Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gaynor Morgan
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan yr Athro Medwin Hughes (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant). Roedd Dr Jane Davidson yn bresennol yn y cyfarfod ar ei ran.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.
|
|
LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 14EG RHAGFYR 2018 PDF 154 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod y fersiwn ddiweddaraf o'r cofnodion wedi cael ei dosbarthu a bod newidiadau o'r fersiwn flaenorol mewn print bras.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion diweddaraf cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2018 gan eu bod yn gywir.
|
|
Y DIWEDDARAF AM BROSIECTAU'R FARGEN DDINESIG PDF 200 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad diweddaru ynghylch y prosiectau lleol a rhanbarthol canlynol a ariennir gan y Fargen Ddinesig:
· Seilwaith Digidol; · Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau; · Sgiliau a Thalent; · Yr Egin; · Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant Llanelli; · Campws Gwyddor Bywyd a Llesiant Llanelli; · Cartrefi yn Orsafoedd P?er; · Canolfan Ragoriaeth Gwasanaethau y Genhedlaeth Nesaf (CENGS); · Ffatri'r Dyfodol; · Gwyddoniaeth Dur; · Ardal Forol Doc Penfro.
Anogwyd Arweinwyr y Prosiect i roi gwybod am unrhyw heriau o ran cynnydd eu prosiectau er mwyn i'r Cyd-bwyllgor allu cynorthwyo i ddatrys y rhain os oes modd. I gefnogi hyn, awgrymwyd y dylid cyflwyno cofnod materion a chofrestrau risg ar gyfer prosiectau unigol fel eitemau sefydlog ar yr agenda ar gyfer cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor yn y dyfodol. Gellid cyfuno'r cofrestrau risg prosiectau unigol yng nghofrestr risg y Cyd-bwyllgor.
O ran y prosiect Cartrefi yn Orsafoedd P?er, awgrymwyd y gallai cap ar godiadau rhent a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru effeithio ar un o ffrydiau refeniw y prosiect. Ar ôl cael gwybod efallai y bydd y cap ar rent yn bolisi interim, awgrymodd y Cadeirydd y byddai'n briodol gofyn am eglurhad gan Weinidogion Cymru.
Ar ôl cael gwybod na fyddai Is-ganghellor newydd Prifysgol Abertawe yn dechrau tan fis Gorffennaf 2019, awgrymwyd y dylid anfon llythyr at yr Is-ganghellor dros dro yn gofyn am sicrwydd bod Prifysgol Abertawe yn dal wedi ymrwymo i'r Fargen Ddinesig a phob prosiect unigol y Fargen Ddinesig.
O ran prosiect Ardal Forol Doc Penfro, dywedodd Awdurdod Arweiniol y Prosiect ei fod yn aros i gael adborth gan Lywodraeth Cymru ynghylch gwybodaeth atodol o ran y fersiwn ddrafft o'r achos busnes llawn. Pwysleisiodd y Prif Weithredwr Arweiniol ei bod yn hanfodol o ran hyfywedd y prosiect i gael sicrwydd ynghylch trefniadau ariannu gan Lywodraeth Cymru erbyn canol mis Mawrth.
Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi pryder ynghylch oedi o ran derbyn cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau'r Fargen Ddinesig a oedd wedi achosi oedi o ran cyflawni'r prosiect ac wedi gwneud pob partner yn agored i elfen o risg ariannol. Dywedodd y Swyddog Atebol fod oedi o'r fath yn rhwystredig, ond ei fod wedi codi'r mater hwn yn ddiweddar mewn cyfarfod â swyddogion a'r gobaith oedd y byddid yn mynd i'r afael â'r oedi parhaus.
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o brosiect Gwyddor Bywyd a Llesiant Llanelli, dywedodd Swyddog A.151 y Pwyllgor fod y datganiad yn y wasg yn anghywir ac y gofynnwyd i'r gohebydd geisio cael eglurhad gan Swyddfa Archwilio Cymru ond ei fod wedi gwrthod gwneud hynny. Roedd tystiolaeth ddogfennol i gefnogi gohebiaeth y Cyngor gyda Swyddfa Archwilio Cymru ar gael. O ran craffu ar y prosiect, dywedodd Swyddog Monitro'r Cyd-bwyllgor, dan y Cytundeb Cyd-bwyllgor, fod pob awdurdod unigol yn gyfrifol am graffu ar brosiectau unigol. Dywedodd y Cadeirydd fod y Cyd-bwyllgor Craffu wedi estyn gwahoddiad iddo ef a'r Prif Weithredwr roi diweddariad ar yr adolygiad ac roedd wedi cytuno â'r cais hwn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod 4.1. Adroddiad diweddaru ynghylch y prosiectau yn cael ei dderbyn; ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
CYLCH GORCHWYL AR GYFER ADOLYGIAD MEWNOL Y CYD-BWYLLGOR O'R FARGEN DDINESIG PDF 218 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyd-bwyllgor ystyriaeth i adroddiad ynghylch y Cylch Gorchwyl a'r Rhaglen derfynol ar gyfer yr adolygiad mewnol o drefniadau llywodraethu Bargen Ddinesig Bae Abertawe, y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2018 (gweler cofnod 11). Byddai'r arolwg, dan arweiniad Cyngor Sir Penfro, yn cael ei gefnogi gan Uwch-archwilydd a enwebwyd o Gynghorau Sir Caerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.
