Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin J Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd H. Shepardson. |
|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor fod yr eitem hon wedi'i chynnwys ar yr agenda yn ddamweiniol. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
|
POLISI CARTREFI GWAG - EIN DULL O DDEFNYDDIO CARTREFI GWAG UNWAITH ETO PDF 195 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad am Bolisi Cartrefi Gwag y Cyngor a oedd yn cynnwys manylion ar ei ddull, gweledigaeth, a rhaglen waith am y pedair blynedd nesaf, er mwyn mynd i'r afael â chartrefi preswyl preifat gwag yn y sir a'u defnyddio unwaith eto. Dywedwyd bod y Cyngor wedi lleihau nifer y cartrefi gwag preifat yn y sir ers 2017 o 2667 i 1,984, a'r nod oedd lleihau'r nifer hwnnw ymhellach i 1500 erbyn 2026.
Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:- · Cyfeiriwyd at ddilyn y 6 phwynt bwled blaenoriaeth oedd yn yr adroddiad, mewn trefn flaenoriaeth, gan ganolbwyntio ar gartrefi gwag ta faint o amser roeddent wedi bod yn wag:-
1) Targedu cartrefi gwag mewn ardaloedd lle mae galw mawr am dai neu yn yr ardaloedd deg tref a fydd hefyd yn ysgogi adfywio ehangach.
2) Targedu cartrefi gwag a fydd yn cael eu defnyddio unwaith eto fel tai fforddiadwy i bobl ar y Gofrestr Dewis Tai, a chanolbwyntio'n benodol ar dai gwag yn Ystadau'r Cyngor a oedd wedi'u gwerthu o'r blaen drwy'r cynllun 'hawl i brynu'.
3) Cefnogi defnyddio unwaith eto unedau preswyl gwag uwchben busnesau masnachol yng nghanol ein trefi, ar gyfer pobl a fydd yn cyfrannu at economi canol y dref.
4) Gweithio gyda theuluoedd perchnogion tai gwag sydd mewn gofal, rheoli'r eiddo ar eu rhan a gallai'r incwm dalu'n rhannol am gost eu gofal.
5) Ymateb i gwynion lle mae cartrefi gwag yn niwsans i eiddo cyfagos neu'n denu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
6) Clustnodi tai gwag sydd mewn cyflwr gwael ac sy'n niweidiol i'r ardal gyfagos a chymryd camau adfer priodol.
Mynegwyd barn na ddylid rhoi llai o flaenoriaeth i bwyntiau 5 a 6 na'r lleill, oherwydd er nad oeddent mor bwysig â hynny o ran adfywio ardaloedd, roeddent yn bwysig i drigolion lleol o achos eu heffaith niweidiol ar amwynder yr ardal a'u hiechyd meddwl yn enwedig, gan fod yr henoed yn byw yn ymyl eiddo sy'n ddiffaith neu'n wag yn y tymor hir.
Cadarnhawyd nad oedd y pwyntiau mewn unrhyw drefn a byddai pob un yn cael yr un flaenoriaeth, i alluogi'r Cyngor i gymryd camau wedi'u teilwra a'u targedu er mwyn defnyddio eiddo gwag unwaith eto, boed mewn canol dref neu ardal wledig. · O ran cwestiwn ar fabwysiadu amserlenni ar gyfer defnyddio eiddo gwag unwaith eto, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod rhaid caniatáu digon o amser i alluogi defnyddio eiddo unwaith eto, gan fod y rhan fwyaf ond yn wag am amser byr am wahanol resymau e.e. gwneud cais am brofiant. Fodd bynnag, roedd yn bwysig cymryd camau cyn gynted â phosibl ond, beth bynnag, roedd llythyrau'n cael eu hanfon at berchnogion eiddo o'r fath yn flynyddol. Roedd grantiau o hyd at £25k hefyd ar gael i wella cyflwr cartrefi gwag fel bod modd byw ynddynt unwaith eto, i'w gwerthu fel tai fforddiadwy neu eu gosod yn amodol ar delerau'r grant. · Gofynnwyd a oedd gan y Cyngor unrhyw bwerau i wneud i berchnogion eiddo ddefnyddio eiddo gwag unwaith eto, er enghraifft, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
POLISI DIGOLLEDU TENANTIAID PDF 98 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad oedd yn nodi ymagwedd y Cyngor o ran pryd roedd yn briodol digolledu ei denantiaid oedd wedi dioddef colled neu anghyfleustra oherwydd methiant y gwasanaeth, a byddai hefyd yn helpu i roi arweiniad i swyddogion wrth ddelio â thenantiaid, gan sicrhau eglurder a chysondeb wrth ystyried digolledu. Nodwyd bod y polisi wedi'i baratoi mewn ymateb i ddisgwyliad yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol fod gan landlordiaid bolisi digolledu i roi arweiniad ar ddigolledu ac i sicrhau bod landlordiaid yn cael eu diogelu pan gaiff ceisiadau eu gwneud.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Digolledu Tenantiaid a’i gyfeirio i'r Cabinet i'w ystyried. |
|
POLISI ADENNILL COSTAU AM WAITH ATGYWEIRIO PDF 104 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn nodi meini prawf arfaethedig ar gyfer pryd byddid yn codi tâl ar denant cyngor am atgyweiriadau a wnaed gan y Cyngor, yr oedden nhw'n gyfrifoldeb amdanynt o dan eu cytundeb tenantiaeth.
Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:- · Cadarnhaodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y byddai'n bosib i'r polisi gael ei anfon ymlaen at denantiaid y Cyngor er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau, a chyfrifoldebau'r Cyngor o ran cynnal a chadw eu cartrefi. Yn yr un modd, gallai'r polisi digolledu tenantiaid (gweler Cofnod 6 uchod) hefyd gael ei ddarparu i denantiaid ar ôl i'r Cyngor ei fabwysiadu. Rhagwelwyd y gellid darparu'r polisïau tua diwedd Mehefin 2023 yn electronig i'r tenantiaid hynny oedd wedi rhoi cyfeiriadau e-bost i'r Cyngor, a thrwy'r post i'r gweddill. Er bod traean y tenantiaid wedi rhoi manylion cyswllt electronig, dywedodd hefyd y byddai'r adran yn ceisio cynyddu'r nifer hwnnw dros y misoedd nesaf. · Lle nad oedd tenantiaid yn gallu gwneud gwaith atgyweirio ar eu heiddo a oedd yn rhan o'u cyfrifoldeb nhw, cadarnhawyd byddai'r Cyngor yn cyflawni'r gwaith ar eu rhan fesul achos, ac yn adennill costau am hynny, yn dibynnu ar amgylchiadau unigol. · O ran cwestiwn ar archwilio eiddo tenantiaid yn rheolaidd, roedd gan yr adran dîm a oedd yn ymweld â chartrefi tenantiaid i asesu cyflwr yr eiddo. Y gobaith oedd cynnal yr ymweliadau hynny yn rheolaidd, yn flynyddol o bosibl.
Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel mai un o brif flaenoriaethau'r adran dros y 6 mis nesaf fyddai sut i reoli'r drefn archwilio ar gyfer eiddo tenantiaid, yn debyg i MOT blynyddol. Roedd yna hefyd drothwyon eraill a allai dynnu sylw'r adran at broblemau o ran cyflwr eiddo, er enghraifft, pan fyddai atgyweiriadau ymatebol yn cael eu gwneud a phan fyddai swyddogion yn ymweld i roi cymorth a chefnogaeth i denantiaid. · Gofynnwyd pa fesurau oedd ar gael i'r Cyngor pe bai tenantiaid yn mynd i'r arfer o beidio ag ad-dalu unrhyw gostau am waith a wnaed, neu'n difrodi'r eiddo dro ar ôl tro. Cadarnhaodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod gan yr awdurdod bolisi dileu drwgddyledion. Yn y pen draw fodd bynnag, gallai'r Cyngor adfer eiddo drwy'r llysoedd. · O ran cwestiwn am adennill costau yn achos difrod damweiniol i eiddo, dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y byddai'r adran yn ystyried y rheiny fesul achos.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Adennill Costau am Waith Atgyweirio a'i gyfeirio i'r Cabinet i'w ystyried. |
|
PEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 71 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad craffu canlynol
· Cynlluniau Busnes
PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad. |
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 119 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 5 Ebrill 2023.
Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Flaengynllun Gwaith y Cabinet, a oedd wedi'i atodi i'r adroddiad, ac at yr eitem ynddo a oedd yn ymwneud ag Arfarniadau o Ardaloedd Cadwraeth. Dywedwyd bod cais wedi dod i law gan y Cabinet yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu'r adroddiad a chyflwyno unrhyw ganfyddiadau yn ôl i'r Cabinet er ystyriaeth. Gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried y cais ac a oedd am gynnwys yr adroddiad ar yr agenda ar gyfer ei gyfarfod nesaf ar 5 Ebrill.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf i'w gynnal ar 5 Ebrill 2023, yn amodol ar gynnwys adroddiad am Arfarniadau o Ardaloedd Cadwraeth. |
|
DIWEDDARIAD AR GAMAU GWEITHREDU Y PWYLLGOR CRAFFU PDF 95 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad a nodai'r hyn a wnaed mewn perthynas â cheisiadau neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 26 IONAWR 2023 PDF 125 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2023 yn gofnod cywir. |