Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd - Dydd Mawrth, 3ydd Hydref, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y STRATEGAETH WASTRAFF pdf eicon PDF 346 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn darparu crynodeb o'r newidiadau interim a gyflwynwyd i'r gwasanaeth gwastraff ar 23 Ionawr 2023.

 

Roedd yr adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith yn cynnwys diweddariad ar ddarpariaeth bresennol y gwasanaethau gwastraff sy'n gwasanaethu 91,000 o aelwydydd.

 

Dywedwyd ers cyflwyno'r newid interim i’r gwasanaeth gwastraff ym mis Ionawr 2023, bod y ddarpariaeth wedi'i chyflawni drwy'r canlynol:

 

-      Casgliadau ailgylchu sych wythnosol [bagiau glas];

-      Casgliadau bob tair wythnos o hyd at dri bag [du] o ddeunydd na ellir ei ailgylchu. Cyflwyno gwasanaeth casglu gwydr i 95% o'r tai yn Sir Gaerfyrddin i gasglu poteli a jariau gwydr o d? i d? bob tair wythnos;

-      gyda gwastraff bwyd yn parhau i gael ei gasglu bob wythnos.

 

Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r wybodaeth ganlynol yn yr adroddiad:

·      Ffigurau perfformiad y mesur interim;

·      Adborth yn dilyn cyflwyno'r newidiadau

·      Trosolwg o gam dau - Newidiadau i'r Gwasanaeth Gwastraff

·      Llywodraethu

·      Cerbydau ar gyfer glasbrint o’r casgliadau didoli wrth ymyl y ffordd

·      Llinell amser a chyfathrebu

 

Ymatebwyd fel a ganlyn i’r sylwadau a fynegwyd:-

 

·      Mynegwyd pryder o ran y swm mawr o arian sy'n cael ei wario ar hyn er mwyn cyrraedd y targedau perthnasol. Eglurodd y Rheolwr Strategaeth a Pholisi Gwastraff er bod dyraniad y gyllideb wedi'i drafod yn drwyadl gyda Llywodraeth Cymru ac Aelodau'r Awdurdod, byddai goblygiadau costau o ran peidio â chyrraedd y targedau ailgylchu. 

 

·      Wrth longyfarch y cynnydd yn y perfformiad o ran gwastraff sy'n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio, pwysleisiwyd ei bod yn bwysig parhau i gadw ffocws.

 

·      Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd fod dyheadau mawr o ran yr economi gylchol  gan gynnig darparu rhagor o wybodaeth am hyn i'r Pwyllgor. Cytunodd yr Aelodau y byddai hyn o fudd ac y byddai'n cael ei gynnwys ar y Blaengynllun Gwaith fel sesiwn ddatblygu.


 

·      Cyfeiriwyd at y trosolwg o gam dau yr adroddiad a oedd yn nodi nad oedd y depos gweithredol sef Cillefwr, Glanaman a Trostre yn gallu hwyluso a gweithredu methodoleg y glasbrint ar gyfer y Sir gyfan.  Mynegwyd pryder yngl?n â’r awgrym i gau'r safleoedd hyn.  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith fod hyn yn gyfnod cynnar a dywedodd yRheolwr Strategaeth a Pholisi Gwastraff, er nad oedd penderfyniadau pendant wedi'u gwneud, darparwyd sicrwydd y byddai’r  gofynion o ran staff yn cael eu bodloni.

 

PENDERFYNWYD nodi'r Wybodaeth Ddiweddaraf am y Strategaeth Wastraff a'r cynnydd a wnaed yn ystod cyfnod interim Strategaeth Wastraff Ionawr 2023.

 

 

5.

ADOLYGIAD GWASTRAFF SWMPUS pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad am yr Adolygiad Gwastraff Swmpus  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno cwmpas yr adolygiad o ran y gwasanaeth gwastraff swmpus i'w ystyried a darparu sylwadau rhagarweiniol.  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith mae'r nod oedd cyflawni i'r eithaf y potensial o ran ailddefnyddio ac ailgylchu eitemau gwastraff swmpus, hyrwyddo cynaliadwyedd, lleihau ôl troed carbon y gwasanaeth, a gwneud cynnydd o ran 'Eto', sef prosiect Economi Gylchol y Cyngor, a mentrau cymunedol eraill tebyg.

 

Ymatebwyd fel a ganlyn i’r sylwadau a fynegwyd:-

 

·       Cyfeiriwyd at broffil y gwastraff swmpus o ran eitemau a phwysau yn yr adroddiad.  Teimlwyd bod y 69% o bwysau amcangyfrifedig yn cael ei briodoli'n bennaf i ddodrefn rhatach nad oedd o wneuthuriad cystal â'r dodrefn o safon uchel gan achosi cyfradd gwaredu uwch. Dywedwyd y dylid buddsoddi mwy i annog a chynghori'r cyhoedd ar sut y gallent gynnal a gofalu am eu dodrefn, a fyddai yn ei dro yn para'n hirach gan osgoi'r gyfradd uchel o wastraff swmpus.

 

Roedd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd wrth nodi’r heriau yn cydnabod bod llawer mwy y gellid ei gyflawni.

 

·       Dywedwyd y gellid defnyddio mannau gwag mawr fel Debenhams yng Nghaerfyrddin fel canolfan atgyweirio ac y gellid gwella'r Cyfeiriadur Atgyweirio ar-lein i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r cyhoedd ar ba eitemau y gellir eu trwsio ble.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

5.1          derbyn yr Adolygiad Gwastraff Swmpus;

5.2          bod swyddogion yn nodi sylwadau'r Pwyllgor ar yr opsiynau posibl ar gyfer y Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus yn y dyfodol yn ystod y cam ymgysylltu cynnar hwn.


 

 

6.

STRATEGAETH DRAFFT AR GYFER RHEOLI GLASWELLTIR I BRYFED PEILLIO pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn atodi'r strategaeth ddrafft ar gyfer rheoli glaswelltir ar gyfer peillwyr ar ystâd Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2023.  Wrth gyflwyno'r adroddiad, roedd yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd wedi tynnu sylw at y ffaith fod y Cyngor hwn wedi nodi ei uchelgais fel rhan o Ddatganiad Gweledigaeth y Cabinet i gynyddu bioamrywiaeth ar yr holl dir sy'n eiddo i'r Cyngor, a chydnabod y gydberthynas gref rhwng newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth a llesiant pobl.

 

Dywedwyd ei fod yn gyfle da i rannu'r strategaeth ddrafft â'r Pwyllgor yn ystod camau cynnar ei ddatblygiad.

 

Dywedwyd wrth Aelodau'r Pwyllgor fod y strategaeth ddrafft yn ystyried glaswelltiroedd amwynder, tir ysgolion, y portffolio adfywio a'r portffolio tai ond nid oedd fodd bynnag yn cynnwys perthi ac ymylon ffyrdd na thir fferm.

 

Ymatebwyd fel a ganlyn i’r sylwadau a fynegwyd:-

 

·        Mynegwyd nifer o sylwadau wrth gydnabod y dirywiad yn y rhywogaeth a chymeradwywyd y ffaith fod y strategaeth yn cynnwys cynnydd mewn blodau gwyllt a fyddai yn ei dro yn gwneud gwahaniaeth o ran cynyddu gwenyn, ieir bach yr haf a rhywogaethau eraill.

 

·        Adroddwyd bod darnau o laswellt, yn cynnwys pabïau, wedi cael eu torri yn ystod toriad glaswellt a oedd wedi'i drefnu.  Pan gafodd ei herio dywedodd y gweithredwr fod y glaswellt yn cael ei dorri fel rhan o amserlen.  Dywedodd yr Aelod Cabinet fod hwn yn faes ar gyfer gwella'n barhaus.  Eglurodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd fod glaswellt amwynder yn hanesyddol yn cael ei dorri am resymau esthetig, fodd bynnag, roedd newidiadau'n cael eu gwneud wrth ystyried amseriad y toriadau i roi amser i flodau hadu, ffawna i atgynhyrchu ac i'r pridd a natur i ffynnu.  Trwy arweinyddiaeth a chyfarwyddyd mae nawr yn gyfle da i newid ar gyfer y dyfodol.  Pwysleisiodd y Rheolwr Tiroedd a Glanhau nad dyma'r gyfarwyddeb oedd yn cael ei roi ar hyn o bryd ac y byddai ymdrech ar y cyd i hyfforddi staff a chodi ymwybyddiaeth yn cael ei wneud.

 

·        Rhoddwyd clod i bawb a fu'n rhan o ddatblygu'r Strategaeth. 

 

·        Mewn ymateb i ymholiad ynghylch gweithio gydag Eco-bwyllgorau ysgolion, dywedodd y Swyddog Bioamrywiaeth fod yr adran yn aml yn gweithio gydag ysgolion yn unigol, pan fyddant yn cysylltu â'r adran am gyngor a hefyd gyda'r Gr?p Gweithredu Ysgolion.  Adroddwyd mai disgyblion yr ysgolion yn aml sy'n pwyso am wneud mwy o waith mewn meysydd o'r fath.  Yn ogystal, mae Cynghorau Tref a Chymuned wedi gwneud cryn dipyn o waith yn dilyn ceisiadau llwyddiannus am gyllid grant.

 

·        Dywedodd y Swyddog Bioamrywiaeth fod y Cyngor wedi buddsoddi mewn offer torri a chasglu newydd i weithio tuag at weithredu'r strategaeth.

 

·        Roedd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd wedi nodi mai'r agwedd bwysig oedd y gwaith cydweithredol ac eglurodd mai cam cyntaf y strategaeth oedd casglu tystiolaeth, a gosod polisi y byddai asesiadau effaith, cost ac ardal yn cael eu cwblhau dros gyfnod yr Hydref.  Byddai dull ymgysylltu cadarn wedi'i dargedu gyda'r cymunedau hefyd yn flaenoriaeth.

 

·        Gofynnwyd a oedd cynllun neu sgôp i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ATGYFEIRIAD GAN Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU, CARTREFI AC ADFYWIO - MEHEFIN 2023 pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor atgyfeiriad gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio a benderfynwyd arno yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2023.  Roedd yr atgyfeiriad yn gofyn i'r Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd edrych ar y mater ehangach o effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu ynni mewn perthynas â stoc tai hanesyddol y sir.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd fod yr atgyfeiriad yn ymwneud ag adolygiad o ardaloedd cadwraeth o dan gylch gwaith y polisi cynllunio.  Yng nghyd-destun y polisi cynllunio, bu'r Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio hefyd yn trafod y mater pwysig ynghylch mesurau effeithlonrwydd ynni gan eu bod yn ymwneud ag adeiladau rhestredig ledled Sir Gaerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

7.1 Derbyn y mater a gyfeiriwyd gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio - Mehefin 2023.

 

7.2 Ychwanegu adroddiad sy'n darparu data a gwybodaeth am effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu ynni mewn perthynas â stoc dai hanesyddol y sir at Flaengynllun Gwaith y Pwyllgor.

 

 

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 23 Tachwedd 2023.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y rhestr o'r eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 23 Tachwedd 2023.

 

 

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 21 GORFFENNAF 2023 pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion: