Cofnodion:
3.1 PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
PL/01280 |
Cais am annedd aml-lefel a'r holl waith cysylltiedig ar dir gerllaw 19 Parc yr Onnen, Caerfyrddin, SA31 1ED
(Sylwer: mae caniatâd yn amodol ar Gytundeb Adran 106 i sicrhau cyfraniad ariannol at dai fforddiadwy).
Daeth sylw i law a wrthwynebai'r cais, ac a ailbwysleisiai'r pwyntiau canlynol y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd:- · Pryderon yn ymwneud â mynediad i'r safle gan nad oedd caniatâd wedi'i roi i ehangu'r ffordd fynediad; · byddai'r mynediad arfaethedig yn effeithio'n ddifrifol ar amwynder rhif 19 Parc yr Onnen; · Gwrthodwyd caniatâd o'r blaen yn rhannol ar sail mynediad a'r angen i ledu'r ffordd; · Colli preifatrwydd;
Ymatebodd yr ymgeisydd, yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu a'r Uwch-dechnegydd (Cyswllt Cynllunio Priffyrdd) i'r materion a godwyd. |
PL/01438 |
Cais am annedd newydd yn lle'r un presennol yn Rosedale, 29 Ffordd Cross Hands, Gors-las, Llanelli, SA14 6RR |
PL/01800 |
Cais am falconi ar ochr de-orllewinol yr eiddo i gymryd lle balconi a gafodd ei symud yn flaenorol yn Llwyn yr Hebog, Cwm Ifor, Llandeilo, SA19 7AS
Daeth sylw i law a wrthwynebai'r cais, ac a ailbwysleisiai'r pwyntiau canlynol y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd:- · Dim balconi blaenorol; · Colli preifatrwydd; · Roedd y deunyddiau a gynigiwyd ar gyfer y balconi yn amhriodol · Byddai goleuadau y tu allan yn ardal y balconi yn effeithio ar ystlumod.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd. |
PL/03134 |
Cadw defnydd rhan o d? annedd fel llety gwyliau hunangynhwysol ar safle Glanlash, Caerbryn, Rhydaman, SA18 3EJ |
PL/03205 |
Newid defnydd o A1 i fflat preswyl 1 ystafell wely gan gynnwys mân newidiadau i'r wedd allanol yn 62 Heol Caerfyrddin, Cross Hands, SA14 6SU (Sylwer: mae caniatâd yn amodol ar Gytundeb Adran 106 i sicrhau cyfraniad ariannol at dai fforddiadwy. Os na chaiff cytundeb cyfreithiol ei lofnodi neu os na thelir y cyfraniad gofynnol cyn pen 12 mis, mae'r Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd wedi'i awdurdodi i wrthod y cais.). |
PL/03550 |
Cadw cyfleuster parcio a theithio ar raddfa lai a seilwaith cysylltiedig yn safle Parcio a Theithio Nant-y-ci, Llanllwch, Caerfyrddin, SA33 5DR |
3.2 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn groes i argymhelliad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd i'w wrthod:-
PL/03034 |
Cais am ddau gaban ar olwynion a chyfleusterau cysylltiedig at ddibenion llety i dwristiaid yn Llwyndewi, Meidrim, Caerfyrddin, SA33 5PD Cafwyd sylw gan yr aelod lleol o blaid y cais ar y sail ei fod yn unol ag amcanion strategol twristiaeth ar raddfa fach yng nghefn gwlad ac na chafwyd unrhyw wrthwynebiadau gan gymdogion na'r Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu a'r Uwch-gyfreithiwr i'r materion a godwyd wrth i'r adroddiad gael ei ystyried.
Yn groes i argymhelliad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd bod y cais yn cael ei wrthod, roedd y Pwyllgor o’r farn bod y cais yn dderbyniol yng nghyd-destun Polisïau TSM1, TSM2 a TSM3 ar sail y canlynol: · Roedd y safle'n briodol ar gyfer datblygiad o'r fath ac ni fyddai'n effeithio ar y dirwedd; · Nid oedd y tir yn addas at ddefnydd amaethyddol ac felly roedd arallgyfeirio'n rhesymol; · Byddai'r defnydd arfaethedig yn annog bioamrywiaeth.
Rhoddir caniatâd yn amodol ar y canlynol: 1. amod i sicrhau bod y llety at ddefnydd gwyliau yn unig; 2. gosod amodau priffyrdd priodol fel y nodir yn yr adroddiad; 3. gosod amodau priodol sy'n sicrhau y cydymffurfir â'r mesurau gwella bioamrywiaeth a thirwedd y manylir arnynt yn yr adroddiad. |
Dogfennau ategol: