Cofnodion:
Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r cynnydd a wnaed i sefydlu egwyddorion cyffredinol o ran Hawliau ar gyfer Dysgu i ddatblygu'r dirwedd ôl-16 yn Sir Gaerfyrddin ac yn cynnig strwythur llywodraethu wedi'i ailfodelu yn seiliedig ar yr adborth a roddwyd gan ysgolion uwchradd ynghylch yr hyn yr oedd dysgwyr yn rhoi gwerth arno yn eu profiad a'u darpariaeth addysgol. Yn hyn o beth, rhoddwyd crynodeb i'r Pwyllgor o'r themâu allweddol a oedd yn sail i'r egwyddorion hynny fel a ganlyn:
· Perthynas, Perthyn, Llesiant ac Ethos.
· Gwell Canllawiau Llwybrau a Sgiliau ar gyfer Annibyniaeth ac ar gyfer llwyddiant academaidd, a llwyddiant mewn gwaith a bywyd.
· Tegwch drwy fwy o opsiynau Cymraeg.
· Tegwch drwy ystod eang o opsiynau, yn enwedig opsiynau galwedigaethol.
Wrth ystyried yr adroddiad, nodwyd bod y canfyddiadau yn cyd-fynd yn uniongyrchol â'r argymhellion sy'n deillio o Adolygiad Estyn o'r cwricwlwm 16-19 presennol yng Nghymru.
Cyfeiriwyd hefyd at y gweithdy ymgynghori a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2023 a oedd yn rhoi cyfle i Aelodau'r Pwyllgor roi adborth ar yr adolygiad o addysg ôl-16.
Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:
Mynegwyd pryderon ynghylch y prinder cenedlaethol parhaus o ran recriwtio athrawon a allai atal yr Awdurdod rhag bodloni'r galw am opsiynau cyrsiau ychwanegol. Cyfeiriodd y Pennaeth Strategaeth a Chymorth i Ddysgwyr at y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru o £800,000 o gyllid grant sydd ar gael ledled Cymru, drwy broses ymgeisio gystadleuol, i recriwtio a hyfforddi athrawon i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg. Hefyd, eglurodd y Rheolwr Cwricwlwm a Rhwydweithiau Dysgu fod yr Awdurdod yn archwilio datblygu dysgu hybrid ymhellach, gan gynnwys menter 'e-sgol' i sicrhau bod amrywiaeth o bynciau yn cael eu darparu i ddysgwyr ledled Sir Gaerfyrddin.
I gydnabod yr adborth a roddwyd gan ddysgwyr o ran y gwerth a roddir ar berthynas, rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor y byddai disgyblion yn cael model dysgu cymysg, a byddai pynciau craidd ar gael wyneb yn wyneb ar lefel leol, a phynciau ychwanegol yn cael eu cyflwyno ar-lein yn bennaf, gydag elfen o ddarpariaeth dysgu wyneb yn wyneb, i ddarparu profiad boddhaus i baratoi pobl ifanc ar gyfer addysg uwch, gan gynnal ymdeimlad o gymuned a pherthyn hefyd.
Cyfeiriwyd at adroddiad a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg a oedd yn nodi gostyngiad sylweddol yn nifer yr athrawon newydd gymhwyso sy'n gallu darparu addysg cyfrwng Cymraeg. Amlinellodd y Pennaeth Strategaeth a Chymorth i Ddysgwyr y mesurau sydd ar gael i'r Awdurdod feithrin gallu drwy system hyfforddi gynhwysfawr i athrawon ddysgu Cymraeg neu wella'r hyder i gyflwyno gwersi drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd ynghylch y lefel uchel o fyfyrwyr nad ydynt yn cwblhau eu Tystysgrif Addysg i Raddedigion, cymeradwyodd y Pennaeth Strategaeth a Chymorth i Ddysgwyr yr awgrym a wnaed i ymchwilio ymhellach i'r posibilrwydd o gyflwyno sesiynau blasu, neu brofiad yn y gweithle fel Cynorthwywyr Addysgu i fyfyrwyr prifysgol ddeall gofynion y rôl ymhellach er mwyn gwneud dewisiadau gwybodus o ran gyrfa.
Yn dilyn ymholiad yngl?n â threfniadau llywodraethu, eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, yn dilyn adolygiad o strwythurau cyfarfodydd/grwpiau, fod yr is-adran Addysg a Gwasanaethau Plant wedi cyflwyno grwpiau ffocws penodol i ddelio ag agweddau amrywiol ar y busnes yn yr adran, gyda chynrychiolaeth briodol i sicrhau mewnbwn effeithiol a'r deilliannau gorau i bobl ifanc.
Cyfeiriwyd at y llwybrau dysgu STEM ac awgrymwyd y gellid ymestyn y Cynllun Llysgenhadon Adeiladu Ieuenctid ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd i fyfyrwyr ysgolion uwchradd ac addysg uwch er mwyn darparu dysgu ymarferol ac ymgysylltu â'r gymuned.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Adroddiad Interim ar yr Adolygiad o Addysg Ôl-16 a'i gyfeirio i'r Cabinet i'w ystyried.
Dogfennau ategol: