Agenda item

YMATEB I LLIFOGYDD MEWN ARGYFWNG - TREFNIADAU DIGWYDDIADAU STORM

Cofnodion:

Derbyniodd y Cabinet adroddiad ar yr Ymateb i Lifogydd Mewn Argyfwng - Trefniadau Digwyddiadau Storm.  Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth fanwl am sut mae'r Cyngor ar hyn o bryd yn delio â digwyddiadau stormydd sy'n achosi llifogydd eang ac yn ymateb iddynt ac yn cynnwys y camau y gellid eu disgwyl gan y Cyngor.

 

Yn ogystal, darparodd yr adroddiad wybodaeth am y camau gweithredu o ran yr ymateb brys a oedd yn cynnwys y cyfnod cynllunio cyn y stormydd, y cyfnod ymateb uniongyrchol a'r cyfnod adfer yn dilyn y stormydd, ynghyd â'r gwaith glanhau. Cyfeiriwyd hefyd at agweddau ehangach yr ymateb yn ystod y cyfnod adfer ar ôl y digwyddiad.

 

 

Gofynnodd yr adroddiad i'r Cabinet ystyried a chymeradwyo'r egwyddorion arfaethedig ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau llifogydd yn ystod argyfwng fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Er bod y Cyngor yn gwneud cymaint ag y gall o fewn ei gyfrifoldeb diffiniedig, mynegodd Aelodau'r Cabinet fod yr adroddiad hwn yn dangos yn glir i'r cyhoedd fod nifer o sefydliadau, asiantaethau ac awdurdodau partner eraill sydd hefyd yn gyfrifol am ddelio â pherygl llifogydd a stormydd a'u rheoli.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i gymeradwyo'r egwyddorion a nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer ymateb i lifogydd yn ystod y cam ymateb i argyfwng fel a ganlyn:

 

a.   rhaid blaenoriaethu ymateb sylfaenol y Cyngor pan fo stormydd o ran y risg i fywyd, risg o anaf a risg i asedau strategol, gan ystyried ei rwymedigaethau mewn perthynas ag asedau sy'n eiddo i'r Cyngor a chyfrifoldebau statudol ehangach sy'n ymwneud â'r amgylchiadau.

 

b.   bydd y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed Powys ac ar draws ystod o wasanaethau'r Cyngor i benderfynu ar ei ymateb drwy nodi ei amcanion, ei strategaeth gyffredinol a'i flaenoriaethau fel y bo'n briodol.

 

c.   Bydd achosion o lifogydd mewnol yn cael blaenoriaeth dros lifogydd mewn gerddi ac adeiladau allanol, yn enwedig lle credir bod asedau'r Cyngor yn ffactorau sy’n cyfrannu at hyn. Dylid nodi yn gyffredinol nad yw cyrsiau d?r yn eiddo i'r Awdurdod na Chyfoeth Naturiol Cymru.Fel arfer, cyfrifoldeb tirfeddianwyr glannau afon yw cyrsiau d?r o'r fath.

 

d.   Bydd perchnogion tai a busnesau sydd wedi dioddef llifogydd yn y gorffennol yn cael eu hannog i wneud paratoadau cyn digwyddiadau storm er mwyn lliniaru maint difrod y llifogydd i'w heiddo eu hunain.

 

e.   Er bod y Cyngor yn fodlon rhoi rhybudd i fusnesau am stormydd sydd ar y ffordd yn seiliedig ar y rhagolygon y mae'n ei dderbyn, ni ellir dibynnu ar y Cyngor yn hyn o beth fel y brif ffynhonnell wybodaeth gan na all y Cyngor ddarparu gwasanaeth ffurfiol sy'n rhybuddio am lifogydd. Anogir busnesau a deiliaid tai i ymuno â systemau rhybuddio Cyfoeth Naturiol Cymru lle bo hynny ar gael.

 

f.     Aelwydydd a Busnesau - bydd maint y cymorth corfforol a ddarperir yn syth ar ôl digwyddiad llifogydd, os yw'n briodol, yn cael ei bennu ar sail graddfa, natur a difrifoldeb digwyddiad o'r fath. Pennir hyn gan Gr?p Rheoli Aur y Cyngor neu'r Tîm Rheoli Corfforaethol fel y bo'n briodol ar gyfer y digwyddiadau mwyaf difrifol.

 

g.   Cymorth ariannol – bydd maint y cymorth ariannol a allai fod yn briodol yn cael ei bennu gan y Gr?p Rheoli Aur neu'r Tîm Rheoli Corfforaethol ar ôl ystyried yr amgylchiadau. Eithriad yw'r math hwn o gymorth a dim ond mewn digwyddiadau eithafol y caiff ei ystyried. Mewn rhai amgylchiadau ar ôl llifogydd difrifol, gall Llywodraeth Cymru ddarparu cymorth grant y gellir ei weinyddu drwy'r Cyngor. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn wir ar gyfer bob storm.

 

 

Dogfennau ategol: