Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd - Dydd Mawrth, 30ain Ionawr, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

 S. Godfrey-Coles

 6. Ymgynghori ynghylch Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2024/25 hyd at 2026/27

Mae ei phartner yn gweithio yn adran Addysg y Cyngor.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.

ESBONIAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad Rheoli Plâu.

 

Mewn ymateb i ymholiad a godwyd mewn perthynas â chyllid yn y dyfodol i reoli problem llygod mawr mewn carthffosydd, cadarnhaodd Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd y byddai'r mater hwn yn cael ei gynnwys fel rhan o ddatblygiad yr achos busnes yn dilyn trafodaethau gyda D?r Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

4.1      derbyn y dyddiad diwygiedig ar gyfer yr adroddiad Rheoli Plâu;

4.2      nodi'r esboniad dros beidio â'i gyflwyno.

 

 

5.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2023/24 pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Hydref 2023, mewn perthynas â gwasanaethau dan orchwyl y Pwyllgor Craffu - Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau mai £1.957m oedd y gorwariant net amcangyfrifedig, a oedd yn cynnwys £700k oherwydd bod y dyfarniad cyflog gwirioneddol yn fwy na'r hyn a gyllidebwyd ar ei gyfer.  

 

Roedd yr is-adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth yn rhagweld gorwariant o fwy na miliwn o bunnoedd am y flwyddyn.  Y prif amrywiannau oedd £300k oherwydd difrod storm i briffyrdd, colli incwm ar y Gwasanaethau Parcio o £277k a gorwariant o £908k ar Gludiant Ysgol.

 

Roedd yr is-adran Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff yn rhagweld gorwariant o £664k o ganlyniad i bwysau o £775k achos costau cynyddol cyflwyno cam interim y strategaeth wastraff, oherwydd gorfod rhoi mesurau wrth gefn ar waith.

 

Adroddwyd wrth gyflawni'r arbedion effeithlonrwydd arfaethedig ar gyfer 2023/24 fel yr oeddent yn Atodiad G i'r adroddiad, rhagwelwyd cyflawni arbedion effeithlonrwydd o £1.3m yn 2023/24, a fyddai £318k yn is na'r targed.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y Gwasanaethau Gwastraff o fewn y Prif Amrywiannau - Atodiad B yr adroddiad. Gofynnwyd am eglurhad ar y sylw 'Mae Alldro yn cynnwys tynnu i lawr o gronfeydd wrth gefn' mewn perthynas â'r amrywiad o £571k.  Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod hyn o ganlyniad i newid y dull casglu gwastraff tuag at drefn o gasglu wrth ymyl y ffordd.  Ar hyn o bryd, roedd cerbydau ychwanegol yn casglu'r gwydr o ymyl y ffordd, gan arwain at gostau ychwanegol dros dro.  Er mwyn rheoli costau, roedd rhywfaint o'r costau'n cael eu talu drwy dynnu cronfeydd wrth gefn i lawr.

 

·       Mynegwyd pryder ynghylch effaith gwasanaethau pe na bai'r swyddi gwag yn cael eu llenwi.  Dywedwyd er bod cynigion i arbed arian drwy beidio â llenwi swyddi gwag, ynghyd â'r rhewi presennol ar recriwtio, fod yr adroddiad yn nodi tanwariant mewn cysylltiad â swyddi gwag amrywiol gan gynnwys Rheoli S?n fel enghraifft oedd yn Ddyletswydd Statudol.  Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod cyllid llawn yn cael ei ddarparu ar gyfer pob swydd oedd yn rhan o strwythur staffio'r Cyngor. Fodd bynnag, o ran rhai sy'n gadael a mamolaeth, mae natur y broses recriwtio, sy'n amrywio o ran hyd, yn creu tanwariant cyflog sydd wedyn yn cael ei adlewyrchu yn adroddiad monitro'r gyllideb.  Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod cyflwyno'r drefn o rewi recriwtio yn adlewyrchu difrifoldeb sefyllfa'r gyllideb a bod y cam hwn wedi'i gymryd i osgoi camau fel diswyddiadau.

 

·       Cyfeiriwyd at Atodiad D yr adroddiad - prif amrywiannau Adran/Cynlluniau. Mewn ymateb i ymholiad a godwyd ynghylch y sylwadau a briodolir i amrywiannau 'Llithro i flynyddoedd y dyfodol', rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol sicrwydd i'r Pwyllgor nad oedd yr arian ar gyfer cyllidebau cyfalaf bob amser yn cyd-fynd â phennu'r gyllideb flynyddol, ac oherwydd hyn byddai'n aml yn llithro i'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2024/25 TAN 2026/27 pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Bu i'r Cynghorydd S. Godfrey-Coles ddatgan budd personol yn yr eitem hon. Arhosodd yn y cyfarfod a chymryd rhan yn y drafodaeth a'r pleidleisio.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar Strategaeth Cyllideb Refeniw y Cyngor 2024/25 i 2026/27, fel y'i cymeradwywyd gan y Cabinet at ddibenion ymgynghori yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2024. Roedd yr adroddiad yn darparu rhagolwg i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2024/2025, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2025/2026 a 2026/2027, yn seiliedig ar ragamcanion y swyddogion ynghylch gofynion gwariant ac yn ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 20 Rhagfyr 2023.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau wrth y Pwyllgor, wrth gyflwyno'r adroddiad, fod y setliad amodol a gyhoeddwyd yn cynrychioli cynnydd cyfartalog o 3.1% ledled Cymru ar setliad 2023/24, fod cynnydd Sir Gaerfyrddin wedi bod yn 3.3% (£11.0m) gan felly gymryd y Cyllid Allanol Cyfun i £349.441m ar gyfer 2024/25. Er bod y setliad yn sylweddol uwch na'r ffigwr dangosol cychwynnol, sef cynnydd o 3.4%, ac yn darparu tua £15.5m yn fwy na rhagdybiaeth wreiddiol y Cyngor, roedd Llywodraeth Cymru wedi cydnabod na fyddai'r ffigwr cynyddol yn ddigonol o hyd i ymdopi â'r pwysau chwyddiant oedd yn wynebu cynghorau, dyfarniadau cyflog, a'r cynnydd mewn prisiau tanwydd, ac roedd penderfyniadau anodd i'w gwneud.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:

 

·       Atodiad A(i) – Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer y Gwasanaethau Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd;

·       Atodiad A(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer y Gwasanaeth Lle a Seilwaith;

·       Atodiad B – Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer y Gwasanaethau Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd;

·       Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer y Gwasanaethau Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

  • Dywedwyd bod yr adroddiad hwn yn dangos sefyllfa ddigynsail ac yn amlygu difrifoldeb y sefyllfa lle'r oedd yn mynd yn fwyfwy anodd dod o hyd i feysydd i wneud arbedion ynddynt heb effeithio ar wasanaethau.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol mai dyma'r tro cyntaf yn ei yrfa iddo adrodd cyllideb ddrafft anghytbwys.

 

  • Mynegwyd pryderon go ddifrifol mewn perthynas â'r Gwasanaethau Cynnal a Chadw Priffyrdd, lle nodwyd arbediad effeithlonrwydd o £100,000 drwy leihau gwaith gosod wyneb ffyrdd. Roedd y Pwyllgor wedi ysgrifennu'n ddiweddar at Lywodraeth Cymru i fynegi ei bryderon ynghylch y diffyg cyllid i gynnal ffyrdd Sir Gaerfyrddin, ac roedd y cynnig yn aberth ychwanegol o ran cynnal y rhwydwaith ffyrdd.

 

  • Mewn ymateb i bryder a godwyd mewn perthynas â'r cynnig i roi'r gorau i sgubo mecanyddol yn rheolaidd ar ffyrdd gwledig, a dim ond gwneud hynny ar sail adweithiol, dywedodd y Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith fod draenio yn allweddol o ran datrys llawer o faterion

 

  • Codwyd nifer o bryderon ynghylch y cynigion i wneud arbedion effeithlonrwydd mewn perthynas â'r meysydd canlynol:-

·       Gosod wyneb ffyrdd

·       Gwneud gwaith sgubo mecanyddol ar ffyrdd gwledig ar sail adweithiol yn hytrach nag yn rheolaidd

·       Cyflwr ffyrdd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

BLAENGYNLLUN DEDDF YR AMGYLCHEDD CYNGOR SIR CAERFYRDDIN IONAWR 2023 - RHAGFYR 2025 pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Flaengynllun Deddf yr Amgylchedd y Cyngor Ionawr 2023 - Rhagfyr 2025 i'w ystyried.  Roedd yr adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd, yn darparu i'r Aelodau wybodaeth am gyflawni'r cynllun. 

 

Roedd y cynllun yn cynnwys camau a fyddai'n cael eu cyflawni a'u hadrodd amdanynt gan sawl maes gwasanaeth, crynhowyd y camau hyn yn Atodiad A a atodwyd i'r adroddiad.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y sylw 'i gyflwyno arferion mwy cynaliadwy ar ffermydd Cyngor Sir Caerfyrddin', a nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad.  Gofynnwyd am eglurhad ynghylch hyn. Esboniodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd, mewn ymateb i benderfyniad y Cyngor yn 2019 i ddatgan argyfwng hinsawdd ynghyd â phenderfyniad y Cyngor yn 2022 i ofyn i'r Cabinet ddatgan argyfwng natur, fod y Cabinet wedi llunio Panel Argyfwng Hinsawdd a Natur Trawsbleidiol.  Cyd-fynd â dyheadau bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig a elwir yn Ddatganiad Caeredin.

 

·       Dywedwyd bod y Collins Concise Dictionary yn nodi mai'r diffiniad o 'Sustainable' oedd - y gallu i barhau dros gyfnod o amser.  Gyda hyn mewn golwg, dywedwyd na fyddai'r ffermydd, drwy fod yn rhy gyfyngedig, yn hyfyw ar gyfer y dyfodol, ac felly cynghorwyd bod y Cabinet yn ystyried y term cynaliadwyedd, nid yn unig ar gyfer natur ond hefyd i alluogi ffermydd i gynhyrchu cynhyrchion bwyd mewn modd cynaliadwy.  Gan ymateb i hyn, eglurodd yr Aelod Cabinet dros Ddatgarboneiddio, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd fod "cynaliadwyedd" yn y cyd-destun hwn yn berthnasol i Egwyddor Cynaliadwyedd, a bod hynny wedi'i ymgorffori o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

 

·       Cyfeiriwyd at y cynnydd ar Eiddo a oedd yn nodi 'gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru’.  Mewn ymateb i ymholiadau ynghylch defnyddio ymgynghorwyr, rhoddodd y Rheolwr Cadwraeth Gwledig gefndir i'r ffordd roedd y Cyngor wedi gweithio gydag Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru a llawer o sefydliadau amgylcheddol eraill.  Ar hyn o bryd roedd y Cyngor yn cael swm bach o arian y gellid ei ddefnyddio ar gyfer gwaith yr oedd partneriaid yn ei wneud yn Sir Gaerfyrddin.  Bu Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru yn llwyddiannus yn y cais ac mae'n gweithio gyda nifer o ffermydd i gynorthwyo gyda'r llygredd sy'n rhedeg i ffwrdd o iardiau fferm.  Datblygwyd astudiaethau achos drwy weithio gyda'r Ymddiriedolaeth Afonydd a defnyddio eu harbenigedd.

 

PENDERFYNWYD derbyn Blaengynllun Deddf yr Amgylchedd Cyngor Sir Caerfyrddin Ionawr 2023 – Rhagfyr 2025.

 

 

8.

STRATEGAETH LEOL RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD AC ERYDU ARFORDIROL pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad Strategaeth Leol Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Roedd yr adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd, yn darparu i'r Aelodau wybodaeth fanwl am ddull y Cyngor ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn Sir Gaerfyrddin.

