Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.
|
|
COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALWYD A 12FED IONAWR 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2023 yn cael eu cadarnhau fel cofnod cywir.
|
|
CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 28 MAWRTH 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau a ystyriwyd gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed ar 28 Mawrth 2023, fel y nodwyd yng nghofnodion 4.1- 4.13 isod, er mwyn eu hystyried a gwneud sylwadau arnynt.
|
|
CYNLLUN ARCHWILIO AMLINELLOL 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd Gynllun Archwilio Amlinellol 2023 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn manylu ar y canlynol:
• Cyfrifoldebau archwilio; • Tîm archwilio a ffioedd; • Amserlen archwilio; • Ansawdd archwilio; • Newidiadau allweddol i ISA315 a'r effaith bosibl ar y Gronfa.
Nododd y Bwrdd ddiweddariad lle rhoddwyd gwybod iddo, oherwydd pwysau adnoddau yn Archwilio Cymru, mai'r dyddiad cau oedd wedi'i bennu ar gyfer llofnodi cyfrifon wedi'u harchwilio ar gyfer 2022/23 oedd 30 Tachwedd 2023, ond roedd ymrwymiad i osod y dyddiad cau hwnnw'n gynharach dros y blynyddoedd sydd i ddod. Yn ogystal, yn dilyn ymgynghoriad ar ffioedd, byddai cynnydd o 4.8% mewn ffioedd ar gyfer rhai archwiliadau ariannol a pherfformiad a chynnydd o 10.2% ar gyfer gwaith archwilio ariannol ISA 315 gan arwain at gynnydd o 15% yn gyffredinol o'r elfen archwilio ariannol o'r ffi. Byddai llythyrau sy'n manylu ar y cynnydd yn cael eu hanfon i bob swyddog adran 151 cyn bo hir.
CYTUNWYD YN UNFRYDOL i dderbyn Cynllun Archwilio Amlinellol 2023.
|
|
MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2022 - 31 RHAGFYR 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf o ran blwyddyn ariannol 2022/23. Nodwyd bod y sefyllfa bresennol, fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2022, yn rhagweld tanwariant o £6.9k o ran arian parod.
Dywedwyd mai'r gorwariant a ragwelwyd oedd £1m. Rhagwelwyd y byddai budd-daliadau sy'n daladwy yn £1.4m yn uwch na'r gyllideb a rhagwelwyd y byddai treuliau rheoli £714k yn is na'r gyllideb.
O ran incwm, roedd effaith net cyfraniadau ac incwm buddsoddi yn gynnydd o £7.9m, yn bennaf o ganlyniad i ragweld incwm buddsoddi uwch na'r hyn roeddid wedi cyllidebu ar ei gyfer.
Amcangyfrifwyd mai cyfanswm y gwariant cyffredinol oedd £108.8m ac mai cyfanswm yr incwm oedd £115.7m, gan arwain i sefyllfa llif arian gadarnhaol o £6.9m.
Gwnaed ymholiad mewn perthynas â'r trosglwyddiadau a'u bod yn ymddangos yn uwch na'r arfer, a dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn y byddai'n ymchwilio i'r mater ymhellach.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch enillion cronfa Black Rock ac a fyddent yn cael eu cynnal yn y dyfodol, dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn, er y byddai'r enillion yn amrywio yn dibynnu ar chwyddiant a chyfraddau llog, ei bod yn braf adrodd bod yr enillion ar hyn o bryd yn uwch na'r disgwyl. Roedd y tîm mewn cyfarfodydd rheolaidd gyda Black Rock er mwyn cadw golwg ar ddatblygiadau.
CYTUNWYD YN UNFRYDOL i nodi'r adroddiad.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf o ran blwyddyn ariannol 2022/23. Nodwyd bod y sefyllfa bresennol, fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2022, yn rhagweld tanwariant o £6.9k o ran arian parod.
Dywedwyd mai'r gorwariant a ragwelwyd oedd £1m. Rhagwelwyd y byddai budd-daliadau sy'n daladwy yn £1.4m yn uwch na'r gyllideb a rhagwelwyd y byddai treuliau rheoli £714k yn is na'r gyllideb.
O ran incwm, roedd effaith net cyfraniadau ac incwm buddsoddi yn gynnydd o £7.9m, yn bennaf o ganlyniad i ragweld incwm buddsoddi uwch na'r hyn roeddid wedi cyllidebu ar ei gyfer.
Amcangyfrifwyd mai cyfanswm y gwariant cyffredinol oedd £108.8m ac mai cyfanswm yr incwm oedd £115.7m, gan arwain i sefyllfa llif arian gadarnhaol o £6.9m.
Gwnaed ymholiad mewn perthynas â'r trosglwyddiadau a'u bod yn ymddangos yn uwch na'r arfer, a dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn y byddai'n ymchwilio i'r mater ymhellach.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch enillion cronfa Black Rock ac a fyddent yn cael eu cynnal yn y dyfodol, dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn, er y byddai'r enillion yn amrywio yn dibynnu ar chwyddiant a chyfraddau llog, ei bod yn braf adrodd bod yr enillion ar hyn o bryd yn uwch na'r disgwyl. Roedd y tîm mewn cyfarfodydd rheolaidd gyda Black Rock er mwyn cadw golwg ar ddatblygiadau.
CYTUNWYD YN UNFRYDOL i nodi'r adroddiad.
|
|
CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31 RHAGFYR 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed.
Nodwyd ar 31 Rhagfyr, 2022 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £3.2m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.
CYTUNWYD YN UNFRYDOL i nodi'r adroddiad.
|
|
ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Weinyddu Pensiynau. Roedd yr adroddiad yn cynnwys diweddariadau ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol, cyflogwyr newydd, y gofrestr torri amodau, i-Connect, cysoniad GMP, adroddiadau Ansawdd Data, a llif gwaith.
· Cydnabuwyd bod Ceredigion a Choleg Sir Gâr yn gweithio gyda'i gilydd yngl?n ag i-connect, ond gofynnwyd am ddiweddariad ar sefyllfa Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Heddlu Dyfed Powys fel cyflogwyr sylweddol. Esboniodd y Rheolwr Pensiynau fod dros 95% o aelodau'r cynllun eisoes wedi ymuno ag i-connect ac mai nifer fach o aelodau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol oedd gan y gwasanaeth tân a'r heddlu. Fodd bynnag, roedd trafodaethau'n cael eu cynnal ar hyn o bryd gyda Heddlu Dyfed-Powys o ran derbyn y data yn y fformat angenrheidiol.
· Cyfeiriwyd at y 'Gwaith sydd angen ei Wneud' a nodwyd yn siartiau bar yr adroddiad. Mewn ymateb i ymholiad a wnaed ar leihau'r gwaith oedd angen ei wneud, esboniodd y Rheolwr Pensiynau mai trosglwyddiadau oedd yr her fwyaf, gan eu bod dan reolaeth aelod y cynllun a'r darparwr gydag amser cwblhau o hyd at chwe mis.
CYTUNWYD YN UNFRYDOL fod yr Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD TORRI AMODAU 2022-23 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Roedd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed wedi cael ei gymeradwyo gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016. O dan y polisi, roedd yn ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau os oes achos rhesymol i gredu'r canlynol:
· na chydymffurfir – neu na chydymffurfiwyd – â dyletswydd gyfreithiol sy'n berthnasol i'r gwaith o weinyddu'r cynllun;
· bod yr anallu i gydymffurfio yn debygol o fod o arwyddocâd sylweddol i'r Rheoleiddiwr wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.
Nododd y Bwrdd fod ychydig achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser. Byddai adroddiad yn cael ei anfon at y Rheoleiddiwr Pensiynau mewn perthynas â chyflogwr oedd wedi methu taliadau yn rheolaidd ac wedi methu â darparu dogfennau. Roedd gan y cyflogwr hwn £3,433.42 yn ddyledus i'r Gronfa am y cyfnod 1 Medi 2022 – 31 Ionawr 2023.
· Mewn ymateb i ymholiad, esboniodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol pe na bai'r cyflogwr yn talu'r swm yn llawn, byddai'r gronfa'n ysgwyddo'r effaith. Roedd hawl y gweithiwr yn cael ei diogelu gan reoliadau Llywodraeth Ganolog ac felly ni fyddai unrhyw berygl i'r gweithiwr.
CYTUNWYD YN UNFRYDOL i nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod y Gofrestr Risg yn ddogfen waith sy'n tynnu sylw at yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed. Dywedodd y Bwrdd fod y Gofrestr Risg wedi'i hadolygu a bod y ddwy risg ganlynol wedi'u diwygio:
- DPFOP0010 (Methu denu, rheoli, datblygu, a chadw staff ar bob lefel yn briodol) – roedd y risg heb reolaeth wedi'i diweddaru i adlewyrchu risg uchel (a sgoriwyd yn flaenorol fel risg ganolig) ac roedd y risg dan reolaeth wedi'i diweddaru i adlewyrchu risg ganolig (risg isel yn flaenorol). Roedd rheolaeth ychwanegol wedi ei chynnwys a oedd yn nodi bod polisi recriwtio a chadw Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael ei weithredu;
- DPFOP0017 – roedd natur y risg wedi'i hymestyn o fethu bodloni terfynau amser statudol gan arwain at gymhwyso'r cyfrifon, i risg ehangach a oedd yn cynnwys methu â chadw papurau gweithio cadarn nad oedd yn rhoi sicrwydd ynghylch cywirdeb y cyfrifon. Roedd rheolaeth ychwanegol wedi'i chynnwys sef presenoldeb yn hyfforddiant Cyfrifon Cronfa Bensiwn CIPFA ac adolygu cyfrifon enghreifftiol Cronfa Bensiwn CIPFA.
· Cyfeiriwyd at DPFOP0009 - Gorddibyniaeth ar Swyddogion Gweinyddu a Buddsoddi pensiynau allweddol. Gofynnwyd a ellid gwneud unrhyw waith ychwanegol i leihau'r risg o un ganolig? Esboniodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod nifer y staff Pensiynau wedi lleihau dros y blynyddoedd, ac o'r herwydd roedd cynllunio olyniaeth yn mynd i fod yn her. Fodd bynnag, y teimlad oedd bod y risg ganolig yn briodol ynghyd â'r mesurau lliniaru oedd yn eu lle. Dywedwyd hefyd ei bod yn deg dweud bod llawer o gronfeydd ar draws Cymru a Lloegr yn wynebu problemau recriwtio a chadw staff. Er y gallai hyn fod oherwydd natur arbenigol y maes, dywedwyd y gallai'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol fuddsoddi mwy mewn hyfforddiant.
CYTUNWYD YN UNFYRDOL i nodi adroddiad y gofrestr risg.
|
|
DRAFFT DATGANIAD STRATEGAETH ARIANNU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd, er ystyriaeth, y Datganiad Strategaeth Gyllido ddrafft a osodai strategaeth ariannu eglur a thryloyw a fyddai'n nodi sut y bydd rhwymedigaethau pensiwn pob un o gyflogwyr y Gronfa yn cael eu bodloni yn y dyfodol. Dywedwyd yr oeddid wedi ymgynghori â'r holl bartïon â buddiant oedd yn gysylltiedig â Chronfa Bensiwn Dyfed a bod cyfle wedi'i roi iddynt wneud sylwadau cyn i'r Datganiad gael ei gwblhau a'i fabwysiadu.
· Cyfeiriwyd at yr agwedd ariannol ar Glustnodi Risgiau a Gwrth-fesurau - Tanberfformio yn y dyfodol o ganlyniad i gymryd rhan yn Null Cyfuno Cymru Gyfan. Mewn ymateb i ymholiad mewn perthynas â'r hyn y gallai'r risgiau cysylltiedig fod, eglurodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn i Aelodau'r Bwrdd y risgiau ychwanegol mewn perthynas â phenodi rheolwyr.
· Mewn ymateb i sylw ar newidiadau i aelodaeth y Pwyllgor, esboniodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod aelodaeth y Pwyllgor ar hyn o bryd yn sefydlog yn dilyn trosiant mawr yn dilyn yr Etholiadau yn 2022, gydag Aelodau newydd yn ymgymryd â'r hyfforddiant sy'n angenrheidiol i allu cyflawni'r rôl.
· Wrth gyfeirio at 'Gostau Straen Ymddeoliad Cynnar', gwnaed ymholiad mewn perthynas â'r baich ychwanegol a allai fod ar y Gronfa Bensiwn pe bai'r hinsawdd economaidd bresennol yn parhau, a allai arwain at ragor o bwysau o ran staffio yn dilyn ymddeoliad cynnar neu ddiswyddo gwirfoddol. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol mai'r cyflogwr fyddai'n ysgwyddo'r straen o ran ymddeoliad cynnar. Byddai ymddeoliadau dros yr hyn a fyddai wedi'i gyfrifo fel yr oedran pensiwn arferol yn cael eu hystyried fel rhan o arfarniad achos busnes cyn cyrraedd y gronfa bensiwn.
CYTUNWYD YN UNFRYDOL nodi Datganiad y StrategaethGyllido Ddrafft.
|
|
CYNLLUN BUSNES 2023-2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i Gynllun Busnes Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfnod 2023-2024, a nodai sut byddai'r Gronfa'n cyflawni ei hamcanion ac a bennai'r cynlluniau o safbwynt marchnata, ariannol a gweithredol.
· Wrth gyfeirio at y Blaenoriaethau a nodir yn y cynllun, soniwyd y byddai'n fuddiol cynnwys manylion ychwanegol fel targedau ac amserlenni. Esboniodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn, gan fod y cynllun yn nodi'r blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfan, awgrymwyd bod mwy o fanylion yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau cynnydd. Byddai hyn yn cael ei drafod gyda Phwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed.
CYTUNWYD YN UNFRYDOL i nodi Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2023-24.
|
|
CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU 2023-2026 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i Gynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer y cyfnod 2023-2026, a oedd yn nodi sut oedd y Gronfa yn mynd i gyflawni ei hamcanion a sicrhau bod adnoddau digonol yn cael eu dyrannu i gyflawni'r amcanion hynny.
CYTUNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar gael cymeradwyaeth Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru, nodi Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2023-26.
|
|
PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU - DIWEDDARIAD Y GWEITHREDWR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn diweddariadau ar gerrig milltir a chynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd Gynllun Hyfforddi Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2022-2023, a oedd yn darparu manylion am gyfarfodydd, digwyddiadau hyfforddi a'r aelodau a'r swyddogion y rhagwelwyd y byddent yn mynychu'r digwyddiadau.
· Gofynnwyd a oedd modd cyflwyno'r cynllun mewn fformat matrics i'w gwneud yn glir pa aelod sydd wedi derbyn pa hyfforddiant. Dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn y byddai'r awgrym yn cael ei roi gerbron Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed.
CYTUNWYD YN UNFRYDOL fod Cynllun Hyfforddi Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2021-22 yn cael ei nodi.
|
|
COFNODION DRAFFT CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 28 MAWRTH 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
CYNLLUN GWAITH Y BWRDD PENSIWN 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2023 a oedd yn amlinellu gwaith y Bwrdd Pensiwn drwy gydol 2023 a'r eitemau i'w cyflwyno ym mhob cyfarfod.
CYTUNWYD bod Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2023 yn cael ei nodi.
|
|
MONITRO CYLLIDEB Y BWRDD PENSIWN 1 EBRILL 2022 - 31 MAWRTH 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd adroddiad Monitro Cyllideb y Bwrdd Pensiwn fel yr oedd ar 31 Mawrth 2023. Cyfanswm y gwariant gwirioneddol oedd £20.7k. Y gwariant a ragwelwyd ar gyfer y flwyddyn oedd £3.5k o danwariant o gymharu â'r gyllideb.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 31 RHAGFYR 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod eitem rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol. Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2022.
Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cefndir y farchnad fyd-eang a materion i'w hystyried.
CYTUNWYD YN UNFRYDOL:-
8.1 nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2022;
8.2 nodi, am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad, i werthu £50m o ecwiti o bortffolio goddefol y DU a'i ail-fuddsoddi ym mhortffolio Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru, a rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ail-gydbwyso'r portffolio, o fewn rheolau ail-gydbwyso llym, er mwyn sicrhau y gall ail-gydbwyso tactegol llai ddigwydd mewn modd amserol.
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 31 RHAGFYR 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod eitem rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
Ystyriodd y Bwrdd adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2022 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau ers i'r gronfa gychwyn.
CYTUNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2022.
|
|
ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 31 RHAGFYR 2022 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod eitem rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiadau rheolwyr buddsoddi a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2022.
· BlackRock - Adroddiad Chwarterol 31 Rhagfyr 2022; · Schroders - Adroddiad Buddsoddi Ch4 2022; · Partners Group - Adroddiad Chwarterol Ch4 2022; · Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 31 Rhagfyr 2022; · Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 31 Rhagfyr 2022.
CYTUNWYD YN UNFRYDOL nodi adroddiadau'r rheolwr buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed.
Cyn dod â'r cyfarfod i ben, achubodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddiolch i Mr Paul-Ashley Jones am ei gyfraniadau i'r Bwrdd a dymunodd yn dda iddo yn y dyfodol.
|