Agenda item

PROSIECT ATYNNU PENTWYN

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad PowerPoint ynghylch datblygiad Prosiect Denu Twristiaid i Bentywyn gwerth £6.7m a oedd yn cynnwys amserlenni cyflawni arfaethedig, opsiynau llywodraethu yn y dyfodol, rhagolygon ariannol lefel uchel, camau allweddol a chyfathrebu i'r dyfodol.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Cadarnhawyd nad oedd y 10 lle parcio dros nos i gartrefi modur a ddarparwyd gan Gyngor Cymuned Pentywyn yn cynnwys lleoedd parcio i garafanau teithio.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch yr amcangyfrif o'r swm ychwanegol o £3.3m y flwyddyn y gallai'r datblygiad ei greu i'r gymuned leol, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr amcangyfrif yn seiliedig ar gyfrifiad o niferoedd ymwelwyr Croeso Cymru a'i fod yn gysylltiedig â thair elfen. Roedd y cyntaf mewn perthynas â'r ffaith bod ymwelwyr yn gwario £23 y person bob dydd ar gyfartaledd ac amcangyfrifwyd y gallai'r atyniad ddenu 40,000 o ymwelwyr dydd ychwanegol pan fyddai'n gwbl weithredol. Yn ail, roedd ymwelwyr dros nos yn gwario £93 ar gyfartaledd ac amcangyfrifwyd y byddai 6,500 o arosiadau dros nos ychwanegol. Yn drydydd, byddai ymwelwyr dydd sy'n aros yn hirach yn yr ardal yn gwario £3-£5 y person yn ychwanegol ar luniaeth ac ati. Yn ogystal, roedd effaith ehangach twristiaeth; byddai lluosydd o 1.5 i 1 am bob punt a wariwyd yn cael ei ailgylchredeg yn y gymuned.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y potensial i gysylltu'r ganolfan ddenu â'r cyfleusterau yn y Ganolfan Addysg Awyr Agored, cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod yr opsiwn hwnnw'n cael ei archwilio yn arbennig o ran misoedd prysur yr haf;

·       Cyfeiriwyd at y Trefniant Rheoli ar y Cyd arfaethedig gyda Chyngor Cymuned Pentywyn. Cadarnhawyd y byddai unrhyw incwm dros ben a gynhyrchir gan y ganolfan yn cael ei neilltuo ar gyfer adfywio Pentywyn. Pe bai'r cytundeb hwnnw'n dod i ben, byddai unrhyw arian sy'n weddill yn cael ei rannu rhwng y Cyngor Sir a'r Cyngor Cymuned pro rata yn ôl lefel buddsoddiad pob parti.

·       Cyfeiriwyd at drefniadau rheoli'r hostel yn y dyfodol ac a fyddai'n bosibl iddi gael ei defnyddio at ddibenion eraill, er enghraifft, at ddibenion addysgol trwy ddysgu pobl sut i weithredu sefydliadau arlwyo.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod defnyddio'r ganolfan at ddibenion eraill wedi cael ei archwilio, er enghraifft, darparu llety ar gyfer y Ganolfan Addysg Awyr Agored ond gallai hynny ddod yn ddarpariaeth addysgol bron wedi hynny, a oedd yn swyddogaeth statudol. Roedd defnyddiau eraill yn cynnwys darparu mannau seibiant ar gyfer gofal cymdeithasol a thwristiaeth ac ati. Fodd bynnag, roedd un o'r materion mewn perthynas â sut y bydd y ganolfan yn cael ei gweithredu yn ymwneud â'r hyn y gallai'r Cyngor, fel awdurdod lleol, ei wneud ei hun neu fel rhan o Drefniant Rheoli ar y Cyd gyda'r Cyngor Cymuned, a gofynnwyd am eglurder cyfreithiol ynghylch yr agwedd honno.

 

O ran trefniadau rheoli'r hostel yn y dyfodol, roedd trafodaethau'n parhau o ran a fydd yn cael ei rheoli'n fewnol neu drwy drydydd parti a byddai'r Cyngor yn cynnal ymarfer marchnata i brofi faint o ddiddordeb sydd. Pe bai'r Cyngor yn gweithredu'r hostel ei hun, roedd potensial ar gyfer cynnydd mewn refeniw a risg. Pe bai'r opsiwn 3ydd parti yn cael ei ystyried, byddai angen i unrhyw gytundeb gynnwys ystyriaethau ariannol megis rhannu elw neu drefniadau rhentu. Byddai'r Cyngor yn cadw perchnogaeth ar yr ased, fel landlord, a byddai gan y gweithredwr, sef y tenantiaid, gyfrifoldebau gweithredol a chynnal a chadw. Roedd y ddau opsiwn wedi bod yn destun modelu ariannol ac roeddent yn hyfyw.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: