Cofnodion:
Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd i ystyried cais a dderbyniwyd gan Scarlets Regional Limited am amrywio'r drwydded safle ar gyfer y Clockwork Tavern, Uned 9 Porth y Dwyrain, Llanelli. Roedd yr amrywiad yn ceisio caniatáu:
Cerddoriaeth wedi'i recordio: Dydd Gwener a dydd Sadwrn 08:00 - 02:00
Gwerthu Alcohol: Dydd Gwener a dydd Sadwrn 08:00 - 02:30
Dydd Sul G?yl y Banc, Noswyl Nadolig, G?yl San Steffan, Nos Galan a Dydd Calan os bydd y diwrnodau'n disgyn ar ddyddiau heblaw dydd Gwener a dydd Sadwrn – caniateir gwerthu alcohol tan 2.30 a.m.
Unrhyw beth sy'n debyg i Gerddoriaeth Fyw, Cerddoriaeth wedi'i Recordio neu Berfformiadau Dawns ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn 08:00 – 02:00
Oriau Agor: Dydd Gwener a Dydd Sadwrn 08:00 – 03:00
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-
Atodiad A – Copi o'r cais am amrywiad
Atodiad B – Sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu
Atodiad C – Sylwadau'r Tîm Llygredd a Llesiant
Atodiad D – Sylwadau Heddlu Dyfed-Powys
Atodiad E – Sylwadau unigolion eraill
Atodiad F – Trwydded bresennol
Yn ogystal, roedd y wybodaeth atodol ganlynol wedi'i dosbarthu i bob parti cyn y cyfarfod:-
Tystiolaeth ategol yr ymgeisydd
Asesiad Risg
Cyfeiriodd yr Arweinydd Trwyddedu at ei adroddiad ysgrifenedig, fel y nodir yn Atodiad B, a dywedodd fod yr ymgeisydd, ar ôl derbyn y sylwadau yn Atodiadau B i E, wedi diwygio'r cais i ganiatáu:-
Cerddoriaeth wedi'i recordio: Dydd Gwener a dydd Sadwrn 08:00 – 01:00 (fel y mae ar hyn o bryd)
Gwerthu Alcohol: Dydd Gwener a dydd Sadwrn 08:00 – 02:00
Oriau Agor: Dydd Gwener a dydd Sadwrn 08:00 – 02:30
Manylwyd ar y diwygiad uchod yn Atodiad G i'r adroddiad ac nid oedd gweddill yr Awdurdodau Cyfrifol wedi gwneud unrhyw sylwadau arno.
Dywedodd yr Arweinydd Trwyddedu, gan ystyried y pwyntiau a godwyd yn ei adroddiad a sylwadau'r awdurdodau cyfrifol eraill / unigolion eraill, pe bai'r cais am amrywiad yn cael ei ganiatáu, ei fod o'r farn y dylid ychwanegu'r amodau ychwanegol a gynigiwyd gan yr Heddlu at y drwydded safle.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed.
Cyfeiriodd yr Arweinydd Llygredd a Llesiant at ei sylwadau ysgrifenedig, fel y nodir yn Atodiad C, a dywedodd, ar ôl cyflwyno'r cais diwygiedig i gadw chwarae cerddoriaeth wedi'i recordio yn y safle ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn, fel y mae ar hyn o bryd, nad oedd ganddo wrthwynebiad i'r cais diwygiedig. Fodd bynnag, pe bai'r amrywiad yn cael ei ganiatáu, gofynnodd i'r Is-bwyllgor ystyried cynnwys 11 amod ychwanegol, fel y'u darllenwyd yn y cyfarfod.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r Arweinydd Llygredd a Llesiant ynghylch y sylwadau a wnaed.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Heddlu at ei sylwadau ysgrifenedig, fel y nodir yn Atodiad D, yn manylu ar ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal yn y gorffennol ac at eu pryderon y gallai agor y safle dan sylw yn hwyrach olygu bod gweithgareddau meddwol yn hwyr yn y nos yn dychwelyd. Er nad oeddent yn gwrthwynebu'r amrywiad, gofynnodd yr Heddlu am i'r 16 amod a awgrymwyd yn eu sylwadau gael eu hychwanegu at y drwydded safle i hybu'r Amcanion Trwyddedu.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Heddlu ynghylch y sylwadau a wnaed.
