Agenda item

DIWEDDARIAD AR ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad i'w ystyried ar gynnydd ar weithredu'r darpariaethau sydd wedi'u hymgorffori yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a oedd yn ceisio trawsnewid disgwyliadau, profiadau a chanlyniadau plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad a oedd yn manylu ar gynnydd y newid o Ddatganiadau Anghenion Addysg Arbennig (AAA) i Gynlluniau Datblygu Unigol (CDU) ar gyfer disgyblion ag ADY.  Dywedwyd y byddai'r broses weithredu'n cael ei gwneud yn raddol hyd at fis Awst 2025 ac y byddai'n arwain at dri chanlyniad categoreiddio posibl i blant a phobl ifanc. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i'r adborth ar lefel llwyddiant y trawsnewid i'r system ADY newydd, a oedd yn cynnwys trosolwg o'r meysydd sy'n gweithio'n dda a'r rhai y mae angen mynd i'r afael â nhw o ran rôl Swyddogion ADY a Chydgysylltwyr, Blynyddoedd Cynnar ac Ôl-16 ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY, hyfforddiant a chefnogaeth, a hefyd y gwaith partneriaeth parhaus gyda gweithwyr iechyd proffesiynol.  Adolygodd y Pwyllgor y data ystadegol ar ddisgyblion ag ADY mewn ysgolion prif ffrwd a'r rhai sydd angen cymorth lleoliad arbenigol lle cydnabuwyd bod cynnydd sylweddol wedi bod yn y galw am ddarpariaeth Anhwylder Sbectrwm Awtistig (ASD) ers mis Medi 2021.

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:-

 

Mewn ymateb i ymholiad, esboniwyd y broses a'r meini prawf ar gyfer trosglwyddo Datganiadau AAA i Gynlluniau Datblygu Unigol ADY i'r Aelodau. Yn hyn o beth, cadarnhawyd y byddai pob disgybl sydd â Datganiadau AAA presennol yn cael eu hystyried ar gyfer CDU, ac y byddai disgyblion newydd yn mynd ymlaen yn uniongyrchol i'r broses CDU ADY. Ar ben hynny, roedd deddfwriaeth yn rhagnodi bod disgwyl i'r broses drosglwyddo o Ddatganiadau i Gynlluniau Datblygu Unigol gael ei chwblhau o fewn cyfnod o 12 wythnos gan ddefnyddio dull 'sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn' a chasglu gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau / rhanddeiliaid priodol. Ystyriwyd bod yr amserlen hon yn hydrin ar y cyfan, ac yn welliant ar y system AAA, er y cydnabuwyd y gellir bod oedi wrth aros am wybodaeth allweddol am ddysgwyr gan randdeiliaid.

 

Yn dilyn pryderon ynghylch anghysondebau posibl o ran ansawdd y Cynlluniau Datblygu Unigol, rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor bod cymorth canolog wedi'i ddarparu drwy drefniadau gweithio agos gydag ysgolion er mwyn sicrhau cysondeb o ran safon y Cynlluniau.  Ar ben hynny, er mwyn mynd i'r afael ag anghyfartaledd posibl o ran ansawdd Cynlluniau Datblygu Unigol ar draws ysgolion o wahanol feintiau, nodwyd bod rhaglen gynhwysfawr o gefnogaeth a hyfforddiant yn cael ei darparu yn unol â'r clystyrau ysgol a nodwyd.  Yn hyn o beth, canmolwyd yn fawr y cynnydd a wnaed gan gydgysylltwyr ADY wrth drosglwyddo o AAA i ADY.  Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant at arolygiadau Estyn a gwblhawyd yn ddiweddar ac adroddiad ar wahân a gadarnhaodd fod y ddarpariaeth ADY o fewn ysgolion Sir Gaerfyrddin yn rhagorol.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor mai'r syniad o Gynlluniau Datblygu Unigol oedd eu bod yn ddogfennau hyblyg a fyddai'n cael eu trosglwyddo gyda disgyblion sy'n symud ysgolion. O ran dysgwyr Sir Gaerfyrddin sy'n mynychu ysgolion a lleoliadau y tu allan i'r sir, cadarnhawyd y byddai Cynlluniau Datblygu Unigol yn cael eu llunio gan Sir Gaerfyrddin yn dilyn gwaith partneriaeth agos a chasglu gwybodaeth berthnasol gyda chydgysylltydd ADY perthnasol yr ysgol/lleoliad ac yn unol â'r dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.  At hynny, cadarnhawyd, er bod cyfleuster ad-dalu i'r Awdurdod gwreiddiol ar waith ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, nid oedd cyllid CDU trawsffiniol wedi'i bennu eto.

 

Cyfeiriwyd at yr effaith ar ysgolion o ran y pwysau amser ar gydgysylltwyr ADY, a'r pwysau cyllidebol yn unol â'r newidiadau i'r dyraniad cyllid fformiwla.  Fodd bynnag, croesawyd y dull newydd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gan gydgysylltwyr ADY o ran Cynlluniau Datblygu Unigol mwy ystyrlon, gyda chanlyniadau gwell i ddysgwyr ag ADY.

 

Mewn ymateb i ymholiad, rhoddwyd trosolwg o'r cymorth sydd ar gael i'r rhai a sy'n derbyn Addysg Heblaw Mewn Ysgol ac Addysg Ddewisol yn y Cartref i'r Pwyllgor.  Cytunwyd bod ystadegau sy'n ymwneud â nifer y plant sy'n derbyn Addysg Heblaw Mewn Ysgol ac Addysg Ddewisol yn y Cartref yn y sir yn cael eu dosbarthu i'r Pwyllgor.

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd mewn perthynas â materion capasiti mewn lleoliadau arbenigol, eglurodd yr Athro Ymgynghorol ADY mai blaenoriaeth y Cyngor oedd gwella'r capasiti o fewn ysgolion prif ffrwd i ddiwallu anghenion disgyblion ag ADY er mwyn rhoi cyfle i ddysgwyr fynychu ysgolion yn eu hardal.

 

Cyfeiriwyd at ôl troed sylweddol darpariaeth arbenigol Ôl-16 yn y sir a oedd yn rhoi hawl 3 blynedd i gyllid a chymorth o dan y fframwaith AAA.  Fodd bynnag, nodwyd bod y côd ADY yn rhoi hawl i gael 2 flynedd o addysg a hyfforddiant Ôl-16 pan fo angen rhesymol a fydd yn golygu bod angen adolygu'r ddarpariaeth arbenigol sy'n cael ei chynnig gan Sefydliadau AB ac Awdurdodau Lleol.

Rhoddwyd sicrwydd bod trafodaethau'n parhau â Llywodraeth Cymru er mwyn ceisio eglurder ynghylch a fyddai darpariaeth ôl-16 bresennol y sir o fewn ysgolion prif ffrwd yn parhau i gael ei chyllido a goblygiadau'r model hwn, o gymharu â'r llwybr presennol a ffefrir gan Lywodraeth Cymru sef cyllido drwy ddarparwyr annibynnol. Gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad y trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru maes o law.

 

Mynegwyd pryderon gan y Pwyllgor o ran diffyg cydraddoldeb rhwng ysgolion cyfrwng Cymraeg o ran gallu cael mynediad at ystod eang o asesiadau ac adnoddau safonol i gefnogi'r gwaith o adnabod ADY yn gynnar ac yn gywir, o gymharu ag ysgolion cyfrwng Saesneg.  Rhoddwyd sicrwydd bod hwn yn faes blaenoriaeth i'r Cyngor ac roedd gwaith yn mynd rhagddo i fynd i'r afael â'r mater yn genedlaethol.

 

Cyfeiriwyd at y wybodaeth ystadegol a nodwyd yn yr adroddiad lle eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod angen trosglwyddo mwy o blant ysgol uwchradd i'r fframwaith CDU ADY gan eu bod wedi derbyn Datganiad AAA i ddechrau, tra bod nifer o blant ysgolion cynradd wedi cael CDU cyfredol, a roddwyd cyn y gofyniad statudol i wneud hynny, mewn achosion lle'r oedd caniatâd rhieni wedi'i ddarparu.

 

Cymeradwyodd y Pwyllgor y gwaith o weithredu systemau a phrosesau newydd i fodloni gofynion statudol gan gydnabod yr angen a nodwyd gan yr Is-adran am gyllid craidd ychwanegol i sicrhau darpariaeth ADY ddigonol yn y tymor hir.  Nodwyd hefyd y pwysau na welwyd ei debyg o'r blaen mewn ysgolion i wella presenoldeb a chefnogi llesiant academaidd, cymdeithasol ac emosiynol dysgwyr.

 

PENDERFYNWYD:-

 

5.1

Dosbarthu i'r Pwyllgor ystadegau mewn perthynas â nifer y plant sy'n derbyn 'Addysg Heblaw Mewn Ysgol' ac Addysg Ddewisol yn y Cartref o fewn y Sir.

 

5.2

Dosbarthu i'r Pwyllgor ddiweddariad am drafodaethau â Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chyllido darpariaeth ôl-16 maes o law.

 

5.3

Cymeradwyo'r adroddiad a'i gyfeirio at y Cabinet i'w ystyried.

 

Dogfennau ategol: