Agenda item

ADOLYGIAD O BARCIO AM DDIM

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad ar yr Adolygiad Parcio am Ddim i'w ystyried.  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, wrth gyflwyno'r adroddiad, fod y Cyngor wedi cefnogi canol trefi o ran darparu cynlluniau parcio am ddim am nifer o flynyddoedd, a bod dau gynllun ar waith ar hyn o bryd.Roedd y cynllun cyntaf yn darparu pum niwrnod parcio am ddim bob blwyddyn mewn canol trefi, roedd yr ail gynllun a gyflwynwyd ar ddiwedd 2018 yn darparu cyfnodau parcio am ddim mewn canol trefi am oriau penodol ac ar ddyddiau penodol yr wythnos.

 

Rhoddodd yr adroddiad wybodaeth gynhwysfawr a data graffigol i'r aelodau a oedd yn ystyried effaith y cynlluniau o safbwynt allbwn a refeniw.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad, gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried y 5 opsiwn fel y manylir arnynt yn yr adroddiad.

 

Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:

 

·      Canmolwyd yr adroddiad am ei wybodaeth gynhwysfawr a'i gynhwysiant a'i ddefnydd o 7 mlynedd o ddata cadarn.  Fodd bynnag, codwyd y byddai'n fuddiol cael golwg ar y data/tystiolaeth i gefnogi'r datganiad – 'Mae meysydd parcio'n gwasanaethu amcan amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol hynod bwysig sy'n cynnwys... ysgogi teithio cynaliadwy’.

 

Yn ogystal, codwyd nad oedd y data o fewn yr adroddiad yn rhoi unrhyw dystiolaeth bod parcio ceir am ddim wedi gwneud unrhyw wahaniaeth o ran nifer yr ymwelwyr â chanol trefi.

 

At hynny, dywedwyd y byddai parcio am ddim yn mynd yn groes i'r amcan o weithio tuag at deithio mwy cynaliadwy ac annog gyrwyr i ddefnyddio eu cerbydau'n fwy na dulliau teithio eraill fel trafnidiaeth gyhoeddus neu feicio.

 

Mynegwyd barn na fyddai opsiwn 2 yn cael ei gefnogi, fodd bynnag, ffafriwyd opsiynau 4 a/neu 5.

 

·      Mynegwyd pryder ynghylch opsiwn 5. O ystyried yr argyfyngau costau byw presennol, byddai cael gwared ar barcio ceir am ddim yn cael effaith niweidiol ar fusnesau. 

 

·      Mewn ymateb i ymholiad a godwyd ynghylch pwy fyddai'n pennu'r dyraniad cyllideb fel y'i nodwyd yn opsiwn 4, eglurodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod y dyraniad wedi digwydd ar ôl derbyn y cyllid yn 2008.  At hynny, cyfeiriwyd at y graffiau yn yr adroddiad a oedd yn dynodi lefelau gwahanol o weithgarwch parcio o fewn trefi o ran gwerthu tocynnau. 

 

Roedd cyfran y gwerthiannau a'r refeniw mewn perthynas â phob tref, ynghyd ag ymgynghori â'r Cyngor Tref a Chymuned yn pennu lefel y gyllideb a ddyrennir.

 

Mynegwyd yn gryf ei bod yn bwysig annog ymwelwyr cyn belled ag y bo modd er mwyn cefnogi busnesau mewn trefi ac felly mae'n rhaid i barcio am ddim aros yn opsiwn.

 

·      Wrth gydnabod bod canol trefi yn profi cyfnod heriol yn ariannol, mynegwyd pryder y byddai'r cynnydd o 5% mewn taliadau, ynghyd â'r gostyngiad arfaethedig mewn parcio am ddim yn cael effaith niweidiol ar gwsmeriaid a masnachwyr.  Yn seiliedig ar yr ystadegau presennol yn yr adroddiad, mynegwyd barn mai'r dewis fyddai cadw'r sefyllfa bresennol.

 

·      Dywedwyd bod yr adroddiad yn llawn data ac yn cynnwys olrhain a dylanwad y parcio.  Yn ogystal, codwyd y dylid llongyfarch y Cyngor am gydnabod yr argyfyngau costau byw presennol a bod yr opsiynau a ddarperir i'w hystyried yn sensitif i anghenion trigolion Sir Gaerfyrddin. Fodd bynnag, yn y cyd-destun, pwysleisiwyd bod yr Aelodau wedi cymryd rhan yn yr adolygiad cyllideb yn ddiweddar gan edrych ar arbed £55k drwy gau Canolfan Hamdden Sanclêr. Roedd yn ymddangos bod y ffigurau a nodir yn yr adroddiad hwn yn is na'r targed lle'r oedd disgwyl incwm o £817k.  Yng ngoleuni hyn, codwyd pryder o ran darparu parcio am ddim, yn enwedig opsiwn 2, a fyddai'n gofyn am wariant ychwanegol o tua £400k i ddarparu'r parcio am ddim.

 

·      Amlygwyd pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng ymddygiad teithio ac annog pobl i ymweld â chanol trefi ac felly opsiwn 4 oedd yr opsiwn a ffefrir.

 

·      Mynegwyd y byddai etholwyr yn ddiolchgar i arbed arian ar barcio ceir yn ystod yr argyfyngau costau byw presennol.  Fodd bynnag, o ran digwyddiadau, amlygwyd y byddai digwyddiadau mawr mewn unrhyw achos yn denu llawer o bobl a fyddai'n gyfle i godi'r refeniw o'r meysydd parcio.

 

·      Wrth dynnu sylw at y ffaith bod gwariant cyfartalog y tymor parcio bob blwyddyn yn cyfateb i lai nag £1 yr wythnos nad oedd yn afresymol, roedd yn bwysig ystyried y golled o ran refeniw i'r Awdurdod lleol, sef bron i £250k gyda chyfanswm colled net mewn incwm o £409k.  Byddai edrych ar y ffigurau hyn yn galluogi refeniw cyllideb hyfyw.  Codwyd pryder mewn perthynas â cholli busnesau yn y trefi oherwydd nifer o ffactorau gan gynnwys effaith y pandemig a chynnydd siopa ar y rhyngrwyd.  Dylai chwilio am gyfleoedd i ddod ag adnoddau ac arian yn ôl i Sir Gaerfyrddin fod o'r pwys mwyaf.

 

·      Cyfeiriwyd at yr ardaloedd ansawdd aer gwael yn Sir Gaerfyrddin.  I gydnabod yr angen i wella ansawdd aer, mynegwyd bod angen i'r Awdurdod o leiaf annog defnydd ysgafn o gerbydau a datblygu polisïau sy'n annog teithio llesol, trafnidiaeth gyhoeddus gyda'r dewis o ddefnyddio cerbyd yn ddewis olaf yn ddyddiol.


 

Cynigiwyd bod:

 

Opsiynau 4 a 5 fel y nodir yn yr adroddiad yn cael eu hargymell i'r Cabinet eu hystyried.  Eiliwyd y Cynnig.

 

Yna, cafodd y gwelliant canlynol ei gynnig a'i eilio:

 

“Bod opsiwn 4 yn unig fel y nodir yn yr adroddiad yn cael ei argymell i'r Cabinet ei ystyried.”

Yn dilyn pleidlais, cwympodd y gwelliant a phleidleisiwyd ar y cynnig terfynol, ac yn dilyn hynny

PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CABINET ystyried opsiynau 4 a 5 fel y manylir yn yr adroddiad.  

 

 

Dogfennau ategol: