Cofnodion:
Cafodd y Cyd-bwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ariannol ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20 hyd at 31 Rhagfyr 2019, a nododd fod gwaith yn cael ei wneud i gwblhau'r adroddiad hyd at ddiwedd y flwyddyn. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth fanwl benodol mewn perthynas â'r canlynol:
· Cyllideb 2019-120 y Tîm Canolog
· Cytundebau Lefel Gwasanaeth
· Dyraniadau Grant 2019-20
· Grantiau 2019-20, (gan gynnwys dadansoddiad yn Atodiad A o'r cyllid ar gyfer strwythur staffio newydd ERW (grant a chyllid craidd)
· Risgiau
· Cronfeydd wrth gefn
Tynnwyd sylw'r Cyd-bwyllgor at dudalen 3 yr adroddiad a oedd yn cyfeirio at y £59k ychwanegol mewn costau dileu swyddi o ganlyniad i wasanaeth parhaus oedd wedi'i hepgor o'r cyfrifiad gwreiddiol o £19k, a gymeradwywyd ar 9 Rhagfyr 2019, gan gynyddu'r gost gyffredinol i £78k. Dywedwyd, er nad oedd y gost ychwanegol wedi'i chynnwys yng nghanlyniad rhagamcanol Tîm Canolog ar gyfer 2019-20 ac na ellid ei hariannu o'r grant oherwydd ei thelerau ac amodau penodol, ei bod wedi'i hariannu a'i bod yn cael ei thalu o'r cronfeydd wrth gefn erbyn hyn.
Tynnwyd sylw'r Cyd-bwyllgor hefyd at ddatblygu chwe gr?p strategol (321) ERW a throsglwyddo £32.5 miliwn iddo a oedd angen ei gymeradwyo.
PENDERFYNWYD
9.1 |
Nodi sefyllfa ariannol ERW wedi'i diweddaru fel yr oedd ar ddiwedd Chwarter 3 blwyddyn ariannol 2019-20 a'r sefyllfa alldro ddrafft ar gyfer 2019-20 |
9.2 |
Cymeradwyo trosglwyddo arian i'r chwe gr?p strategol (321) |
9.3 |
Nodi bod y £59k ychwanegol mewn costau statudol o ganlyniad i wasanaeth parhaus swydd yr Arweinydd Cymorth Uwchradd wedi'i ariannu ac na fyddai'n cael ei dalu o'r cronfeydd wrth gefn erbyn hyn |
Dogfennau ategol: