebai'r cais, ac a ailbwysleisiai'r pwyntiau canlynol y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd:

 

·       Rhaid cadw'r holl lo yn y ddaear. Pe bai'r cais yn cael ei ganiatáu, gallai swm anhysbys o fethan cael ei ryddhau i'r atmosffer

·       Mae gan Gymru darged cyfreithiol rhwymol i gyflawni sero net erbyn 2050, gyda'r nod o gyflawni hynny erbyn 2035,

·       Mae Cymru wedi llofnodi Cytundeb Paris i gadw cynnydd yn nhymheredd y byd i 2% yn uwch na'r lefelau cyn-ddiwydiannol,

·       Dadleuwyd nad oedd angen y glo yn dilyn gwaharddiad Llywodraeth Cymru yn 2021 ar ganiatáu pyllau glo newydd ac estyniadau i byllau glo presennol, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.

·       Er y gellid defnyddio'r glo ar gyfer hidlo d?r roedd yna ddulliau eraill fel tywod/graean neu famb? a allai gyflawni'r diben hwnnw gyda llai o effaith amgylcheddol o ran rhyddhau methan

·       Roedd y pwll glo wedi methu prawf polisi cenedlaethol WEC gan nad oedd angen y glo i gefnogi defnydd diwydiannol, nac ychwaith yng nghyd-destun targedau lleihau carbon na chyfrannu at Ffyniant Cymru na chyfrifoldeb byd-eang,

·       Nid oes rheolaeth ar y defnydd terfynol o'r glo a gynhyrchir.

·       Byddai'r datblygiad, pe bai'n cael ei ganiatáu, yn arwain at niwed i fioamrywiaeth o ran cael gwared ar goed ac effaith bosibl ar gynefin britheg y gors

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd i'r materion a godwyd wrth i'r adroddiad gael ei ystyried.

  

 

3.3    PENDERFYNWYD gohirio ystyried y ceisiadau cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor Cynllunio ymweld â'r safleoedd:

 

PL/03083

Addasu hen adeilad ysgol yn breswylfa a chodi 20 o dai fforddiadwy ar dir yr hen ysgol, gan gynnwys yr holl waith cysylltiedig yn hen Ysgol Coedmor Cwm-ann, Llanbedr Pont Steffan, SA48 8ET.

 

RHESWM:    Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle yn sgil pryderon a godwyd ynghylch yr effaith bosibl datblygiadgormesol ar eiddo cyfagos.

 

Daeth sylw i law a wrthwynebai'r cais, ac a ailbwysleisiai'r pwyntiau canlynol y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd:

 

·      Roedd lefel y tir ar gyfer y datblygiad arfaethedig oddeutu 15 - 20 metr yn uwch na'r eiddo cyfagos a byddai adeiladu ar y lefel honno yn ormesol a byddai trigolion yr eiddo hynny yn colli preifatrwydd.

·       Graddiant serth y safle datblygu wrth edrych arno o'r lefel is lle mae'r  eiddo preswyl presennol

·       Roedd Polisi Llywodraeth Cymru yn caniatáu tai fforddiadwy fel estyniad 'bach' i derfynau. Nid oedd y cais presennol ar gyfer 20 o gartrefi o'r fath yn cael ei ystyried yn fach a gellid ei ystyried yn ddatblygiad mawr gan ei fod yn fwy na 9 annedd.

·       Mynegwyd pryderon am effaith bosibl y datblygiad ar y Gymraeg, diffyg lle yn yr ysgol leol, dim siopau na thafarndai yn y pentref gan arwain at drigolion yn gorfod teithio mewn car i ardaloedd eraill, diffyg trafnidiaeth gyhoeddus.

·       Mynegwyd pryderon am sefydlogrwydd y tir o ran adeiladu ac nid oedd arolwg geo-dechnegol wedi'i gyflwyno gyda'r cais i roi sicrwydd bod y tir yn ddiogel.

·       Nid oedd y datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio â Pholisïau Llywodraeth Cymru ac nid oedd yn rhoi ystyriaeth i'r egwyddorion creu lleoedd yn y polisi cenedlaethol 2024.

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

Yn dilyn y sylwadau uchod, cafodd ei gynnig a'i eilio bod ystyriaeth o'r cais yn cael ei gohirio er mwyn gallu ymweld â'r safle i weld y safle mewn perthynas â phryderon y gwrthwynebydd

PL/05250

Newid defnydd arfaethedig o B1 (swyddfeydd) i ddefnydd D1 (canolfan lesiant) yn Dragon 24, TraethFfordd, Llanelli, SA15 2LF)

 

(Sylwer: Roedd y Cynghorydd E Skinner, ar ôl datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, wedi rhoi sylwadau yn unol ag Adran 14(2) o Gôd Ymddygiad y Cyngor a gadael y Siambr yn ystod y bleidlais ac ni phleidleisiodd ar y cais)

 

RHESWM:  Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle yn sgil pryderon a godwyd gan aelodau lleol.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ceisiadau a dderbyniwyd gan yr aelodau lleol i gynnal ymweliad safle yn dilyn pryderon bod safle'r cais yn agos at draeth, ardal hamdden, man chwarae i blant a dau ddarn o dd?r. Roedd gan y Cyngor ddyletswydd gofal hefyd i fynychwyr y ganolfan yn sgil  y potensial y gallent ddisgyn i'r d?r.

 

Dywedodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu wrth y Pwyllgor, wrth ystyried y cais am ymweliad safle, y dylai ystyried y posibilrwydd y gallai'r ymgeisydd apelio i Lywodraeth Cymru ar sail y ffaith nad oedd penderfyniad wedi'i wneud. Amlinellodd hefyd yr amserlenni sy'n gysylltiedig ag apêl o'r fath a'r amser oedd ar gael i'r Cyngor i gynnull ymweliad safle ac i ystyried y cais.

 

Yn dilyn y sylwadau uchod, cafodd ei gynnig a'i eilio bod ystyriaeth o'r cais yn cael ei gohirio er mwyn gallu ymweld â'r safle yn dilyn pryderon a fynegwyd gan aelodau lleol.

 

Dogfennau ategol: