Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN 2016/17 - DRAFFT

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer 2016/17 a oedd yn ymgorffori adroddiad cynnydd yr ail flwyddyn ar Strategaeth Gorfforaethol 2015-20, (a oedd yn cynnwys y Crynodeb o Adroddiad Blynyddol 2016/17) a'r Adroddiad Blynyddol llawn yr oedd rhaid ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn fel un o ofynion y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru).

 

Nodwyd bod yr Awdurdod, pan gyhoeddwyd y Strategaeth Gorfforaethol yn 2015/20, wedi mynd ati i lunio adroddiad cynnydd blynyddol yn pennu 24 o fesurau canlyniadau er mwyn barnu perfformiad yn eu herbyn.    Byddai'r Strategaeth Gorfforaethol yn cael ei hadolygu yn 2018/19 er mwyn ymgorffori Amcanion Llesiant y Cyngor yn ôl gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Codwyd y sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·        Cyfeiriwyd at y cynnydd o 0.7% mewn lefelau absenoldeb salwch yn yr Awdurdod, sef o 10.1% i 10.8%, a mynegwyd y farn y dylai'r Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau, yr oedd ei faes gorchwyl yn cynnwys lefelau absenoldeb staff, gymryd camau brys i archwilio'r rhesymau dros y cynnydd hwnnw, o bosibl trwy ail-edrych ar waith ei gr?p gorchwyl a gorffen blaenorol ar lefelau salwch y staff.

·        Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â'r camau gweithredu i leihau nifer yr atgyfeiriadau at wasanaethau cymdeithasol oedolion a phlant, dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod nifer yr atgyfeiriadau, yn gyffredinol, yn lleihau trwy ddefnyddio Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth. Yn flaenorol, y sefyllfa oedd y byddai atgyfeiriadau'n cael eu cyfeirio'n awtomatig at y Gwasanaethau Cymdeithasol. Nid oedd hynny'n digwydd mwyach gan y byddai defnyddwyr gwasanaeth, yn dilyn asesiad sylfaenol, yn awr yn cael eu cyfeirio cyn gynted ag y bo modd at y gwasanaeth gofal mwyaf priodol gan sicrhau mai'r gwasanaeth hwnnw oedd yr un cywir a pherthnasol.

·        Cyfeiriwyd at y thema ‘Adeiladu Gwell Cyngor’ a'r camau gweithredu i 'gynyddu'r cyfathrebu, yr ymgynghori a'r ymgysylltu â'r cyhoedd'.
 Dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth fod y Cyngor wrthi'n ail-edrych ar ei strategaeth ymgynghori ac ymgysylltu corfforaethol yng ngoleuni darpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Byddai adroddiad ar ganlyniad yr adolygiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor trwy'r gweithdrefnau adrodd arferol.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y cyfrifoldeb i ymgymryd ag asesu lefel y cymorth ar gyfer cymunedau ledled y Sir o dan ddarpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, cynghorwyd y Pwyllgor mai'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus oedd â'r cyfrifoldeb hwnnw, ond y byddai angen i'r Cyngor gyfrannu at wneud mwy o waith lleol yn hynny o beth yn y dyfodol.

·        Cyfeiriwyd at dudalen 17 o'r adroddiad ac at y datganiad a oedd yn dweud bod y defnydd o ynni adnewyddadwy wedi mwy na dyblu. Gofynnwyd am eglurhad yngl?n ag a oedd y defnydd cyfan hwnnw, a oedd yn cynrychioli llai na 1% o gyfanswm yr ynni a ddefnyddid, o ganlyniad i fod yr Awdurdod yn cynyddu'r trydan y mae'n ei gynhyrchu ei hun, neu'n cynyddu'r swm a brynir.  Mynegwyd y farn y gellid darparu adroddiad i'r Cyngor ar lefel y trydan a gaiff ei gynhyrchu a'i brynu a pha ganran o hynny oedd yn ynni gwyrdd.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor, er bod y pwnc o fewn maes gorchwyl y Pwyllgor Craffu – Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd, y gellid gwneud trefniadau i rannu'r wybodaeth â'r Pwyllgor Craffu - Cymunedau.

Adroddodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd y byddai'r Is-adran Gwasanaethau Tai yn tendro cyn hir am gael celloedd ffotofoltaidd lle byddai'n briodol ar gyfer ei 9,000 o dai, a allai gynyddu'r trydan y gallai'r Cyngor ei gynhyrchu yn sylweddol.

·        Cyfeiriwyd at y newidiadau diweddar a wnaed i wasanaeth casglu gwastraff gardd y Cyngor a gofynnwyd am wybodaeth ynghylch effaith y newidiadau hynny mewn perthynas ag unrhyw anawsterau a wynebir, ffigurau defnydd ac unrhyw effaith ariannol. Dywedwyd wrth y Pwyllgor, er bod y pwnc o fewn maes gorchwyl y Pwyllgor Craffu – Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd, y gellid gwneud trefniadau i rannu'r wybodaeth â'r Pwyllgor Craffu - Cymunedau.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

8.1

Bod Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2016/17 yn cael ei dderbyn.

8.2

Bod cais yn cael ei wneud i'r Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau am iddo ystyried y cynnydd mewn lefelau salwch staff yn yr Awdurdod, o bosibl trwy ail-edrych ar waith ei gr?p gorchwyl a gorffen blaenorol yn hynny o beth.

 

 

 

Dogfennau ategol: