Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Nodyn: Moved from 17th July and then 4th July
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Mr. R. Edwards – Cynrychiolydd Gweithwyr sy'n Aelodau. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.
|
|
COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 14 MAI 2024 PDF 143 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 14 Mai 2024 yn cael eu cadarnhau fel cofnod cywir.
|
|
CYFARFOD PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED 19 MEHEFIN 2024 PDF 120 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiadau a gyflwynwyd i Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed i'w hystyried yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2024, fel a ganlyn:- |
|
CYNLLUN ARCHWILIO 2024 PDF 60 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried Cynllun Archwilio Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn nodi cyfrifoldebau statudol Archwilydd Cyffredinol Cymru fel archwilydd allanol y Gronfa Bensiwn. Roedd y cynllun yn nodi'r gwaith sydd i'w wneud gan Archwilio Cymru i fynd i'r afael â'r risgiau a nodwyd a meysydd ffocws allweddol eraill yn ystod 2024. Roedd hefyd yn nodi'r ffi archwilio amcangyfrifedig, manylion y tîm archwilio a'r dyddiadau allweddol ar gyfer cyflawni'r gweithgareddau a'r allbynnau arfaethedig. |
|
SEFYLLFA GYLLIDEBOL DERFYNOL 2023-24 PDF 68 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi sefyllfa derfynol cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2023/24.
Cyfeiriwyd at incwm a oedd yn fwy na'r gyllideb lle holwyd a fyddai ystyriaeth yn cael ei roi i gyflwyno ad-daliadau i'r Awdurdodau sy'n cyfrannu. Eglurodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod y gwerthusiad actiwaraidd teirblwydd nesaf i osod cyfraddau cyflogwyr i'w gynnal ym mis Mawrth 2025.
Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd bod gorwariant o ran Partneriaeth Pensiwn Cymru o'i gymharu â'r gyllideb. Yn bennaf, roedd hyn oherwydd dyraniad ychwanegol ym Mhartneriaeth Pensiwn Cymru oherwydd buddsoddiadau mewn Credyd Byd-eang ac Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy yn ystod y flwyddyn.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31 MAWRTH 2024 PDF 55 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Eglurodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn, mewn ymateb i ymholiad, fod y lefel uchel o ddyledwyr a chredydwyr a nodwyd yn yr adroddiad yn rhai tymor byr a gellid priodoli hyn i'r costau a dalwyd neu incwm a dderbyniwyd ym mis Ebrill 2024 a oedd yn ymwneud â chyfnod ariannol 2023-24; yn unol â hynny, cafodd y rhain eu cronni i'r flwyddyn flaenorol.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU PDF 65 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol, y gofrestr torri amodau, i-Connect, cysoniad GMP a llif gwaith.
Wrth roi diweddariad i'r Bwrdd o ran y materion rheoleiddio, cadarnhaodd y Rheolwr Pensiynau fod canllawiau gan Adran Actiwari'r Llywodraeth wedi'u cyhoeddi ar 16 Mehefin 2024 i adlewyrchu'r newidiadau a wnaed mewn perthynas â threthiant a llog fel y cyfeirir atynt yn adran 1b yr adroddiad.
CYTUNWYD bod yr Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD TORRI AMODAU PDF 60 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed a baratowyd yn unol ag Adran 70 Deddf Pensiwn 2004, Côd Ymarfer rhif 14 a Pholisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed.
Roedd y rhestr o achosion o dorri rheolau a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad yn manylu ar yr achosion lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwyr wedi dod i law mewn pryd.
CYTUNWYD bod yr Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor y Gofrestr Risg a oedd yn nodi'r holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed. Roedd yr adroddiad yn cynnwys asesiad o'r effaith bosibl, tebygolrwydd a graddfa risg ar gyfer pob maes a nodwyd, ynghyd â'r mesurau rheoli a weithredwyd i liniaru'r risgiau a nodwyd.
Roedd y gofrestr i'w hystyried yn canolbwyntio ar yr 8 risg Llywodraethu a Rheoleiddio a chadarnhawyd, yn dilyn adolygiad o'r gofrestr, nad oedd unrhyw newidiadau i risgiau unigol wedi'u nodi ers cyfarfod blaenorol y Pwyllgor.
Mewn ymateb i sylwadau a wnaed mewn perthynas â'r diffyg TG byd-eang diweddar, rhoddwyd trosolwg i'r Bwrdd o'r mesurau sydd ar waith i liniaru risgiau seiberddiogelwch a diogelu data personol ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed. Rhoddwyd sicrwydd i'r Bwrdd fod gan yr Awdurdod strwythurau TGCh cadarn a threfniadau wrth gefn ar waith. Mae'r feddalwedd gweinyddu pensiynau yn defnyddio system a gynhelir gyda dwy ganolfan ddata ar wahân ac wedi'i hachredu i ISO27001.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch meysydd Risg Llywodraethu 7 ac 8, eglurwyd bod llawer o ffactorau macro-economaidd y tu hwnt i reolaeth Cronfa Bensiwn Dyfed ac felly ystyriwyd ei bod yn ddoeth categoreiddio'r rhain fel risg uchel. Caiff risgiau o'r fath eu lliniaru, cyn belled ag y bo modd, drwy ddyraniad asedau amrywiol o fewn Cronfa Bensiwn Dyfed.
CYTUNWYD bod y wybodaeth ddiweddaraf am y gofrestr risg yn cael ei nodi.
|
|
CYNLLUN HYFFORDDI 2024-2025 PDF 49 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
CYTUNWYD bod Cynllun Hyfforddi Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2024/25 yn cael ei nodi.
|
|
DADANSODDIAD DWYSEDD CARBON AR 31 MAWRTH 2024 PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgarwch a'r cynnydd o ran sefyllfa Ôl Troed Carbon y Gronfa.
Roedd y diweddariad yn dangos y Dwysedd Carbon Cyfartalog Pwysedig ar gyfer portffolio ecwiti’r Gronfa, a oedd wedi gostwng 18% yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2024 ac a oedd yn cynrychioli gostyngiad o 15% y flwyddyn dros y tair blynedd a hanner ers y llinell sylfaen ym mis Medi 2020.
Mewn ymateb i ymholiad, rhoddodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn wybod i'r Bwrdd am yr ymdrechion parhaus i ddatblygu mandad buddsoddi wedi'i deilwra ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru mewn perthynas â chynnyrch cynaliadwy.
CYTUNWYD bod yr adroddiad Dadansoddi Dwyster Carbon yn cael ei nodi.
|
|
DIWEDDARIAD BUDDSODDI CYFRIFOL PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU - MAWRTH 2024 PDF 69 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd adroddiad diweddaru Buddsoddiadau Cyfrifol Partneriaeth Pensiwn Cymru ar 31 Mawrth 2024 yn manylu ar weithgarwch Buddsoddiadau Cyfrifol diweddar ynghyd â gwybodaeth am yr Is-gronfeydd a ganlyn yr oedd Cronfa Bensiwn Dyfed wedi buddsoddi ynddynt: · Twf Byd-eang · Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy · Credyd Byd-eang
Yn ogystal â'r uchod, roedd y diweddariad hefyd yn darparu Crynodeb Stiwardiaeth ynghyd â'r atodiadau perthnasol rhif 1-4 yn yr adroddiad.
Mewn ymateb i sylwadau a wnaed ynghylch datganiad i'r wasg diweddar, rhoddodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn sicrwydd o'r cynnydd cadarnhaol a wnaed gan y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol i leihau amlygiad i garbon a risg yn sgil yr hinsawdd yn ystod y blynyddoedd diwethaf a phwysleisiwyd bod angen dull pwyllog yn hyn o beth.
Cyfeiriwyd at gynigion y cyfranddalwyr a gefnogir gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru mewn perthynas â Tyson Foods ym meysydd lobïo hinsawdd gorfforaethol, lobïo hinsawdd corfforaethol, cadwyni cyflenwi dim datgoedwigo, pecynnu yn unol ag egwyddorion yr economi gylchol a pholisïau archwilio i atal llafur plant. Mewn ymateb i'r pryderon a godwyd gan y Bwrdd bod y cynigion wedi cael cefnogaeth leiafrifol ac nad oeddent wedi'u cymeradwyo, dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn y byddai'n gofyn am ragor o wybodaeth am y mater hwn ac yn rhoi diweddariad i'r Bwrdd maes o law.
CYTUNWYD bod adroddiad diweddaru Buddsoddiadau Cyfrifol Partneriaeth Pensiwn Cymru fel yr oedd ar 31 Mawrth, 2024 yn cael ei nodi.
|
|
COFNODION DRAFFT CYFARFOD Y PWYLLGOR PENSIWN 19 MEHEFIN 2024 PDF 115 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
MONITRO CYLLIDEB Y BWRDD PENSIWN 1 EBRILL 2024 - 30 MEHEFIN 2024 PDF 108 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad Monitro Cyllideb y Bwrdd Pensiwn fel yr oedd ar 30 Mehefin, 2024. Cyfanswm y gwariant gwirioneddol oedd £6.1k. Rhagwelwyd y byddai'r gwariant ar gyfer y flwyddyn yn cyd-fynd â'r gyllideb.
Mewn ymateb i ymholiad, eglurwyd bod y ffigur dim yn y golofn gwariant yn ymwneud â phroblem o ran amseru lle na fyddai anfonebau ar gyfer gwariant wedi cael eu prosesu. Mewn achosion o'r fath, adlewyrchwyd y gwariant yn y golofn ymrwymiadau a ragwelwyd.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
CYNLLUN GWAITH Y BWRDD PENSIWN 2024 PDF 107 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2024 a oedd yn amlinellu gwaith y Bwrdd Pensiwn drwy gydol 2024 a'r eitemau i'w cyflwyno ym mhob cyfarfod.
CYTUNWYD bod Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2024 yn cael ei nodi.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 31 MAWRTH 2024 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.
Ystyriodd y Bwrdd Adroddiad Perfformiad a Risg yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai fanylion mewn perthynas â pherfformiad y Rheolwr Buddsoddi ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a'r cyfnod treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Mawrth 2024. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cefndir y farchnad fyd-eang a materion i'w hystyried.
CYTUNWYD bod yr adroddiad Perfformiad a Risg gan yr Ymgynghorydd Annibynnol fel yr oedd ar 31 Mawrth, 2024 yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 31 MAWRTH 2024 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.
Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad Perfformiad Northern Trust a oedd yn nodi perfformiad Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth, 2024. Roedd yr adroddiad yn darparu dadansoddiad perfformiad ar lefel cronfa gyfan a chan y Rheolwr Buddsoddi am y cyfnodau hyd at y cychwyn.
CYTUNWYD bod adroddiad Perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2024 yn cael ei nodi. |
|
ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 31 MAWRTH 2024 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.
Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad y Rheolwr Buddsoddi fel yr oedd ar 31 Mawrth, 2024 ynghylch:
· BlackRock - Adroddiad Chwarterol 31 Mawrth 2024; · Schroders - Adroddiad Buddsoddi Ch1 2024; · Partners Group - Adroddiad Chwarterol Ch1 2024; · Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 31 Mawrth 2024; · Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 31 Mawrth 2024 · Cronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy Partneriaeth Pensiwn Cymru - 31 Mawrth 2024.
CYTUNWYD bod adroddiadau'r Rheolwr Buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed yn cael eu nodi. |
|
DIWEDDARIAD SCHRODERS Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.
Derbyniodd y Bwrdd gyflwyniad a baratowyd gan Schroders a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddiadau’r Gronfa. Roedd y cyflwyniad yn rhoi crynodeb o'r wybodaeth ddiweddaraf am fusnes, Trosolwg ar y Farchnad Eiddo Tiriol, Trosolwg ar y Portffolio, Perfformiad a Strategaeth a gweithgareddau Cynaliadwyedd a Llywodraethu.
CYTUNWYD bod cyflwyniad diweddaru Schroders yn cael ei nodi.
|