 

Eglurodd yr adroddiad sut y byddai llifogydd yn cael eu rheoli ar draws Sir Gaerfyrddin, yn unol ag amcanion, mesurau, a pholisïau lleol a'n strategaethau corfforaethol a chenedlaethol. Roedd y strategaeth hefyd yn darparu rhywfaint o wybodaeth gefndirol am Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol ar lefel leol a chenedlaethol.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Wrth gymeradwyo'r manylion a ddarparwyd yn yr adroddiad, dywedwyd y byddai problemau llifogydd yn parhau yn anffodus pe bai'r un hen ddulliau ymyrraeth yn dal i gael eu defnyddio.  Mae angen ymchwilio i ddulliau arloesol newydd a'u cyflwyno i leihau'r problemau llifogydd a wynebir o achos newid hinsawdd a chodi rhagor o adeiladau.  Y teimlad oedd dylid rhoi pwysau ychwanegol ar Lywodraeth Cymru i ystyried newid defnydd tir lle roedd glawiad ar ei drymaf.  Cynigiwyd felly bod llythyr yn cael ei anfon ar ran y Pwyllgor yn egluro'r pryderon am lifogydd ac yn dweud bod angen newid defnydd tir i reoli'r problemau llifogydd presennol.

 

·       Dywedwyd y dylai'r Cabinet ystyried sicrhau bod rhagor o arian ar gael ar gyfer y maes hwn.

 

·       Eglurodd y Rheolwr Amddiffyn rhag Llifogydd a Diogelu'r Arfordir, mewn ymateb i ymholiad, fod y Swyddog Dyletswydd Digwyddiadau Llifogydd (FIDO) fel rhan o rota wythnosol, yn monitro'r tywydd bob dydd, yn enwedig glawiad a'r llanw.  Mae pryderon yn cael eu hadrodd i'r rheolwyr sy'n gweithredu yn unol â hynny.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch glanhawyr cwlfer, eglurodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol fod glanhawyr cwlfer a systemau jet ar hyn o bryd yn cael eu rhannu rhwng depos yn Sir Gaerfyrddin a'u bod yn cael eu defnyddio ar sail blaenoriaeth yn amodol ar adnoddau.

 

·       Gofynnwyd pa mor ragweithiol oedd y tîm o ran cynnig llifddorau i'r rhai a allai fod eu hangen mewn ardaloedd sy'n dueddol o ddioddef llifogydd?  Eglurodd y Rheolwr Amddiffyn rhag Llifogydd a Diogelu'r Arfordir fod 'ffeiriau llifogydd' yn cael eu cynnal mewn ardaloedd o angen.  Awgrymwyd bod llythyrau a thaflenni yn cael eu cynhyrchu a'u dosbarthu i aelwydydd yn esbonio beth gallent ei wneud i ddiogelu eu heiddo rhag llifogydd.


 

 

·       Dywedwyd bod unrhyw falurion a gâi eu clirio o ddraeniau ar hyn o bryd yn cael eu gadael ar y palmant/ochr y ffordd yn hytrach na'u cludo i ffwrdd. Wedyn roedd yn bosibl gallai'r malurion gael eu golchi yn ôl i'r system ddraenio yn ystod y glawiad trwm nesaf.  Dywedwyd bod yr arfer hwn yn wastraff amser ac adnoddau.  Awgrymwyd felly bod malurion yn cael eu symud ymaith ar ôl clirio draeniau.  Derbyniodd swyddogion y pwynt a godwyd a byddent yn ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD:

 

8.1      derbyn y Strategaeth Leol Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol.

 

8.2      anfon llythyr i Lywodraeth Cymru yn amlinellu pryderon y Pwyllgor am gyllid ar gyfer  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y rhestr o eitemau i gael eu cynnwys ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf oedd i'w gynnal ar 11 Mawrth 2024 a rhoddwyd cyfle i'r Pwyllgor wneud cais am unrhyw wybodaeth benodol yr hoffai'r Aelodau ei chynnwys yn yr adroddiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gytuno ar y rhestr o'r eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 11 Mawrth 2024.

 

 

10.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 14 RHAGFYR 2024 pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion: