Agenda item

ADRODDIAD TERFYNOL GRWP GORCHWYL A GORFFEN -CYNLLUN DIOGELU RHAG CAMFANTEISIO ARIANNOL (FESS) - GWASANAETHAU SAFONAU MASNACH

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad diwygiedig y Gr?p Gorchwyl a Gorffen yr oedd wedi'i sefydlu ar 10 Mehefin 2019, er mwyn adolygu'r Gwasanaethau Safonau Masnach - Cynllun Diogelu rhag Camfanteisio Ariannol (FESS).

 

Esboniodd Cadeirydd y Gr?p Gorchwyl a Gorffen fod yr argymhellion a gynhwysir yn yr adroddiad wedi cael eu llunio gan y Gr?p ar ôl ystyried ystod o dystiolaeth dros gyfres o gyfarfodydd a gynhaliwyd rhwng Gorffennaf 2019 ac Ebrill 2021, fodd bynnag oherwydd y pandemig Covid-19  bu bwlch byr o ran cyfnod yr adolygiad yn ystod 2020.

 

Cwmpas yr adolygiad oedd gweld a oedd y portffolio o atal troseddau, cefnogi dioddefwyr a gweithgareddau addysg a gyfunwyd o fewn Cynllun Diogelu rhag Camfanteisio Ariannol FESS yn darparu strategaeth effeithiol i helpu i frwydro yn erbyn twyll a hyrwyddo amcanion iechyd a llesiant corfforaethol.

 

Dywedodd aelod o'r gr?p Gorchwyl a Gorffen fod yr adolygiad wedi bod yn ddiddorol ac yn addysgiadol a chanmolodd y Gwasanaeth Safonau Masnach am yr holl waith amhrisiadwy mewn perthynas â'r fenter FESS.

 

Ni chodwyd unrhyw ymholiadau na sylwadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’i gyflwyno at sylw'r Bwrdd Gweithredol i'w ystyried.

 

 

Dogfennau ategol: