Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Darren Price Arweinydd, Cyngor Sir Caerfyrddin, Wendy Walters, Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a'r Cynghorydd David Simpson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro.
Gan fod y Cadeirydd a'r dirprwyon wedi cyflwyno ymddiheuriadau, cafwyd pleidlais i’r Cynghorydd Robert Smith gadeirio'r cyfarfod heddiw.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.
|
|
COFNODION CYFARFOD PARTNERIAETH AR 23 MEHEFIN 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Partneriaeth a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2023 gan eu bod yn gywir.
|
|
MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd dim materion yn codi o'r Cofnodion.
|
|
OPSIWN O RAN ENWEBU AELODAU CYD-BWYLLGOR PARTNERIAETH A HAWL PLEIDLEISIO Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Cyd-bwyllgor adroddiad i ddiwygio'r dewis o aelod â phleidlais ar Gyd-bwyllgor Partneriaeth. Byddai hyn yn rhoi hyblygrwydd i'r tri awdurdod lleol ac yn rhoi'r dewis iddynt enwebu’r aelod Cabinet â'r portffolio addysg fel yr aelod â phleidlais yn hytrach na'u Harweinydd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod geiriad diwygiedig y Cylch Gorchwyl (fel yr atodwyd i'r adroddiad) yn cael ei gymeradwyo.
|
|
LLYTHYR GAN GADEIRYDD GRWP CYNGHORWYR CRAFFU PARTNERIAETH Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Cydbwyllgor lythyr gan Gadeirydd y Gr?p Cynghorwyr Craffu - Partneriaeth yn myfyrio ar y sylwadau yn dilyn cyfarfod diwethaf y Gr?p ar y 19 Mehefin, 2023.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y llythyr.
|
|
ADRODDIAD ARIANNOL PARTNERIAETH 2023-24 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd y Cydbwyllgor ddiweddariad ar sefyllfa ariannol Partneriaeth fel yr oedd yn Awst 2023.
Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth fanwl benodol mewn perthynas â'r canlynol:
· Cytundebau Lefel Gwasanaeth · Cyfraniadau Awdurdod Lleol · Monitro'r Gyllideb - Awst 2023 · Incwm Grant ar gyfer 2023-24 · Risgiau a Chyfleoedd
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:- 7.1 nodi adroddiad ariannol mis Awst 2023 7.2 nodi'r alldro a ragwelir ar gyfer 2023-24
|
|
BARN SICRWYDD FLYNYDDOL PENNAETH ARCHWILIO MEWNOL PARTNERIAETH AR GYFER 2022-23 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparwyd i'r Cyd-bwyllgor y farn sicrwydd flynyddol ynghylch effeithlonrwydd Trefniadau
Dywedodd y Pennaeth Archwilio Mewnol wrth y pwyllgor bod gan Partneriaeth fframwaith cymedrol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:- 8.1 bod yr adroddiad yn cael ei nodi; 8.2 bod y Farn Sicrwydd Flynyddol ar gyfer 2022-23 yn cael ei nodi
|
|
DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL PARTNERIAETH 2022-23 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried canfyddiadau'r adolygiad blynyddol o ran trefniadau llywodraethu ar gyfer Partneriaeth am 2022-23.
Rhoddodd yr adolygiad Archwilio Mewnol sgôr sicrwydd cymedrol ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau llywodraethu, rheolaeth fewnol, rheoli risg a rheolaeth ariannol sydd ar waith. Mae'r meysydd y mae angen eu gwella ymhellach wedi'u cynnwys yn y blaenoriaethau ar gyfer gwella Cynllun Gweithredu Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2022-23.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol Partneriaeth am 2022-23.
|
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO MEWNOL 2023-24 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd y Cyd-bwyllgor Raglen Waith Archwilio Mewnol 2023-24 Partneriaeth i'w cymeradwyo.
Paratowyd y Rhaglen Waith yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus. Cafodd y rhaglen ei datblygu mewn ymgynghoriad â’r Cyfarwyddwr Addysg Arweiniol, y Swyddog Adran 151, y Swyddog Monitro a Swyddog Arweiniol Partneriaeth.
Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor y byddai gwaith maes Archwilio Mewnol yn dechrau ym mis Chwefror 2024 ac ar ôl dod i ben, byddai adroddiad yn cael ei gyhoeddi i swyddogion i'w ystyried. Ar ôl darparu adborth i'r Archwiliad Mewnol, bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyd-bwyllgor yn ystod tymor yr Haf.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch ehangder y cwmpas, dywedwyd wrth y Cyd-bwyllgor mai dull sampl ar draws y sefydliadau, fyddai'r opsiwn a oedd yn cael ei ffafrio, gan fod hyn yn golygu bod modd cyflawni'r gwaith.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Archwilio Mewnol 2023/24.
|
|
PERFFORMIAD PARTNERIAETH YN YSTOD CYLCH CYNLLUN BUSNES BLWYDDYN ARIANNOL 2023-24 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Cyd-bwyllgor adroddiad yn rhoi gwybodaeth am ddarpariaeth a pherfformiad cynllun busnes blwyddyn ariannol 2023-24.
Mae'r cynllun busnes yn cael ei fonitro'n chwarterol a nodwyd bod bron pob cam gweithredu ar y trywydd iawn i'w gyflawni'n llawn erbyn mis Mawrth 2024.
Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor am feysydd cymorth i ysgolion y mae Partneriaeth yn eu cynnig, yn unol â disgwyliadau'r cynllun busnes. Caiff meysydd datblygu ac adnoddau eu trafod yn rheolaidd fel rhan o'r Gr?p Strategaeth Cyfarwyddwr.
Roedd y Cyd-bwyllgor o'r farn fod hwn yn ddarn diddorol ac allweddol o waith wrth symud ymlaen.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:- 11.1 bod y diweddariad yn cael ei nodi 11.2 bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn
|
|
AROLWG BARN RHANDDEILAID PARTNERIAETH (AROLWG NET PROMOTER) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad yn cynnwys ymateb i arolwg barn rhanddeiliaid Partneriaeth (Arolwg Net Promoter) o dymor yr haf 2023.
Mynegodd y Cyd-bwyllgor siom ynghylch y nifer isel o Benaethiaid a oedd wedi cymryd rhan yn yr arolwg. Mewn ymateb, dywedwyd wrth y pwyllgor fod hwn oherwydd nifer o resymau, gan gynnwys Camau Gweithredu Heb Streicio. Effeithiodd hyn yn negyddol ar y gyfradd gwblhau a phenderfynwyd ymestyn yr arolwg i grwpiau penodol.
Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor y byddai Arolwg Net Promoter yn cael ei gynnal yn flynyddol ar ddiwedd y cylch cynllunio busnes ym mis Mawrth. Bydd canlyniadau'r arolwg yn cael eu rhannu â'r holl staff yn Partneriaeth a byddai cynllun gweithredu yn cael ei gyd-adeiladu a byddai cyswllt maes o law yn cael ei wneud â’r rhai a nododd eu bod yn hapus i roi adborth pellach o fewn mis gwaith ar ôl cwblhau'r arolwg.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:- 12.1 bod y diweddariad yn cael ei nodi 12.2 bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn 12.3 cytuno ar yr arolwg blynyddol ar ddiwedd cylch y cynllun busnes
|
|
DIWEDDARIAD SWYDDOG ARWEINIOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Cyd-bwyllgor broffil risg cyffredinol y rhanbarth. Nodwyd bod y risgiau canlynol o debygolrwydd canolig ac effaith uchel:
· Prydlondeb Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid · Diffyg Eglurder o ran swyddogaethau Partneriaeth
Bu gostyngiad yn Risg 2 oherwydd yr arolygiadau ar draws yr awdurdodau lleol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:- 13.1. Nodi'r proffil risg 13.2. Bod yr adroddiad risg yn cael ei dderbyn
|
|
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTERIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd dim materion brys i'w trafod. |