Cofnodion:
Aeth y Pwyllgor ati i ystyried Cynllun Busnes Drafft 2021/22 Adran yr Amgylchedd mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny o fewn ei faes gorchwyl fel a ganlyn:
Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd yr adroddiad gan egluro bod y Cynllun Busnes yn darparu crynodeb o'r camau gweithredu a'r mesurau allweddol sy'n ofynnol i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Strategaeth Gorfforaethol ac Amcanion Llesiant y Cyngor ac fe'i cefnogwyd gan gynlluniau adrannol manwl a oedd yn destun adolygiad rheolaidd.
Rhoddwyd gwybod, oherwydd pandemig Coronafeirws COVID-19, fod y cynllun yn gynllun cryno, gan y byddai fel arfer yn cynnwys adran adolygu, a gafodd sylw yn Asesiadau Effaith COVID-19 ar Wasanaethau a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Craffu o'r blaen.
Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:
· Gofynnwyd am eglurhad am gamau gweithredu a beth fyddai llwyddiant yn ei olygu. Gofynnwyd am y camau gweithredu allweddol a sut yr oedd y mesurau sy'n priodoli'r camau gweithredu yn gysylltiedig?
Esboniodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod y cynlluniau busnes wedi cael eu cyflwyno mewn dull gwahanol eleni oherwydd y pandemig. Cafodd y pandemig effaith ar amseriad arferol datblygiad Cynlluniau Busnes gan fod gofyn i swyddogion ganolbwyntio ar ymateb i'r pandemig. Felly, gwnaed penderfyniad corfforaethol i gyflwyno fersiwn o'r cynllun ar ffurf tabl a oedd yn wahanol i'r hyn roedd y Pwyllgor wedi ei gael yn y blynyddoedd diwethaf a oedd yn cynnwys y naratif i ddarparu cefndir i'r gweithredu allweddol.
Hefyd, esboniodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ddiben Cynlluniau Busnes gan fod y cynlluniau busnes yn galluogi adrannau i nodi'r meysydd gwaith y byddai'n parhau i'w cyflawni. Roedd hyn yn bwysig i sicrhau y byddai'r cynllun, pe bai arbedion effeithlonrwydd yn cael eu gwneud, yn darparu esboniad yngl?n â sut y byddai gwasanaethau'n parhau i gael eu darparu. Yn ogystal, defnyddiwyd y cynlluniau fel platfform i nodi dyheadau a chwilio am gyfleoedd newydd.
· Mewn ymateb i sylw a godwyd yn awgrymu bod y Cynllun Busnes yn generig iawn ac y byddai mwy o fanylion ar amserlenni yn fuddiol, pwysleisiodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod Cynllun Busnes 2021/22 wedi'i ddatblygu mewn fformat cryno a phe bai gan y Pwyllgor adborth cyffredinol ar y modd yr ysgrifennwyd y Cynlluniau Busnes, byddai angen trafodaethau pellach. Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ei bod yn croesawu barn y Pwyllgorau o ran datblygu cynlluniau busnes yn y dyfodol, ond o ran y cynllun hwn, byddai'n fuddiol cael gwybodaeth am ba gamau yr hoffai'r Pwyllgor gael rhagor o wybodaeth amdanynt. Rhoddodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar i'r Pwyllgor o ran y datblygiadau i'r sector Trafnidiaeth.
· Yng ngoleuni'r sylwadau a godwyd ynghylch cynnwys y cynlluniau busnes, nododd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod Cynlluniau Busnes Adrannol yn lefel uchel a'u bod yn derbyn cefnogaeth gan Gynlluniau Busnes Adrannol sy'n darparu rhagor o wybodaeth. Fodd bynnag, roedd wedi nodi'r sylwadau a byddai'n ystyried y camau ymhellach gan sicrhau bod gan bob un fesur cyfatebol er mwyn asesu effaith y camau gweithredu.
· Cyfeiriwyd at y mesurau yn y Cynllun Busnes. Nodwyd bod y mesurau'n defnyddio canrannau trwy'r cynllun a dywedwyd nad yw canrannau fel mesur bob amser yn rhoi'r darlun cywir. Gofynnwyd a oedd hi'n bosibl newid canrannau i rifau. Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod y mesurau wedi'u mynegi'n gorfforaethol gan ddefnyddio dull canrannau, ond cydnabu ei bod yn bwysig deall y rhifau hefyd a chytunodd y gallai canrannau bortreadu darlun gwahanol mewn perthynas â niferoedd isel. Er mwyn darparu mwy o eglurder, nododd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd y byddai'n mynegi'r wybodaeth hon i'r tîm perfformiad i holi a oedd modd rhannu canlyniadau trwy rifau yn ychwanegol at ganrannau.
· Codwyd pryder arall mewn perthynas â'r mesurau, gan gyfeirio'n benodol at ffyrdd gwledig dosbarth B a C. Dywedwyd bod y gwaith ar y ffyrdd hyn wedi cael ei addo ers sawl blwyddyn bellach ond nad oedd wedi'i gwblhau eto. Gofynnwyd sut y gellid gwella'r rhain wrth symud ymlaen a chytunwyd bod angen rhagor o eglurder yn y mesurau. Esboniodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod y manylion ar gyflwr ffyrdd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd a'r adroddiad cyflwr ar wahân sy'n darparu adolygiad o'r rhwydwaith o ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin a ystyrir gan Aelodau'r Pwyllgor Craffu yn flynyddol. Yn ogystal, mae'r gyllideb sy'n gostwng yn barhaus yn cael effaith ar y gwaith o wella ffyrdd, fodd bynnag, mae'r adran yn parhau i geisio cyllid grant.
· Mewn ymateb i'r sylwadau a godwyd ynghylch y camau gweithredu a'r mesurau, esboniodd yr Uwch-swyddog Rheoli Perfformiad y byddai'r broses adolygu'n cynnwys adroddiad monitro chwarterol a gyflwynir i'r Pwyllgor a fyddai wedyn yn rhan o’r adroddiad Blynyddol.
· Mewn ymateb i sylwadau a godwyd, awgrymodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd y dylai Aelodau'r Pwyllgor ystyried y Cynlluniau Is-adrannol sy'n cynnwys rhagor o wybodaeth.
· Dywedwyd ei bod yn ymddangos bod dull anghyson rhwng adrannau.
Yng ngoleuni'r sylwadau a godwyd, cynigiodd y Cadeirydd na ddylai'r pwyllgor dderbyn Cynllun Busnes Drafft Adran yr Amgylchedd 2021/22 a cheisio cynnwys gwybodaeth bellach yn y camau a'r mesurau sy'n mynd i'r afael â'r sylwadau a godwyd a bod Cynllun Busnes drafft Adran yr Amgylchedd 2021/22 yn cael ei gyflwyno i'w ystyried yn y cyfarfod nesaf. Eiliwyd y cynnig hwn.
Dogfennau ategol: