Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin J Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd K. Howell.
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd B. Davies i'w gyfarfod cyntaf o'r Pwyllgor yn dilyn ei gyfnod o salwch yn ddiweddar. |
|||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig. |
|||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
|||||||||||||
ADRODDIAD CYNNYDD PENTRE AWEL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorydd R. Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried)
Cafodd y Pwyllgor adroddiad cynnydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Brosiect Pentre Awel a sicrwydd bod y prosiect yn cael ei gyflawni yn ôl y targed a'r amserlen.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad: · Cyfeiriwyd at oblygiadau refeniw’r datblygiad arfaethedig a rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, yn seiliedig ar gyflawni'r model busnes a'r ddeiliadaeth yn llawn, y byddai'r costau sy'n gysylltiedig â gweithredu'r safle yn cael eu talu trwy incwm rhent / taliadau am wasanaethau. Yn hynny o beth, roedd gwaith hefyd yn cael ei wneud ar hyn o bryd ar ailasesu'r Cynllun Busnes gwreiddiol.
Cadarnhaodd Pennaeth y Prosiectau Cyfalaf sy'n gysylltiedig ag Iechyd nad oedd cytundebau wedi'u gwneud ar gyfer meddiannaeth lawn yn y datblygiad er bod gan y datblygiad rai prif denantiaid ar hyn o bryd. Nid oedd hyn yn anarferol ar y cam hwn wrth ddatblygu safle mawr gan fod darpar denantiaid yn fwy tebygol o lofnodi bwriadau i rentu ar brydles pan fyddent yn gallu gweld y cynnyrch terfynol y byddent yn ymrwymo iddo. Roedd y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau tenantiaid pellach ac roedd hefyd wrthi'n ymgysylltu ag asiant eiddo i ddenu tenantiaid.
· Cyfeiriodd y Pennaeth Hamdden at sylw a wnaed ynghylch effaith bosibl cost y ganolfan hamdden newydd ar gyllideb y gwasanaethau hamdden ac atgoffodd y Pwyllgor fod rhai rhannau o bortffolio'r Gwasanaethau Hamdden yn gweithredu ar elw ar hyn o bryd, ac mae'r elw hwnnw'n cael ei ddefnyddio i ariannu meysydd gweithredol eraill o fewn y portffolio. O ran gweithredu'r ganolfan hamdden newydd, roedd y datblygiad yn darparu mwy o gyfleoedd i gynhyrchu incwm na'r hyn sydd ar gael yng Nghanolfan Hamdden Llanelli ar hyn o bryd, gan gynnwys pwll nofio mwy o faint, campfa, a chyfleusterau arlwyo gwell. Felly, rhagwelwyd na fyddai'r ganolfan yn cael effaith andwyol ar y gyllideb hamdden ac roedd y gost honno wedi'i chynnwys yn y gyllideb.
· O ran y bwriad i gynnwys cartref nyrsio’r sector cyhoeddus o fewn y datblygiad, cadarnhaodd y Pennaeth Prosiectau Cyfalaf sy'n Gysylltiedig ag Iechyd nad oedd unrhyw rwystr cyfreithiol i sefydliad sector cyhoeddus weithredu cartref nyrsio. Er nad oedd cyfleusterau o'r fath yn gweithredu yng Nghymru, roedd tua 40 o gartrefi nyrsio yn cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol yn Lloegr ac roedd trafodaethau'n cael eu cynnal gyda rhai o'r rheiny i asesu sut y cawsant eu gweithredu. Roedd rhywfaint o waith dichonoldeb yn cael ei wneud ar lefel ranbarthol o ran modelau gweithredu arfaethedig; roedd dau ddewis. Y cyntaf oedd y byddai'r Awdurdod Lleol yn rhedeg y cartref, ond byddai'r Bwrdd Iechyd yn cyflogi ac yn cadw llywodraethu clinigol ar gyfer y nyrsys. Yr ail ddewis oedd y byddai'r Bwrdd Iechyd yn dirprwyo awdurdod i'r Awdurdod Lleol gyflogi a darparu'r llywodraethu clinigol ar gyfer y nyrsys. · O ran penodi Llysgenhadon Cymunedol ar gyfer y datblygiad, dywedwyd wrth y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorydd R. Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried)
Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 2023/24 ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 31 Rhagfyr 2023 mewn perthynas â'r meysydd sy'n dod o fewn ei gylch gwaith yn manylu ar y cynnydd a wnaed ynghylch y camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol ac ynghylch cyflawni'r Amcanion Llesiant.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad: · Cyfeiriwyd at gam gweithredu 16546 yn yr adroddiad yn ymwneud â gwella profiad cwsmeriaid y gofrestr ceisiadau cynllunio. Er bod mân newidiadau wedi cael eu gwneud o ran hynny, cadarnhawyd y cafwyd oedi o ran gwella hynny oherwydd blaenoriaethau cystadleuol a dyrannu adnoddau. · Cyfeiriwyd at y ddarpariaeth statudol bresennol lle mae'r Cyngor yn cynghori trigolion lleol am geisiadau cynllunio yn eu hardal/cymdogaeth a ph'un a fyddai'r cyngor yn gallu mynd y tu hwnt i'r gofyniad hwnnw i fod yn fwy cynhwysol.
