Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd C. Campbell.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNODION - 31AIN GORFFENNAF 2017 PDF 367 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf, 2017 yn gywir yn amodol ar y newid isod:
· Cynnwys y canlynol yn rhestr y rhai a oedd yn bresennol: ‘Yn bresennol fel sylwedyddion:- Cynghorwyr D.M. Cundy, E.E. Edwards, J.S. Edmunds, R. James a J. Prosser;’ · Cynnwys enw'r Cynghorydd D.M. Cundy o dan gofnod 6, 10,11 a 15 fel yr aelod a oedd yn mynegi pryder [cofnod 6], yn gofyn cwestiwn [cofnod 10 ac 11 a 14] ac yn gwneud sylw [cofnod 15]; · Dylid diwygio'r penderfyniad yng nghofnod 16 i ddarllen: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo penodi aelodau i wasanaethu ar Banelau Ymgynghorol y Bwrdd Gweithredol a chyrff allanol fel y nodir yn yr atodlen a ddosbarthwyd…..’
|
|
CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn cynnwys manylion ynghylch y cynnig i gynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol Gynradd Gorslas o 110 i 210 o 1 Medi 2019 pan fyddai'r adeilad ysgol newydd yn cael ei gwblhau. Roedd y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant, yn ystod ei gyfarfod ar 28 Medi 2017 wedi penderfynu cymeradwyo'r cynnig. Nododd swyddogion yr angen i ddiwygio'r rhestr o ymgyngoreion i gynnwys, er enghraifft, y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus sydd wedi disodli'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol ac i gyfeirio at y ffaith bod yr arolwg o Ysgol Gynradd Gorslas cyn yr ymarfer bwrdd gwaith a gynhaliwyd yn 2015 wedi'i gynnal yn 2010. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod swyddogion yn dechrau proses ymgynghori ffurfiol yn ystod Tymor yr Hydref 2017 ynghylch y cynnig uchod ac yn adrodd yn ôl i'r Bwrdd Gweithredol ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori statudol.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad a oedd yn nodi manylion y cynnig i safoni darpariaeth addysg feithrin yr awdurdod lleol yn ardaloedd Porth Tywyn a Phen-bre. Ysgol cyfrwng Cymraeg yw Ysgol Parc y Tywyn sydd ag ystod oedran rhwng 4-11 ac sy'n rhannu'r un dalgylch ag Ysgol Gymunedol Porth Tywyn ac Ysgol Pen-bre gyda'i gilydd, sydd ill dwy yn ysgolion cyfrwng Saesneg ag ystod oedran rhwng 3-11. Roedd y cynnig hwn felly'n ceisio safoni'r addysg feithrin yn yr ardal drwy sicrhau bod yr un lefel o ddarpariaeth yn cael ei darparu ar gyfer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg a'r ysgolion cyfrwng Saesneg yn ardaloedd Porth Tywyn a Phen-bre. Nodwyd bod y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant yn ei gyfarfod ar 28Medi 2017, wedi penderfynu cymeradwyo'r cynnig. Mynegwyd y farn y byddai modd gobeithio, i ymestyn darpariaeth o'r fath ar draws y Sir er mwyn sicrhau cysondeb. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod swyddogion yn dechrau proses ymgynghori ffurfiol yn ystod Tymor yr Hydref 2017 ynghylch y cynnig uchod ac yn adrodd yn ôl i'r Bwrdd Gweithredol ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori statudol. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn tynnu sylw at y sefyllfa bresennol a'r effeithiau cysylltiedig petai'r arbedion cyllideb 2017/18 ar gyfer Cyngor ar Bopeth Sir Gaerfyrddin y cytunwyd arnynt gan y Cyngor ar 22 Chwefror 2017 yn cael eu rhoi ar waith. Roedd y darparwr gwasanaeth wedi nodi petai gostyngiadau o £35k yn cael eu gweithredu ar gyfer 2017/18 y byddai hyn yn cael effaith uniongyrchol ar y gwasanaeth, yn benodol lleihau staffio gyda diswyddiadau gorfodol, cau neu leihau oriau agor a llai o gymorth ar gael yngl?n â budd-daliadau a dyled cleientiaid. Roedd felly wedi gofyn am ailystyried y gostyngiadau ariannol hyn oherwydd y cyfnod byr o amser i'w gweithredu ac i ganiatáu cyfnod ymgynghori llawn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo gwrthdroi'r penderfyniad i dorri £35k yn 2017/18 a gofyn am adolygiad o'r cynigion ynghylch arbedion effeithlonrwydd ar gyfer Cyngor ar Bopeth Sir Gaerfyrddin o ran Strategaeth Cyllideb y Cyngor 2018/19.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad yn manylu ar y diwygiadau arfaethedig i'r Weithdrefn Cwynion a Chanmoliaeth a Pholisi Gweithredu Annerbyniol gan Achwynwyr presennol y Cyngor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r weithdrefn Cwynion a Chanmoliaeth Cwsmeriaid diwygiedig a'r Polisi Gweithredu Annerbyniol gan Achwynwyr diwygiedig.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau rheoli'r trysorlys o 1 Ebrill, 2017 hyd at 30 Mehefin, 2017. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR PDF 193 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 30 Mehefin 2017, o ran 2017/2018. Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai gorwariant diwedd blwyddyn o £2,289k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £3,198k ar lefel adrannol. Roedd y Cyfrif Refeniw Tai yn rhagweld tanwariant o £226k i ddiwedd y flwyddyn. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod yr adroddiad ynghylch monitro'r gyllideb yn cael ei dderbyn.
|
|
DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2017-18 PDF 103 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran sefyllfa derfynol y gyllideb ar gyfer rhaglen gyfalaf 2017/18 ar y 30Mehefin, 2017. Yn adrannol rhagwelwyd gwariant net o £56,921k o gymharu â chyllideb net weithredol o £82,640k gan roi £25,719k o amrywiant. Cynghorwyd yr aelodau y byddai'r amrywiant yn cael ei gynnwys yn y blynyddoedd sydd i ddod, oherwydd byddai'n ofynnol cael y cyllid i sicrhau bod y cynlluniau'n cael eu cwblhau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru ynghylch y rhaglen gyfalaf.
|
|
MONITRO DYFROEDD YMDROCHI YN SIR GAERFYRDDIN PDF 254 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gyfeirio at Gofnod 5 o gyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 22Chwefror 2017 a'r Rhybudd o Gynnig a fabwysiadwyd, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad yn amlinellu'r gofynion presennol o gyrraedd safon 'traethau ymdrochi dynodedig' a'r opsiynau o ran samplu ac arwyddion yn y dyfodol, yn enwedig o ran Moryd Byrri a Doc y Gogledd. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL 13.1 bod y rhaglen bresennol i fonitro dyfroedd ymdrochi yn dirwyn i ben ac eithrio monitro ansawdd y d?r yn Noc y Gogledd, Llanelli;
13.2 adolygu arwyddion rhybuddio presennol i sicrhau eu bod yn gywir, yn briodol ac yn cyfeirio'r cyhoedd yn glir i'r traethau ymdrochi dynodedig swyddogol yn Sir Gaerfyrddin.
|
|
PENDODI'R CYNGHORYDD F. AKHTAR I PANEL YMGYNGHOROL YR AELODAU AR YR IAITH GYMRAEG YN LLE'R CYNGHORYDD S. CURRY Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL penodi'r Cynghorydd F. Akhtar i wasanaethu ar y Panel Ymgynghorol yr Aelodau ar yr Iaith Gymraeg yn lle'r Cynghorydd S. Curry.
|
|
FFORWM Y GYMRAEG MEWN ADDYSG PDF 176 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar y trefniadau ar gyfer Fforwm y Gymraeg mewn Addysg.Gan fod Bwrdd Gweithredol/Cyngor newydd roedd angen ystyried ac adolygu aelodaeth y fforwm hwn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gadarnhau penodiad y Cynghorwyr Sir canlynol fel aelodau Fforwm y Gymraeg mewn Addysg:-
Yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg yn ogystal â 6 aelod (2 o bob gr?p gwleidyddol):- Plaid Cymru: Y Cynghorwyr Darren Price a Cefin Campbell; Llafur: Y Cynghorwyr Dot Jones a Shahana Najmi; Y Gr?p Annibynnol: Y Cynghorwyr Andrew James a Sue Allen.
|
|
CYNLLUN BUDDSODDI - GWEITHIO YSTWYTH PDF 178 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn dilyn cofnod 8 o gyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 2 Mai 2017 pan gafodd Polisi Gweithio Ystwyth diwygiedig ei gymeradwyo, rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad a oedd yn nodi'r goblygiadau o ran costau a'r arbedion sy'n gysylltiedig â gweithredu'r prosiect ar draws yr awdurdod. Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd D. Cundy ynghylch sut y byddai modd sicrhau'r arbediad blynyddol o £481k , cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau at yr atodiadau yn yr adroddiad. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai'r Polisi yn mynd yn ei flaen mewn modd pwyllog gydag adroddiadau rheolaidd i'r Bwrdd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
16.1 cymeradwyo cyfanswm cyllid o £1.9 miliwn dros 4 blynedd ariannol lle bydd angen cyfanswm buddsoddiad o £405k ar gyfer 17/18 a £861k ar gyfer 18/19 i gefnogi elfennau cynllun cyflawni'r prosiect gweithio ystwyth yn ymwneud ag eiddo, TG a rheoli prosiect gyda'r nod o arbed cyfanswm o £481k bob blwyddyn a £2.433m ar ôl 5 mlynedd; 16.2 cymeradwyo cynigion ar gyfer ariannu'r buddsoddiad cyfalaf fel yr amlinellwyd yn y Goblygiadau Ariannol, gan gynnwys y defnydd o Gronfa Datblygu'r Cyngor i ariannu'r gofyniad cyfalaf o £405k ar gyfer 2017/18; 16.3 helpu i lywio'r Strategaeth Swyddfeydd ddiwygiedig ar gyfer yr Awdurdod drwy gytuno ar ba adeiladau gweinyddol y dylai'r cynllun cyflawni gweithio ystwyth ganolbwyntio arnynt a pha adeiladau y dylid eu rhyddhau, mewn egwyddor, o ganlyniad i effaith y dull ystwyth o weithio. Fodd bynnag, rhoddir cyfarwyddyd i swyddogion i fod yn hyblyg yn eu hymagwedd ac yn agored i gyfleoedd os byddant, ac wrth iddynt godi; 16.4 cyfarwyddo swyddogion i adroddiad ymhellach ar weithredu'r cynllun cyflawni.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiada oedd yn gofyn am gymeradwyo hepgor ffioedd claddu ar gyfer plant hyd at a chan gynnwys plant deunaw mlwydd oed yn unol ag awdurdodau lleol eraill yn Ne Cymru yn dilyn ymgyrch ddiweddar gan yr AS Carolyn Harris. Nodwyd y byddai hepgor y ffioedd hyn yn cael ychydig iawn o effaith ariannol ar yr Awdurdod. Cafodd y cynnig ei groesawu gan y Bwrdd ac awgrymwyd y dylid ei ymestyn i gynnwys hepgor ffioedd claddu ar gyfer plant marw-anedig.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod yr holl ffioedd mewn perthynas â chladdu plant, gan gynnwys plant marw-anedig,hyd at a chan gynnwys plant deunaw oed yn cael eu hepgor.
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN 2016/17 PDF 140 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer 2016/17 a oedd yn cynnwys adroddiad cynnydd yr ail flwyddyn ar Strategaeth Gorfforaethol 2015-20, y Crynodeb o Adroddiad Blynyddol 2016/17 a'r Adroddiad Blynyddol llawn.
Pan gyhoeddwyd y Strategaeth Gorfforaethol yn 2015/20 cytunwyd y byddai adroddiad cynnydd blynyddol yn cael ei gynhyrchu a fyddai'n pennu 24 o fesurau canlyniadau er mwyn barnu cynnydd yr Awdurdod yn eu herbyn. Byddai'r Strategaeth Gorfforaethol yn cael ei hadolygu ar gyfer 2018/19 gan fod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn mynnu bod ein Hamcanion Llesiant yn cael eu cynnwys yn y Strategaeth Gorfforaethol.
Er y cyfunwyd yr Adroddiad Blynyddol a'r Cynllun Gwella yn yr un ddogfen yn y blynyddoedd blaenorol, cafodd y dogfennau hyn eu gwahanu eleni oherwydd roedd yn ofynnol i'r Awdurdod, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gyhoeddi Amcanion Llesiant yr Awdurdod erbyn 31 Mawrth ac felly roedd yn gwneud synnwyr cyhoeddi'r Cynllun Gwella ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod ar y cyd â nhw. Ni fyddai wedi bod yn bosibl llunio'r Adroddiad Blynyddol cyn diwedd y flwyddyn. Nodwyd ei fod yn ofynnol o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) i'r Awdurdod gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar berfformiadau blaenorol erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Adroddiadau.
|
|
RHAGLEN WAITH GYCHWYNNOL Y BWRDD GWEITHREDOL PDF 341 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol, yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, yn ystyried ei Flaenraglen Waith a luniwyd drwy gydgysylltu â'r holl adrannau a Rheolwr Busnes y Bwrdd Gweithredol a oedd yn tynnu sylw at y prif benderfyniadau polisi a chyllidebol oedd i'w gwneud dros y 12 mis nesaf. Nodwyd y byddai'r rhaglen yn dal i gael ei hadolygu a'i chyhoeddi ddwywaith y flwyddyn gan sicrhau y byddai rhaglen gyfredol ar waith yn barhaus. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod y Flaenraglen Waith a ddiweddarwyd yn cael ei chymeradwyo i'w chyhoeddi.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIADAU SY'N YMWNEUD Â'R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
Y GANOLFAN DDARGANFOD, DOC Y GOGLEDD, LLANELLI. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar yr opsiynau o ran defnydd yn y dyfodol a gweithrediad y Ganolfan Ddarganfod yn Noc y Gogledd, Llanelli, yn dilyn dull digymell gan drydydd parti. Cynghorwyd y Bwrdd y byddai'r diddordeb gan y sector preifat, petai hyn yn symud ymlaen, yn rhyddhau'r Cyngor o'r holl gyfrifoldeb rheoli a chynnal a chadw ar gyfer yr adeilad yn y dyfodol ac yn arwain at arbediad cost o ryw £45,000 y flwyddyn. Byddai'r lleoliad gwybodaeth i ymwelwyr a'r toiledau cyhoeddus yn parhau. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL symud y cytundeb tir yn ei flaen gyda'r trydydd parti i gymryd prydles newydd dros yr adeilad cyfan, yn amodol ar y preswylwyr presennol yn ildio eu buddiannau ar yr un pryd.
|