Agenda a Chofnodion

Cyd-Bwyllgor Partneriaeth - Dydd Gwener, 19eg Ebrill, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau

Cyswllt:

Nodyn: Ni fydd y cyfarfod yma yn cael ei we-ddarlledu. 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Guy Woodham (Cyngor Sir Penfro), William Bramble (Prif Weithredwr, Cyngor Sir Penfro), Wendy Walters (Prif Weithredwr, Cyngor Sir Caerfyrddin), y Cynghorydd David Simpson (Arweinydd, Cyngor Sir Penfro), y Cynghorydd Darren Price (Arweinydd, Cyngor Sir Caerfyrddin) a'r Cynghorydd Rob Stewart (Arweinydd Cyngor Abertawe).

 

Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai modd i ddymuniadau gorau'r Cyd-bwyllgor gael eu mynegi i'r Cynghorydd Woodham am wellhad buan yn dilyn ei gyfnod o salwch yn ddiweddar.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

UNRHYW FATER ARALL Y DYLID EI YSTYRIED YM MARN Y CADEIRYDD YN FATER BRYS OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau busnes eraill y dylid eu hystyried fel mater o frys.

 

4.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 13 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y CABINET AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

5.

ADOLYGIAD O SWYDDOGAETHAU A STAFFIO PARTNERIAETH

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 4 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod gan fod budd y cyhoedd o ran cynnal yr eithriad uchod yn bwysicach na budd y cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth sydd yn yr adroddiad hwn, gan y byddai gan ymgeiswyr ddisgwyliad rhesymol na fyddai eu gwybodaeth bersonol yn cael ei datgelu i'r cyhoedd. Nid oedd unrhyw fudd cyhoeddus tra phwysig o ran datgelu gwybodaeth o'r fath.

 

Rhoddodd y Cyd-bwyllgor ystyriaeth i adroddiad yn amlinellu trefniadau cydweithredu yn y dyfodol ar gyfer gwella ysgolion o fewn Partneriaeth ac yn manylu ar gynnig i ymgynghori ar strwythur staffio yn y dyfodol am gost is i wneud y defnydd mwyaf effeithlon ac effeithiol o adnoddau er mwyn diwallu anghenion presennol ysgolion a'u dysgwyr, ac anghenion sy'n dod i'r amlwg.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL 

 

4.1      bod gwaith ymgynghori â staff Partneriaeth ynghylch strwythur         staffio newydd yn dechrau cyn gynted ag y bo modd, a fydd yn                    cael ei gynnal gan y Gr?p Strategol sy'n cynnwys tri

Chyfarwyddwr Addysg a Swyddog Arweiniol Partneriaeth;

 

4.2      bod cyllideb FY2024-2025 yn seiliedig ar gost o 5/12 ar gyfer y               staffio presennol a chost o 7/12 ar gyfer y strwythur newydd, ar ôl          ymgynghori.</AI6>

 

 

 

 

 

 

________________________                       __________________

Y CADEIRYDD                                               Y DYDDIAD