Agenda item

CYNNAL YMDDYGIAD

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i'r Pwyllgor a oedd yn nodi'r sefyllfa bresennol mewn perthynas â chefnogi gwell ymddygiad ar draws ysgolion y sir.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod yr adolygiad o ymddygiad a gynhaliwyd ym mhob ysgol wedi arwain at ddatblygu Model Pedwar Cam o Gymorth Ymddygiad a Llesiant Emosiynol er mwyn darparu gwasanaethau cymorth ymddygiad teg a chyson ledled y sir.  Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg fod y tîm canolog yn yr Awdurdod Lleol wedi cael ei gryfhau a bod £500k o gyllid wedi'i roi i ysgolion uwchradd i gefnogi'r gwaith o weithredu'r Model Pedwar Cam a oedd yn cynnwys gwella sgiliau ysgolion a staff i ddiwallu anghenion dysgwyr, darparu cymorth 'yn yr ysgol' i staff a dysgwyr, cymorth arbenigol o ran Anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol mewn perthynas ag Addysg Heblaw yn yr Ysgol a darparu cymorth pwrpasol i rai o'r dysgwyr mwyaf agored i niwed yn yr Awdurdod Lleol.

 

Ar hynny, cafodd y Pwyllgor gyflwyniad manwl gan Bennaeth Ysgol Gyfun Coedcae a oedd yn canolbwyntio ar y ffordd yr oedd yr ysgol wedi creu diwylliant o ddiogelu a oedd yn darparu cymorth pwrpasol ac effeithiol iawn i sicrhau llesiant disgyblion ac i ddiwallu anghenion y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol.  Daeth arolygiad diweddar gan Estyn i'r casgliad bod safon y gofal, y cymorth a'r arweiniad i ddisgyblion yn rhagorol. Cafodd y Pwyllgor drosolwg o'r data cyd-destunol ynghylch proffil disgyblion sy'n mynychu'r ysgol a chydnabu'r gydberthynas rhwng y procsi ar gyfer amddifadedd â deilliannau addysgol, absenoldeb a safonau ymddygiad.  Roedd yr ymyriadau a'r mentrau a wnaed gan yr ysgol wedi arwain at werth ychwanegol cadarnhaol lle roedd disgyblion agored i niwed wedi rhagori ar lefelau cenedlaethol disgwyliedig cynnydd, safonau a deilliannau addysgol.

 

Er gwaethaf yr amrywiaeth o fesurau ymyrraeth a roddwyd ar waith gan yr ysgol, cydnabu'r Pwyllgor effaith anfantais tlodi ar fynediad disgyblion i'r ysgol.  Yn hyn o beth, darparwyd crynodeb o'r strategaethau i wella ymddygiad a phresenoldeb i'r Pwyllgor, ynghyd ag amlinelliad o'r mesurau a chymorth yr Awdurdod Lleol a fyddai'n cynorthwyo'r ysgol yn yr ymdrechion hyn.

 

Rhoddwyd sylw i nifer o arsylwadau ac ymholiadau, fel a ganlyn:

 

·       Mewn ymateb i ymholiad, rhoddodd y Swyddog Arweiniol ar gyfer Gwasanaethau Ymddygiad ac Unedau Cyfeirio Disgyblion drosolwg o ddarpariaeth y Tîm Cymunedol Cymorth Ymddygiad a oedd wedi'i hailgynllunio'n ddiweddar i adlewyrchu'r galw cynyddol gan ysgolion am ddarparu cymorth adweithiol a rhagweithiol.

 

·       O ran Ysgol Coedcae, cyfeiriwyd at y cynnydd sylweddol yn nifer y ceisiadau a wnaed gan athrawon am gymorth ar alwad ar gyfer ymddygiad yn ystod gwersi, yn enwedig i ddisgyblion blwyddyn 11.  Esboniwyd i'r Pwyllgor fod materion ymddygiad a phresenoldeb wedi dod i'r amlwg ymhlith disgyblion blwyddyn 11 yr oedd ganddynt y pwysau a'r pryderon ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r gofyniad i wneud yn dda mewn arholiadau, yn ogystal â'r tarfu addysgol a achoswyd gan y pandemig; ac roedd hyn yn adlewyrchu'r sefyllfa yn genedlaethol.  Hefyd dywedwyd ei bod yn ymddangos nad oedd cyfradd y gwaharddiadau cyfnod penodol yn cyd-fynd â nifer yr achosion o gymorth ar alwad ar gyfer materion ymddygiad oherwydd bod adnoddau yn cael eu defnyddio yn yr ysgol, gan gynnwys y cyfleuster mewnol i gynnwys y disgyblion o'r newydd.

 

·       Yn dilyn ymholiad am y cymorth sydd ar gael i staff, rhoddodd Pennaeth Ysgol Coedcae sicrwydd i'r Pwyllgor fod effaith llesiant staff yn ffocws allweddol i Dîm Uwch-arweinwyr yr ysgol, drwy ddarparu sianeli cyfathrebu effeithiol ac agored a gweithredu strategaethau megis sgyrsiau adferol i feithrin perthynas gadarnhaol rhwng athrawon a disgyblion. 

 

·       Pwysleisiodd aelod bwysigrwydd cael strwythurau gwell ar gyfer ymyrraeth gynnar i wella safonau ymddygiad a deilliannau addysgol disgwyliedig cysylltiedig disgyblion cyn iddynt ddechrau addysg ysgol uwchradd.  Eglurodd y Swyddog Arweiniol ar gyfer Gwasanaethau Ymddygiad ac Unedau Cyfeirio Disgyblion fod y gwasanaethau Cymorth Ymddygiad yn gweithio ar draws y sector cynradd ac uwchradd i ddarparu rhaglenni cymorth i ddysgwyr gan ddefnyddio ethos arferion cynhwysol, gyda dulliau adferol i annog perthynas gadarnhaol rhwng athrawon a disgyblion a hefyd rhwng athrawon, rhieni/gwarcheidwaid a chymunedau.  Hefyd, eglurwyd bod Ymarfer Ymwybodol o Drawma ynghylch ymddygiad niwroamrywiol yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod y dulliau priodol yn cael eu defnyddio i ddiwallu anghenion dysgwyr unigol.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cyflwyno'r Model Pedwar Cam ar draws y sir, rhoddodd y Swyddog Arweiniol ar gyfer Gwasanaethau Ymddygiad ac Unedau Cyfeirio Disgyblion drosolwg o'r gwaith sy'n mynd rhagddo gydag ysgolion i wella sgiliau staff i ddelio ag ymddygiad heriol disgyblion, darparu dulliau wedi'u targedu o ymdrin â meysydd angen a defnyddio lleoliadau arbenigol fel dull ymyrryd.

 

·       Canmolwyd Pennaeth Ysgol Gyfun Coedcae a'i staff am y gwaith calonogol a chadarnhaol a oedd yn cael ei wneud a roddodd gipolwg i'r Pwyllgor ynghylch pa mor gyffredin oedd problemau ymddygiad ar draws ysgolion.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

Dogfennau ategol: