Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan M. Rogers, Cynrychiolydd Pensiynwyr sy'n Aelodau
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.
|
|
COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 19 GORFFENNAF 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2023 yn cael eu cadarnhau fel cofnod cywir.
|
|
CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 28 MEDI 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau a ystyriwyd gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed ar 28 Medi 2023, fel y nodwyd yng nghofnodion 4.1- 4.10 isod, er mwyn eu hystyried a gwneud sylwadau arnynt.
|
|
RHAGARCHWILIAD O DDATGANIAD CYFRIFON 2022-23 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd y Datganiad Cyfrifon Cyn-Archwilio 2022-23 a gafodd ei ystyried a'i gymeradwyo gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed ar 28 Medi 2023.
Roedd cyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed yn darparu gwybodaeth am sefyllfa ariannol, perfformiad a hyblygrwydd ariannol y Gronfa am y flwyddyn 2022-23, a oedd yn cynnwys:
· Cyfrif y Gronfa. · Y Datganiad Asedau Net. · Y Datganiad gan yr Actiwari Ymgynghori
Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod y Datganiad o Gyfrifon fel sydd ar gael ar y wefan i'w weld yn gyhoeddus a byddai'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 27 Hydref 2023 er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014.
Codwyd y sylwadau/ymholiadau canlynol ynghylch yr adroddiad ac ymatebwyd iddynt:-
· Nododd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn mewn ymateb i ymholiad ynghylch gostwng yr asedau net o £210m i ddiffyg o £83m bod y mwyafrif wedi ei briodoli i golled nad oedd wedi'i wireddu o £106m a oedd yn gysylltiedig â newid yng ngwerth cronfa'r farchnad ac oherwydd bod yr ecwiti a'r incwm sefydlog wedi bod yn gyfnewidiol eleni gan achosi gwerth y farchnad i ostwng.
· Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r ffigurau sy'n ymwneud â'r asedau presennol ers mis Mawrth 2022, dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod y cynnydd yn bennaf oherwydd y dyfarniad cyflog hwyr ym mis Mawrth 2023. Ar ben hynny, y brif elfen arall oedd y balans arian a oedd yn cael ei gadw gan Reolwyr Trysorlys Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a gynyddodd o £4.5m i £6.6m yn y flwyddyn.
· Rodd y Bwrdd am ddiolch i'r swyddogion a'r staff oedd yn rhan o'r gwaith o baratoi a chwblhau'r cyfrifon.
CYTUNWYD YN UNFRYDOL i nodi Datganiad Cyfrifon Cyn-Archwilio 2022-2023.
|
|
MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2023 - 30 MEHEFIN 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Dywedwyd y rhagwelwyd tanwariant o £1.3m ar Bensiynau Taladwy. Yn ogystal, dywedwyd adeg gosod y gyllideb ar gyfer 2023-24 bod cynnydd o 2.2% wedi'i gynnwys i amcangyfrif y pensiynau ychwanegol a dalwyd ar aelodau newydd y pensiwn am y flwyddyn a hyd yma roedd y cynnydd gwirioneddol mewn aelodau pensiwn yn agosach at 1%.
O ran incwm, rhagwelwyd bod cyfraniadau yn £1.9m a oedd yn fwy na'r hyn a gyllidebwyd oherwydd bod cyflogres bensiynadwy aelodau yn uwch na'r hyn a ragwelwyd wrth osod y gyllideb. Rhagwelwyd y byddai incwm buddsoddi yn is na'r gyllideb o £2.3m. Felly, rhagwelwyd byddai incwm yn is na'r gyllideb o £0.4m.
Nodwyd mae amcangyfrif cyfanswm y gwariant oedd £121.5m ac mai cyfanswm yr incwm oedd £122.4m, gan arwain at sefyllfa llif arian gadarnhaol o £0.9m.
CYTUNWYD YN UNFRYDOL i nodi'r adroddiad.
|
|
CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 30 MEHEFIN 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd nifer o brosiectau sy'n cael eu cynnal, ynghyd â gwybodaeth am faterion perthnasol wrth weinyddu buddion y cynllun.
Codwyd y sylwadau/ymholiadau canlynol ynghylch yr adroddiad ac ymatebwyd iddynt:-
·
Wrth gyfeirio at
ddiweddariad McCloud / Sargeant mynegwyd pryder ynghylch effaith y
goblygiadau o ran yr adnoddau sydd eu hangen i ailgyfrifo'r holl
bensiynau. Gofynnwyd a fyddai angen adnoddau ychwanegol er mwyn
cwblhau'r gwaith? Dywedodd Pennaeth y
Gwasanaethau Ariannol fod y tîm wedi cynyddu dros y
blynyddoedd diwethaf er mwyn cefnogi'r broses o gasglu data, fodd
bynnag, yn fwy penodol roedd aelod arall o staff wedi ychwanegu at
y tîm yn ddiweddar er mwyn gweithio ar yr ymarfer casglu
data. Dywedwyd yn dilyn rhai
cyfrifiadau prawf bod ansicrwydd yn parhau o ran faint o
gyfrifiadau y gellid eu hawtomeiddio a faint y byddai'n rhaid eu
gwneud â llaw ac felly byddai angen profion pellach i ganfod
sut y gallai'r system wneud y llwyth gwaith yn haws. Gofynnwyd a ellid cyflogi Deallusrwydd Artiffisial i ymgymryd â'r gwaith angenrheidiol? Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Ariannol fod Deallusrwydd Artiffisial yn cael ei archwilio ar draws ystod o wasanaethau gyda'r nod o leihau amser swyddogion.
CYTUNWYD bod yr Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD TORRI AMODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd bod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Cymeradwywyd Polisi Torri Amodau Cronfa Pensiwn Dyfed gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016 ac o dan y polisi, mae'n ofynnol rhoi gwybod am achosion o dorri'r gyfraith i'r Rheoleiddiwr Pensiynau.
Ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn bu ychydig achosion lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser. Rhoddwyd gwybod am y mater hwn i'r Rheoleiddiwr Pensiynau.
CYTUNWYD bod yr Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod y Gofrestr Risg yn ddogfen waith sy'n tynnu sylw at yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed. Mae'r gofrestr risg yn cael ei monitro a'i hadolygu'n rheolaidd ac mae risgiau'n cael eu nodi fel rhai gweithredol a strategol. Dywedwyd nad oedd unrhyw newidiadau ers cyfarfod blaenorol y pwyllgor.
Codwyd y sylwadau/ymholiadau canlynol ynghylch yr adroddiad ac ymatebwyd iddynt:-
Wrth gyfeirio at y gofrestr gynhwysfawr a manwl, gofynnwyd a oedd modd cael gwared ar y risgiau is. Eglurodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn, er bod y gofrestr yn cael ei hadolygu'n chwarterol, roedd y risgiau â sgôr is yn parhau ar y gofrestr rhag ofn y byddent yn digwydd eto, e.e. Coronafeirws. Fodd bynnag, byddai ystyriaeth bellach mewn perthynas â'r risgiau is yn cael ei wneud cyn cyfarfod nesaf Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed.
CYTUNWYD bod y wybodaeth ddiweddaraf am y gofrestr risg yn cael ei nodi.
|
|
PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU (PPC) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau a chynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru gan gynnwys gwaith sydd wedi'i gwblhau ers cyfarfod diwethaf y Cyd-bwyllgor Llywodraethu a chamau nesaf/blaenoriaethau Partneriaeth Pensiwn Cymru.
Codwyd y sylwadau/ymholiadau canlynol ynghylch yr adroddiad ac ymatebwyd iddynt:-
· Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod yr holl adnoddau sydd ar gael o fewn Link Solutions Group wedi cael eu trosglwyddo'n ddi-dor i'r Waystone Group. Yn ogystal, roedd y Waystone Group wedi darparu rhagor o staff a croesawyd hyn. Dywedwyd hefyd na fyddai costau cynyddol ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru o ganlyniad i'r newid. Ar ben hynny, dywedwyd wrth y Bwrdd er y byddai'r uwch-reolwyr yr un peth, y byddai Prif Swyddog Gweithredol o Waystone Group hefyd yn ymuno â'r strwythur rheoli a oedd yn adnodd ychwanegol i'w groesawu ar lefel uwch.
CYTUNWYD bod adroddiad Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael ei nodi.
|
|
CYNLLUN HYFFORDDI 2023-2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried Cynllun Hyfforddi Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2023/24, a oedd yn darparu manylion am gyfarfodydd, digwyddiadau hyfforddi a'r aelodau a'r swyddogion y rhagwelwyd y byddent yn mynychu'r digwyddiadau hynny.
CYTUNWYD bod Cynllun Hyfforddi Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2023/24 yn cael ei nodi.
|
|
ADOLYGIAD O'R DYRANIAD ASEDAU STRATEGOL 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi manylion am yr Adolygiad o'r Dyraniad Asedau Strategol a oedd yn archwilio Dyraniad Asedau Strategol cyffredinol y portffolio buddsoddi ac yn rhoi argymhellion ynghylch lle y gellir gweithredu'r portffolio mor effeithiol â phosibl i gyflawni amcanion a gofynion y Gronfa.
Roedd yr adroddiad yn cynnig argymhelliad i fabwysiadu Opsiwn 1A a oedd yn cynnwys dyraniad o 5% i Gredyd Preifat a fyddai'n cael ei ariannu gan ostyngiad yn y dyraniad i Ecwitïau. Argymhelliad pellach yn yr adroddiad oedd rhoi'r gorau i ailfuddsoddi incwm a gynhyrchir o'r Gronfa Credyd Byd-eang a dechrau derbyn yr incwm hwn fel dosbarthiad.
Codwyd y sylwadau/ymholiadau canlynol ynghylch yr adroddiad ac ymatebwyd iddynt:-
· Cyfeiriwyd at ffigur 3 – Rhagolwg Incwm sydd ei angen/ a gynhyrchwyd gan y Dyraniad Asedau Strategol Cyfredol sydd ar dudalen 12 yr adroddiad. I gydnabod bod y balans wedi gostwng drwy gydol y cyfnod o 5 mlynedd, gofynnwyd a fyddai'r balans yn lefelu yn yr hir dymor? Dywedodd yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol bod disgwyl i'r balans barhau i ddirywio yn yr hir dymor. Roedd yn arferol i gronfeydd pensiwn fod yn negyddol o ran arian parod wrth i amser fynd yn ei flaen ac wrth i'r gronfa aeddfedu oherwydd mwy o bensiynwyr h?n a llai o weithwyr presennol. Oherwydd lefel yr arian sy'n incwm digonol, nid oedd hyn yn cael ei ystyried yn risg sylweddol.
· Gofynnwyd beth oedd y risgiau ynghlwm â buddsoddi mewn credyd preifat o ran diffygion neu beidio â chyflwyno enillion? Esboniodd yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol yn nodweddiadol cwmnïau ail haen neu ganolig yw credyd preifat yn ogystal â rhai cytundebau ecwiti preifat. Cydnabuwyd bod risg fach mewn buddsoddi mewn cwmnïau credyd preifat, fodd bynnag, roedd y gyfradd llog yn uwch na bond corfforaethol. Esboniodd yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol ymhellach y ddadl dros fuddsoddi mewn credyd preifat.
· Gan gyfeirio at symudiad yn y gronfa, gofynnwyd a oedd y gronfa wedi profi hyn o'r blaen? Dywedodd yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol nad oedd y gronfa wedi newid ar y raddfa hon yn ddiweddar, ond fel arfer byddai hyn yn gam a fyddai'n cael ei wneud o bryd i'w gilydd er mwyn sicrhau bod y portffolio'n parhau i wneud y gorau posibl wrth gyflawni amcanion a gofynion y gronfa. Dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn mai'r prif newid oedd yn 2016 pan benderfynwyd ar seilwaith ar 5% o ran Partneriaeth Pensiwn Cymru. Ychwanegodd yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fod symudiadau fel hyn yn cronni dros nifer o flynyddoedd i godi'r 5% i'r gronfa gredyd breifat.
CYTUNWYD bod yr Adolygiad o'r Dyraniad Asedau Strategol yn cael ei nodi.
|
|
COFNODION DRAFFT CYFARFOD Y PWYLLGOR PENSIWN 28 MEDI 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
MONITRO CYLLIDEB Y BWRDD PENSIWN 1 EBRILL 2023 - 30 MEDI 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad Monitro Cyllideb y Bwrdd Pensiwn fel yr oedd ar 30 Medi, 2023. Cyfanswm y gwariant gwirioneddol oedd £9.6k. Rhagwelwyd y byddai'r gwariant ar gyfer y flwyddyn yn cyd-fynd â'r gyllideb.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
CYNLLUN GWAITH Y BWRDD PENSIWN 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2023 a oedd yn amlinellu gwaith arfaethedig y Bwrdd Pensiwn a'r eitemau i'w cyflwyno ym mhob cyfarfod.
CYTUNWYD bod Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2023 yn cael ei nodi.
|
|
CYNLLUN GWAITH Y BWRDD PENSIWN 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2024 a oedd yn amlinellu gwaith arfaethedig y Bwrdd Pensiwn a'r eitemau i'w cyflwyno ym mhob cyfarfod.
CYTUNWYD bod Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2024 yn cael ei gymeradwyo.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
MEINI PRAWF GWERTHUSO - PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU CAFFAEL GWEITHREDWR Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
ADOLYGIAD O BERFFORMIAD BENTHYCA GWARANNAU NORTHERN TRUST 2022-23 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.
Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad ar Adolygiad Perfformiad Benthyca Gwarantau Northern Trust 2022-23 a oedd yn cynnwys y canlynol:-
• Trosolwg o'r Rhaglen • Tueddiadau ac arsylwadau'r farchnad • Dadansoddiad perfformiad • Dadansoddiad cyfochrog
CYTUNWYD y dylid nodi Adolygiad Perfformiad Benthyca Gwarantau Northern Trust 2022-23.
|
|
ADRODDIAD YMGYSYLLTU ROBECO 1 IONAWR 2023 - 31 MAWRTH 2023 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.
Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad Ymgysylltu Robeco am y cyfnod 1 Ionawr 2023 – 31 Mawrth 2023.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEHEFIN 2023 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.
Bu'r Bwrdd yn ystyried Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol ar Berfformiad a Risg, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y Rheolwr Buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Mehefin, 2023. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cefndir y farchnad fyd-eang a materion i'w hystyried.
CYTUNWYD bod yr adroddiad Perfformiad a Risg gan yr Ymgynghorydd Annibynnol fel yr oedd ar 30 Mehefin, 2023 yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEHEFIN 2023 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.
Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad Perfformiad Northern Trust a oedd yn nodi perfformiad Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin, 2023. Roedd yr adroddiad yn darparu dadansoddiad perfformiad ar lefel cronfa gyfan a chan y Rheolwr Buddsoddi am y cyfnodau hyd at y cychwyn.
CYTUNWYD bod adroddiad Perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin 2023 yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 30 MEHEFIN 2023 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.
Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad y Rheolwr Buddsoddi fel yr oedd ar 30 Mehefin, 2023.
CYTUNWYD bod adroddiadau'r Rheolwr Buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed yn cael eu nodi.
|