Agenda a Chofnodion

Cyngor Sir - Dydd Mercher, 26ain Ebrill, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr W.R.A. Davies, P. Edwards, P.M. Hughes, A. James, T.J. Jones, W.G. Thomas, D. Tomos, P.A. Palmer, A.D.T. Speake, L.M. Stephens, J. Williams a J.E. Williams.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD/ARWEINYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i'r Cadeirydd longyfarch y Cynghorydd John Jenkins a'i wraig newydd ar eu priodas rai wythnosau'n ôl.

 

Bu i'r Cadeirydd longyfarch y Cynghorydd Daff Davies a Mr Ron Morgan, a oedd wedi cynrychioli Dyfed yn ddiweddar yn Rownd Derfynol y Siroedd yng Nghanolfan Saethu Canolbarth Cymru ac wedi dod yn Bencampwyr Cymru, gan drechu'r siroedd eraill i gyd. Hefyd enillodd Dyfed y wobr timau a Chwpan y Capteiniaid, gan drechu Gwent, a ddaeth yn ail.

 

Bu i'r Cadeirydd longyfarch Côr Merched Sir Gâr ar ennill cystadleuaeth Côr Cymru 2017. Fel y côr buddugol, byddant yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Côr y Flwyddyn Eurovision 2017, a gynhelir yn Arena Riga yn Latfia, ddydd Sadwrn 22ain Gorffennaf 2017, gan gystadlu yn erbyn y corau gorau o Awstria, Gwlad Belg, Denmarc, Estonia, yr Almaen, Hwngari, Slofenia, a Latfia.

 

Cafodd Josh Griffiths o Rydaman ei longyfarch, sef y Prydeiniwr cyflymaf ym Marathon Llundain eleni; camp a enillodd iddo le ym Mhencampwriaethau'r Byd. Yn ogystal, cafodd y Cynghorydd C. Higgins ei longyfarch ar gwblhau Marathon Llundain. 

 

Cafodd Ysgol Gynradd Bynea ei llongyfarch ar adroddiad Estyn gwych, a oedd yn rhoi statws gwyrdd iddi.  Yn dilyn nifer o flynyddoedd heriol, cydnabuwyd bod yr ysgol bellach yn llwyddo ac yn ffynnu yn sgil amrywiol fentrau a gwaith rhagorol llywodraethwyr yr ysgol, y staff a'r Pennaeth, Mrs Tanya Morgan.

 

Rhoddodd y Cynghorydd G. Hopkins gyfle i'r Aelodau roi tuag at yr apêl ariannol yn y gobaith y gellid gwella'r sefyllfa o ran dioddefaint pobl yn Ne Sudan, Somalia, Ethiopia, Cenia, Nigeria ac Yemen.

 

Cafodd Clwb Rygbi yr Aman ei longyfarch ar ei lwyddiant yn ennill rownd derfynol y Fowlen yn Stadiwm Principality.

 

Cafodd Tîm Iau Clwb Rygbi Llandeilo ei longyfarch ar ennill Cwpan Sir Gaerfyrddin. Roedd llwyddiant y tîm dan 14 oed wedi arwain at fod yn ail yn y gynghrair a byddent yn cael dyrchafid i'r Uwch Gynghrair. Cafodd Dan Davies ei longyfarch a fyddai'n chwarae dros dîm dan 18 oed Cymru yn erbyn Lloegr a Ffrainc.

 

Cafodd tri g?r o Landeilo eu llongyfarch sef Terry Evans, Matt Yelland a Daniel Humphries, yr oeddent i gyd wedi cael eu hamserau personol gorau ym Marathon Llundain y penwythnos diwethaf.

 

Llongyfarchiadau i Ysgol Teilo Sant ar ddod yn ail yng nghystadleuaeth Côr Cymru.

 

Cafodd Erin Lewis o Ysgol Bro Dinefwr ei llongyfarch ar ddod yn ail yng nghystadleuaeth dalent CBBC ‘What it takes’.

 

Cafodd Côr Ysgol Iau Llangennech ei longyfarch ar gyrraedd y rowndiau terfynol yn adran gynradd Côr y Flwyddyn.

 

Cafodd Logan Williams a'i gi defaid eu llongyfarch, gan y byddent yn cynrychioli Cymru yn y Gystadleuaeth C?n Defaid i Bobl Ifanc (Treialon y Byd i rai dan 21 oed), a fyddai'n cael ei chynnal yn yr Iseldiroedd ym mis Gorffennaf eleni.

 

Cafodd Ffion Morgan ei llongyfarch ar ei llwyddiant ym myd pêl-droed merched, gan ei bod wedi camu o'r tîm dan 17 oed i'r tîm oedolion a oedd wedi chwarae yn erbyn Gogledd Iwerddon yn ddiweddar.

 

Cafodd Ysgol Bro Myrddin ei llongyfarch, a oedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFODYDD A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

4.1

22AIN CHWEFROR, 2017; pdf eicon PDF 500 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor oedd wedi ei gynnal ar 22ain Chwefror, 2017 yn gofnod cywir.

 

 

4.2

8FED MAWRTH, 2017. pdf eicon PDF 213 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor oedd wedi ei gynnal ar 8fed Mawrth, 2017 yn gofnod cywir.

 

 

5.

CWESTIYNAU GAN AELODAU (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan yr Aelodau.

 

 

6.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

7.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

7.1

POLISI INCWM A CHODI TÂL. pdf eicon PDF 174 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 27ain Mawrth, 2017 wedi ystyried y Polisi Incwm a Chodi Tâl (gweler Cofnod 8) fyddai'n cael ei ddefnyddio i danategu datblygu dull mwy strategol a masnachol ar gyfer prosesau cynhyrchu incwm ac adennill dyledion y Cyngor, ac wedi gwneud argymhelliad, fel yr oeddid wedi manylu arno yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w ystyried gan y Cyngor.

 

Nododd yr Aelodau, fel rhan o raglen waith TIC, bod Gr?p Llywio Incwm a Chodi Tâl wedi cael ei sefydlu, gyda'r nod o archwilio'r potensial o gynyddu incwm o ffioedd a thaliadau ac adolygu cadernid y prosesau presennol ar gyfer casglu incwm ac adennill dyledion.  Un o ganfyddiadau cychwynnol y gr?p oedd bod angen mabwysiadu dull mwy strategol tuag at ei weithgareddau incwm a chodi tâl, a fyddai'n cael ei gefnogi drwy ddatblygu Polisi Incwm a Chodi Tâl Corfforaethol. Hefyd nododd yr Aelodau fod y polisi yn darparu cyfres o egwyddorion allweddol a fyddai'n cael eu defnyddio i danategu dull yr Awdurdod o ran incwm a chodi tâl a datblygu ymhellach dull mwy masnachol tuag at y gweithgareddau hyn.

 

Yn ogystal, byddai Gwasanaethau'n gallu cyfeirio at y Polisi pan fyddent am gyflwyno taliadau newydd neu adolygu'r rhai presennol. Roedd y Polisi yn cynnwys disgwyliadau o ran cadernid y prosesau casglu incwm ac adennill dyledion.

 

Roedd y polisi drafft wedi bod yn destun ymgynghori helaeth â'r holl adrannau a hefyd wedi ymateb i adroddiad diweddar Swyddfa Archwilio Cymru am 'Trefniadau Awdurdodau Lleol i godi tâl am wasanaethau a chynhyrchu incwm' a oedd wedi nodi'r angen i bob Awdurdod Lleol lunio Polisi Incwm a Chodi Tâl.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

“cymeradwyo'r Polisi Incwm a Chodi Tâl Corfforaethol”

 

 

7.2

NEWID I'R POLISI RHEOLI'R TRYSORLYS, STRATEGAETH A'R POLISI DARPARIAETH ISAFSWM REFENIW. pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 10fed Ebrill, 2017 (gweler cofnod 7) wedi ystyried adroddiad a oedd yn rhoi crynodeb o ganlyniad yr adolygiad ac yn nodi y dylai'r Cyngor ystyried newid y ffordd o ad-dalu benthyciadau'r Cyngor o ddull balans gostyngol o 4% i ddull llinell syth a gyfrifir ar sail bywyd amcangyfrifedig yr ased o ran asedau sefydlog yr Awdurdod.

Nododd yr Aelodau fod yr argymhelliad yn yr adroddiad yn nodi y dylai'r Cyngor newid y brif ffordd o ad-dalu dyledion yr Awdurdod o ddull balans gostyngol o 4% i ddull llinell syth o 2.5%. Bernid bod hwn yn ddull mwy synhwyrol na'r ddarpariaeth bresennol, gan ei fod yn rhoi cyfnod mwy pendant ar gyfer gwaredu'r dyledion. Hefyd, roedd y dull hwn yn darparu rhai adnoddau ychwanegol i'r Awdurdod yn y dyfodol agos gan ei fod yn gwasgaru'r ad-daliadau dros fywyd yr ased.

 

Nododd yr Aelodau rai eithriadau lle na fyddai'r newid mewn polisi yn berthnasol, yr oeddent wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, ond byddai yn berthnasol i feysydd fel y Cyfrif Refeniw Tai lle roedd canllawiau statudol ar waith.

Felly cynigiwyd newid y Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw presennol, er mwyn iddo gefnogi darpariaeth flynyddol fwy darbodus, ar sail y canlynol:-

 

(1) Benthyca â chymorth a gwariant cyn 1 Ebrill 2008, fel yr oedd ar 31 Mawrth 2016 – i'w cynnwys yn y refeniw dros 40 mlynedd ar sail llinell syth, a bod y polisi hwn yn cael ei roi ar waith ar gyfer cyfrifon 2016-2017 ac ar gyfer Strategaeth Cyllideb Refeniw 2017-2018 hyd at 2019-2020;

 

(2) Benthyca heb gymorth - bod gwerth benthyca'r dyfodol yn cael ei gynnwys yn y refeniw dros 40 mlynedd neu drwy fywyd economaidd amcangyfrifedig yr ased os yw'n fyrrach;

 

(3) Y Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw ar gyfer Menter Benthyca Llywodraeth Leol Priffyrdd a rhaglen y fflyd i aros fel y mae wedi'i gymeradwyo ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

“fod y newidiadau i'r Polisi Rheoli'r Trysorlys, Strategaeth a'r Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw, fel y nodwyd uchod, yn cael eu cymeradwyo.”

 

 

8.

DERBYN ADRODDIADIAU CYFARFODYDD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

8.2

13EG MAWRTH, 2017; pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD  derbyn cofnodion y cyfarfod uchod.

 

 

8.3

27AIN MAWRTH, 2017; pdf eicon PDF 267 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD  derbyn cofnodion y cyfarfod uchod.

 

 

8.4

10FED EBRILL, 2017. pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD  derbyn cofnodion y cyfarfod uchod.

 

9.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD O RAN Y MATER CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

9.1

ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL (IRPW), (CHWEFROR, 2017) pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd, yn ei gyfarfod ar 14eg Mawrth 2017 (gweler Cofnod 5), wedi ystyried y penderfyniadau a'r argymhellion oedd yn Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, a oedd wedi ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2017, gyda golwg ar argymell bod y Cyngor yn eu cynnwys yng Nghynllun Cyflogau a Lwfansau'r Cynghorwyr a'r Aelodau Cyfetholedig ar gyfer 2017/18.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd:-

 

9.1.1  nodi bod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi penderfynu bod y cyflog sylfaenol ar gyfer aelodau etholedig prif awdurdodau lleol yn cynyddu i £13,400 yn 2017/18;

 

9.1.2    cadw'r drefn bresennol o ran lefel yr uwch-gyflog a delir i Aelodau'r Bwrdd Gweithredol yn 2017/18 [Lefel 1];

 

9.1.3    cadw'r drefn bresennol o ran lefel yr uwch-gyflog a delir i Gadeiryddion Pwyllgorau yn 2017/18 [Lefel 1];

 

9.1.4    cadw'r drefn bresennol o ran lefel y cyflog a delir i Gadeirydd ac i Is-gadeirydd y Cyngor yn 2017/18 [Lefel 2];

 

9.1.5    cytuno ar y cyfraddau ad-dalu costau cynhaliaeth ar gyfer 2017/18 fel y nodir isod:-

 

£200.00 y noson ar gyfer Llundain;

£95 y noson mewn llefydd eraill;

£25 y noson am aros gyda ffrindiau neu berthnasau;

 

Cadw'r drefn bresennol o ran y lwfans dydd a'r arfer presennol bod yr Uned Gwasanaethau Democrataidd yn gyfrifol am drefniadau llety dros nos yr aelodau.

 

9.1.6  parhau â'r arfer presennol o nodi'r trefniadau ar gyfer Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu ag Awdurdodau eraill a chynnwys y Pwyllgorau hyn yng nghynllun y Cyngor pe bai'r Cyngor yn penderfynu sefydlu Cyd-bwyllgorau yn ystod Blwyddyn y Cyngor 2017/18 a thalu cyflog;

 

9.1.7 bod y ffïoedd a delir i'r Aelodau Cyfetholedig yn aros ar y lefel bresennol ar gyfer 2017/18 sef 10 diwrnod llawn [neu 20 hanner diwrnod] o gyfarfodydd y flwyddyn;

 

9.1.8    cyhoeddi manylion y symiau a ad-dalwyd i aelodau a enwir o ran ad-dalu costau gofal [opsiwn 1];

 

9.1.9  derbyn gweddill argymhellion a phenderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2017 a'u cynnwys yn rhan o Gynllun presennol Lwfansau'r Cynghorwyr a'r Aelodau Cyfetholedig 2017/18.

 

 

 

8.1

27AIN CHWEFROR, 2017; pdf eicon PDF 192 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD  derbyn cofnodion y cyfarfod uchod.