Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD 24 MAWRTH 2023 PDF 75 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2023, gan ei fod yn gywir. |
|||||||||||||||
PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL. PDF 104 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Gwahoddwyd enwebiadau gan y Cadeirydd, Pennaeth yr Ysgol ac Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/yr Aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.
Nodwyd bod Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, fod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei h/ailbenodi.
Nodwyd hefyd y gall yr holl Gynghorwyr Sir ar ôl cael eu hethol bennu ar ba gyrff llywodraethu ysgolion y byddent yn eistedd a byddai eu penderfyniad yn cael blaenoriaeth dros Lywodraethwyr Awdurdod Lleol na chafodd eu hethol. O ganlyniad, gallai Cynghorwyr Sir enwebu i wasanaethu fel Llywodraethwyr Awdurdod Lleol mewn ysgol lle nad oedd lle gwag, ac os byddai gormod o lywodraethwyr byddai'r Cyngor yn nodi pa Lywodraethwr yr Awdurdod Lleol fyddai angen rhoi'r gorau i'r swydd.
PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr Awdurdod Lleol er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-
|
|||||||||||||||
PENODI AELODAU'R FFORWM DERBYNIADAU ADDYSG PDF 152 KB Cofnodion: Cafodd yr Aelod Cabinet adroddiad ynghylch penodi'r Aelodau Addysg i Fforwm Derbyniadau Sir Gaerfyrddin. Esboniwyd bod yr aelodau craidd a benodwyd yn 2017 wedi cael eu hailbenodi hyd at fis Hydref 2022, fel y manylwyd yng Nghyfarfod Penderfyniadau'r Aelodau ar gyfer Addysg a Phlant a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2022 (gweler cofnod 3).
Eglurwyd, er bod y gwaith o recriwtio Fforwm Derbyniadau newydd wedi'i ohirio oherwydd prinder staff ac absenoldeb hirdymor ymhlith staff yn y Tîm Derbyniadau, roedd y broses wedi'i chwblhau ers hynny lle derbyniwyd digon o enwebiadau ar gyfer pob categori ac eithrio'r cynrychiolwyr cymunedol. Yn hyn o beth, nodwyd y byddai ymarfer arall yn cael ei gynnal ym mis Mai 2023 i recriwtio cynrychiolaeth gymunedol ychwanegol.
PENDERFYNWYD gwneud y penodiadau canlynol i'r Fforwm Derbyniadau Addysg, am gyfnod cychwynnol o 4 blynedd,
Cynrychiolydd Esgobaethol yr Eglwys yng Nghymru: Y Parchedig John Cecil,Y Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol
Cynrychiolydd Esgobaethol yr Eglwys Gatholig Rufeinig. Mr Paul White, Y Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol
Cynrychiolwyr y Penaethiaid Ysgol - Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir: Mr Gethin Richards Mrs Non Neave Mr Julian Kennedy
Cynrychiolwyr y Penaethiaid Ysgol: Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir: Mr Andrew Hurley
Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr: Ms Carly Lee Ms Carol Seabourne
Cynrychiolwyr Cymunedol Lleol: Ms Sarah Georgina Jones |