Lleoliad: Remote attendance. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Jessica Laimann 01267 224178
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION ERAILL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Peredur Jenkins.
Hysbyswyd y Cydbwyllgor Llywodraethu y penodwyd y Cynghorydd Peredur Jenkins yn lle'r Cynghorydd John Pughe Roberts a diolchwyd i'r Cynghorydd Pughe Roberts am ei gyfraniadau. Gan fod y Cynghorydd Jenkins wedi anfon ei ymddiheuriadau ar gyfer cyfarfod heddiw, roedd y Cynghorydd Pughe Roberts yn mynychu'r cyfarfod fel ei ddirprwy.
Croesawodd y Cydbwyllgor y Cynghorydd Ted Palmer i'w gyfarfod cyntaf o'r Cydbwyllgor Llywodraethu. Dywedodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd Palmer wedi ymuno â'r Cydbwyllgor Llywodraethu yn gynharach eleni ond nad oedd wedi medru mynychu'r cyfarfod diwethaf.
Llongyfarchodd y Cadeirydd bawb oedd ynghlwm â Phartneriaeth Pensiynau Cymru (PPC) am ennill gwobr Arloesedd yng Ngwobrau Buddsoddi 2020 Fforwm Cronfeydd Pensiwn yr Awdurdodau Lleol (LAPF), oedd yn cydnabod fod PPC wedi gwneud cam sylweddol o ran arloesi, gan fabwysiadu fframwaith "Gweithredu Portffolio Manylach" (EPI) o fewn ei gronfeydd ecwiti. |
|||||||
DATGANIADAU O FUNDDIANT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||
LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 11 MEDI 2020 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cydbwyllgor Llywodraethu a gynhaliwyd ar 11 Medi 2020 fel cofnod cywir. |
|||||||
DIWEDDARIAD GAN YR AWDURDOD LLETYA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Cydbwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â'r cynnydd a wnaed yn y meysydd allweddol a ganlyn:
- Llywodraethu; - Sefydlu parhaus; - Gwasanaethau gweithredwr; - Cyfathrebu ac adrodd; - Hyfforddiant a chyfarfodydd; ac - Adnoddau, cyllideb a ffioedd.
Mewn ymateb i ymholiad, hysbyswyd y Cydbwyllgor fod trafodaethau cychwynnol ar adolygu contract y Gweithredwr wedi cael eu cynnal ac y byddai amserlen yn cael ei chyflwyno i'r cyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan yr Awdurdod Lletya. |
|||||||
COFRESTR RISG Ch4 ADOLYGIAD 2020 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad i'r Cydbwyllgor ar Adolygiad Cofrestr Risg Ch4. Dywedwyd y cymeradwywyd y Gofrestr Risg cychwynnol gan y CBLl ar 17 Gorffennaf 2020 ac roedd is-gr?p Cofrestr Risg y Gweithgor Swyddogion yn adolygu'r Gofrestr Risg pob chwarter. Roedd y prif newidiadau a welwyd yn yr adolygiad cyntaf yn ymwneud yn bennaf â'r adran Buddsoddi a Pherfformiad.
Mewn ymateb i ymholiad ar wasanaethau'r Gweithredwr (Risg G.12), hysbyswyd y Cydbwyllgor fod trafodaethau cychwynnol yn awgrymu nad oedd y risg yn berthnasol i PPC ac y byddai'r Cydbwyllgor yn derbyn mwy o ddiweddariadau.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r addasiadau i'r Gofrestr Risg. |
|||||||
ADOLYGIADAU POLISI BLYNYDDOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad i'r Cydbwyllgor ar Adolygiadau Polisi Blynyddol y Datganiad Credoau a'r Matrics Llywodraethu. Hysbyswyd y Cybwyllgor fod y Datganiad Credoau a'r Matrics Llywodraethu presennol wedi cael eu cymeradwyo ym mis Rhagfyr 2019. Roedd y Gweithgor Swyddogion (GS) wedi cynnal adolygiad blynyddol o'r polisïau hyn ac wedi gwneud addasiadau.
PENDERFYNWYD cymeradwyo y Datganiad Credoau a'r Matrics Llywodraethu wedi’u diweddaru. |
|||||||
ADOLYGU'R POLISI BUDDSODDI CYFRIFOL A DIWEDDARIAD AR GYNNYDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad i'r Cydbwyllgor ar Adolygu'r Polisi Buddsoddi Cyfrifol a Diweddariad Cynnydd Blynyddol. Dywedwyd fod y Polisi Buddsoddi Cyfrifol (BC) wedi cael ei gymeradwyo ym mis Medi 2019. Roedd y Gweithgor Swyddogion (GS) wedi cynnal adolygiad blynyddol o'r polisi BC ac wedi gwneud addasiadau i adlewyrchu'r datblygiadau yn y 12 mis diwethaf.
Roedd diweddariad blynyddol ar gynnydd wedi'i gynnwys fel atodiad i'r Polisi BC, oedd yn rhoi asesiad manwl o'r cynnydd a gafwyd mewn sawl maes allweddol, yn cynnwys Hinsawdd Risg, Pleidleisio ac Ymgysylltu, Hyfforddiant ac Ymgynghori, ffurfio'r Is-gr?p BC a'r cynllun gwaith BC am y 12 mis nesaf.
Gwnaed awgrymiad y gallai fod yn fuddiol cael cynrychiolaeth wleidyddol ar yr Is-gr?p. Dywedodd Swyddog Adran 151 y Cyd-bwyllgor y gallai fod yn bosibl ystyried rhoi aelodau Arweiniol yn eu lle ar gyfer meysydd gwaith penodol y gellid ymgynghori â hwy ar feysydd gwasanaeth pwrpasol, ond byddai angen ystyried hyn ymhellach.
PENDERFYNWYD 7.1. Cymeradwyo'r Polisi Buddsoddi Cyfrifol sydd wedi'i ddiweddaru; 7.2. Nodi'r Diweddariad Cynnydd Blynyddol, yn cynnwys sefydlu Is-gr?p Buddsoddi Cyfrifol PPC. |
|||||||
POLISI HYFFORDDIANT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad i'r Cydbwyllgor ar Adolygu'r Polisi Buddsoddi Cyfrifol a Diweddariad Cynnydd Blynyddol. Dywedwyd fod y Polisi Buddsoddi Cyfrifol (BC) wedi cael ei gymeradwyo ym mis Medi 2019. Roedd y Gweithgor Swyddogion (GS) wedi cynnal adolygiad blynyddol o'r polisi BC ac wedi gwneud addasiadau i adlewyrchu'r datblygiadau yn y 12 mis diwethaf.
Roedd diweddariad blynyddol ar gynnydd wedi'i gynnwys fel atodiad i'r Polisi BC, oedd yn rhoi asesiad manwl o'r cynnydd a gafwyd mewn sawl maes allweddol, yn cynnwys Hinsawdd Risg, Pleidleisio ac Ymgysylltu, Hyfforddiant ac Ymgynghori, ffurfio'r Is-gr?p BC a'r cynllun gwaith BC am y 12 mis nesaf.
Wrth ateb ymholiad, hysbyswyd y Cydbwyllgor y gellid ystyried cynrychiolaeth wleidyddol ar is-grwpiau BC, er enghraifft, wrth enwebu Aelodau Arweiniol Cydbwyllgor ar bynciau penodol.
PENDERFYNWYD 7.1. Cymeradwyo'r Polisi Buddsoddi Cyfrifol sydd wedi'i ddiweddaru; 7.2. Nodi'r Diweddariad Cynnydd Blynyddol, yn cynnwys sefydlu Is-gr?p Buddsoddi Cyfrifol PPC. |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad i'r Cydbwyllgor ar y Polisi Pleidleisio. Hysbyswyd y Cydbwyllgor fod Robeco wedi cael ei benodi i ddarparu’r Gwasanaeth Pleidleisio ac Ymgysylltu'r Bartneriaeth ym mis Mawrth 2020. Wedi iddo gael ei fabwysiadu gan y Cydbwyllgor, byddai modd datblygu polisi pleidleisio Robeco a'i deilwra'n benodol i'r PPC a'i Awdurdodau Cyfansoddol dros y 12 mis nesaf.
Mewn ymateb i ymholiad am wrthdaro posib gyda rhybuddion pleidleisio LAPFF, cynghorwyd yr Aelodau fod yr is-gr?p BC wedi nodi'r potensial am wrthdaro mewn amgylchiadau cyfyng iawn ac y byddai Robeco yn dwyn unrhyw wahaniaethau i sylw'r PPC.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Pleidleisio. |
|||||||
CYNRYCHIOLAETH AELODAU'R CYNLLUN Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Cydbwyllgor adroddiad ar Gynrychiolaeth Aelodau'r Cynllun. Hysbyswyd y Cydbwyllgor ei fod yn gydbwyllgor oedd wedi’i gyfansoddi dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac felly ni allai Cynrychiolwyr Aelodau ond ymuno â'r Cydbwyllgor fel Aelodau Cyfetholedig heb yr hawl i bleidleisio. Er mwyn i hyn fedru digwydd, byddai angen addasu'r Cytundeb Rhwng Awdurdodau (IAA) a byddai angen mynd â'r addasiadau i bob un o'r wyth awdurdod cyfansoddol am gymeradwyaeth. Byddai'r GS yn medru paratoi manylion y person a'r broses ddethol i sicrhau bod gan y person enwebedig y wybodaeth a'r profiad priodol i ymgymryd â'r rôl.
PENDERFYNWYD 10.1. Cymeradwyo bod darpariaeth ar gyfer cynrychiolydd aelod o gynllun y bwrdd pensiwn (heb bleidlais) ar y Cydbwyllgor Llywodraethu (CBLl); 10.2. Cymeradwyo gofyn i bob Awdurdod Cyfansoddol gadarnhau cynnwys cynrychiolydd aelodau cyfetholedig ar y CBLl ac y gwneir y diwygiadau angenrheidiol i'r Cytundeb Rhwng Awdurdodau (IAA); 10.3. Cytuno bod yr GS yn paratoi manyleb person a phroses ddethol i'w cyflwyno i gyfarfod o'r CBLl yn y dyfodol i'w cymeradwy'n ffurfiol. |
|||||||
DIWEDDARIAD GAN Y GWEITHREDWR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Cydbwyllgor gyflwyniad ar gynnydd Partneriaeth Pensiynau Cymru yn y meysydd allweddol a ganlyn:
- Daliannau Presennol y Gronfa; - Y Cynnydd ar Lansio Cronfeydd; - Ymgysylltu Corfforaethol a Rhannu'r Wybodaeth Ddiweddaraf
Nododd y Cydbwyllgor fod lansiad yr Is-gr?p Incwm Sefydlog wedi'i gwblhau. O ran yr is-gronfa Marchnadoedd Datblygol, disgwyliwyd i'r dyddiad lansio gael ei ohirio tan fis Gorffennaf 2021 yn sgil gwaith manwl gan y Depositary ar y model troshaen carbon.
PENDERFYNWYD derbyn Diweddariad y Gweithredwr. |
|||||||
ADRODDIADAU PERFFORMIAD AR 30 MEDI 2020 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cydbwyllgor gyflwyniad ar yr Adroddiadau Perfformiad fel ar 30 Medi 2020. Nodwyd cywiriad i'r Crynodeb Gweithredol cyhoeddedig (t.112-113), oedd yn dangos tanberfformiad i Gronfa Cyfleoedd y DU. Dylid tynnu'r cromfachau o amgylch y ffigwr Gwarged Adenillion, oedd yn arwain at berfformiad gwell o 1.33% gros a 0.95% net.
