Lleoliad: Rhith-Gyfarfod. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
PENODI CADEIRYDD Y CYD-BWYLLGOR LLYWODRAETHU AR GYFER Y FLWYDDYN CALENDR NESAF Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd Clive Lloyd yn Gadeirydd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ar gyfer y flwyddyn galendr nesaf.
Diolchwyd i'r cyn-Gadeirydd am ei waith caled a'i gyfraniad i'r Cyd-bwyllgor yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd.
|
|||||||||||||||||||||||
PENODI IS-GADEIRYDD Y CYD-BWYLLGOR LLYWODRAETHU AR GYFER Y FLWYDDYN CALENDR NESAF Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd Chris Weaver yn Is-gadeirydd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ar gyfer y flwyddyn galendr nesaf.
|
|||||||||||||||||||||||
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.<AI1></AI1>
|
|||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 24AIN MAWRTH, 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyd-bwyllgor Llywodraethu oedd wedi'i gynnal ar 24 Mawrth 2021 gan eu bod yn gywir.
|
|||||||||||||||||||||||
DATGANIAD/ARCHWILIAD BLYNYDDOL 2020/21 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cyflwynodd Swyddog Adran 151 y Cyd-bwyllgor y Ffurflen Flynyddol wedi'i harchwilio ar gyfer 2020/21. Roedd adrannau Datganiadau Cyfrifon a Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Ffurflen Flynyddol wedi'u paratoi gan yr Awdurdod Cynnal yr oedd ei Adain Archwilio Mewnol wedi cynnal Adolygiad Archwilio Mewnol.
Roedd y Ffurflen Flynyddol hefyd wedi'i harchwilio gan Archwilio Cymru a chyflwynodd Mr Jason Garcia o Archwilio Cymru y llythyr archwilio i'r Cyd-bwyllgor.
Roedd yr Awdurdod Cynnal hefyd wedi paratoi Datganiad Cyfrifon llawn i Bartneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2020/21. Nid oedd y Datganiad yn ofyniad statudol ac ni fyddai'n cael ei archwilio. Fe'i paratowyd er gwybodaeth yn unig, i gefnogi'r wybodaeth yn yr Adroddiad Blynyddol.
PENDERFYNWYD
6.1 Derbyn y llythyr gan Archwilio Cymru ynghylch Ffurflen Flynyddol Partneriaeth Pensiwn Cymru 2020/21; 6.2 Cymeradwyo'r Ffurflen Flynyddol wedi'i Harchwilio ar gyfer 2020/21; 6.3 Cymeradwyo'r Datganiad Cyfrifon llawn heb ei Archwilio ar gyfer 2020/21.
|
|||||||||||||||||||||||
DIWEDDARIAD GAN YR AWDURDOD LLETYA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor ddiweddariad cynnydd mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:
- Llywodraethu; - Sefydlu parhaus; - Gwasanaethau gweithredwr; - Cyfathrebu ac adrodd; - Hyfforddiant a chyfarfodydd; ac - Adnoddau, cyllideb a ffioedd.
PENDERFYNODD YN UNFRYDOL dderbyn diweddariad yr Awdurdod Cynnal.
|
|||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD COFRESTR RISG CHWARTER 2 2021 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Ystyriodd y Cyd-bwyllgor Adolygiad Cofrestr Risg Ch2 2021. Yn ystod y chwarter diwethaf, roedd y Gweithgor Swyddogion wedi cynnal adolygiad o rai o'r risgiau yn adran Llywodraethu a Rheoleiddio'r Gofrestr Risg h.y. Risgiau G.7 i G.12. Roedd yr adroddiad yn crynhoi canlyniadau'r adolygiad ar gyfer pob risg.
Yn ystod yr adolygiad cafodd dwy risg ychwanegol eu nodi a'u hychwanegu at y Gofrestr Risg, fel a ganlyn:-
G.13 - y risg y bydd data cyfrinachol/sensitif yn fasnachol yn cael ei ddatgelu, ei ddwyn neu ei roi yn y lle anghywir, a
G.14 - y risg y bydd Partneriaeth Pensiwn Cymru yn methu â nodi camarfer a chymryd camau i'w unioni.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r newidiadau i Gofrestr Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru, fel y nodwyd yn yr adroddiad
|
|||||||||||||||||||||||
ADOLYGIADAU POLISI BLYNYDDOL Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad yn manylu ar yr Adolygiadau Polisi Blynyddol a gynhaliwyd mewn perthynas â'r polisïau canlynol:-
- Polisi Gwrthdaro Buddiannau - Polisi Risg - Polisi Risg Hinsawdd
Cymeradwywyd y polisïau hyn gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ym mis Gorffennaf 2020 ac roeddent wedi cael eu hadolygu a'u diweddaru gan y Gweithgor Swyddogion.
O ran y Polisi Gwrthdaro Buddiannau, cyfeiriwyd at 16.2 a gofynnwyd i swyddogion a oedd yn wirioneddol angenrheidiol i aelodau ddatgan buddiant yn holl eitemau’r agenda ac ym mhob cyfarfod ac oni ellid gwneud datganiad blynyddol yn ei le. Esboniodd Swyddog Monitro'r Cyd-bwyllgor ei bod yn ofynnol yn y Cod Ymddygiad bod aelodau'n datgan unrhyw buddiannau gwrthdaro ym mhob cyfarfod
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r polisïau wedi'u diweddaru, fel y nodir uchod. </AI4>
|
|||||||||||||||||||||||
DIWEDDARIAD GAN Y GWEITHREDWR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad ar gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:
- Daliannau Cyfredol y Gronfa; - Cynnydd Lansio'r Gronfa; - Diweddariad ac Ymgysylltiad Corfforaethol.
Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a cherrig milltir yr Is-gronfeydd canlynol:-
PENDERFYNODD YN UNFRYDOL dderbyn y Diweddariad gan y Gweithredwr.
|
|||||||||||||||||||||||
ADRODDIADAU PERFFORMIAD FEL AR 31 MAWRTH 2021 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad ar yr Adroddiadau Perfformiad fel yr oeddent ar 31 Mawrth 2021. Nodwyd bod yr is-gronfeydd wedi perfformio'n uwch/tanberfformio yn erbyn eu meincnodau priodol, fel a ganlyn:
· Tanberfformiodd Credyd y DU 0.15% gros / 0.22% net
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch pwy oedd yn gyfrifol am olrhain buddsoddiadau goddefol, dywedwyd wrth y Cyd-bwyllgor mai Blackrock oedd yn gyfrifol am hynny, ond mai mater i bob awdurdod cyfansoddol oedd penderfynu sut mae'n monitro ei fuddsoddiadau goddefol gyda Blackrock.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Adroddiadau Perfformiad yr is-gronfeydd, fel y nodwyd uchod, fel yr oeddent ar 31 Mawrth 2021.
|
|||||||||||||||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.</AI12>
|
|||||||||||||||||||||||
IS-GRONFA MARCHNADOEDD DATBLYGOL - NEWID RHEOLWR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Ystyriodd y Cyd-bwyllgor adroddiad yn cynnig newid un o reolwyr gwreiddiol yr Is-gronfa.
PENDERFYNODD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r bwriad i newid rheolwr, fel y nodir yn yr adroddiad.
|
|||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD BENTHYCA GWARANNAU BYD-EANG HYD AT 31 MAWRTH 2021 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar Bartneriaeth Pensiwn Cymru drwy roi trafodaethau dan anfantais.
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad am yr Adolygiad Benthyca Gwarannau Byd-eang.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adolygiad Benthyca Gwarannau Byd-eang fel yr oedd ar 31 Mawrth 2021.
|
|||||||||||||||||||||||
GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO - ADRODDIAD YMGYSYLLTU Ch1 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor Adroddiad Ymgysylltu Ch1 2021.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Ymgysylltu Ch1 2021.
|
|||||||||||||||||||||||
ADRODDIADAU BUDDSODDI CYFRIFOL A RISG HINSAWDD - Ch1 2021 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor yr adroddiadau Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd mewn perthynas â'r cronfeydd canlynol:-
· Is-Gronfa Twf Byd-eang · Is-Gronfa Cyfleoedd Byd-eang · Is-gronfa Cyfleoedd y DU
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr Adroddiadau Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd ar gyfer Ch1 2021.
|
|||||||||||||||||||||||
YMGYNGHORYDD DYRANWYR PARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy niweidio o bosib y broses gaffael.
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Ystyriodd y Cyd-bwyllgor adroddiad yn cynnig penodi Ymgynghorydd Dyranwyr ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru, yn unol ag Atodlen 3 i'r Cytundeb Rhwng Awdurdodau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi cynigydd 1, fel y nodwyd yn yr adroddiad, yn ymgeisydd a ffefrir ar gyfer Ymgynghorydd Dyranwyr Partneriaeth Pensiwn Cymru, yn amodol ar y telerau a nodwyd yn yr adroddiad.
|