Agenda a Chofnodion

Bwrdd Pensiwn - Dydd Mercher, 25ain Hydref, 2023 1.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan M. Rogers, Cynrychiolydd Pensiynwyr sy'n Aelodau

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 19 GORFFENNAF 2023 pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2023 yn cael eu cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

4.

CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 28 MEDI 2023 pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau a ystyriwyd gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed ar 28 Medi 2023, fel y nodwyd yng nghofnodion 4.1- 4.10 isod, er mwyn eu hystyried a gwneud sylwadau arnynt.

 

 

4.1

RHAGARCHWILIAD O DDATGANIAD CYFRIFON 2022-23 pdf eicon PDF 48 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd y Datganiad Cyfrifon Cyn-Archwilio 2022-23 a gafodd ei ystyried a'i gymeradwyo gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed ar 28 Medi 2023. 

 

Roedd cyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed yn darparu gwybodaeth am sefyllfa ariannol, perfformiad a hyblygrwydd ariannol y Gronfa am y flwyddyn 2022-23, a oedd yn cynnwys:

 

·       Cyfrif y Gronfa.

·       Y Datganiad Asedau Net.

·       Y Datganiad gan yr Actiwari Ymgynghori

 

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod y Datganiad o Gyfrifon fel sydd ar gael ar y wefan i'w weld yn gyhoeddus a byddai'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 27 Hydref 2023 er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014.

 

Codwyd y sylwadau/ymholiadau canlynol ynghylch yr adroddiad ac ymatebwyd iddynt:-

 

·   Nododd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn mewn ymateb i ymholiad ynghylch gostwng yr asedau net o £210m i ddiffyg o £83m bod y mwyafrif wedi ei briodoli i golled nad oedd wedi'i wireddu o £106m a oedd yn gysylltiedig â newid yng ngwerth cronfa'r farchnad ac oherwydd bod yr ecwiti a'r incwm sefydlog wedi bod yn gyfnewidiol eleni gan achosi gwerth y farchnad i ostwng.

 

·   Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r ffigurau sy'n ymwneud â'r asedau presennol ers mis Mawrth 2022, dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod y cynnydd yn bennaf oherwydd y dyfarniad cyflog hwyr ym mis Mawrth 2023.  Ar ben hynny, y brif elfen arall oedd y balans arian a oedd yn cael ei gadw gan Reolwyr Trysorlys Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a gynyddodd o £4.5m i £6.6m yn y flwyddyn.

 

·       Rodd y Bwrdd am ddiolch i'r swyddogion a'r staff oedd yn rhan o'r gwaith o baratoi a chwblhau'r cyfrifon.

 

CYTUNWYD YN UNFRYDOL i nodi Datganiad Cyfrifon Cyn-Archwilio 2022-2023. 

 

 

4.2

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2023 - 30 MEHEFIN 2023 pdf eicon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf o ran blwyddyn ariannol 2023/24. 

 

Dywedwyd y rhagwelwyd tanwariant o £1.3m ar Bensiynau Taladwy. Yn ogystal, dywedwyd adeg gosod y gyllideb ar gyfer 2023-24 bod cynnydd o 2.2% wedi'i gynnwys i amcangyfrif y pensiynau ychwanegol a dalwyd ar aelodau newydd y pensiwn am y flwyddyn a hyd yma roedd y cynnydd gwirioneddol mewn aelodau pensiwn yn agosach at 1%.

 

O ran incwm, rhagwelwyd bod cyfraniadau yn £1.9m a oedd yn fwy na'r hyn a gyllidebwyd oherwydd bod cyflogres bensiynadwy aelodau yn uwch na'r hyn a ragwelwyd wrth osod y gyllideb.  Rhagwelwyd y byddai incwm buddsoddi yn is na'r gyllideb o £2.3m. Felly, rhagwelwyd byddai incwm yn is na'r gyllideb o £0.4m.

 

Nodwyd mae amcangyfrif cyfanswm y gwariant oedd £121.5m ac mai cyfanswm yr incwm oedd £122.4m, gan arwain at sefyllfa llif arian gadarnhaol o £0.9m.

 

CYTUNWYD YN UNFRYDOL i nodi'r adroddiad. 

 

 

4.3

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 30 MEHEFIN 2023 pdf eicon PDF 40 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.4

ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU pdf eicon PDF 48 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd nifer o brosiectau sy'n cael eu cynnal, ynghyd â gwybodaeth am faterion perthnasol wrth weinyddu buddion y cynllun.

 

Codwyd y sylwadau/ymholiadau canlynol ynghylch yr adroddiad ac ymatebwyd iddynt:-

 

·       Wrth gyfeirio at ddiweddariad McCloud / Sargeant mynegwyd pryder ynghylch effaith y goblygiadau o ran yr adnoddau sydd eu hangen i ailgyfrifo'r holl bensiynau. Gofynnwyd a fyddai angen adnoddau ychwanegol er mwyn cwblhau'r gwaith?  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod y tîm wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn cefnogi'r broses o gasglu data, fodd bynnag, yn fwy penodol roedd aelod arall o staff wedi ychwanegu at y tîm yn ddiweddar er mwyn gweithio ar yr ymarfer casglu data.  Dywedwyd yn dilyn rhai cyfrifiadau prawf bod ansicrwydd yn parhau o ran faint o gyfrifiadau y gellid eu hawtomeiddio a faint y byddai'n rhaid eu gwneud â llaw ac felly byddai angen profion pellach i ganfod sut y gallai'r system wneud y llwyth gwaith yn haws.

Gofynnwyd a ellid cyflogi Deallusrwydd Artiffisial i ymgymryd â'r gwaith angenrheidiol?  Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Ariannol fod Deallusrwydd Artiffisial yn cael ei archwilio ar draws ystod o wasanaethau gyda'r nod o leihau amser swyddogion.

 

CYTUNWYD bod yr Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi. 

 

 

4.5

ADRODDIAD TORRI AMODAU pdf eicon PDF 49 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd bod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith.  Cymeradwywyd Polisi Torri Amodau Cronfa Pensiwn Dyfed gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016 ac o dan y polisi, mae'n ofynnol rhoi gwybod am achosion o dorri'r gyfraith i'r Rheoleiddiwr Pensiynau.

 

Ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn bu ychydig achosion lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser.  Rhoddwyd gwybod am y mater hwn i'r Rheoleiddiwr Pensiynau.

 

CYTUNWYD bod yr Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi. 

 

 

4.6

COFRESTRE RISG pdf eicon PDF 48 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod y Gofrestr Risg yn ddogfen waith sy'n tynnu sylw at yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed. Mae'r gofrestr risg yn cael ei monitro a'i hadolygu'n rheolaidd ac mae risgiau'n cael eu nodi fel rhai gweithredol a strategol. Dywedwyd nad oedd unrhyw newidiadau ers cyfarfod blaenorol y pwyllgor. 

 

Codwyd y sylwadau/ymholiadau canlynol ynghylch yr adroddiad ac ymatebwyd iddynt:-

 

  • Wrth gydnabod y materion sy'n digwydd ar hyn o bryd yn y Dwyrain Canol, cydnabuwyd y gallai fod potensial uchel i ansefydlogrwydd y farchnad effeithio ar werth asedau.  Gofynnwyd a ellid diogelu'r gronfa, a sut?   Eglurodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod y gofrestr risg yn cynnwys digwyddiadau geowleidyddol, fodd bynnag, dywedwyd mai nifer fach o fuddsoddiadau oedd yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt.
    Mewn ymateb i ymholiad pellach ynghylch buddsoddiadau yn y diwydiant arfau, rhoddodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn sicrwydd mai ychydig iawn o fuddsoddiadau oedd yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt a bod y buddsoddiadau hynny mewn meysydd sy'n peri pryder yn cael eu monitro'n agos.

Wrth gyfeirio at y gofrestr gynhwysfawr a manwl, gofynnwyd a oedd modd cael gwared ar y risgiau is.  Eglurodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn, er bod y gofrestr yn cael ei hadolygu'n chwarterol, roedd y risgiau â sgôr is yn parhau ar y gofrestr rhag ofn y byddent yn digwydd eto, e.e. Coronafeirws. Fodd bynnag, byddai ystyriaeth bellach mewn perthynas â'r risgiau is yn cael ei wneud cyn cyfarfod nesaf Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

CYTUNWYD bod y wybodaeth ddiweddaraf am y gofrestr risg yn cael ei nodi. 

 

4.7

PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU (PPC) pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau a chynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru gan gynnwys gwaith sydd wedi'i gwblhau ers cyfarfod diwethaf y Cyd-bwyllgor Llywodraethu a chamau nesaf/blaenoriaethau Partneriaeth Pensiwn Cymru. 

 

Codwyd y sylwadau/ymholiadau canlynol ynghylch yr adroddiad ac ymatebwyd iddynt:-

 

·       Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod yr holl adnoddau sydd ar gael o fewn Link Solutions Group wedi cael eu trosglwyddo'n ddi-dor i'r Waystone Group. Yn ogystal, roedd y Waystone Group wedi darparu rhagor o staff a croesawyd hyn. Dywedwyd hefyd na fyddai costau cynyddol ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru o ganlyniad i'r newid. Ar ben hynny, dywedwyd wrth y Bwrdd er y byddai'r uwch-reolwyr yr un peth, y byddai Prif Swyddog Gweithredol o Waystone Group hefyd yn ymuno â'r strwythur rheoli a oedd yn adnodd ychwanegol i'w groesawu ar lefel uwch.

 

CYTUNWYD bod adroddiad  Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael ei nodi.  

 

 

4.8

CYNLLUN HYFFORDDI 2023-2024 pdf eicon PDF 40 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried Cynllun Hyfforddi Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2023/24, a oedd yn darparu manylion am gyfarfodydd, digwyddiadau hyfforddi a'r aelodau a'r swyddogion y rhagwelwyd y byddent yn mynychu'r digwyddiadau hynny.

 

CYTUNWYD bod Cynllun Hyfforddi Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer  2023/24 yn cael ei nodi.

 

4.9

ADOLYGIAD O'R DYRANIAD ASEDAU STRATEGOL 2023 pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi manylion am yr Adolygiad o'r Dyraniad Asedau Strategol a oedd yn archwilio Dyraniad Asedau Strategol cyffredinol y portffolio buddsoddi ac yn rhoi argymhellion ynghylch lle y gellir gweithredu'r portffolio mor effeithiol â phosibl i gyflawni amcanion a gofynion y Gronfa.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig argymhelliad i fabwysiadu Opsiwn 1A a oedd yn cynnwys dyraniad o 5% i Gredyd Preifat a fyddai'n cael ei ariannu gan ostyngiad yn y dyraniad i Ecwitïau. Argymhelliad pellach yn yr adroddiad oedd rhoi'r gorau i ailfuddsoddi incwm a gynhyrchir o'r Gronfa Credyd Byd-eang a dechrau derbyn yr incwm hwn fel dosbarthiad.


 

Codwyd y sylwadau/ymholiadau canlynol ynghylch yr adroddiad ac ymatebwyd iddynt:-

 

·       Cyfeiriwyd at ffigur 3 – Rhagolwg Incwm sydd ei angen/ a gynhyrchwyd gan y Dyraniad Asedau Strategol Cyfredol sydd ar dudalen 12 yr adroddiad. I gydnabod bod y balans wedi gostwng drwy gydol y cyfnod o 5 mlynedd, gofynnwyd a fyddai'r balans yn lefelu yn yr hir dymor?  Dywedodd yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol bod disgwyl i'r balans barhau i ddirywio yn yr hir dymor. Roedd yn arferol i gronfeydd pensiwn fod yn negyddol o ran arian parod wrth i amser fynd yn ei flaen ac wrth i'r gronfa aeddfedu oherwydd mwy o bensiynwyr h?n a llai o weithwyr presennol.  Oherwydd lefel yr arian sy'n incwm digonol, nid oedd hyn yn cael ei ystyried yn risg sylweddol.

 

·       Gofynnwyd beth oedd y risgiau ynghlwm â buddsoddi mewn credyd preifat o ran diffygion neu beidio â chyflwyno enillion?  Esboniodd yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol yn nodweddiadol cwmnïau ail haen neu ganolig yw credyd preifat yn ogystal â rhai cytundebau ecwiti preifat.  Cydnabuwyd bod risg fach mewn buddsoddi mewn cwmnïau credyd preifat, fodd bynnag, roedd y gyfradd llog yn uwch na bond corfforaethol.  Esboniodd yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol ymhellach y ddadl dros fuddsoddi mewn credyd preifat.

 

·       Gan gyfeirio at symudiad yn y gronfa, gofynnwyd a oedd y gronfa wedi profi hyn o'r blaen?  Dywedodd yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol nad oedd y gronfa wedi newid ar y raddfa hon yn ddiweddar, ond fel arfer byddai hyn yn gam a fyddai'n cael ei wneud o bryd i'w gilydd er mwyn sicrhau bod y portffolio'n parhau i wneud y gorau posibl wrth gyflawni amcanion a gofynion y gronfa.  Dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn mai'r prif newid oedd yn 2016 pan benderfynwyd ar seilwaith ar 5% o ran Partneriaeth Pensiwn Cymru.  Ychwanegodd yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fod symudiadau fel hyn yn cronni dros nifer o flynyddoedd i godi'r 5% i'r gronfa gredyd breifat.

 

CYTUNWYD bod yr Adolygiad o'r Dyraniad Asedau Strategol yn cael ei nodi.

 

 

4.10

COFNODION DRAFFT CYFARFOD Y PWYLLGOR PENSIWN 28 MEDI 2023 pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.

MONITRO CYLLIDEB Y BWRDD PENSIWN 1 EBRILL 2023 - 30 MEDI 2023 pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad Monitro Cyllideb y Bwrdd Pensiwn fel yr oedd ar 30 Medi, 2023.  Cyfanswm y gwariant gwirioneddol oedd £9.6k.  Rhagwelwyd y byddai'r gwariant ar gyfer y flwyddyn yn cyd-fynd â'r gyllideb.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi. 

 

 

6.

CYNLLUN GWAITH Y BWRDD PENSIWN 2023 pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2023 a oedd yn amlinellu gwaith arfaethedig y Bwrdd Pensiwn a'r eitemau i'w cyflwyno ym mhob cyfarfod.

 

CYTUNWYD bod Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2023 yn cael ei nodi.

 

 

7.

CYNLLUN GWAITH Y BWRDD PENSIWN 2024 pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2024 a oedd yn amlinellu gwaith arfaethedig y Bwrdd Pensiwn a'r eitemau i'w cyflwyno ym mhob cyfarfod.

 

CYTUNWYD bod Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2024 yn cael ei gymeradwyo.

 

 

 

8.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd  ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf. 

 

 

9.

MEINI PRAWF GWERTHUSO - PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU CAFFAEL GWEITHREDWR

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.

 

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad ar y Meini Prawf Gwerthuso ar gyfer Caffael Gweithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

10.

ADOLYGIAD O BERFFORMIAD BENTHYCA GWARANNAU NORTHERN TRUST 2022-23

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.

 

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad ar Adolygiad Perfformiad Benthyca Gwarantau Northern Trust 2022-23 a oedd yn cynnwys y canlynol:-

 

• Trosolwg o'r Rhaglen

• Tueddiadau ac arsylwadau'r farchnad • Dadansoddiad perfformiad

• Dadansoddiad cyfochrog

 

CYTUNWYD y dylid nodi Adolygiad Perfformiad Benthyca Gwarantau Northern Trust 2022-23.

 

 

11.

ADRODDIAD YMGYSYLLTU ROBECO 1 IONAWR 2023 - 31 MAWRTH 2023

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.

 

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad Ymgysylltu Robeco am y cyfnod 1 Ionawr 2023 – 31 Mawrth 2023.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

 

12.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEHEFIN 2023

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.

 

Bu'r Bwrdd yn ystyried Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol ar Berfformiad a Risg, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y Rheolwr Buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Mehefin, 2023.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cefndir y farchnad fyd-eang a materion i'w hystyried.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad Perfformiad a Risg gan yr Ymgynghorydd Annibynnol fel yr oedd ar 30 Mehefin, 2023 yn cael ei nodi.

 

 

13.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEHEFIN 2023

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.

 

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad Perfformiad Northern Trust a oedd yn nodi perfformiad Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin, 2023.  Roedd yr adroddiad yn darparu dadansoddiad perfformiad ar lefel cronfa gyfan a chan y Rheolwr Buddsoddi am y cyfnodau hyd at y cychwyn.

 

CYTUNWYD bod adroddiad Perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin 2023 yn cael ei nodi.

 

 

14.

ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 30 MEHEFIN 2023

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.

 

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad y Rheolwr Buddsoddi fel yr oedd ar 30 Mehefin, 2023.

 

CYTUNWYD bod adroddiadau'r Rheolwr Buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed yn cael eu nodi.