Agenda item

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD 2023/24 - 2027/28.

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 20 Chwefror 2023 (gweler Cofnod 6) wedi ystyried Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2023/24 hyd at 2027/28 gan gymryd i ystyriaeth yr ymgynghoriad a gynhaliwyd a'r goblygiadau refeniw oedd yn deillio o'r rhaglen gyfalaf.

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau i'r Cyngor, ar ran y Cabinet, yr adroddiad ar y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd a fyddai'n buddsoddi £265m dros y pum mlynedd nesaf; £73m ohono ar gyfer yr ymrwymiad parhaus i wella ein hadeiladau ysgolion, £27m ar gyfer prosiectau Adfywio i hybu gweithgarwch economaidd, £86m i brosiectau a gefnogir gan y Fargen Ddinesig (sy'n cynnwys canolfan hamdden newydd ar gyfer Llanelli), a £59m i wella'r seilwaith economaidd lleol a'r amgylchedd ehangach.  

Roedd y rhaglen yn darparu pecyn cynhwysfawr ac eang a gefnogir gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, ac adnoddau'r Cyngor ei hun

 

Nodwyd bod y rhaglen gyfalaf fanwl dros dro wedi cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor Craffu - Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol ar 30 Ionawr at ddibenion ymgynghori.  Yn dilyn codi pryderon am ddiffyg darpariaeth ar gyfer atal llifogydd a diffyg arian grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer mesurau datgarboneiddio, roedd y rhaglen wedi'i diwygio i gynnwys ymrwymiadau pellach yn y meysydd hynny.  Ni chodwyd unrhyw bryderon eraill yn ystod yr ymgynghoriad hwn ac roedd rhan o gofnod perthnasol y cyfarfod wedi'i chynnwys yn Atodiad B er gwybodaeth

 

Dywedwyd, gan fod y rhaglen gyfalaf flaenorol yn canolbwyntio cymorth i fusnesau ar yr angen i roi hwb i'r economi leol, bod hynny'n parhau i fod yn ffocws wrth i'r Cyngor barhau i gynnal cymorth i'r economi leol gyda buddsoddiadau mawr mewn prosiectau ffyniant bro a chymorth parhaus i fuddsoddi mewn seilwaith.  

 

Roedd y rhaglen yn cynnwys tri phrosiect trawsnewidiol parhaus, yr oedd pob un yn canolbwyntio ar brif dref wahanol.  

 

Yngyntaf - roedd y cytundeb i ddechrau adeiladu Parth Un datblygiad Pentre Awel yn Llanelli wedi cael ei lofnodi, am bris contract o £86m gan greu pum adeilad pwrpasol sy'n gysylltiedig â "stryd", a fyddai hefyd yn cynnwys canolfan gweithgareddau d?r, neuadd chwaraeon, ystafelloedd chwaraeon a ffitrwydd amlbwrpas a champfa, cyfleusterau addysg a hyfforddiant, darpariaeth glinigol ac ymchwil, lle arloesi a lle i fusnesau. Byddai'r prosiect yn trawsnewid tirwedd ac economi de Llanelli, Sir Gaerfyrddin, a rhan fwy o orllewin Cymru.

 

Ynail, byddai hwb gwerth £19.6m yn cael ei ddarparu yng nghanol tref Caerfyrddin gan gynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y dref wrth i'r Cyngor adfer yn dilyn y pandemig, gan ddarparu cartref i gasgliad celf y Sir, cyfleusterau iechyd ac addysg, yn ogystal â bod yn gartref newydd i Hwb Caerfyrddin yr awdurdod ac unedau manwerthu.  Byddai'r buddsoddiad hefyd yn gatalydd ar gyfer y gwaith ehangach i adfywio canol y dref

 

Yndrydydd, byddai buddsoddiad gwerth £19m i gwblhau Llwybr Dyffryn Tywi yn ardal Dinefwr yn creu manteision sylweddol i'r economi wledig ac yn gwella iechyd a llesiant trigolion.   

 

Dywedoddyr Aelod Cabinet, yn ogystal â'r prosiectau blaengar mawr hyn, y byddai'r Cyngor yn parhau i gefnogi ei raglenni buddsoddi parhaus mewn seilwaith a'r portffolio eiddo ym mlwyddyn pump y rhaglen

 

Byddai'rrhaglen yn parhau i gefnogi Ysgolion a Chymunedau Dysgu Cynaliadwy a oedd, yn y blynyddoedd diwethaf, wedi arwain at gwblhau adeiladau ysgolion newydd ac adnewyddu ysgolion ledled y sir. Yn fwyaf diweddar, roedd hyn yn cynnwys agor Ysgol Gynradd newydd Gorslas ac Ysgol Gynradd newydd Pum Heol ac roedd Ysgol Pen-bre yn cael ei hadeiladu ar hyn o bryd.  Felly gwnaed darpariaeth yn y rhaglen ar gyfer datblygiadau dichonoldeb pellach, wrth i'r awdurdod barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i lunio cynlluniau i gymunedau eraill ledled y sir elwa o'r buddsoddiad hwn mewn ysgolion a chyflwyno profiad addysg yr 21ain Ganrif ar gyfer ein plant a chenedlaethau'r dyfodol yn yr 21ain Ganrif

 

Nodwyd bod gwaith dichonoldeb o'r fath wedi bod yn mynd rhagddo ym mlwyddyn ariannol 2022/23 ar sawl ysgol, ac felly nid oedd y prosiectau hynny wedi'u rhestru fel rhan o'r rhaglen newydd.  Byddai ffrwyth y gwaith hwnnw'n cael ei weld yn y dyfodol wrth i'r prosiectau sicrhau cyllid grant gan y llywodraeth a chael cymorth yn y blynyddoedd nesaf.  Nodwyd hefyd nad oedd yr ysgolion cynradd yn Rhydaman, a oedd yn rhan o'r rhaglen, wedi'u rhestru gan eu bod yn rhan o geisiadau Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM), ac felly byddent yn cael eu darparu ar y cyd â phartneriaid yn y sector preifat a fyddai'n cael eu hariannu trwy refeniw maes o law.

 

Dywedoddyr Aelod Cabinet, yn ogystal â'r prosiectau blaengar a amlinellwyd, y byddai'r Awdurdod yn ceisio parhau i gefnogi ein rhaglenni treigl parhaus o fuddsoddiadau mewn seilwaith a phortffolio eiddo'r awdurdod ym mlwyddyn pump y rhaglen, hynnyyw:

 

£2.5m ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl

£250k i wella Diogelwch Ffyrdd

£250k ar gyfer draenio priffyrdd 

£400k ar gyfer cryfhau pontydd 

£600k ar gyfer Adnewyddu Priffyrdd yn barhaus  

£400k ar gyfer Goleuadau Cyhoeddus 

£500k ar gyfer Gwaith Cyffredinol Addysg gan gynnwys addasiadau i gydymffurfio â'r Ddeddf Cydraddoldeb  

£2m ar gyfer y Gronfa Prosiect Adfywio Strategol

£3m ar gyfer Cynnal a Chadw Cyfalaf ar gyfer buddsoddi yn ein hystâd eiddo.

 

Gyda'igilydd, dros y pum mlynedd nesaf, byddai mwy na £48m yn cael ei fuddsoddi yn y rhaglenni treigl hyn

 

Nodwydhefyd fod bwriad i barhau â'r dyraniad blynyddol o £66k i Hawliau Tramwy a Chilffyrdd yn 2026/27, a hynny i gydnabod rhwymedigaethau'r Cyngor yn y maes hwnnw a'r manteision iechyd ac amgylcheddol cymunedol ehangach a ddarperir gan yr adnoddau gwerthfawr hyn

 

Dywedoddyr Aelod Cabinet y byddai buddsoddiadau pellach hefyd yn cael eu gwneud ar draws y rhaglen fel a ganlyn:   

 

O ran Addysg - byddai arian ychwanegol ar gael i gwblhau'r cilfannau bysiau yn Ysgol Dyffryn Taf.   Byddai cymeradwyaeth yn cael ei cheisio i gynnwys rhagor o gilfannau bysiau mewn ysgolion eraill, sef: Glanymôr, Dyffryn Aman ac i wella rheoli traffig yn Ysgol Bro Myrddin. Pecyn ariannol newydd gwerth £1.7m.  Oherwydd bod y prosiectau hyn yn frys byddent i gyd yn cael eu cynnwys ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen newyddYn ogystal, o ystyried yr angen brys am ddarparu uned Anhwylder Sbectrwm Awtistig ar gyfer disgyblion oedran uwchradd yn nwyrain y sir, roedd cynnig am uned o'r fath yn ardal Llanelli/Porth Tywyn hefyd wedi'i gynnwys yn y flwyddyn gyntaf - 2023/24, gwerth £2m. 

  

O ran Cymunedau - yn ogystal â'r cyllid parhaus ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl, y soniwyd amdano eisoes, o fewn y portffolio hamdden byddai cae 4G yn cael ei ddarparu yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman. Byddai gwaith hefyd yn dechrau ar ailddatblygu Oriel Myrddin gan gyd-fynd â'r prosiectau diwylliannol eraill a gwblhawyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, megis Archif newydd Sir Gaerfyrddin – Y Stordy, a gwaith ailddatblygu Amgueddfa'r Sir yn Abergwili a Pharc Howard. 

 

O ran yr Amgylchedd - byddai £75k yn cael ei ddarparu yn 2023/24 i roi arian cyfatebol ar gyfer gwaith rheoli llifogydd a £1m ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd. Byddai £4.7m yn cael ei ddarparu ar gyfer cerbydau sbwriel ac ailgylchu newydd yn lle'r rhai presennol, a oedd yn cael ei gynnwys fel rhan o'r ymrwymiad i gyflwyno casgliadau didoli ac ailgylchu o d? i d?.

Wrthi'r awdurdod geisio symud i economi carbon isel byddai eibriffyrdd yn parhau i chwarae rhan bwysig, felly, i gydnabod eu pwysigrwydd i'r economi leol, ac i liniaru diffyg cymorth gan Lywodraeth Cymru yn benodol ar gyfer buddsoddi mewn priffyrdd, roedd swm o £1m o gyllid newydd yn cael ei gynnwys yn y rhaglen a ariannwyd drwy fenthyca ar gyfer gwelliannau i briffyrdd.  Roedd hynny'n ychwanegol at y rhaglen dreigl flynyddol barhaus gwerth £600k ac yn cyd-fynd â'r buddsoddiadau sylweddol mewn gwelliannau i briffyrdd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  

 

O ran Datgarboneiddio, yn ystod y flwyddyn flaenorol roedd y Cyngor wedi cyflwyno £500k i ddatgarboneiddio ei ystâd adeiledig a byddai'n parhau â'r buddsoddiad hwnnw gyda £500K arall yn 2023/24. Roedd hynny'n ychwanegol at y grantiau a oedd ar gael i fusnesau lleol gyflwyno mesurau ynni adnewyddadwy a oedd yn cael eu rhoi yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan ddangos ymrwymiad Sir Gaerfyrddin i'r agenda newid hinsawdd a datgarboneiddio.

 

RoeddTechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) yn hanfodol i ffyrdd o weithio yn y dyfodol;  felly, roedd y rhaglen yn cynnwys £2.4m yn y maes hwn.  Mae'n cynnwys cyllid blynyddol o £200k i gefnogi prosiectau trawsnewidiol digidol ar draws gwasanaethau'r cyngor. Byddai'r Sir hefyd yn gweld budd Prosiect Digidol Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn ystod y blynyddoedd nesaf.  

 

Yngyffredinol, roedd y rhaglen gyfalaf arfaethedig yn ymrwymo'r Cyngor i fuddsoddiad sylweddol dros y pum mlynedd drwy fanteisio ar gyfleoedd cyllido a chael yr arian mwyaf posibl o ffynonellau allanol posibl. Byddai cyfuniad o gynlluniau newydd a phresennol, yn unol â'r weledigaeth gorfforaethol, yn datblygu'r economi leol, yn creu swyddi ac yn gwella ansawdd bywyd ein trigolion ac ymwelwyr â'r sir, gan ddiogelu adnoddau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

 

Nodwydmai oddeutu £168m o arian y Cyngor Sir oedd ar gael ar gyfer y rhaglen ar hyn o bryd, a'i fod yn cynnwys benthyca, wedi'i gynnal a heb ei gynnal, cronfeydd wrth gefn a chyllid refeniw uniongyrchol, a Derbyniadau Cyfalaf yn sgil gwerthu asedau nad oedd eu hangen mwyach a byddai grantiau cyfalaf a chyfraniadau o £100m yn dod o gyrff arian grant allanol. Fel rhan o setliad eleni, roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu ffigurau dangosol o ran cyllid cyfalaf cyffredinol hyd at 2024/25, fel yr oedd yn cael ei adleisio yn y rhaglen.  Roedd y cyllid ar gyfer blynyddoedd tri, pedwar a phump y rhaglenyn seiliedig ar lefel dybiedig o gymorth sy'n cyfateb i'r hyn a dderbyniwyd yn 2024/25 wrth symud ymlaenNodwyd bod cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24 £55K yn llai na'r hyn roeddid yn ei ddisgwyl o'r blaenRoedd lefel gyffredinol yr arian tybiedig ym mlynyddoedd diweddarach y rhaglen yn fwy na'r ymrwymiadau presennol.  Byddai'r cyllid nas ymrwymwyd hwn yn caniatáu hyblygrwydd i'r awdurdod helpu â phwysau yn y dyfodol a fyddai'n gysylltiedig â chostau cynyddol a heriau eraill.

 

Fel y nodwyd o ran y Strategaeth Cyllideb Refeniw, roedd y setliad terfynol wedi'i dderbyn ar 28 Chwefror ac roedd swyddogion wedi asesu'r prif ffynonellau cyllid ar gyfer y rhaglen gyfalaf ac wedi cadarnhau nad oeddent wedi newid ers y setliad amodol. Fodd bynnag, byddai angen gwneud gwaith pellach i asesu grantiau cyfalaf uniongyrchol ac unrhyw newidiadau o ganlyniad i'r rheiny ac, os oes angen, byddai'r argymhelliad terfynol yn yr adroddiad yn mynd i'r afael â hyn

 

Dywedoddyr Aelod Cabinet fod manylion cynhwysfawr y rhaglen arfaethedig wedi'u nodi yn Atodiad A i'r adroddiad a byddai swyddogion yn parhau i fonitro cynlluniau unigol a'r cyllid sydd ar gael. Tra byddai angen rheoli'r ddwy elfen hyn yn agos i sicrhau bod cynlluniau'n cael eu cyflawni'n llawn, cadarnhaodd fod y rhaglen yn cael ei chyllido'n llawn am y pum mlynedd

 

Nodwyd bod Atodiad C, a oedd yn ofynnol gan gôd cyllid cyfalaf prudential, yn cynnwys dogfen Strategaeth Gyfalaf y Cyngor, ac yn manylu ar y cyd-destun tymor hir o ran y penderfyniadau ar wariant cyfalaf a buddsoddi, ac yn rhoi ystyriaeth briodol i risg a gwobrwyo, a'r effaith ar gyflawni canlyniadau blaenoriaethol

 

Dywedoddyr Aelod Cabinet fod y Rhaglen Gyfalaf yn ceisio manteisio ar gyfleoedd a'i bod yn gynhwysfawr ac yn uchelgeisiol, gan ganolbwyntio ar ysgogi'r economi a darparu cyfleusterau o ansawdd uchel i'n trigolion.  

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:

 

“5.2.1

Cymeradwyo'r cyllid a'r Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd, fel y'u nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad, gyda 2023/24 yn gyllideb bendant a 2024/25 i 2027/28 yn gyllidebau amhendant/dangosol;

 

5.2.2

Bod y rhaglen yn cael ei hadolygu, yn ôl yr arfer, oni lwyddir i gael y cyllid disgwyliedig gan gyrff allanol neu'r Cyngor Sir;

 

5.2.3

Bod y Strategaeth Gyfalaf, fel y manylir arni yn Atodiad C, yn cael ei chymeradwyo;

 

5.2.4

Bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr, yr Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau, yn cael awdurdod dirprwyedig i wneud unrhyw addasiadau angenrheidiol o ganlyniad i'r setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru a oedd i'w gyhoeddi ar 1 Mawrth 2022”.

 

Dogfennau ategol: