Agenda item

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL YR AMGYLCHEDD 2022/23

Cofnodion:

Bu Aelodau'r Pwyllgor yn ystyried Cynllun Busnes Adran yr Amgylchedd 2022/23 a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, Diogelu'r Cyhoedd a’r Aelod Cabinet dros Gymunedau a Materion Gwledig mewn perthynas â'r meysydd a oedd yn dod o fewn eu portffolios a chylch gwaith y Pwyllgor.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau a Materion Cyhoeddus, er bod Carbon Sero Net yn rhan o bob maes o waith y Cyngor, roedd y cyfrifoldeb o dan Adran yr Amgylchedd ac felly roedd y camau a'r mesurau priodol bellach wedi'u cynnwys yng Nghynllun Busnes Adran yr Amgylchedd.

 

Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y Gwelliannau a Gynllunnir ar gyfer 2022/23 mewn perthynas â chyflwyno'r terfynau cyflymder 20mya sydd wedi’u rhagosod yn genedlaethol mewn ardaloedd preswyl.  Mynegwyd bod nifer o bentrefi heb unrhyw derfyn o dan y terfyn cyflymder cenedlaethol o 60mya, gofynnwyd sut y byddai hyn yn effeithio ar y rhain?  Eglurodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd fod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn edrych ar yr ardaloedd hynny sydd â therfynau o 30mya ac y byddent yn edrych ar ardaloedd trefol yn hytrach nag ardaloedd gwledig.  Mewn ymateb i ymholiad pellach ynghylch ardaloedd preswyl lle nad oedd terfynau wedi'u pennu ar hyn o bryd, eglurodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod deddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru yn ymwneud â'r term 'ffyrdd cyfyngedig', lle byddai'r terfyn cyflymder yn cael ei reoli gan system o oleuadau stryd.   Lle mae goleuadau stryd yn bodoli ar ffyrdd gyda therfyn cyflymder o 30mya, roedd y ddeddfwriaeth newydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r ardaloedd hyn gael eu gostwng i 20mya.  Felly, ni fyddai'r ddeddfwriaeth newydd yn effeithio ar y pentrefi hynny heb oleuadau stryd na therfyn cyflymder o 30mya.

 

Mewn ymateb i ymholiad pellach ynghylch ardaloedd preswyl heb unrhyw derfyn cyflymder ar hyn o bryd, dywedodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth, er na fyddai'r ardaloedd hyn yn cael eu hystyried o dan y ddeddfwriaeth, y gellid ystyried aneddiadau a allai elwa ar gyflwyno terfyn cyflymder fel rhan o'r prosiect.

 

·       Cyfeiriwyd at y mesur a nodwyd ar dudalen 29 o'r adroddiad cyf. E11 -“byddwn yn ehangu’r dull llwyddiannus hwn ac yn defnyddio cytundebau A106 a chyfraniadau gan ddatblygwyr i gyflawni buddion bioamrywiaeth angenrheidiol lle bo’n briodol.  (Medi 2022 & Mawrth 2023)”.  Dywedwyd bod yr Aelodau wedi cael gwybod yn ddiweddar y gallent wneud cais am arian A106 i’w ddefnyddio yn eu cymunedau. Gofynnwyd am eglurhad ar y mesur oherwydd pryderon y gallai cymunedau golli allan ar gael yr arian A106. Esboniodd y  Swyddog Bioamrywiaeth, ar gyfer datblygiadau lle'r oedd effaith sylweddol ar fioamrywiaeth, na ellid ei lliniaru ar y safle neu le'r oedd yn gymhleth gwneud hynny, fod y Cyngor wedi mabwysiadu dull llwyddiannus lle derbyniwyd cyllid A106 i Gyngor Sir Caerfyrddin ymgymryd â mesurau lliniaru priodol/iawndal i'r datblygwr ar y safle neu oddi ar y safle drwy gynllun rheoli a oedd wedi'i ariannu ac y cytunwyd arno. Byddai hyn yn golygu na fyddai unrhyw golled net o ran bioamrywiaeth, a byddai'n caniatáu i'r datblygiad gael ei gyflawni.  Rhoddodd y Swyddog Bioamrywiaeth enghreifftiau perthnasol i'r Pwyllgor.

 

·       Cyfeiriwyd at dudalen 41 yr adroddiad - Cyf 43 - Gwella Llwybrau Teithio Llesol i Gymunedau. Nododd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth, mewn ymateb i ymholiad am beidio â chynnwys troedffordd y Cardi Bach, fod y fenter Teithio Llesol ar y cyfan wedi'i hanelu at symud oddi wrth gerbydau gan annog cerdded a beicio. Esboniwyd bod prosiect y Cardi Bach yn dal i fod yn y camau cychwynnol o ran datblygiad a bod y Cyngor yn gweithio gyda Sustrans a Chyngor Sir Penfro ynghylch dichonoldeb y prosiect.  Ni fyddai'n cael ei gynnwys yn y cynllun busnes hyd nes bod yr astudiaethau dichonoldeb mewn sefyllfa i ddarparu cynnig pendant ynghyd â chyllid wedi'i ddiogelu ar gyfer y cynllun, a fyddai hefyd yn cynnwys y cerrig milltir angenrheidiol ar gyfer y prosiect.

 

·       Rhoddwyd canmoliaeth o ran datblygiad y cynllun busnes ar ei newydd wedd, a oedd yn cynnwys mwy o wybodaeth, yn fwy darllenadwy ac yn haws ei ddeall, gan ddangos cyfeiriad y gwaith a sut olwg fyddai ar lwyddiant.  Mynegwyd gwerthfawrogiad i'r swyddogion hynny a fu'n rhan o ddatblygu'r cynllun.

 

·       Cyfeiriwyd at Eitem 9 ar yr Agenda - Adroddiadau heb eu cyflwyno a oedd yn rhoi esboniad pam nad oedd adroddiad Cynllun Busnes yr Adran Cymunedau 2022/23 wedi'i gyflwyno.  Yn unol â'r esboniad, mynegwyd y byddai'r eitemau'n cael eu rhoi yng Nghynllun Adran yr Amgylchedd. Gofynnwyd pryd y byddai hyn yn cael ei gynnwys?  Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau mwy Diogel, wrth i'r Is-adran newydd sef Lle a Chynaliadwyedd gael ei sefydlu, byddai'n ddoeth ystyried y synergedd presennol â Diogelu'r Cyhoedd.  Yn dilyn y darn hwn o waith, byddai Cynllun Busnes yr Adran Cymunedau yn cael ei gyflwyno i Aelodau'r Pwyllgor ym mis Gorffennaf 2022.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r cynlluniau yn y dyfodol i ddechrau'r amnestau gwastraff yng Ngogledd y Sir, esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Amgylcheddol y byddai adolygiad o’r arferion yn rhan o'r broses adfer yn dilyn y pandemig.  Byddai nifer yr amnestau a lleoliadau hefyd yn cael eu hadolygu, a byddai cyfathrebu ag Aelodau lleol yn flaenoriaeth wrth symud tuag at arferion gwaith arferol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Cynllun Busnes Adran yr Amgylchedd 2022/23 yn cael ei dderbyn.

 

 

Dogfennau ategol: