Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd - Dydd Llun, 22ain Ebrill, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd D. Phillips.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

 G.B Thomas

 5. Asesiadau o Asedau Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn croesi tir y mae'n berchen arno.

T.A.J. Davies

 5. Asesiadau o Asedau Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Mae hawliau tramwy cyhoeddus yn croesi tir y mae'n berchen arno.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.

STRATEGAETH TRAWSNEWID CERBYDAU ALLYRIADAU ISEL IAWN (ULEV) pdf eicon PDF 651 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i adroddiad oedd yn darparu gwybodaeth a diweddariad am ddatblygu'r Strategaeth Trawsnewid i Fflyd Cerbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEV).

 

Nododd yr adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd, yn ogystal â datganiad Argyfwng Newid Hinsawdd y Cyngor Sir ym mis Chwefror 2019 a'r targed dilynol o ddod yn sefydliad Sero Net erbyn 2030, fod Llywodraeth Cymru wedi nodi ei disgwyliadau o ran fflydoedd y sector cyhoeddus yn ei strategaeth yn 2019, sef ‘Ffyniant i Bawb – Cymru Carbon Isel’, gan nodi ei huchelgeisiau i bob car newydd a cherbyd nwyddau ysgafn fod yn gerbydau allyriadau isel iawn erbyn 2025 a phob cerbyd nwyddau trwm erbyn 2030.

 

Nododd yr Aelodau fod milltiredd fflyd y Cyngor yn cyfrif am 19% o'i ôl troed carbon a oedd yn gyfran sylweddol o'r effaith carbon yn gyffredinol. Prif nod y Cyngor oedd lleihau effaith ei weithrediadau fflyd ar yr amgylchedd ac ymdrechu i gyflawni gweledigaeth y Cyngor o gael y fflyd cerbydau di-garbon cynaliadwy gorau posibl erbyn 2030.  Byddai'r Strategaeth Trawsnewid i Gerbydau Allyriadau Isel Iawn yn ceisio nodi'r rhaglen gyflenwi strategol i gyflawni'r nodau hyn.

 

Amlinellodd yr adroddiad y sefyllfa bresennol ynghyd â dadansoddiad TEEP cynhwysfawr ac yna'r heriau yr oedd y Cyngor yn eu hwynebu. 

 

Gwnaed y sylwadau/arsylwadau/ymholiadau canlynol:

 

·        Estynnwyd diolch i'r swyddogion am adroddiad llawn gwybodaeth.  Dywedwyd y byddai hwn yn gyfle i gyrff gwasanaethau cyhoeddus arbed swm sylweddol o arian yn ogystal â'r manteision amgylcheddol ac ymarferol.

 

Awgrymwyd y byddai prynu'r cerbydau trydan drwy'r model 'Talu wrth Arbed' yn fanteisiol oherwydd gellid prynu cerbydau trydan yn gymharol rhad, ymlaen llaw, a hynny drwy gynllun prydlesu am gyfnod rhwng 8 a 10 mlynedd. Yn ogystal, dywedwyd bod cerbydau trydan yn rhatach ac yn haws i'w cynnal.  Roedd llawer o fanteision o ran costau i gael fflyd drydan a fyddai'n cael ei chyflawni yn y tymor hir.

 

Awgrymwyd peidio â gwefru'r cerbydau yn ystod oriau brig/cyfraddau brig.  Awgrymwyd bod yr Awdurdod yn negodi 'tariff amser defnydd'. Dros nos yw'r amser mwyaf cost-effeithiol. Yn ogystal, byddai angen darparu hyfforddiant ynghyd ag arferion gwefru er mwyn sicrhau dull cyson a chost-effeithiol.

 

Nododd yr Aelod Cabinet fod y tîm trafnidiaeth yn parhau i gyfathrebu ag arbenigwyr sy'n darparu cymorth, cyngor ac arweiniad. Ychwanegodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol eu bod ar hyn o bryd yn ceisio darparu cynllun trawsnewid cadarn, cynaliadwy a fforddiadwy i'r Cyngor a fyddai'n cynnwys y cerbydau a'r seilwaith gwefru cerbydau trydan o amgylch y Sir. Byddai'r cynllun hefyd yn cynnwys yr arferion gwefru, yr hyfforddiant a'r hyfforddiant cynnal a chadw.  Cydnabuwyd bod trawsnewid i gerbydau trydan yn gynllun tymor hir, ond roedd cam sylweddol wedi'i wneud i gyflwyno'r Cerbydau Allyriadau Isel Iawn ac roedd sicrhau y byddai'r trawsnewid yn gynaliadwy yn y tymor hir yn allweddol.

