Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. |
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 8 MEHEFIN, 2023 Cofnodion: PENDERFYNWD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2023 yn gofnod cywir. |
|
TALIADAU DIBRESWYL 2024-25 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad ar gynigion i gynyddu taliadau dibreswyl y Cyngor ar gyfer 2024/25 yn unol â chostau cynyddol a chwyddiant. Nodwyd, gan fod Llywodraeth Cymru wedi gosod cap ariannol o £100 ar gyfer gofal dibreswyl, mai prin iawn fyddai'r buddion wrth gynyddu'r taliadau y tu hwnt i chwyddiant. Fodd bynnag, er y byddai chwyddiant yn golygu cynnydd bach iawn mewn incwm i'r awdurdod, roedd yn hanfodol cynyddu'r taliadau er mwyn adlewyrchu costau chwyddiant. Byddai'r incwm ychwanegol a gronnwyd yn dibynnu'n llwyr ar allu'r unigolion sydd angen gofal i dalu ac ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru ynghylch y cap yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD bod Sir Gaerfyrddin yn cynyddu'r taliadau dibreswyl am wasanaethau fesul awr yn unol â chwyddiant o £20 i £22 (10%) a thaliadau sesiynol o £19.55 i £21.60 (10%) mewn ymgais i adennill cymaint o refeniw â phosibl o fewn y rheolau a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 ac i alinio'r cyfraddau ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a symud yn agos at Awdurdodau Lleol rhanbarthol. |