Atgoffwyd y Pwyllgor fod rhan o'r broses gynllunio bresennol yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr osod hysbysiadau safle a darparu prawf o hynny i'r adran gynllunio cyn i gais gael ei ystyried. O ran ehangu'r ddarpariaeth honno i ddosbarthu taflenni i'r eiddo agosaf, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai hynny'n arwain at oblygiadau o ran adnoddau i'r adran a byddai'r staff yn cael eu tynnu oddi wrth eu prif ddyletswydd o ran ystyried ceisiadau cynllunio.
Atgoffwyd y Pwyllgor hefyd fod y Cyngor yn gweithredu gwasanaeth cais cyn cynllunio lle gallai datblygwyr posibl gael cyngor gan yr adran gynllunio (am ffi) ynghylch y prosesau, y rhwymedigaethau a'r gofynion a osodir arnynt wrth geisio caniatâd cynllunio. Cadarnhawyd hefyd fod y Cyngor yn cynnal 'Dyddiau i Ddatblygwyr' drwy gydol y flwyddyn i roi cyngor ynghylch y broses gynllunio.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|||||||||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2023/24 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorydd R. Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried)
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2023/24 y Gwasanaethau Tai, Adfywio ac Eiddo, Lle a Chynaliadwyedd a Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Rhagfyr 2023. Nodwyd y rhagwelid tanwariant o £306k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £48,489k yn y gyllideb gyfalaf, a gorwariant o £84k yn y Cyfrif Refeniw Tai.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y broses o bennu'r gyllideb ar gyfer 2025/26, cadarnhawyd bod gwaith paratoi eisoes wedi dechrau yn dilyn hyn. Fodd bynnag, gallai amseriad datganiad y Canghellor ynghylch cyllideb yr hydref effeithio ar ei gynnydd pe bai etholiad cyffredinol yn cael ei alw a fyddai, yn ei dro, yn effeithio ar amseriad cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar y setliad i awdurdodau lleol. · Cyfeiriwyd at ailddatblygu ardal Heol yr Orsaf/Tyisha yn Llanelli a dywedodd y Pennaeth Eiddo Tai a Phrosiectau Strategol y byddai dogfennau tendro'n cael eu cyhoeddi'n fuan ar gyfer penodi datblygwr, a byddai'r gyllideb yn cael ei hailbroffilio i adlewyrchu'r gwariant yn y blynyddoedd diweddarach.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf yn cael ei dderbyn. |
|||||||||||||
PEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol
· Defnydd Canol Tref Amgen · Diweddariad ynghylch y Prosiectau Adfywio Mawr · Fersiwn Drafft o'r Canllawiau Cynllunio Atodol - Cynllun Datblygu Lleol
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r eglurhad ynghylch peidio â chyflwyno'r adroddiad. |
|||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 7 MAWRTH 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a oedd wedi'i gynnal ar 7 Mawrth 2024, gan eu bod yn gywir.
|