 

·       Codwyd pryderon ynghylch y pwysau ar hyn o bryd ar y gyllideb a'r beichiau ychwanegol o ran costau a allai ddeillio o hyn, gan ddechrau gyda phrynu cerbydau trydan sydd rhwng o leiaf 20% a 30% yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

ASESIADAU O ASEDAU HAWLIAU TRAMWY CYHOEDDUS pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Gan iddynt ddatgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, arhosodd y Cynghorydd Gareth Thomas a'r Cynghorydd Arwel Davies yn y cyfarfod, ond ni chymerasant ran yn y broses o ystyried yr eitem trafodaethau na phleidleisio ar yr eitem hon].

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad i'w ystyried oedd yn darparu'r asesiad o asedau Hawliau Tramwy Cyhoeddus (PROW) sydd ar ddod, a oedd yn cynnwys rhesymeg dros yr asesiad, manylion am sut y byddai'n cael ei gyflawni, y manteision a'r risgiau.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y pwnc hwn yn dod o dan gylch gwaith yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd a aeth ymlaen i gyflwyno'r adroddiad.

 

Nodwyd bod y rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin yn fwy na 2500km gyda thua 3176 o lwybrau a gofnodwyd yn unigol ar draws pob un o'r 72 Cyngor Tref a Chymuned. Byddai cwblhau asesiad o asedau yn darparu cofnod cyflawn o asedau Hawliau Tramwy Cyhoeddus yr Awdurdod Lleol ar draws y rhwydwaith cyfan.

 

Codwyd y sylwadau/arsylwadau/ymholiadau canlynol:

 

·       Gofynnwyd a oedd unrhyw bosibilrwydd o weithio mewn partneriaeth â Chynghorau Tref a Chymuned. Eglurodd y Rheolwr Mynediad i Gefn Gwlad fod rhaglen cynnal a chadw'r Cyngor Tref a Chymuned wedi dod i ben oherwydd dim ond ychydig o Gynghorau Tref a Chymuned oedd yn cael eu cefnogi'n ariannol i wneud gwaith ar gyfer yr Awdurdod ac, yn dilyn cyfrifiad, canfuwyd pe bai rhagor o Gynghorau Tref a Chymuned yn ymuno â'r cynllun, na fyddai'n bosibl i'r Awdurdod barhau i gefnogi'n ariannol 72 o Gynghorau posibl ar draws Sir Gaerfyrddin. Gan gydnabod y system annheg, cafodd ei symud yn fewnol, ond nodwyd bod anawsterau ac, yn dilyn adolygiad pellach, roedd yr Awdurdod yn gweithio gyda nifer o Gynghorau Tref a Chymuned ond gan ddefnyddio mwy o'u praesept eu hunain i gwmpasu'r gwaith. Nodwyd mai'r dull tymor hwy fyddai gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau Tref a Chymuned ond yn wirfoddol. Roedd gweithlu gwirfoddol wedi'i sefydlu oedd yn cynnwys dros 100 o wirfoddolwyr hyd yma a byddent yn gweithio mewn partneriaeth â'r Awdurdod i ymgymryd â gwaith cynnal a chadw ar ran yr Awdurdod. Gwnaed gwaith hyrwyddo ar y cynllun gwirfoddoli, a hynny ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gan anfon gohebiaeth at bob Cyngor Tref a Chymuned a datganiadau i'r wasg. Byddai rhagor o ymgyrchoedd recriwtio gwirfoddolwyr yn cael eu cynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

Dywedwyd y dylid cynnwys torri glaswellt yn y bartneriaeth gan weithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned.

 

Awgrymwyd y dylai Cynghorau Tref a Chymuned gael mewnbwn ynghylch pa ran o'r rhwydwaith sy'n cael blaenoriaeth ar gyfer cynnal a chadw. Eglurodd y Swyddog Mynediad i Gefn Gwlad y cysylltwyd â'r holl Gynghorau Tref a Chymuned pan sefydlwyd yr Hierarchaeth Rhwydwaith lle gofynnwyd i bob Cyngor Cymuned ddewis 5% o gyfanswm hyd y rhwydwaith yn ei ardal fel y gellid blaenoriaethu'r llwybrau hynny fel llwybrau categori C, a ystyriwyd yn deg, yn gymesur ac yn gyflawnadwy. Ymatebodd tua 14 o Gynghorau Tref a Chymuned a rhoddwyd eu llwybrau dethol yng nghategori  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2023/24 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad monitro ariannol, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, ynghylch y Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2023/24 ar gyfer y Gwasanaethau Lle a Seilwaith a Diogelu'r Cyhoedd ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Rhagfyr 2023.

 

Dywedwyd bod y gyllideb refeniw ar y cyfan yn rhagweld gorwariant cyffredinol o £2,228k ar ddiwedd y flwyddyn. Rhagwelwyd gwariant net yn y gyllideb gyfalaf o £15,305 o gymharu â chyllideb net weithredol o £29,143k gan roi amrywiant o £-13,838.

 

 

Nododd y Pwyllgor, mewn perthynas â'r adroddiad arbedion, mai'r disgwyl yw y byddai £982k o arbedion Rheolaethol mewn perthynas â tharged o £1,344k yn cael ei gyflawni ar ddiwedd y flwyddyn.  Yn ogystal, cyflwynwyd £136k o arbedion polisi mewn perthynas â tharged o £261k ar gyfer 2023/24 a rhagwelwyd y byddai hyn yn cael ei gyflawni.

 


 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·       Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi mynychu Fforwm Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu diwethaf, gan godi ar ran y Pwyllgor y pryderon ynghylch hwyrni'r adroddiadau monitro cyllideb sy'n cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Craffu a gofynnodd am adroddiadau mwy amserol. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod yr Arweinydd yn ymwybodol o'r amserlenni, gan weithio ar hyn o bryd gyda staff cyllid i ddatrys y mater.

 

·       Cyfeiriwyd at Atodiad B – Cerbydau Adrannol. Wrth dynnu sylw at y tanwariant o £13,000 a'r sylw cysylltiedig ynghylch 'tanddefnyddio cerbydau adrannol', gofynnwyd a oedd angen cerbydau adrannol ac a oedd posibilrwydd eu tynnu o'r fflyd. Dywedodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol fod hyn yn cael ei ystyried fel rhan o'r adolygiad trawsnewid ar deithio staff a cherbydau adrannol. 

 

·       Mewn ymateb i sylw a godwyd ynghylch colli incwm sylweddol oherwydd peiriannau diffygiol mewn meysydd parcio, dywedodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol, er nad oedd ganddo'r amserlenni penodol wrth law ar gyfer atgyweirio, byddai gan bob peiriant talu gytundeb lefel gwasanaeth gyda'r darparwr. Byddai rhagor o wybodaeth am hyn yn cael ei rhannu ag Aelodau'r Pwyllgor y tu allan i’r cyfarfod. 

 

Gwnaed sylw pellach ynghylch dyluniad y peiriannau talu yn y meysydd parcio, sef nad oeddent yn hawdd i'w defnyddio a'u bod yn her i unigolion â golwg gwael.  Dywedodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol, wrth gydnabod y gallai rhai unigolion brofi rhai heriau wrth ddefnyddio'r peiriant talu, er mwyn gwella'r hygyrchedd wrth symud ymlaen, byddai adolygiad ar fesurydd yn cael ei gynnal pan fyddai'r peiriant i fod i gael ei newid. Yn ogystal, rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod 'my permit app' ar waith ym mhob maes parcio yn Sir Gaerfyrddin sy'n cynnig dull syml o dalu, ond gwerthfawrogwyd unwaith eto y gallai rhai unigolion wynebu rhai heriau wrth ddefnyddio'r dull hwn.

 

·       Cyfeiriwyd at Atodiad B – Llwybr Dyffryn Tywi.  Gofynnwyd am ddiweddariad ynghylch y sylw 'disgwylir y bydd pryniannau tir y cytunwyd arnynt a ffioedd cysylltiedig yn cael eu cwblhau cyn bo hir’. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y Cyngor wedi defnyddio Gorchmynion Prynu Gorfodol ac wedi cynnal gwrandawiadau hir ac y byddai adroddiad yn cael  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 11 MAWRTH 2024 A'R CYFARFOD A AILYMGYNULLWYD A GAFODD EI GYNNAL AR 22 MAWRTH 2024 pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion: