Lleoliad: Multi Location - Ystafell Dafydd Orwig, Gwynedd County Council Ofices, Caernarfon - Multi Location. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
||||||||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANT Cofnodion:
[Sylwer: Ceir eithriad yn y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau, sy'n caniatáu i aelod a benodwyd neu a enwebwyd gan ei Awdurdod i gorff perthnasol ddatgan y buddiant hwnnw ond aros a chymryd rhan yn y cyfarfod.] </AI2>
|
||||||||||||||||||||||||||||
LLOFNODI YN GOGNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYD BWYLLGOR A GYNHALIWYD 5 RHAGFYR 2022 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyd-bwyllgor Llywodraethu oedd wedi'i gynnal ar 5 Rhagfyr, 2022 gan eu bod yn gywir.
|
||||||||||||||||||||||||||||
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF GAN YR AWDURDOD LLETYA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor ddiweddariad cynnydd mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:
- Llywodraethu; - Sefydlu Parhaus; - Gwasanaethau gweithredwyr; - Cyfathrebu ac adrodd; - Hyfforddiant a chyfarfodydd; - Adnoddau, Cyllideb a ffioedd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod diweddariad yr Awdurdod Cynnal yn cael ei dderbyn.
|
||||||||||||||||||||||||||||
CYNLLUN HYFFORDDIANT PPC 2023/24 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Derbyniodd y Cyd-bwyllgor y Cynllun Hyfforddi ar gyfer 2023/24.
Lluniwyd y cynllun hyfforddi hwn i ategu hyfforddiant presennol yr Awdurdod Cyfansoddol a bydd yn berthnasol i weithgareddau Partneriaeth Pensiwn Cymru o ran cyfuno cronfeydd. Mae'r hyfforddiant yn canolbwyntio'n bennaf ar ddiwallu anghenion hyfforddi aelodau'r Gweithgor Swyddogion a'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu, ond gellid hefyd ddiwallu anghenion aelodau'r Pwyllgor Pensiwn yn ogystal â chynrychiolwyr y Bwrdd Pensiwn, os yw'n berthnasol.
Cynhelir sesiynau hyfforddiant 2023/24 bob chwarter a byddant yn ymdrin â'r pynciau canlynol: · Gwybodaeth am gynnyrch · Adrodd · Buddsoddi Cyfrifol · Dealltwriaeth o'r Farchnad a Gofynion Rheoleiddio
Mewn ymateb i ymholiad, cytunwyd i drefnu sesiwn gynnar ar y gwahanol gyfleoedd a'r opsiynau o fuddsoddi mewn ynni cynaliadwy a buddsoddiadau lleol/effaith.
PENDERFYNWYD cymeradwyo Cynllun Hyfforddiant 2023-24.
|
||||||||||||||||||||||||||||
CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU 2023-2026 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried Cynllun Busnes 2023-2026.
Dywedwyd wrth y Cyd-bwyllgor mai pwrpas y cynllun busnes oedd:
• Egluro cefndir a strwythur llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru • Amlinellu blaenoriaethau ac amcanion Partneriaeth Pensiwn Cymru dros y tair blynedd nesaf • Cyflwyno polisïau a chynlluniau Partneriaeth Pensiwn Cymru • Amlinellu'r gyllideb ariannol ar gyfer cyfnod y Cynllun Busnes perthnasol • Crynhoi Buddsoddiadau ac Amcanion Perfformiad Partneriaeth Pensiwn Cymru Bydd y cynllun yn cael ei fonitro'n gyson a bydd yn cael ei adolygu a'i gytuno arno yn ffurfiol yn flynyddol.
Dywedwyd wrth y cyfarfod, yn dilyn cymeradwyaeth gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu y byddai'r Cynllun Busnes yn cael ei anfon i bob Awdurdod Cyfansoddol yn unol ag Adran 6 o'r Cytundeb rhwng Awdurdodau.
Mewn ymateb i ymholiad, cytunwyd i ystyried ychwanegu'r canlynol at yr amcanion cyn ei anfon at yr wyth awdurdod cyfansoddol:-
· buddsoddi cyfrifol a mesurau effeithiol i liniaru risg i'r hinsawdd
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid cytuno ar y Cynllun Busnes a'i anfon at bob un o'r wyth Awdurdod Cyfansoddol i'w gymeradwyo'n ysgrifenedig, yn amodol ar ystyried y mân welliant.
|
||||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD COFRESTR RISG CHWARTER 1 2023 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Ystyriodd y Cyd-bwyllgor Adolygiad Cofrestr Risg Ch1 2023. Dywedwyd wrth yr Aelodau mai pwrpas Cofrestr Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru yw: · Amlinellu prif risgiau a ffactorau Partneriaeth Pensiwn Cymru a allai gyfyngu ar ei gallu i gyflawni ei hamcanion · Mesur difrifoldeb a thebygolrwydd y risg sy'n wynebu Partneriaeth Pensiwn Cymru. · Crynhoi strategaethau rheoli risg Partneriaeth Pensiwn Cymru. · Monitro arwyddocâd parhaus y risgiau hyn a'r gofyniad am fwy o strategaethau lliniaru risg.
Mae'r Gweithgor Swyddogion wedi cynnal adolygiad chwarterol o'r gofrestr, gan edrych ar hanner cyntaf yr adran Llywodraethu a Rheoleiddio, risgiau G.1 i G.6. Roedd yr Is-Gr?p hefyd wedi adolygu Risg G.12.
Dywedwyd wrth yr aelodau y bydd yr adolygiad nesaf yn cael ei gynnal yn Ch2 2023 a bydd yn canolbwyntio ar weddill y risgiau o fewn yr adran Risgiau Llywodraethu a Rheoleiddio.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r newidiadau i Gofrestr Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru, fel y nodwyd yn yr adroddiad.
|
||||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIADAU POLISI BLYNYDDOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried y Matrics Llywodraethu.
Cymeradwyodd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu y Matrics Llywodraethu ym mis Rhagfyr 2019 a chafodd ei adolygu a'i ddiweddaru ym mis Rhagfyr 2020 a Mawrth 2022 yn y drefn honno. Y chwarter hwn cynhaliwyd adolygiad blynyddol 2023 o'r matrics ac mae wedi'i ddiweddaru i gyfeirio at adrannau perthnasol y Cytundeb Rhwng Awdurdodau.
Bydd y Matrics Llywodraethu yn cael ei ddiweddaru ar wefan Partneriaeth Pensiwn Cymru.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Matrics Llywodraethu.
|
||||||||||||||||||||||||||||
DIWEDDARIAD GAN Y GWEITHREDWR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad ar gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:
- Daliannau Cyfredol y Gronfa; - Cynnydd Lansio'r Gronfa; - Diweddariad ac Ymgysylltiad Corfforaethol.
Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a cherrig milltir yr Is-gronfeydd canlynol:-
· Cyfran 1 – Ecwiti Byd-eang · Cyfran 2 – Ecwiti y DU · Cyfran 3 - Incwm Sefydlog · Cyfran 4 – Marchnadoedd Datblygol
Hefyd, cafwyd diweddariad Corfforaethol ac Ymgysylltu a oedd yn cynnwys y protocol ymgysylltu a dyddiadau cyfarfod allweddol.
PENDERFYNODD YN UNFRYDOL dderbyn y Diweddariad gan y Gweithredwr.
|
||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIADAU PERFFORMIAD FEL AR 31 RHAGFYR 2022 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Derbyniodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad ar yr Adroddiadau Perfformiad fel yr oeddent ar 31 Rhagfyr, 2022. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau bod yr is-gronfeydd wedi perfformio'n uwch/ tanberfformio eu meincnodau priodol, fel a ganlyn:
· Cyfleoedd Byd-eang - wedi perfformio 1.58% gros / 1.29% net yn well · Twf Byd-eang - tanberfformiad o 0.73% gros / 1.14% net · Marchnadoedd Datblygol - tanberfformiad o 1.00% gros / 1.31% net · Perfformiodd Cyfleoedd y DU 1.79% gros / 2.20% net yn uwch · Perfformiodd Bond Llywodraeth Fyd-eang 1.93% gros / 1.70% net yn uwch · Perfformiodd Credyd Byd-eang 0.39% gros / 0.23% net yn uwch
Nid yw cronfeydd MAC nac ARB wedi cyrraedd eu targedau. Roedd Cronfa Credyd y DU wedi mynd y tu hwnt i'w darged.
PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo Adroddiadau Perfformiad yr is-gronfeydd canlynol fel yr oeddent ar 31 Rhagfyr 2022:
10.1 Cronfa Ecwiti Cyfleoedd Byd-eang; 10.2 Cronfa Ecwiti Twf Byd-eang; 10.3 Cronfa Ecwiti Marchnadoedd Datblygol; 10.4 Cronfa Ecwiti Cyfleoedd y DU; 10.5 Cronfa Bond Llywodraeth Fyd-eang; 10.6 Cronfa Credyd Byd-eang; 10.7 Cronfa Credyd Aml-asedau; 10.8 Cronfa Strategaeth Bond Elw Absoliwt; 10.9 Cronfa Credyd y DU.
Ar ran Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru, diolchodd y Cadeirydd i Dafydd Edwards, Cyfarwyddwr Cronfa Gwynedd am ei holl waith yn ei rôl fel aelod sylfaenol o'r gr?p gan estyn dymuniadau gorau iddo am ymddeoliad hapus.
|
||||||||||||||||||||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
||||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD BENTHYCA GWARANNAU BYD-EANG HYD AT 31 RHAGFYR 2022 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 11 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Derbyniodd y Cyd-bwyllgor adroddiad ar Berthynas ac Adolygiad Perfformiad Gwarannau Byd Eang am chwarter a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2022.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adolygiad Benthyca Gwarannau Byd-Eang fel roedd ar 31 Rhagfyr 2022.
|
||||||||||||||||||||||||||||
GWASANETH YMGYSYLLTU ROBECO - ADRODDIAD YMGYSYLLTU CH4 2022 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 11 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor Adroddiad Ymgysylltu ar gyfer Chwarter 4 2022.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Adroddiad Ymgysylltu ar gyfer Ch4 2022.
|
||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIADAU BUDDSODDI CYFRIFOL A RISG HINSAWDD Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 11 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad am Adroddiadau Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd ar gyfer yr is-gronfeydd canlynol:-
· Credyd y DU · Credyd Byd-eang · Bond Llywodraeth Fyd-eang
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Adroddiadau Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd fel y nodwyd uchod.
|