Roedd is-gronfeydd eraill wedi perfformio'n well / perfformio’n waeth na’u meincnodau, fel a ganlyn: · Roedd Cyfleoedd Byd-eang wedi perfformio 0.43% gros / 0.06% net yn well na’r meincnod; · Roedd Twf Byd-eang wedi perfformio 0.22% (gros) yn well na'r meincnod / 0.22% yn waeth na'r meincnod; · Bondiau Llywodraeth Byd-eang wedi perfformio 0.33% gros / 0.30% net yn waeth na'r meincnod; · Roedd Credyd Byd-eang wedi perfformio 0.01% gros / 0.03% net yn waeth na'r meincnod; · Roedd Credyd Aml-ased wedi perfformio 0.77% gros / 0.83% net yn waeth na'r meincnod; · Roedd Credyd y DU wedi perfformio 2.77% gros / 2.79% net yn waeth na'r meincnod;
PENDERFYNWYD cymeradwyo Adroddiadau Perfformiad yr is-gronfeydd a ganlyn fel ar 30 Medi 2020: 12.1. Cronfa Ecwiti Cyfleoedd Byd-eang: 12.2. Cronfa Twf Byd-eang: 12.3. Cronfa Cyfleoedd Ecwiti'r DU: 12.4. Cronfa Bondiau Llywodraeth Byd-Eang; 12.5. Cronfa Credyd Byd-Eang; 12.6. Cronfa Credyd Aml-ased; 12.7. Cronfa Credyd y DU. |
|||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod ystyried yr eitem a ganlyn gan fod yr adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth eithriedig, fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A o'r Ddeddf. |
|||||||
ADOLYGIAD BENTHYCA GWARANNAU BYD-EANG HYD AT 30 MEDI 2020 Cofnodion: Ar sail prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati yng Nghofnod 13 uchod, y dylid ystyried y mater hwn yn breifat gan wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o achosi niwed i Bartneriaeth Pensiynau Cymru drwy amharu ar drafodaethau.
Cyflwynwyd adroddiad i'r Cydbwyllgor ar Fenthyca Gwarannau Byd-eang.
PENDERFYNWYD nodi'r Adolygiad Benthyca Gwarannau Byd-eang fel ar 30 Medi 2020. |
|||||||
DARPARWR GWASANAETHAU CYFREITHIOL Cofnodion: Ar sail prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati yng Nghofnod 13 uchod, y dylid ystyried y mater hwn yn breifat gan wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o achosi niwed i Bartneriaeth Pensiynau Cymru drwy danseilio’r broses gaffael cyn i’r contract gael ei gyflwyno’n ffurfiol ar ôl y cyfnod segur statudol.
Cyflwynwyd adroddiad i'r Cydbwyllgor ar y Contract Ymgynghorydd Cyfreithiol.
PENDERFYNWYD penodi bidiwr 1 fel y bidiwr dewisol ar gyfer Darparwr Gwasanaethau Cyfreithiol Partneriaethau Pensiwn Cymru, yn amodol ar gwblhau'r cyfnod segur a chwblhau'n derfynol y Contract Darparwr Gwasanaethau Cyfreithiol. |
|||||||
ADRODDIAD DADANSODDIAD ÔL-BONTIO - INCWM SEFYDLOG Cofnodion: Ar sail prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati yng Nghofnod 13 uchod, y dylid ystyried y mater hwn yn breifat gan wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o achosi niwed i Bartneriaeth Pensiynau Cymru drwy danseilio sefyllfa fasnachol rheolwyr cronfeydd.
Ystyriodd y Cydbwyllgor adroddiad ar Ôl-bontio Masnach Incwm Sefydlog.
PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Ôl-bontio Incwm Sefydlog. |