Agenda item

Y PWYLLGOR CRAFFU - CYMUNEDAU ADOLYGIAD GORCHWYL A GORFFEN 2014/15 - DIWEDDARIAD - EIDDO GWAG YN SIR GAERFYRDDIN

Cofnodion:

Yn unol â'r drafodaeth a gafwyd yn ei gyfarfod ar 11 Mai 2018, cafodd y Pwyllgor gyflwyniad PowerPoint am y cynnydd a wnaed o ran gweithredu argymhellion ei Gr?p Gorchwyl a Gorffen blaenorol yn 2014/15 ynghylch Eiddo Gwag yn Sir Gaerfyrddin, a oedd â'r prif nod o gyflawni'r canlynol:-

Ø  Nodi a gwerthuso'r gweithgareddau presennol a wneir gan yr Is-adran Tai a Diogelu'r Cyhoedd;

Ø  Nodi gwelliannau posibl a modelau darparu eraill;

Ø  Llunio argymhellion i'w hystyried gan y Bwrdd Gweithredol.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod y cyflwyniad:-

 

·        Mewn ymateb i gwestiwn am y costau atgyweirio o £49k i un eiddo a nodir yn yr adroddiad, amlinellodd y Cydgysylltydd Eiddo Gwag lefel y gwaith a wnaed yn yr eiddo dan sylw a dywedodd, er y gall wedi bod yn bosibl i unigolyn preifat gomisiynu'r rheiny ar gyfradd is, fod y Cyngor wedi llunio fframwaith contractwyr a Rheolau o ran Gweithdrefnau Contractau i'w defnyddio/dilyn wrth ddyfarnu contractau ar gyfer gwaith. Nodwyd bod Fframwaith Contractwyr y Cyngor wedi bod yn destun proses dendro gystadleuol a sicrhawyd bod y costau mor isel â phosibl.

·        Mewn ymateb i gwestiwn am yr incwm Adran 106 posibl a ddefnyddir i adnewyddu eiddo gwag, dywedodd y Pennaeth Dros Dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod y broses o ddyrannu'r incwm hwnnw yn amodol ar gyflwyno achos busnes. Os yw hynny'n llwyddiannus, mae'n rhaid defnyddio'r arian yn unol â pholisi'r Cyngor er mwyn prynu tai mewn ardaloedd lle mae angen.

·        O ran cwestiwn am ddefnyddio'r asiantaeth Gosod Syml, cadarnhawyd ei bod wedi'i sefydlu, a'i bod yn cael ei gweithredu gan y Cyngor i gynorthwyo darpar denantiaid i gael tenantiaethau. Hefyd, roedd yn hyrwyddo'r ethos o helpu pobl i helpu eu hunain drwy eu cyfeirio at asiantaethau gosod eraill.

·        Cyfeiriwyd at yr amserau amrywiol y gallai tai fod yn wag, sy'n amrywio o ychydig fisoedd i nifer o flynyddoedd a gofynnwyd a oedd unrhyw gymhellion ar gael i'r Cyngor annog perchenogion tai i leihau'r amser hwnnw, er enghraifft, drwy'r dreth gyngor.

 

Dywedodd y Pennaeth Dros Dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel, er bod y posibilrwydd hwnnw wedi'i drafod, roedd barn y gallai arwain at leihad yn refeniw'r dreth gyngor ar gyfer yr awdurdod, yn enwedig yn y tymor byr. Fodd bynnag, rhoddodd sicrwydd fod trafodaethau'n cael eu cynnal yn barhaus er mwyn nodi'r ffyrdd o leihau'r amserau hynny.

·        Mewn ymateb i gwestiwn am Fenthyciadau Gwella Cartrefi a'r Cynllun Troi Tai'n Gartrefi, cadarnhawyd bod y Cyngor wedi cael grantiau gan Lywodraeth Cymru gwerth cyfanswm o £1.9m, dros dri cham, a fydd yn galluogi 70 o eiddo i gael eu hadnewyddu. Mae pob benthyciad yn cael ei roi yn amodol ar gael ei ad-dalu o fewn cyfnod o 2 flynedd ac mae bron £1m wedi'i ad-dalu i'r gronfa hyd yn hyn, sydd wedi'i ailddefnyddio i roi mwy o fenthyciadau.

·       Fel rhan o'i ymchwiliadau, ymwelodd y Gr?p Gorchwyl a Gorffen ag oddeutu 10 eiddo, a chadarnhawyd bod pob un ohonynt heblaw am y 4 y manylwyd arnynt yn y cyflwyniad wedi'u hadnewyddu.

·       Cadarnhawyd bod nifer yr eiddo gwag sy'n cael eu defnyddio eto wedi cynyddu bob blwyddyn hyd at 184 yn ystod 2017/18, o'i gymharu â chyfanswm i 60 yn 2010/11.

·       Cyfeiriwyd at y 2,554 o eiddo'r sector preifat yn Sir Gaerfyrddin a oedd wedi bod yn wag ers 6 mis neu ragor ac a yw'r rheiny eu rhestru yn ôl wardiau ac os nad ydynt, a ellid rhoi'r wybodaeth honno i'r aelodau.

 

Cadarnhawyd y gallai swyddogion archwilio'r posibilrwydd o ledaenu'r wybodaeth honno er nad yw'r rhestr bresennol o eiddo gwag wedi'u rhannu'n wardiau. Yn ogystal, gellid anfon llythyr at holl aelodau'r Cyngor yn gofyn iddynt roi manylion i'r Adran ynghylch unrhyw eiddo gwag yn eu wardiau nad ydynt wedi'u cynnwys ar y rhestr bresennol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru ar Gr?p Gorchwyl a Gorffen blaenorol y Pwyllgor ynghylch Eiddo Gwag yn Sir Gaerfyrddin.

 

Dogfennau ategol: