Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol - Dydd Mawrth, 12fed Rhagfyr, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kelly Evans  01267 224178

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd D Harries, G. John, J. Lewis. Hefyd derbyniwyd ymddiheuriadau gan yr Aelod Cabinet, y Cynghorydd P. Hughes.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A.   Evans

4. Adroddiad Monitro Absenoldeb Salwch - Adroddiad Diwedd Blwyddyn - 2022/23 a Chwarter 2 2023/24

Personol a Rhagfarnol - Mae aelod o'r teulu yn gweithio yn yr adain Gwasanaethau Democrataidd

A.   Evans

6. Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2023/2024

Rhagfarnol - Mae aelod o'r teulu'n gweithio i'r adain Gwasanaethau Democrataidd

A.   Evans

10. Chwarter 2 2023/24 - Adroddiad Perfformiad (01/04/2023 - 30/09/2023 - sy'n berthnasol i'r maes craffu hwn

Personol a Rhagfarnol - Mae aelod o'r teulu'n gweithio i'r adain Gwasanaethau Democrataidd

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

4.

ADRODDIAD MONITRO ABSENOLDEB SALWCH - ADRODDIAD DIWEDD BLWYDDYN - 2022/23 A CHWARTER 2 2023/24 pdf eicon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Gan ei fod wedi datgan budd personol a rhagfarnol yn y mater hwn yn gynharach, nid oedd y Cynghorydd A. Evans yn bresennol yn y cyfarfod]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi data am absenoldeb salwch ar gyfer y cyfnod cronnol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2023 ynghyd â Chwarter 2 2023/24 gyda throsolwg o'r cymorth llesiant gweithwyr a ddarparwyd.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:

 

·       Dywedodd y Rheolwr Adnoddau Dynol (Partneriaeth Busnes) wrth y Pwyllgor fod gweithio hybrid, yn ddull o weithio gartref ac mewn gwahanol leoliadau ar draws y Sir, yn amodol ar ystyriaethau o ran cyflawni gwasanaethau.  Er nad yw trefniadau gweithio hybrid o fudd i staff gweithredol, gallent ofyn am i opsiynau gwaith gwahanol gael eu hystyried.

·       Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod staff wedi cymryd 11.55 o ddiwrnodau salwch ar gyfartaledd yn 2022-23, sef bron i ddau ddiwrnod yn fwy na tharged y Cyngor o 10.65, a'r rhesymau mwyaf dros absenoldeb oedd materion yn ymwneud â straen ac iechyd meddwl, gyda rhai ffactorau y tu allan i'r gwaith hefyd yn cyfrannu at hyn.

·       Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau, oherwydd amseroedd aros hir yn y GIG, fod meddygon teulu yn cynghori cleientiaid i ofyn am help trwy wasanaethau Iechyd Galwedigaethol eu cyflogwyr.

·       O ran Iechyd Galwedigaethol a'r gofynion ar y gwasanaeth, nodwyd y bydd achos busnes yn cael ei drafod gyda'r Prif Weithredwr i ddarparu Rheolwr Masnachol, ac fel un o'r prosiectau allweddol, bydd yn gweithio gyda'r tîm Iechyd Galwedigaethol i edrych ar ffyrdd o fasnacheiddio'r busnes. Bydd canlyniad yr achos busnes yn cael ei adrodd yn ôl i'r Pwyllgor.

·       Eglurodd y Rheolwr Llesiant Gweithwyr fod tri Chydlynydd Iechyd a Llesiant yn cael eu cyflogi ar draws yr Awdurdod ac yn gweithio gydag adrannau i ddarparu ymyriadau pwrpasol, fel rhan o gynlluniau gweithredu'r adran i reoli presenoldeb.  Hefyd mae grwpiau iechyd a llesiant allweddol ar gael sy'n cael eu cefnogi gan y cydlynwyr.

·       Nodwyd bod gostyngiad wedi bod o ran nifer y problemau cyhyrysgerbydol y rhoddir gwybod amdanynt.  Hyfforddiant ar godi a chario ar gyfer gweithwyr allweddol ac asesiadau o gyfarpar oedd rhai o'r meysydd a oedd yn cynorthwyo i gadw staff yn ddiogel mewn amgylchedd gwaith.  Roedd gwasanaeth ffisiotherapi ar gael i'r staff drwy'r Uned Iechyd Galwedigaethol.

·       Roedd cynnydd o 50% o ran nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer cymorth iechyd meddwl y rhoddwyd gwybod amdanynt yn ystod y cyfnod diwethaf.  Nodwyd bod 8 ymarferydd Iechyd Meddwl o fewn yr Uned Iechyd Galwedigaethol.

·       Nododd y Pwyllgor fod gwelliant o ran absenoldeb salwch mewn ysgolion cynradd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod absenoldeb salwch yn cael ei reoli gan y Pennaeth.   Mae'r Cynllun Absenoldeb Staff Ysgolion a sefydlwyd yn fewnol yn darparu cymorth ariannol i ysgolion sy'n aelodau er mwyn talu costau staff asiantaeth sydd eu hangen i gyflenwi yn ystod absenoldebau salwch. Os nad yw ysgolion yn dilyn y gweithdrefnau absenoldeb cywir, mae'r cyfraniad yn cael ei wrthod.

·       Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

RHAGLEN DRAWSNEWID - ADRODDIAD CYNNYDD pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yn adolygu dull yr Awdurdod o drawsnewid a sicrhau bod y rhaglen yn cyd-fynd â nodau ac amcanion y Strategaeth Gorfforaethol newydd.  Cafodd y Strategaeth Drawsnewid ei hadrodd i'r Cabinet ym mis Chwefror 2023.  Dyma'r 8 blaenoriaeth thematig sydd wedi'u cynnwys yn y Strategaeth Drawsnewid:

 

·       Arbedion a Gwerth am Arian

·       Incwm a Masnacheiddio 

·       Cynllunio a Gwella Gwasanaethau 

·       Y Gweithlu

·       Y Gweithle

·       Cwsmeriaid a Digidol

·       Datgarboneiddio 

·       Ysgolion

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:

 

·       Nododd y Pwyllgor fod cyn-Bennaeth Ysgol Uwchradd Bryngwyn wedi ymuno â'r adran Addysg yn ddiweddar, i rannu arferion da o ran rheoli cyllidebau, er mwyn sicrhau nad oes gan ysgolion ddiffyg ariannol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. 

 

6.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2023/24 pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Bu i'r Cynghorydd A. Evans, a oedd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, aros yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried a phleidleisio arni.]

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 31 Awst 2023 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2023/24.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys atodiad a oedd yn nodi adroddiad Monitro Arbedion ar 31 Awst 2023.   

 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld gorwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £8,730k ac yn rhagweld gorwariant o £6,098k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

7.

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2023 I MEDI 30AIN 2023 pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Canol Blwyddyn ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2023 a 30 Medi 2023 i sicrhau bod y gweithgareddau a wnaed yn gyson â gofynion Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2023-24 a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 1 Mawrth, 2023.

 

Cyfanswm y llog gros cyfartalog a gafwyd ar fuddsoddiadau ar gyfer y cyfnod oedd £4.63m.  Mae hyn yn cynnwys llog o £859k ar y balans cyfartalog o £39m a gedwir ar gyfer rhanbarth Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

Diolchodd y Pwyllgor i'r swyddogion am ychwanegu rhestr termau at yr adroddiad.  

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. 

 

8.

DIWEDDARIAD AR GAMAU GWEITHREDU Y PWYLLGOR CRAFFU pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â cheisiadau neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau Corfforaethol yn ystod blwyddyn y cyngor 2023/24.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.

 

9.

COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (PSB) SIR GAR - HYDREF 2023 pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ar 3 Hydref, 2023. Roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol bod pwyllgor craffu llywodraeth leol dynodedig yn cael ei benodi i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn Sir Gaerfyrddin, penodwyd Pwyllgor Craffu – Perfformiad Corfforaethol ac Adnoddau y Cyngor fel y Pwyllgor Craffu perthnasol.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad/Cynlluniau:

 

·       Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd yr Arweinydd fod Grwpiau Gorchwyl a Gorffen wedi'u sefydlu i ddod o hyd i atebion.  Dywedodd fod yr amcanion bellach yn gysylltiedig â'r Amcanion Llesiant.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 3 Hydref, 2023.

 

10.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CWARTER 2 - 2023/24 (01/04/2023-30/09/2023) YN BRIODOL I'R PWYLLGOR CRAFFU HWN pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Bu i'r Cynghorydd A. Evans, a oedd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, aros yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried a phleidleisio arni.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad at ddibenion monitro, ar Chwarter 2 - 2023/24. ynghylch y Camau Gweithredu a'r Mesurau oedd yn gysylltiedig â Strategaeth Gorfforaethol ac Amcanion Llesiant yr Awdurdod.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a'r ymholiadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:

 

·       Mewn ymateb i ymholiad cadarnhaodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth nad oedd y targed ar gyfer cwynion o fewn y dyddiad cau statudol wedi'i gyrraedd, oherwydd bod bron dwbl nifer y cwynion wedi'u cofnodi eleni o'i gymharu â'r llynedd.

·       Nodwyd y byddai gwybodaeth yn cael ei darparu i'r Pwyllgor ynghylch sut y cyflawnir y targed o ran canran perfformiad mewn perthynas â tharged i gynhyrchu derbyniadau cyfalaf i gefnogi'r rhaglen gyfalaf.

·       Nodwyd y byddai gwybodaeth yn cael ei darparu i'r Pwyllgor ynghylch sut y bydd gwelliant yn cael ei sicrhau, gyda chanran y gwaith atgyweirio ymatebol o ran adeiladau eraill a gwblhawyd o fewn y targed.

·       Cadarnhaodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol y bydd y system Rheoli Dysgu newydd yn gwella monitro hyfforddiant e-ddysgu a gyflawnir gan staff.

·       Mewn ymateb i sylw, dywedodd y Prif Swyddog Digidol fod gan yr Awdurdod ystad dda o liniaduron ers Covid ac y byddai'n darparu ffigyrau o ran gweithwyr sydd â chanran o liniaduron gyda 4GB o gof neu lai. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. 

 

11.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

12.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 18 HYDREF 2023 pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2023 yn gofnod cywir.