Dywedwyd wrth y Cyd-bwyllgor fod y Cylch Gorchwyl wedi'i strwythuro ar sail saith egwyddor graidd a bod yr holl faterion a godwyd yn flaenorol yn y cyfarfod wedi'u cynnwys yn yr adolygiad.
Pwysleisiwyd ei bod yn galonogol bod y Cylch Gorchwyl ar gyfer yr Adolygiad Mewnol ac Annibynnol i raddau helaeth yn gydnaws ac yn cyd-fynd â'i gilydd. Awgrymodd yr Aelodau y dylai'r Adolygiad Mewnol anelu at ddod i ben tua'r un adeg â'r Adolygiad Annibynnol a gallai canfyddiadau'r ddau adolygiad gael eu nodi mewn un corff o argymhellion. Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai Aelodau Cyfetholedig yn cael eu cynnwys yn yr adolygiad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL 5.1. Nodi'r Cylch Gorchwyl ar gyfer Adolygiad Mewnol y Cyd-bwyllgor ynghylch Bargen Ddinesig Bae Abertawe; 5.2. Cynnwys holl Aelodau'r Cyd-bwyllgor yn yr adolygiad a'r ddogfen Cylch Gorchwyl.
|
|
ADOLYGIAD ANNIBYNNOL O FARGEN DDINESIG DINAS-RANBARTH BAE ABERTAWE - CYLCH GORCHWYL PDF 201 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyd-bwyllgor ystyriaeth i adroddiad ynghylch y Cylch Gorchwyl llawn ar gyfer yr Adroddiad Annibynnol o Fargen Ddinesig Bae Abertawe yn unol â chyngor Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Nododd yr adroddiad bod y Cyd-bwyllgor a Swyddfa Ranbarthol y Fargen Ddinesig wedi cael gwybod ar 6 Rhagfyr 2018 fod y ddwy Lywodraeth wedi cytuno i gomisiynu adolygiad annibynnol. Cyhoeddodd y ddwy Lywodraeth eu bod yn asesu'r cynnydd hyd yn hyn er mwyn cael sicrwydd y byddai holl elfennau'r Fargen yn cyflawni'r buddion economaidd llawn a addawyd gan y Fargen Ddinesig a bod diwydrwydd dyladwy a threfniadau llywodraethu wedi cael eu dilyn ym mhob elfen o'r Fargen ac wrth ei rhoi ar waith.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Cylch Gorchwyl Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer eu Hadolygiad Mewnol o Fargen Ddinesig Bae Abertawe.
|
|
Y BWRDD STRATEGAETH ECONOMAIDD - AELOD NEWYDD PDF 207 KB Cofnodion: Rhoddodd y Cyd-bwyllgor ystyriaeth i enwebu Lynne Hamilton i gymryd lle Mr Hamish Laing fel cynrychiolydd gwyddor bywyd / llesiant ar y Bwrdd Strategaeth Economaidd. Dywedwyd wrth y Cyd-bwyllgor fod Mr Laing wedi ymddiswyddo o'i swydd ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a bod y Bwrdd Iechyd wedi enwebu Lynne Hamilton fel y cynrychiolydd yn ei le. Dywedwyd wrth y Cyd-bwyllgor hefyd, dan Gytundeb y Cyd-bwyllgor, fod angen i'r holl gynigion ar gyfer recriwtio ac enwebu aelodau'r Bwrdd Strategaeth Economaidd gael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL anfon enwebiad Lynne Hamilton fel cynrychiolydd gwyddor bywyd / llesiant ar y Bwrdd Strategaeth Economaidd at Lywodraethau Cymru a Llywodraeth y DU i'w ystyried.
|
|
AMSERLEN CYFARFODYDD Y CYD BWYLLGOR EBRILL 2019 - MAWRTH 2020 PDF 204 KB Cofnodion: Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried amserlen arfaethedig o ran y cyfarfodydd ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo amserlen cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020.
|