Agenda a chofnodion drafft

Yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu - Dydd Mercher, 17eg Ionawr, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kelly Evans  01267 224178

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 15 AWST 2023 pdf eicon PDF 67 KB

Cofnodion:

3.

CYFNODAU RHYBUDD CONTRACT CYFLOGAETH pdf eicon PDF 151 KB

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i adroddiad a oedd yn manylu ar y cyfnodau rhybudd contract priodol ar gyfer gweithlu'r Cyngor, sy'n berthnasol i statws yn y sefydliad, ac wrth ystyried yr heriau recriwtio yn ein grwpiau galwedigaethol proffesiynol o ran swyddi 'anoddach recriwtio iddynt'.

 

Bydd y cynnig yn rhoi'r cyfnodau rhybudd contract mewn haenau yn ôl eu statws (a nodwyd yn ôl gradd), fel a ganlyn:

 

Gradd A-H          - 1 mis         (Telerau ac Amodau presennol)

Gradd I – O         - 3 mis        (newydd ar gyfer gradd I-K)

                     Prif Swyddogion – 3 mis         (Telerau ac Amodau presennol)

 

Bydd y cynnig yn golygu bod yr Awdurdod yr un peth â nifer o awdurdodau lleol eraill Cymru a Hywel Dda.  Bydd dod yn agosach i awdurdodau lleol eraill yn hyn o beth yn lleihau'r pwysau yn ystod cyfnodau o newid yn y gweithlu ac yn cefnogi trosglwyddiadau amserol o ran gweithwyr.

 

Ymgynghorir â'r Undebau Llafur cydnabyddedig.

 

PENDERFYNWYD cytuno ar gyfnodau rhybudd y contract cyflogaeth, fel y manylir yn yr adroddiad.

 

4.

Y DDEDDF RHEOLEIDDIO PWERAU YMCHWILIO pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a nodai lefel y gweithgarwch cuddwylio a wnaed gan yr Awdurdod yn ystod 2023.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet fod y Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA) yn darparu fframwaith cyfreithiol lle gall y Cyngor ofyn am awdurdodiad i gynnal gweithgarwch cuddwylio mewn amgylchiadau cyfyngedig penodol.

 

Esboniodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd yr Awdurdod wedi defnyddio'i bwerau o dan y Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio er mwyn caffael data cyfathrebu hyd yn hyn, ond roedd 8 achlysur wedi bod lle roedd Swyddog Ymchwilio wedi bwriadu gwneud hyn ond cafodd wybod nad oedd angen a rhoddwyd cyngor yn unol â hynny. 

 

Nodwyd bod swyddogion allweddol wedi derbyn hyfforddiant gloywi yn 2022.

 

Dywedwyd wrth yr Aelod Cabinet fod un newid i'r gweithdrefnau, sef Mr Jonathan Morgan, Pennaeth Cymunedau, yn cymryd lle Sue Watts fel swyddog awdurdodi. Bydd hyfforddiant i Mr Morgan yn cael ei ddarparu ym mis Chwefror.

 

PENDERFYNWYD:

4.1      nodi lefel y gweithgarwch cuddwylio a wnaed gan y Cyngor

           yn 2023.   

4.2          cymeradwyo gweithdrefnau RIPA ar gyfer 2023, fel y

           anylwyd yn yr adroddiad.