Cafwyd sylwadau gan bobl eraill â diddordeb a oedd yn gwrthwynebu'r amrywiad am nifer o resymau. Roedd y rheiny'n cynnwys niwsans s?n yn deillio o gerddoriaeth a chwaraeir yn y safle, ymddygiad gwrthgymdeithasol gan gwsmeriaid, gan gynnwys niwsans s?n, ymladd ar y stryd, troethi a chwydu ar y stryd, anghysonderau honedig rhwng y cais a'r asesiad risg, amseroedd dechrau'r goruchwylydd drws a'r effaith ar fusnesau cyfagos fel y Travel Lodge. Roedd yr ardal i fod yn ardal sy'n addas i deuluoedd a byddai agor clwb nos yn y safle yn groes i'r ethos gwreiddiol y tu ôl i'w datblygiad. Roeddent hefyd yn pryderu y gallai'r profiadau uchod o ymddygiad gwrthgymdeithasol gynyddu yn sgil cynyddu oriau yfed y safle.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r cynrychiolwyr ynghylch eu sylwadau.
Dywedodd deiliad y drwydded safle wrth yr Is-bwyllgor, mewn ymateb i'r cwynion a dderbyniwyd, nad oedd yn ymwybodol o bryderon y trigolion tan ar ôl i'r cais am amrywiad gael ei gyflwyno. Cadarnhaodd, yn dilyn sylwadau gan yr Heddlu ac Iechyd yr Amgylchedd, fod nifer o fesurau wedi'u cyflwyno i liniaru unrhyw effaith ar y trigolion yn sgil gweithrediad y Clockwork Tavern. Dywedodd hefyd nad oedd y cais, ac na fydd byth, yn ffordd o greu clwb nos. Roedd y Clockwork Tavern yn lleoliad byw a chanolfan adloniant a'i nod oedd denu cwsmeriaid dros 21 nad ydynt yn mynd i glybiau nos.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi deiliad y drwydded ynghylch y sylwadau a wnaed.
Amlinellodd cynrychiolydd lesddeiliaid y Clockwork Tavern delerau'r brydles i ddeiliad y drwydded safle a chadarnhaodd y byddai'r brydles yn cael ei dirymu pe bai unrhyw weithgaredd yn cael ei gyflawni yn groes i'r drwydded. Anogodd ethos o gyfathrebu a gofynnodd i'r cyhoedd godi unrhyw bryderon ynghylch gweithrediad y safle gyda hi.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r cynrychiolydd ynghylch y sylwadau a wnaed.
Ar hynny
PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12 i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.
YN OGYSTAL, PENDERFYNWYD bod yr Is-bwyllgor, ar ôl iddo ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd ger ei fron, o'r farn y dylid gwrthod y cais am amrywiad ar gyfer y Clockwork Tavern.
RHESYMAU
Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;
Mae'r Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr awdurdodau cyfrifol ac yn nodi'n benodol nad oes yr un ohonynt yn argymell gwrthod y cais.
Mae'r Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad yw pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid trwydded, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallant roi ystyriaeth briodol iddynt.
Yn yr achos hwn, mae'r Is-bwyllgor yn fodlon bod tystiolaeth wirioneddol y gall seilio ei benderfyniad arni. Yn benodol, mae o'r farn bod y dystiolaeth a roddwyd gan drigolion a busnesau lleol o ran effaith y safle hwn yn gredadwy ac yn gymhellol. At hynny, mae o'r farn bod y dystiolaeth hon yn cael ei chadarnhau gan y dystiolaeth a roddwyd gan yr Heddlu a gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd.
Mae'r Is-bwyllgor hefyd yn rhoi pwys ar farn yr Heddlu, yn seiliedig ar eu profiad proffesiynol, y byddai caniatáu'r cais yn debygol o gynyddu faint o droseddu ac anhrefn sy'n gysylltiedig ag alcohol a niwsans cyhoeddus sy'n gysylltiedig â'r safle.
Mae'r Is-bwyllgor wedi ystyried a ellid mynd i'r afael yn ddigonol â'r materion hyn drwy fabwysiadu cyfres gadarn o fesurau rheoli ac amodau trwydded. Fodd bynnag, ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd ger ei fron, nid yw'r pwyllgor yn fodlon bod amodau'r drwydded a gyflwynwyd yn ddigonol i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd ac mae'n credu na fyddent yn ddigonol i hybu'r amcanion trwyddedu.
Felly, mae'r Is-bwyllgor yn fodlon y byddai caniatáu'r cais, hyd yn oed yn amodol ar amodau arfaethedig y drwydded, yn tanseilio'r amcanion trwyddedu o ran atal troseddu ac anhrefn ac atal niwsans cyhoeddus. Felly, mae'r Is-bwyllgor o'r farn bod gwrthod y cais yn ffordd briodol o hybu'r amcanion hynny ac yn ymateb cymesur i'r materion a nodwyd.
Dogfennau ategol: