Agenda a Chofnodion

Cyngor Sir - Dydd Mercher, 18fed Ebrill, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies, D. Harries, T. Higgins, G. John, C. Jones ac A. Speake.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

P.M. Hughes

11 – Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Ken Lloyd

Gallai fod yn ddarpar gyflenwr

E. Dole

11 – Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Ken Lloyd

Mae ei fam yn derbyn y Gwasanaeth Pryd ar Glud

K. Madge

11 – Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Ken Lloyd

Mae Ei ferch yn gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol

 

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd yr aelodau gan y Cadeirydd am ei Gyngerdd Elusennol a fydd yn cael ei gynnal yn Neuadd Bronwydd, 4 Mai, 2018.

 

Estynnodd y Cadeirydd longyfarchiadau i bedair merch ifanc o Sir Gaerfyrddin a oedd yn rhan o Dîm Chwyrlïo Baton Cymru a oedd wedi cystadlu ym Mhencampwriaethau'r Byd yn ddiweddar a gynhaliwyd yn Norwy.

 

Cydymdeimlwyd â'r Cynghorydd Gareth Thomas a'i deulu ar farwolaeth ei fam.

 

Mynegwyd gair o ddiolch i bawb a fu'n rhan o Ddigwyddiad Diwylliannol diweddar Sir Gaerfyrddin i ddathlu treftadaeth ddiwylliannol y Sir.

 

Estynnwyd llongyfarchiadau i:

·        Carol Thomas o Ddryslwyn a enillodd ei 50fed cap rygbi dros Gymru.

·        Tîm Rygbi dan 15 y Bynea am ennill Plât Sir Gaerfyrddin.

·        Cyngor Tref Llanelli, Cyngor Tref Caerfyrddin a Chyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn ar ennill gwobrau/canmoliaeth yng Ngwobrau Arfer Blaengar Un Llais Cymru yn ddiweddar.

 

4.

LLOFNODI YN GOFNODION CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

4.1

21AIN CHWEFROR, 2018; pdf eicon PDF 279 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 21 Chwefror, 2018 yn gofnod cywir.

 

4.2

7FED MAWRTH, 2018. pdf eicon PDF 335 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 7 Mawrth, 2018 yn gofnod cywir.

 

5.

YSTYRIED YR ENWEBIADAU AR GYFER SWYDD CADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2018/19

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL enwebu'r Cynghorydd Mansel Charles yn Ddarpar Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin am Flwyddyn y Cyngor 2018/19.

 

6.

YSTYRIED YR ENWEBIADAU AR GYFER SWYDD IS-GADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2018/19

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL enwebu'r Cynghorydd Kevin Madge yn Ddarpar Is-gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin am Flwyddyn y Cyngor 2018/19.

 

7.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

8.

CWESTIYNAU GAN AELODAU (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd cwestiynau wedi dod i law gan yr aelodau.

 

9.

CYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD LIAM BOWEN

Rwy'n cyflwyno rhybudd o gynnig yn gofyn i Gyngor Sir Gar creu a chefnogi cynlluniau di-blastig ar draws y Sir.

 

 Mae'r ymgyrchoedd di-blastig hyn yn deillio o ymgyrch ehangach "Arfordiroedd Di-blastig" Surfers Against Sewage sydd yn erbyn deunyddiau plastig untro, h.y. plastig nad ydym ond yn ei ddefnyddio unwaith cyn ei daflu i ffwrdd, megis cyllyll a ffyrc plastig, poteli diodydd a blychau polystyren ar gyfer cludfwyd. Elusen cadwraeth forol yng Nghernyw yw Surfers Against Sewage sydd â'r nod o amddiffyn cefnforoedd, moroedd a thraethau.

 

Mae plastig untro yn fygythiad enfawr i'n hamgylchedd naturiol. Mae tua 51 triliwn o ddarnau microsgopig o lygredd plastig yn yr amgylchedd naturiol. Mae hyn yn pwyso 269,000 o dunelli. Mae hyn gyfystyr â 1345 o forfilod glas sy'n oedolion. Amcangyfrifir bod o leiaf 8 miliwn o ddarnau o blastig yn mynd i mewn i'n cefnforoedd bob dydd. Gall potel blastig barhau am hyd at 450 o flynyddoedd yn yr amgylchedd morol a gellir dod o hyd i fwy na 150 o boteli ar bob milltir o draeth yn y Deyrnas Unedig. Os nad yw hynny'n rhoi syniad i chi o raddfa'r broblem, mae un o bob tri pysgodyn sy'n cael ei ddal er mwyn ei fwyta bellach yn cynnwys plastig. Mae plastig hyd yn oed yn cyrraedd ein cadwyn fwyd.

 

Felly, galwaf ar Gyngor Sir Gar i:

 

1.     Lleihaudeunyddiau plastig untro yn adeiladau a swyddfeydd y Cyngor gan gynnwys gwahardd gwellt a chwpanau plastig;

2.     Annogbusnesau, sefydliadau, ysgolion a chymunedau lleol i roi'r gorau i ddefnyddio deunyddiau plastig untro a mynd ati i ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy;

3.     Hyrwyddo'rdefnydd o ddeunyddiau cynaliadwy yn lle deunyddiau plastig untro ym mhob digwyddiad a gefnogir gan y Cyngor;

4.     Cefnogidigwyddiadau glanhau traethau ac unrhyw ddigwyddiadau eraill sydd â'r bwriad o godi ymwybyddiaeth am broblemau sy'n ymwneud â deunyddiau plastig untro o dan gynlluniau "Di-blastig".

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Liam Bowen:-

 

"Rwy'n cyflwyno rhybudd o gynnig yn gofyn i Gyngor Sir Caerfyrddin greu a chefnogi cynlluniau di-blastig ledled y Sir."

 

Mae'r ymgyrchoedd di-blastig hyn yn deillio o ymgyrch ehangach "Arfordiroedd Di-blastig" Surfers Against Sewage, sef ymgyrch yn erbyn plastig untro, h.y. plastig nad ydym ond yn ei ddefnyddio unwaith cyn ei daflu, megis cyllyll a ffyrc plastig, poteli diod a bocsys polystyren ar gyfer cludfwyd.   Mae 'Surfers Against Sewage' yn elusen cadwraeth forol yng Nghernyw sy'n ceisio amddiffyn cefnforoedd, moroedd a thraethau.

 

Mae plastig untro yn fygythiad enfawr i'n hamgylchedd naturiol. Mae oddeutu 51 triliwn o ddarnau microsgopig o lygredd plastig yn yr amgylchedd naturiol. Mae hyn yn pwyso 269,000 o dunelli. Mae hyn yn gyfystyr â 1345 o forfilod glas sy'n oedolion. Amcangyfrifir bod o leiaf 8 miliwn o ddarnau plastig yn mynd i'n cefnforoedd bob dydd. Gall potel blastig bara am hyd at 450 o flynyddoedd yn yr amgylchedd morol a gellir dod o hyd i fwy na 150 o boteli ar bob milltir o draeth yn y Deyrnas Unedig. Os nad yw hynny'n rhoi syniad i chi o raddfa'r broblem, mae un o bob tri physgodyn sy'n cael ei ddal er mwyn ei fwyta bellach yn cynnwys plastig. Mae plastig hyd yn oed yn cyrraedd ein cadwyn fwyd.

 

Felly rwy’n galw ar Gyngor Sir Gar i:

1.      Leihau deunyddiau plastig untro yn adeiladau a swyddfeydd y Cyngor gan gynnwys gwahardd gwellt a chwpanau plastig;

2.      Annog busnesau, sefydliadau, ysgolion a chymunedau lleol i roi'r gorau i ddefnyddio deunyddiau plastig untro a mynd ati i ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy;

3.      Hyrwyddo'r defnydd o ddeunyddiau cynaliadwy yn lle deunyddiau plastig untro ym mhob digwyddiad a gefnogir gan y Cyngor;

4.      Cefnogi ymgyrchoedd glanhau traethau ac unrhyw ddigwyddiadau eraill sydd â'r bwriad o godi ymwybyddiaeth am y broblem hon".

 

Eiliwyd y Cynnig

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r  Cynnig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Rhybudd o Gynnig yn cael ei gefnogi.

 

10.

CYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES

“Yr wyf yn galw ar y Bwrdd Gweithredol i gyflwyno tudalen e-ddeiseb ar wefan y Cyngor, sy’n debyg i'r hyn a ddefnyddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Senedd.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James:-

 

“Rwyf yn galw ar y Bwrdd Gweithredol i gyflwyno tudalen e-ddeiseb ar wefan y Cyngor, yn debyg i'r hyn a ddefnyddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Senedd”.

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau o blaid ac yn erbyn y Cynnig ac atgoffwyd y Cyngor ei fod, yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2015, wedi derbyn cynigion y Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad ac argymhelliad 23 a oedd yn ymwneud â deisebau ar-lein. Cynghorwyd y Cyngor ynghylch anawsterau meddalwedd electronig sydd ar hyn o bryd yn atal cyflwyno cyfleuster deiseb ar-lein dwyieithog a byddai sylwadau yn cael eu cyflwyno i gyflenwyr meddalwedd y Cyngor er mwyn ei gyflwyno'n gynnar.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr er bod Rheolau Gweithdrefn Corfforaethol y Cyngor yn caniatáu cyflwyno deisebau, byddai angen adolygu ei bolisïau a'i weithdrefnau i ddarparu ar gyfer deisebau ar-lein.

 

PENDERFYNWYD peidio â chefnogi'r Rhybudd o Gynnig.

 

11.

CYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD KEN LLOYD

Yng ngoleuni’r rhybudd diweddar gan y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol y bydd yn tynnu ei ddarpariaeth Pryd ar Glud o ryw 60,000 o brydau’r flwyddyn i ryw 214 o drigolion yn Sir Gaerfyrddin yn ôl, galwaf ar y Bwrdd Gweithredol i ymchwilio i ffyrdd o leihau effaith tynnu’r gwasanaeth hwn yn ôl, ar ôl ymgynghori’n llawn â’r defnyddwyr, gofalwyr a phobl eraill sydd â diddordeb, ac yn dilyn ymgynghoriad o’r fath, cyflwyno cynigion i’r Cyngor a fydd yn rhoi sicrwydd i’r aelodau fod yr holl gamau yn cael eu cymryd i sicrhau na fydd lleihad o ran elfennau maethol a chymdeithasol y gwasanaeth llinell bywyd hanfodol hwn wrth symud ymlaen.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd Cynghorwyr E. Dole a P.M. Hughes wedi datgan buddiannau yn y mater hwn yn gynharach a gadawsant y Siambr tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod ac ni wnaethant gymryd rhan yn y penderfyniad yn ei chylch).

 

Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Ken Lloyd:-

 

"Yng ngoleuni’r rhybudd diweddar gan y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol y bydd yn rhoi gorau i'w ddarpariaeth Pryd ar Glud o ryw 60,000 o brydau bwyd y flwyddyn i oddeutu 214 o drigolion yn Sir Gaerfyrddin, rwyf yn galw ar y Bwrdd Gweithredol i ymchwilio i ffyrdd o leihau effaith tynnu’r gwasanaeth hwn yn ôl, ar ôl ymgynghori’n llawn â’r defnyddwyr, gofalwyr a'r partïon eraill sydd â buddiant. Yn dilyn ymgynghoriad o’r fath, dylid cyflwyno cynigion i’r Cyngor a fydd yn rhoi sicrwydd i’r aelodau fod yr holl gamau yn cael eu cymryd i sicrhau na fydd lleihad o ran elfennau maethol a chymdeithasol y gwasanaeth llinell bywyd hanfodol hwn yn y dyfodol."

 

Eiliwyd y Cynnig

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r  Cynnig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Rhybudd o Gynnig yn cael ei gefnogi.

 

 

12.

CYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD JEFF EDMUNDS

Rydym wedi ein calonogi ac yn cefnogi’r cynlluniau i adeiladu cartrefi newydd yn ardal Sir Gaerfyrddin ac mae creu’r Cwmni Tai Lleol yn sbarduno’r fenter hon.

Fel rhan o’r rhaglen hon, byddai swyddi a phrentisiaethau’n cael eu creu a fyddai’n hyrwyddo twf yn yr economi leol.  Rwy’n si?r ein bod ni i gyd yn cytuno bod angen i ni fod mor effeithlon ac effeithiol â phosibl o ran adeiladu a darparu ein cartrefi newydd a’n rhaglen adeiladu.

I’r perwyl hwn, mae’n rhaid ein bod yn fodlon y bydd y dull y byddwn yn ei gymryd yn sicrhau’r budd gorau posibl er mwyn cefnogi creu cartrefi newydd a thwf yn ein heconomi leol.  Felly, gofynnwn I’r Bwrdd Gweithredol edrych ar y posibilrwydd o greu ein gweithlu ein hunan i gael ei gyflogi ar gyfer dylunio ac adeiladu’r eiddo hyn oherwydd rydym o’r farn y byddai hyn yn ychwanegu gwerth i’r cysyniad cyfan.  Gallwn gydweithio â Choleg Sir Gâr ar raglen brentisiaethau yn y dyfodol a fydd yn darparu gweithlu sydd â sgiliau da yn ogystal â sicrwydd swyddi ar gyfer y dyfodol agos”.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Jeff Edmunds:-

 

"Rydym wedi ein calonogi ac yn cefnogi’r cynlluniau i adeiladu cartrefi newydd yn ardal Sir Gaerfyrddin a'r cyfrwng i sbarduno'r fenter hon yw ffurfio'r Cwmni Tai Lleol.

 

Fel rhan o’r rhaglen hon, byddai swyddi a phrentisiaethau’n cael eu creu a fyddai’n hyrwyddo twf yn yr economi leol. Rwy’n si?r ein bod ni i gyd yn cytuno bod angen i ni fod mor effeithlon ac effeithiol â phosibl o ran adeiladu a darparu ein cartrefi a’n rhaglen adeiladu newydd.

 

I’r perwyl hwn, mae’n rhaid ein bod yn fodlon y bydd y dull y byddwn yn ei gymryd yn sicrhau’r budd gorau posibl er mwyn cefnogi creu cartrefi newydd a thwf yn ein heconomi leol. Felly, gofynnwn i’r Bwrdd Gweithredol edrych ar y posibilrwydd o greu ein gweithlu ein hunan i gael ei gyflogi ar gyfer dylunio ac adeiladu’r eiddo hyn oherwydd rydym o’r farn y byddai hyn yn ychwanegu gwerth i’r cysyniad cyfan. Gallwn gydweithio â Choleg Sir Gâr ar raglen brentisiaethau yn y dyfodol a fydd yn darparu gweithlu sydd â sgiliau da yn ogystal â sicrwydd swyddi ar gyfer y dyfodol agos”.

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd L Evans y gwelliant canlynol i'r cynnig:

 

"Rydym wedi ein calonogi ac yn cefnogi’r cynlluniau i adeiladu cartrefi newydd yn ardal Sir Gaerfyrddin a'r cyfrwng i sbarduno'r fenter hon yw ffurfio'r Cwmni Tai Lleol.

 

Fel rhan o’r rhaglen hon, byddai swyddi a phrentisiaethau’n cael eu creu a fyddai’n hyrwyddo twf yn yr economi leol. Rwy’n siwr ein bod ni i gyd yn cytuno bod angen i ni fod mor effeithlon ac effeithiol â phosibl o ran adeiladu a darparu ein cartrefi a’n rhaglen adeiladu newydd.

 

I’r perwyl hwn, mae’n rhaid ein bod yn fodlon y bydd y dull y byddwn yn ei gymryd yn sicrhau’r budd gorau posibl er mwyn cefnogi creu cartrefi newydd a thwf yn ein heconomi leol.

 

Byddwn yn parhau i gydweithio â Choleg Sir Gâr ar raglen brentisiaeth yn y dyfodol a fydd yn rhoi sicrwydd swydd i weithlu medrus ar gyfer y dyfodol rhagweladwy."

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r Prif Weithredwr roi cyngor ar yr hysbysiad diwygio a dywedodd nad oedd y gwelliant yn negyddu'r cynnig yn ei farn ef.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd yr Hysbysiad Diwygio siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn yr Hysbysiad Diwygio.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau o blaid ac yn erbyn y gwelliant a'r cynnig ac yn dilyn hynny daeth yn Gynnig Terfynol a

 

PHENDERFYNWYD cefnogi'r Cynnig Terfynol.

 

 

13.

CYNLLUN LLESIANT SIR GÂR: Y SIR GÂR A GAREM pdf eicon PDF 184 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, ar 26 Mawrth, 2018 (gweler cofnod 6), wedi rhoi sylw i adroddiad ar 'Gynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin: Y Sir Gâr a Garem 2018-2023' a gafodd ei ddatblygu gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gyda'r bwriad o'i gyhoeddi erbyn mis Mai 2018, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Nodwyd bod y Cyngor yn aelod statudol o'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (ynghyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyfoeth Naturiol Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru) a chyn y gellid cyhoeddi'r Cynllun roedd yn rhaid iddo gael ei gymeradwyo gan bob aelod statudol y Bwrdd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

 

“bod 'Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin – Y Sir Gâr a Garem – 2018–2023' yn cael ei gymeradwyo”

 

14.

DERBYN ADRODDIADAU CYFARFODYDD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

14.1

26AIN CHWEFROR, 2018 pdf eicon PDF 269 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad y cyfarfod uchod.

 

14.2

26AIN MAWRTH, 2018. pdf eicon PDF 189 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad y cyfarfod uchod.

 

15.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL (IRPW), (CHWEFROR, 2018) pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd, yn ei gyfarfod ar 9 Mawrth 2018 (gweler cofnod 6), wedi ystyried y penderfyniadau a'r argymhellion oedd yn Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, a oedd wedi ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2018, gyda golwg ar argymell bod y Cyngor yn eu cynnwys yng Nghynllun Cyflogau a Lwfansau'r Cynghorwyr a'r Aelodau Cyfetholedig ar gyfer 2018/19.

 

Cyfeiriwyd at argymhelliad 4 i "gyhoeddi manylion y symiau a ad-dalwyd i aelodau a enwir o ran ad-dalu costau gofal (opsiwn 1). Awgrymwyd y dylid mabwysiadu opsiwn 2 ac na phriodolir y cyfanswm a ad-dalwyd gan yr awdurdod yn ystod y flwyddyn i unrhyw aelod a enwir."

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn amodol ar newid argymhelliad 4 i opsiwn 2:

 

17.1

nodi bod y Panel wedi penderfynu cynyddu'r cyflog sylfaenol yn 2018/19 ar gyfer aelodau etholedig prif awdurdodau i £13,600;

17.2

nodi bod y Panel wedi dileu'r cytundeb dwy haen ar gyfer cyflogau aelodau gweithredol a chadeiryddion pwyllgorau;

17.3

cynnal y trefniadau presennol yn 2018/19 mewn perthynas â :-

·        lefel y cyflog a delir i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor (lefel 2 ar hyn o bryd).

·        cyfraddau ad-dalu costau cynhaliaeth a'r arfer presennol bod yr Uned Gwasanaethau Democrataidd yn gyfrifol am drefniadau llety dros nos yr aelodau;

·        yr arfer presennol o nodi'r trefniadau ar gyfer Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu ag Awdurdodau eraill a chynnwys y Pwyllgorau hyn yng nghynllun y Cyngor pe bai'r Cyngor yn penderfynu sefydlu Cyd-bwyllgorau yn ystod Blwyddyn y Cyngor 2018/19 a thalu cyflog;

·        gosod cap ar y ffïoedd a delir i'r Aelodau Cyfetholedig sef 10 diwrnod llawn (neu 20 hanner diwrnod) o gyfarfodydd;

 

17.4

cyhoeddi manylion y symiau a ad-dalwyd i aelodau a enwir o ran ad-dalu costau gofal [opsiwn 2];

 

17.5

derbyn gweddill argymhellion a phenderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2018 a'u cynnwys yn rhan o Gynllun presennol Lwfansau'r Cynghorwyr a'r Aelodau Cyfetholedig 2018/19.

 

 

16.

AELODAETH PWYLLGORAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2 (2)(n), cafwyd yr enwebiadau canlynol gan Gr?p Plaid Cymru a:

 

PHENDERFYNWYD

 

17.1

nodi bod y Cynghorydd Jeanette Gilasbey yn cymryd lle'r Cynghorydd Ken Howell ar y Pwyllgor Craffu - Cymunedau.

17.2

nodi bod y Cynghorydd Kim Broom yn cymryd lle'r Cynghorydd Hazel Evans ar y Pwyllgor Archwilio.