Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr B. Davies a K. Davies.
|
|||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.
|
|||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL 2022/23 PWYLLGOR CRAFFU IECHYD A GWASANAETHAU CYMDEITHASOL PDF 129 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol ynghylch ei waith yn ystod blwyddyn y cyngor 2022/23 . Roedd yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu baratoi adroddiad blynyddol sy'n egluro gweithgareddau'r Pwyllgor dros y flwyddyn flaenorol.
Roedd yr adroddiad yn bwrw golwg gyffredinol ar raglen waith y Pwyllgor a'r materion allweddol a ystyriwyd yn ystod y flwyddyn. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am sesiynau datblygu ac am ymweliadau safle a oedd wedi'u trefnu ar gyfer y Pwyllgor yn ogystal â data am bresenoldeb.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd 2022/23.
|
|||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno i gynnal adolygiad ynghylch cynnydd mewn gordewdra yn ystod plentyndod, a hynny ar ôl cais am awgrymiadau ar gyfer prosiectau posibl y Gr?p Gorchwyl a Gorffen. Y teitl arfaethedig ar gyfer y prosiect oedd "Cychwyn Iach ac Egnïol".
Yn ogystal, roedd angen i'r Pwyllgor gadarnhau'r aelodau a ddylai fod yn rhan o'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen, a ddylai gynnwys hyd at 7 aelod sy'n wleidyddol gytbwys.
Nodwyd bod cyfarfod cyntaf y Gr?p Gorchwyl a Gorffen wedi'i gynnal ar 18 Mai, 2023 pan oedd Cadeirydd ac Is-gadeirydd wedi cael eu penodi o blith aelodau'r Gr?p. Bydd swyddogion yr Adran Cymunedau, Addysg a Gwasanaethau Plant a'r Uned Gwasanaethau Democrataidd yn cefnogi gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.
PENDERFYNWYD
|
|||||||||
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 72 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad craffu canlynol.
· Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol 10 mlynedd
PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.
|
|||||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 88 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 4 Hydref 2023.
|
|||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 7FED MEHEFIN, 2023 PDF 108 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 7 Mehefin, 2023 gan eu bod yn gywir.
|