Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr K. Davies a H. Jones. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig. |
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
|
SYSTEM IECHYD A GOFAL I ORLLEWIN CYMRU: PA MOR BELL, PA MOR GYFLYM? PDF 208 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar y cyfleoedd yn Sir Gaerfyrddin i ddatblygu a gweithredu system iechyd a gofal ar gyfer pobl h?n ar sail 'yr hyn sy'n bwysig' i'r boblogaeth hon ac a fyddai'n addas at y diben yn awr ac yn y dyfodol.
Croesawodd y Pwyllgor Rhian Matthews (Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda/CSG – Cyfarwyddwr System Integredig) i'r cyfarfod. Rhoddodd y Cyfarwyddwr System Integredig fanylion i'r Pwyllgor am gyflwr presennol y system gofal iechyd a gofal cymdeithasol a'r heriau. Nodwyd bod anghydbwysedd o ran y galw a'r capasiti sy'n ymwneud â rheoli anghenion y boblogaeth pobl h?n. Roedd y boblogaeth fregus ac oedrannus yng Ngorllewin Cymru yn tyfu tua 3% y flwyddyn a byddai'n parhau i dyfu am o leiaf 10 mlynedd. Byddai'r sefyllfa bresennol yn gwaethygu'n sylweddol heb newid a thrawsnewid.
Cydnabuwyd bod aros yn yr ysbyty am y rhai sy'n ddifrifol fregus yn golygu eu bod yn agored i niwed a chanlyniadau gwael gan gynnwys haint, risg uwch o gwympo yn ogystal â cholli cyhyrau a dirywiad mewn lefelau annibyniaeth blaenorol. Roedd hyn yn ei dro yn cynyddu'r angen am ofal a chymorth ar ôl eu rhyddhau gan gynyddu'r galw ar y lefel gyfyngedig o ofal cymdeithasol sydd ar gael. Yn ogystal, mae cyfraddau rhyddhau gwael yn peryglu gallu'r Adrannau Achosion Brys i dderbyn cleifion sy'n cyrraedd mewn ambiwlans, gan arwain at oedi o ran trosglwyddo cleifion o ambiwlansys.
Nododd y Pwyllgor fod Cytundeb Adran 33 rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a oedd yn cefnogi strwythur rheoli integredig ar draws iechyd cymunedol a gofal cymdeithasol i oedolion h?n a datblygu llwybrau gofal integredig (Gartref yn Gyntaf) a oedd wedi dangos yn ystod y deuddeg mis diwethaf bod llai o angen gofal a chymorth ar gyfer elfen wedi'i thargedu o boblogaeth fregus a phobl oedrannus hyd at 85%.
Eglurodd y Cyfarwyddwr System Integredig fod y 'Gartref yn Gyntaf' yn ddull (nid gwasanaeth) a fabwysiadwyd gan dimau amlddisgyblaethol o weithwyr proffesiynol a oedd yn ymgorffori arfer gorau ar gyfer rheoli pobl fregus. Roedd yn cynnwys mynediad cyflym i ofal a thriniaeth ar gyfer anghenion iechyd acíwt o fewn cyfnod o 1 i 2 awr gan ddarparu dewis arall diogel yn lle ysbyty. Roedd hefyd yn darparu mynediad brys i ofal sylfaenol a darpariaeth ailalluogi o fewn cyfnod 8 – 72 awr i gefnogi pobl i dderbyn triniaeth ac i wella ar ôl anaf neu salwch.
Nodwyd bod Llesiant Delta yn darparu seilwaith digidol a monitro cleifion sy'n cael eu rheoli gartref drwy lwybr Delta Connect.
Nododd y Pwyllgor hefyd y manteision a'r trefniadau llywodraethu fel y manylir arnynt yn y cynllun.
Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac roedd y prif faterion fel a ganlyn:
· Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd y gallai rhai cleifion ofyn am lefel o gymorth a allai eu rhoi mewn perygl, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Integredig y byddai'r asesiad bob amser yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i'r unigolyn ond bod triniaethau gwahanol, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
DIWEDDARIAD PERFFORMIAD GOFAL CARTREF PDF 107 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yr oedd wedi gofyn amdano yn ymwneud â'r pwysau presennol ar ofal cartref, a'r effaith yr oedd hyn yn ei chael ar ryddhau cleifion o ysbytai. Bwriad yr adroddiad oedd rhoi sicrwydd bod cleifion yn cael cefnogaeth ddiogel i adael yr ysbyty ac roedd yn amlinellu'r pwysau a sut roedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymateb i'r pwysau hynny. Yr adroddiad oedd yr ail ddiweddariad yr oedd y Pwyllgor wedi'i gael a oedd yn cynnwys y data diweddaraf a gasglwyd ar 9 Mai 2023.
Amlygwyd bod tueddiadau'n sefydlogi a bod nifer o oriau a gomisiynwyd mewn perthynas â gofal cartref wedi'i sefydlogi. Er gwaethaf y gwelliannau, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai hyn yn cael ei drin yn ofalus a bydd perfformiad yn cael ei fonitro'n agos yn ystod y misoedd nesaf.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad |
|
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2022/23 PDF 106 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Monitro ynghylch y Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 28 Chwefror 2023, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2022/23.
Roedd y Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol yn rhagweld gorwariant o £6,920K ar y gyllideb refeniw ac amrywiad net o -£906K yn erbyn cyllideb gyfalaf a gymeradwywyd yn 2022/23. Y disgwyl oedd ar ddiwedd y flwyddyn y rhagwelwyd y byddai £1,338k o arbedion Rheolaethol yn erbyn targed o £1,603k yn cael eu cyflawni.
Dangosodd y prif amrywiadau ar gynlluniau cyfalaf amrywiant disgwyliedig (£362k) yn erbyn cyllideb net o £1,761k ar brosiectau gofal cymdeithasol, ac amrywiad (£544k) yn erbyn cyllideb net prosiectau'r Gwasanaethau Plant o £975k.
Nodwyd mai'r disgwyl yw y byddai £1,338k o arbedion Rheolaethol yn erbyn targed o £1,603k yn cael ei gyflawni ar ddiwedd y flwyddyn.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:
· Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r costau ychwanegol yn y Fframwaith Gofal Cartref yn sgil cefnogi darpariaeth wledig, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Integredig fod hyn oherwydd costau cynyddol i gymell darparwyr gwasanaethau gofal cartref i weithio mewn ardaloedd mwy gwledig yn y Sir. · Nodwyd nad oedd y Bwrdd Iechyd yn darparu cyllid tuag at gost cymorth arbenigol ar gyfer anghenion cymhleth (Gwasanaethau Derbyn Gofal). Rhoddodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd drosolwg o'r sefyllfa genedlaethol a lleol mewn perthynas â'r argyfwng presennol ynghylch capasiti lleoliadau, ynghyd â'r newid yn y galw am anghenion darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc ar ôl y pandemig. Amlygwyd bod y galw yn newid yn barhaus a'i fod yn sefyllfa ansicr a bod darpariaeth grantiau Covid Llywodraeth Cymru wedi cuddio'r sefyllfa ariannol mewn blynyddoedd blaenorol ond yn awr roedd yr Awdurdod yn gorfod talu cost y galw ei hun. · Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y ddarpariaeth o wasanaethau dydd sy'n cael eu lleihau o'i gymharu â'r lefelau cyn y pandemig, dywedodd swyddogion nad gwasanaethau dydd oedd yr ateb gorau bob amser a bod cyfleoedd dydd yn cael eu cynnig. Ystyriwyd bod cyfleoedd dydd yn darparu gwell canlyniadau i unigolion ac yn aml maent yn fwy cost-effeithiol. Cydnabuwyd nad cynnig gwasanaeth mewn adeiladau oedd yr ateb gorau bob amser.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad |
|
EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU. PDF 71 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad craffu canlynol: yn unfrydol.
· Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol 10 mlynedd
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad. |
|
CYNLLUN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU IECHYD & GWASANAETHAU CYMDEITHASOL AR GYFER 2023/24 PDF 131 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaengynllun Waith ar gyfer 2023/24 a baratowyd yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu ddatblygu a chyhoeddi blaenraglen waith bob blwyddyn gan glustnodi materion ac adroddiadau sydd i'w hystyried mewn cyfarfodydd yn ystod blwyddyn y cyngor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gadarnhau'r Blaengynllun Gwaith ar gyfer y Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2023/24. |
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 88 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 5 Gorffennaf 2023. |
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 17FED EBRILL, 2023 PDF 134 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 17 Ebrill 2023 gan eu bod yn gywir. |