Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg - Dydd Gwener, 12fed Mai, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. 

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD 24 MAWRTH 2023 pdf eicon PDF 75 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2023, gan ei fod yn gywir. 

3.

PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL. pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Gwahoddwyd enwebiadau gan y Cadeirydd, Pennaeth yr Ysgol ac Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/yr Aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.

 

Nodwyd bod Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, fod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei h/ailbenodi.

 

Nodwyd hefyd y gall yr holl Gynghorwyr Sir ar ôl cael eu hethol bennu ar ba gyrff llywodraethu ysgolion y byddent yn eistedd a byddai eu penderfyniad yn cael blaenoriaeth dros Lywodraethwyr Awdurdod Lleol na chafodd eu hethol. O ganlyniad, gallai Cynghorwyr Sir enwebu i wasanaethu fel Llywodraethwyr Awdurdod Lleol mewn ysgol lle nad oedd lle gwag, ac os byddai gormod o lywodraethwyr byddai'r Cyngor yn nodi pa Lywodraethwr yr Awdurdod Lleol fyddai angen rhoi'r gorau i'r swydd.

 

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr Awdurdod Lleol er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:- 

 

Ysgol Gynradd

Penodiadau

Ffederasiwn Beca – Bro Brynach

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mr O Young

 

Dafen

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mr G Edwards

 

Llanedi

(1 lle gwag – o 25 Tachwedd 2023 – 1 enwebiad)

Mr G Owen

 

Teilo Sant

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Y Cynghorydd R Jones

 

 

Ysgol Uwchradd

Penodiadau

Ffederasiwn Bryngwyn – Glan y Môr

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

 

Mr DW Hugh Richards

 

 

4.

PENODI AELODAU'R FFORWM DERBYNIADAU ADDYSG pdf eicon PDF 152 KB

Cofnodion:

Cafodd yr Aelod Cabinet adroddiad ynghylch penodi'r Aelodau Addysg i Fforwm Derbyniadau Sir Gaerfyrddin. Esboniwyd bod yr aelodau craidd a benodwyd yn 2017 wedi cael eu hailbenodi hyd at fis Hydref 2022, fel y manylwyd yng Nghyfarfod Penderfyniadau'r Aelodau ar gyfer Addysg a Phlant a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2022 (gweler cofnod 3).

 

Eglurwyd, er bod y gwaith o recriwtio Fforwm Derbyniadau newydd wedi'i ohirio oherwydd prinder staff ac absenoldeb hirdymor ymhlith staff yn y Tîm Derbyniadau, roedd y broses wedi'i chwblhau ers hynny lle derbyniwyd digon o enwebiadau ar gyfer pob categori ac eithrio'r cynrychiolwyr cymunedol. Yn hyn o beth, nodwyd y byddai ymarfer arall yn cael ei gynnal ym mis Mai 2023 i recriwtio cynrychiolaeth gymunedol ychwanegol.

 

PENDERFYNWYD gwneud y penodiadau canlynol i'r Fforwm Derbyniadau Addysg, am gyfnod cychwynnol o 4 blynedd,

 

Cynrychiolydd Esgobaethol yr Eglwys yng Nghymru:

Y Parchedig John Cecil,Y Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol

 

Cynrychiolydd Esgobaethol yr Eglwys Gatholig Rufeinig.

Mr Paul White, Y Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol

 

Cynrychiolwyr y Penaethiaid Ysgol - Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir:

Mr Gethin Richards

Mrs Non Neave

Mr Julian Kennedy

 

Cynrychiolwyr y Penaethiaid Ysgol: Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir:

Mr Andrew Hurley

 

Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr:

Ms Carly Lee

Ms Carol Seabourne

 

Cynrychiolwyr Cymunedol Lleol:

Ms Sarah Georgina Jones